Iechyd Emosiynol
Mae’r Beibl yn ein rhybuddio i osgoi emosiynau negyddol ac yn ein hannog i feithrin emosiynau positif.
DICTER
EGWYDDOR O’R BEIBL: “Mae ymatal yn well nag ymosod, a rheoli’r tymer yn well na choncro dinas.”—Diarhebion 16:32.
BETH MAE’N EI OLYGU? Mae’n dda inni feithrin y nerth i reoli ein hemosiynau. Er bod ’na reswm da dros wylltio weithiau, mae dicter yn ddinistriol os nad yw’n cael ei ffrwyno. Mae ymchwil yn cefnogi’r ffaith fod pobl fyrbwyll yn dweud neu’n gwneud pethau yng ngwres y foment maen nhw’n eu difaru wedyn.
BETH ALLWCH CHI EI WNEUD? Dysgwch i reoli eich tymer cyn iddi eich rheoli chi. Er bod rhai pobl yn meddwl bod gwylltio’n gacwn yn arwydd o nerth, arwydd o wendid ydyw mewn gwirionedd. “Mae rhywun sy’n methu rheoli ei dymer fel dinas a’i waliau wedi’u bwrw i lawr,” meddai’r Beibl. (Diarhebion 25:28) Un ffordd ymarferol o reoli eich tymer yw drwy gael y ffeithiau i gyd cyn ymateb. “Y mae deall yn gwneud rhywun yn amyneddgar.” (Diarhebion 19:11, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Mae’n ddoeth inni wrando ar ddwy ochr y ddadl, wedyn, cawn ni ddealltwriaeth a all wneud inni bwyllo.
DIOLCHGARWCH
EGWYDDOR O’R BEIBL: “Byddwch yn ddiolchgar.”—Colosiaid 3:15.
BETH MAE’N EI OLYGU? Dywed rhai mai dim ond pobl ddiolchgar sy’n gallu bod yn hapus. Mae hyn yn wir hyd yn oed am bobl sydd wedi dioddef colled enfawr. Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n ymdopi drwy werthfawrogi’r hyn sydd ganddyn nhw yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn a gollon nhw.
BETH ALLWCH CHI EI WNEUD? Bob diwrnod, rhestrwch y pethau rydych chi’n ddiolchgar amdanyn nhw. Does dim rhaid iddyn nhw fod yn bethau mawrion. Myfyriwch ar y pethau bychain hefyd, fel gwawr hyfryd, sgwrs braf gydag anwylyn, neu hyd yn oed cael diwrnod arall o fywyd. Gall y pethau positif hyn wella eich iechyd emosiynol os ydych chi’n neilltuo amser i feddwl amdanyn nhw a’u gwerthfawrogi.
Mae hi’n arbennig o fuddiol i ystyried pam rydych chi’n gwerthfawrogi eich teulu a’ch ffrindiau. Unwaith ichi feddwl am hyn, mynegwch eich gwerthfawrogiad, un ai wyneb yn wyneb, mewn llythyr, e-bost, neu drwy anfon neges destun. Bydd hyn yn cryfhau eich perthynas â nhw ac yn eich galluogi i brofi’r hapusrwydd sy’n dod o roi.—Actau 20:35.
EGWYDDORION ERAILL O’R BEIBL
CERDDWCH I FFWRDD O’R DDADL.
“Mae dechrau ffrae fel crac mewn argae; gwell tewi cyn i bethau fynd yn draed moch.”—DIARHEBION 17:14.
OSGOWCH BRYDERU’N DDIANGEN AM Y DYFODOL.
“Peidiwch poeni am fory, cewch groesi’r bont honno pan ddaw. Mae’n well wynebu problemau un dydd ar y tro.”—MATHEW 6:34.
MEDDYLIWCH YN OFALUS CYN YMATEB, YN HYTRACH NAG YMATEB YN EMOSIYNOL.
“Bydd pwyll yn dy amddiffyn, a deall yn dy warchod.”—DIARHEBION 2:11.