Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut Gallwch Chi Benderfynu?

Sut Gallwch Chi Benderfynu?

“Mae’r bydysawd yn gallu creu ei hun o ddim, a dyna’n union mae’n ei wneud.”—Stephen Hawking a Leonard Mlodinow, ffisegwyr, 2010.

“Dyma Duw yn creu y bydysawd a’r ddaear.”—Y Beibl, Genesis 1:1.

A gafodd y bydysawd a’r bywyd ynddo eu creu gan Dduw, neu wnaethon nhw ymddangos drwy hap a damwain? Mae geiriau’r ddau ffisegwr a ddyfynnwyd uchod a geiriau agoriadol y Beibl yn rhoi dau ateb hollol wahanol i’r cwestiwn hwnnw. Mae’r ddau safbwynt yn cael eu cefnogi’n gryf. Ond eto, mae ’na lawer o bobl sydd ddim yn siŵr beth i’w gredu. Mae pobl yn dadlau am y pwnc mewn llyfrau poblogaidd ac ar y teledu.

Efallai bod eich athrawon ysgol wedi dweud yn hyderus bod ’na ddim Creawdwr, a bod y bydysawd a’r bywyd ynddo wedi ymddangos ar hap. Ond a wnaeth eich athrawon ddangos unrhyw dystiolaeth bod Creawdwr ddim yn bodoli? Ar y llaw arall, efallai eich bod chi wedi clywed arweinwyr crefyddol yn pregethu bod ’na Greawdwr. Ond a wnaethon nhw ddangos unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny? Neu, a wnaethon nhw ofyn i chi gredu hynny allan o “ffydd?”

Mae’n debyg eich bod chi wedi meddwl am y cwestiwn hwn, ac efallai’n teimlo bod neb yn gallu dweud yn sicr bod Creawdwr yn bodoli neu beidio. Ac efallai bod cwestiwn arall yn codi: Oes ’na ots beth rydyn ni’n ei gredu?

Bydd y rhifyn hwn o Deffrwch! yn dechrau drwy gyflwyno rhai o’r ffeithiau sydd wedi perswadio llawer o bobl i gredu mewn Creawdwr. Wedyn, bydd yn trafod pam mae’r ateb i’r cwestiwn hwn am darddiad bywyd ar y ddaear yn bwysig.