Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cryfhau Eich Cymhelliad

Cryfhau Eich Cymhelliad

Cryfhau Eich Cymhelliad

“Y peth pwysicaf sy’n rhaid i rywun sy’n ysmygu ei wneud er mwyn stopio yw cadw at ei benderfyniad i roi’r gorau i’r arfer.”​—“Stop Smoking Now!”

OS YDYCH chi am roi’r gorau i ysmygu, mae’n rhaid ichi fod yn benderfynol o wneud hynny. Sut gallwch chi gryfhau eich cymhelliad? Ystyriwch sut bydd stopio ysmygu yn gwella eich bywyd.

Byddwch yn arbed arian. Mae prynu paced o sigaréts bob dydd yn costio miloedd o bunnoedd y flwyddyn. “Doeddwn i erioed wedi sylweddoli faint o arian roeddwn i’n ei wastraffu ar dybaco.”​—Gyanu, Nepal.

Bydd ansawdd eich bywyd yn gwella. “Ar ôl i mi stopio ysmygu, gwellodd fy mywyd yn fawr. Ac mae pethau’n gwella i mi drwy’r amser.” (Regina, De Affrica) Pan fydd pobl yn rhoi’r gorau i ysmygu, mae eu blas ac arogl yn gwella ac fel arfer mae gynnon nhw fwy o egni ac maen nhw’n edrych yn iachach.

Bydd eich iechyd yn gwella. “Mae stopio ysmygu yn gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd dynion a merched, yn hen neu’n ifanc.”​—Canolfannau yr Unol Daleithiau ar gyfer Rheoli ac Atal Afiechydon.

Bydd gynnoch chi fwy o hunanhyder. “Wnes i stopio ysmygu oherwydd doeddwn i ddim eisiau bod yn was bach i dybaco. Roeddwn i eisiau bod yn feistr ar fy nghorff fy hun.”​—Henning, Denmarc.

Bydd eich teulu a’ch ffrindiau yn elwa. “Mae ysmygu . . . yn niweidio iechyd y bobl o’ch cwmpas. . . . Mae ymchwil wedi dangos bod miloedd o bobl yn marw bob blwyddyn oherwydd canser yr ysgyfaint a chlefyd y galon a gafodd ei achosi gan fwg ail-law.”​—Cyfundrefn Canser America.

Byddwch yn plesio eich Creawdwr. “Felly ffrindiau annwyl, . . . gadewch i ni lanhau’n hunain o unrhyw beth allai’n gwneud ni’n aflan.” (2 Corinthiaid 7:1) “Cyflwyno eich hunain [i Dduw] yn . . . lân ac yn dderbyniol.”​—Rhufeiniaid 12:​1.

“Ar ôl i mi ddeall bod Duw yn casáu arferion sy’n niweidio’r corff, penderfynais roi’r gorau i ysmygu.”​—Sylvia, Sbaen.

Ond yn aml, nid yw cymhelliad ar ei ben ei hun yn ddigon. Efallai bydd angen help pobl eraill, gan gynnwys teulu a ffrindiau. Beth gallan nhw ei wneud?