Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ffrind Ffug

Ffrind Ffug

Ffrind Ffug

Mae gynnoch chi “ffrind.” Fe wnaethoch chi gwrdd pan oeddech chi’n ifanc. Roedd yn gwneud ichi deimlo’n aeddfed a’ch helpu chi i gael eich derbyn gan eich cyfoedion. Pan oeddech chi dan straen, roedd wastad yno i wneud ichi “deimlo’n well.” Mewn gwirionedd, rydych chi’n dibynnu arno.

Ond mewn amser, rydych chi wedi gweld ei ochr beryglus. Mae’n mynnu bod gyda chi drwy’r amser, hyd yn oed pan nad oes croeso iddo. Ac er ei fod wedi gwneud ichi deimlo’n aeddfed, mae wedi niweidio eich iechyd. Ar ben hynny, mae wedi dwyn rhan o’ch cyflog.

Yn ddiweddar, rydych chi wedi ceisio torri’r berthynas ond nid oedd ef yn fodlon gwneud hynny. Mewn ffordd, mae wedi dod yn feistr arnoch chi. Rydych chi’n difaru ei gyfarfod yn y lle cyntaf.

DYNA sut mae nifer o ysmygwyr yn teimlo am y sigarét. Ar ôl ysmygu am 50 o flynyddoedd, mae gwraig o’r enw Earline yn dweud: “Roedd y sigarét yn fwy o help i mi na chael pobl o’m cwmpas. Roedd yn fwy i mi na hen ffrind​—weithiau ef oedd fy unig ffrind.” Ond daeth Earline i sylweddoli bod y sigarét mewn gwirionedd yn ffrind ffug ac yn un peryglus. Mewn ffordd, mae’r geiriau agoriadol yn wir yn ei hachos hi​—ond gydag un gwahaniaeth. Pan ddysgodd bod Duw yn casáu ysmygu oherwydd ei fod yn niweidio’r corff, stopiodd yr arfer drwg hwnnw.​—2 Corinthiaid 7:1.

Penderfynodd dyn o’r enw Frank hefyd roi’r gorau i ysmygu er mwyn plesio Duw. Ond y diwrnod ar ôl iddo gael ei sigarét olaf, roedd ar ei bennau-gliniau o dan y tŷ yn chwilio am stympiau sigaréts a oedd wedi cwympo trwy’r lloriau. “Dyna’r foment i mi benderfynu,” meddai Frank. “Roedd chwilio am hen stympiau sigaréts ar fy mhennau-gliniau yn gwneud i mi deimlo mor fudr. Wnes i erioed ‘smygu eto.”

Pam mae stopio ysmygu mor anodd? Mae ymchwilwyr wedi darganfod nifer o resymau: (1) Gall tybaco fod yr un mor gaethiwus a chyffuriau anghyfreithlon. (2) Wrth ichi anadlu nicotin, gall gyrraedd yr ymennydd o fewn saith eiliad. (3) Yn aml, mae ysmygu yn rhan bwysig o fywyd rhywun oherwydd mae’n cyd-fynd â bwyta, yfed, siarad a lleddfu straen.

Ond fel mae Earline a Frank wedi dangos, mae rhoi’r gorau i ysmygu yn bosib. Os hoffech chi stopio ysmygu, efallai bydd darllen yr erthyglau canlynol yn eich helpu chi i newid eich bywyd.