Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gallwch Chi Ennill y Frwydr!

Gallwch Chi Ennill y Frwydr!

Gallwch Chi Ennill y Frwydr!

MAE’R amser wedi cyrraedd ichi fod “yn gryf a bwrw iddi.”(1 Cronicl 28:10) Pa gamau y gallwch chi eu cymryd er mwyn sicrhau eich bod chi’n llwyddo?

Gosod dyddiad. Mae Adran Iechyd a Gwasanaethau Dynol yr UDA yn awgrymu unwaith ichi benderfynu rhoi’r gorau i ysmygu, y dylech chi ddechrau ar y daith o fewn pythefnos. Bydd hyn yn cryfhau eich penderfyniad. Nodwch y dyddiad rydych chi am stopio, dywedwch wrth eich ffrindiau a’ch teulu, a pheidiwch â newid y dyddiad hyd yn oed os ydy eich amgylchiadau yn newid.

Creu “cerdyn stopio ysmygu.” Efallai y bydd yn cynnwys y wybodaeth ganlynol, yn ogystal ag unrhyw beth arall sy’n cryfhau eich penderfyniad:

● Eich rhesymau dros stopio

● Rhifau ffôn pobl i alw rhag ofn i’r awydd i ysmygu ddod drostoch chi

● Meddyliau​—gan gynnwys efallai adnodau yn y Beibl fel Galatiaid 5:​22, 23​—a fydd yn eich helpu chi i gyrraedd eich nod

Peth da fyddai cymryd eich cerdyn stopio ysmygu gyda chi drwy’r amser, a’i ddarllen sawl gwaith y dydd. Hyd yn oed ar ôl ichi stopio, daliwch ati i edrych ar y cerdyn pryd bynnag mae’r awydd i ysmygu yn codi.

Paratoi eich hunain. Cyn ichi gyrraedd y dyddiad rydych chi am stopio, dechreuwch newid eich arferion sy’n gysylltiedig ag ysmygu. Er enghraifft, os ydych chi fel arfer yn ysmygu peth cyntaf yn y bore, ceisiwch aros ryw awr cyn gwneud hynny. Os ydych chi’n ysmygu yn ystod pryd o fwyd neu yn syth ar ôl bwyta, ceisiwch dorri’r arfer hwnnw. Osgowch fynd i lefydd lle mae eraill yn ysmygu. Peth da hefyd ydy ymarfer dweud: “Dim diolch. Dw i wedi stopio ysmygu.” Bydd y camau hyn yn eich paratoi chi ar gyfer y diwrnod rydych chi’n stopio ysmygu. Byddan nhw hefyd yn eich atgoffa chi y byddwch chi’n llwyddo’n fuan.

Cymryd camau ymarferol. Wrth i’r dyddiad rydych chi am stopio agosáu, peth da ydy prynu pethau eraill i’w cnoi, sef moron, gwm, cnau, ac yn y blaen. Cofiwch atgoffa ffrindiau a theulu pryd rydych chi am stopio a dweud wrthyn nhw sut gallan nhw eich helpu. Cyn i’r dyddiad gyrraedd, syniad da ydy cael gwared ar flychau llwch, tanwyr, a sigaréts yn eich tŷ, yn eich car, yn eich poced, neu yn y gweithle. Yn sicr, mae’n anoddach gofyn i ffrind am sigarét a phrynu paced nag i estyn am un sydd yn y tŷ yn barod. Daliwch ati i weddïo ar Dduw am help, yn enwedig ar ôl ichi stopio ysmygu.​—Luc 11:13.

Mae llawer o bobl wedi “torri cysylltiad” â’u ffrind ffug a chas, sef y sigarét. Gallwch chi wneud hyn hefyd. Mae iechyd gwell a rhyddid ar y gorwel.

[Llun]

Peth da fyddai cymryd eich cerdyn stopio ysmygu gyda chi drwy’r amser, a’i ddarllen sawl gwaith y dydd