Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Paratoi ar Gyfer Yr Anawsterau

Paratoi ar Gyfer Yr Anawsterau

Paratoi ar Gyfer Yr Anawsterau

“Penderfynais roi’r gorau i ysmygu oherwydd ein babi newydd. Fe wnes i roi arwydd ‘Dim Ysmygu’ yn y tŷ, ond ryw awr wedyn, daeth awydd am nicotîn drosto i fel tswnami ac felly codais sigarét a’i thanio.”—Yoshimitsu, Japan.

FEL mae profiad Yoshimitsu’n dangos, nid proses hawdd yw rhoi’r gorau i ysmygu. Mae astudiaethau’n dangos bod bron i 90 y cant o bobl sy’n baglu yn mynd yn ôl i ysmygu. Felly os ydych chi’n ceisio stopio ysmygu, byddwch yn fwy tebygol o lwyddo os ydych chi’n barod am yr anawsterau. Beth yw’r rhai mwyaf cyffredin?

Yr awydd am nicotîn: Mae hyn ar ei waethaf fel arfer tua thridiau ar ôl ichi gael eich sigarét olaf, ac yn diflannu ar ôl tua phythefnos. Dywed un dyn oedd yn arfer ysmygu: “Mae’r awydd yn dod mewn tonnau, nid yw’n barhaol.” Ond gall awydd sydyn am ysmygu godi’n annisgwyl, hyd yn oed flynyddoedd wedyn. Os felly, peidiwch â dechrau ysmygu’n syth. Arhoswch am bum munud a dylai’r awydd fynd heibio.

Symptomau eraill o roi’r gorau i ysmygu: Ar y dechrau, mae rhai pobl yn ei chael hi’n anodd aros yn effro, neu ganolbwyntio, ac mae rhai’n magu pwysau’n hawdd. Efallai byddan nhw hefyd yn cael poenau, yn cosi, yn chwysu ac yn pesychu. Neu fe all eu hwyliau newid, a gwneud i rywun wylltio’n hawdd neu deimlo’n isel neu’n ddiamynedd. Ond bydd y rhan fwyaf o symptomau yn diflannu ar ôl tua phedwar i chwe wythnos.

Yn ystod y cyfnod pwysig hwnnw, dyma rai pethau ymarferol y gallwch chi eu gwneud er mwyn helpu. Er enghraifft:

● Cael digon o gwsg.

● Yfed digon o ddŵr neu sudd. Bwyta’n iach.

● Ymarfer corff.

● Anadlu’n ddwfn a dychmygu’r awyr iach yn llenwi eich ysgyfaint.

Pethau sy’n gwneud ichi eisiau ysmygu: Er enghraifft, efallai roeddech chi’n arfer cael sigarét gyda diod. Os felly, peth da fyddai peidio â threulio gormod o amser yn yfed eich diod tra eich bod chi’n ceisio stopio ysmygu. Yn y pen draw, wrth gwrs, byddwch chi’n gallu treulio mwy o amser yn mwynhau eich diod.

Ar ôl dweud hynny, mae cysylltiadau seicolegol yn gallu para’n hir ar ôl ichi stopio ysmygu. “Mae’n un deg naw mlynedd ers imi stopio,” meddai Torben, a ddyfynnwyd yn gynt, “ond rhaid imi gyfaddef bod y temtasiwn i ysmygu yn dal i godi amser coffi.” Ond fel arfer, bydd y teimladau hyn yn diflannu yn araf deg.

Mae’r sefyllfa’n wahanol yn achos alcohol. Yn wir, efallai bydd yn rhaid ichi stopio yfed alcohol yn gyfan gwbl, ac yn osgoi llefydd sy’n gwerthu alcohol, tra eich bod chi’n ceisio stopio ysmygu, oherwydd mae llawer o bobl yn dechrau ysmygu eto ar ôl yfed alcohol. Pam?

● Mae hyd yn oed tamaid bach o alcohol yn gallu cynyddu’r pleser sy’n dod o nicotîn.

● Mae pobl yn aml yn ysmygu wrth yfed gyda ffrindiau.

● Mae alcohol yn amharu ar eich gallu i wneud penderfyniadau doeth. Mae’r Beibl yn dweud bod gwin yn drysu pobl.​—Hosea 4:​11.

Cwmni: Byddwch yn ofalus, a pheidiwch â threulio amser yn ddiangen gyda phobl sy’n ysmygu neu a fydd yn eich annog chi i ysmygu. Cadwch draw oddi wrth bobl sy’n bychanu eich ymdrechion i stopio ysmygu, efallai drwy wneud hwyl am eich pen.

Emosiynau: Mewn un astudiaeth, roedd bron i ddau draean o’r rhai a aeth yn ôl i ysmygu yn teimlo o dan straen neu’n ddig cyn iddyn nhw faglu. Os bydd rhyw deimlad penodol yn tanio’r awydd am ysmygu, ceisiwch feddwl am rywbeth arall​—efallai drwy yfed dŵr, cnoi gwm, neu fynd am dro. Ceisiwch lenwi eich meddwl gyda phethau positif, efallai drwy weddïo ar Dduw, neu ddarllen rhan o’r Beibl.​—Salm 19:14.

Esgusodion i’w Hosgoi

Cymera i un pwff yn unig

Y Gwir: Gall un pwff roi tua hanner y nicotîn sydd ei angen i fodloni’r awydd am dair awr. Y canlyniad i hynny yn aml yw bod rhywun yn mynd yn ôl i ysmygu.

Mae ysmygu yn fy helpu i leddfu straen.

Y Gwir: Mae ymchwil wedi dangos bod nicotîn yn cynyddu lefelau straen. Mae unrhyw deimlad o ryddhad yn dod o dderbyn y nicotîn mae eich corff yn dyheu amdano.

Mae’n rhy hwyr imi roi’r gorau i ysmygu.

Y Gwir: Mae pesimistiaeth yn mygu’r awydd i stopio. Mae’r Beibl yn dweud: “Os wyt ti’n un i golli hyder dan bwysau, mae gen ti angen mwy o nerth.” (Diarhebion 24:10) Felly osgowch feddyliau negyddol. Mae unrhyw un sydd wir eisiau stopio yn gallu gwneud hynny, os yw’n cymryd camau ymarferol fel y rhai y soniwyd amdanyn nhw yn y cylchgrawn hwn.

Mae’r symptomau rhoi’r gorau i ysmygu yn ormod imi.

Y Gwir: Wrth gwrs, mae’r symptomau rhoi’r gorau i ysmygu yn bwerus, ond byddan nhw’n pallu ar ôl ychydig o wythnosau. Felly cadwch yn gryf! Os bydd yr awydd i ysmygu yn codi fisoedd neu flynyddoedd yn ddiweddarach, fe fydd yn pasio, a hynny o fewn munudau fel arfer, os nad ydych chi’n tanio sigarét.

Dw i’n dioddef o salwch meddwl.

Y Gwir: Os ydych chi’n cael triniaeth ar gyfer salwch meddwl, er enghraifft, iselder, neu sgitsoffrenia, gofynnwch i’ch meddyg am help i stopio ysmygu. Efallai bydd ef neu hi’n fodlon eich helpu, drwy addasu’r feddyginiaeth rydych chi’n ei chymryd.

Os ydw i’n stopio a mynd yn ôl i ysmygu, bydda i’n teimlo fel methiant llwyr.

Y Gwir: Os ydych chi’n llithro’n ôl wrth geisio rhoi’r gorau i ysmygu​—fel mae llawer o bobl wedi ei wneud​—cofiwch nad yw eich sefyllfa’n anobeithiol. Peidiwch â rhoi’r gorau i’r frwydr. Nid yw llithro’n golygu eich bod chi wedi methu. Rhoi’r gorau i’r frwydr ydy’r methiant. Felly daliwch ati ac yn y pen draw byddwch yn llwyddo.

Ystyriwch brofiad Romualdo, a oedd yn ysmygu am 26 mlynedd cyn rhoi’r gorau iddi ryw 30 mlynedd yn ôl. “Fe wnes i golli cyfrif o faint o weithiau imi lithro,” meddai. “Bob tro, roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy, a meddwl nad oedd dim gobaith imi. Ond unwaith imi fod yn benderfynol o gael perthynas glòs â Jehofa Dduw a gweddïo’n gyson am ei help, roeddwn i’n llwyddo i roi’r gorau i ysmygu am byth.”

Yn yr erthygl olaf yn y gyfres hon, byddwn ni’n edrych ar fwy o syniadau ymarferol a all eich helpu chi i fod yn hapus ar ôl rhoi’r gorau i ysmygu.

[Blwch/Llun]

YN BERYGLUS YM MHOB UN O’I FFURFIAU

Mae pobl yn defnyddio tybaco mewn sawl ffurf. Mae cynnyrch tybaco hyd yn oed yn cael ei werthu mewn siopau bwydydd iach. Sut bynnag, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd “mae pob ffurf ar dybaco’n beryglus iawn.” Gall tybaco achosi nifer o glefydau marwol, gan gynnwys canser a chlefyd y galon. Mae mamau sy’n ysmygu’n gwneud niwed i’r plentyn yn y groth. Sut mae tybaco fel arfer yn cael ei ddefnyddio?

Bidis: Mae’r sigaréts hyn yn fach ac yn cael eu rholio â llaw. Maen nhw’n boblogaidd yn Asia. Maen nhw’n cynnwys llawer mwy o nicotîn, tar, a charbon monocsid na sigaréts cyffredin.

Sigarau: Mae’r rhain wedi eu gwneud o dybaco sydd wedi ei lapio’n dynn mewn dail tybaco neu bapur wedi ei wneud o dybaco. Mae’r tybaco mewn sigarau yn fwy alcalïaidd na thybaco sigaréts, ac mae hynny yn golygu bod nicotîn yn mynd i mewn i’r corff hyd yn oed os nad yw’r sigâr wedi ei danio.

Kreteks, neu Sigaréts Clof: Mae’r rhain fel arfer tua 60 y cant tybaco a 40 y cant clofau. Maen nhw’n rhoi mwy o nicotîn, tar, a charbon monocsid na sigaréts arferol.

Pibellau: nid yw ysmygu pibell yn fwy diogel nac ysmygu sigaréts. Mae’r ddau’n achosi’r un mathau o ganser a chlefydau eraill.

Tybaco di-fwg: Mae hyn yn cynnwys tybaco cnoi, snisin, a gutkha, sydd yn boblogaidd yn Ne-ddwyrain Asia. Mae nicotîn yn mynd i mewn i’r gwaed drwy’r geg. Mae tybaco di-fwg yr un mor beryglus â mathau eraill o dybaco.

Pibellau dŵr (bongs, hookahs, narghiles, shishas): Yn y teclynnau hyn, mae mwg tybaco’n mynd trwy ddŵr cyn cael ei anadlu. Serch hynny, nid yw’r broses yn lleihau’r tocsinau, gan gynnwys y rhai sy’n achosi canser, sydd yn cyrraedd yr ysgyfaint.

[Blwch/Llun]

SUT I HELPU RHYWUN ARALL I ROI’R GORAU IDDI

Byddwch yn galonogol. Mae canmol rhywun yn gweithio’n well na’i dynnu i lawr. Mae dweud, “Dw i’n siŵr y byddi di’n llwyddo os rhoi di gynnig arall arni,” yn fwy effeithiol na dweud “Wnest ti fethu eto!”

Byddwch yn faddeugar. Ceisiwch fod yn amyneddgar os bydd rhywun sy’n ceisio stopio ysmygu yn siarad yn gas. Dywedwch bethau caredig fel, “Dw i’n gwybod bod hyn yn anodd, ond dw i mor browd ohonot ti.” Peidiwch byth â dweud, “Ro’n i’n dy hoffi di’n well pan oeddet ti’n ysmygu!”

Byddwch yn ffrind da. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi’i eni i helpu mewn helbul.” (Diarhebion 17:17) Ceisiwch fod yn amyneddgar ac yn garedig “bob amser” gyda rhywun sy’n ceisio stopio ysmygu, ni waeth pa amser o’r dydd yw hi, neu beth yw hwyliau’r person.