ERTHYGL ASTUDIO 49
Beth Mae Lefiticus yn Ein Dysgu Ni am Sut i Drin Eraill
“Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.”—LEF. 19:18.
CÂN 109 Carwch o Ddyfnder Calon
CIPOLWG *
1-2. Beth gwnaethon ni drafod yn yr erthygl ddiwethaf, a beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
YN YR erthygl ddiwethaf, gwnaethon ni drafod y cyngor ymarferol yn Lefiticus pennod 19. Er enghraifft, yn adnod 3, dywedodd Jehofa wrth yr Israeliaid i barchu eu rhieni. Gwnaethon ni drafod sut gallwn ninnau heddiw roi’r cyngor hwnnw ar waith drwy ofalu am anghenion corfforol, emosiynol, ac ysbrydol ein rhieni. Yn yr un adnod, cafodd pobl Dduw eu hatgoffa pa mor bwysig oedd cadw’r Saboth. Er nad ydyn ni’n gorfod cadw’r Saboth heddiw, gallwn ni roi’r egwyddor ar waith drwy neilltuo amser yn rheolaidd i ofalu am bethau ysbrydol. Drwy wneud hynny, byddwn ni’n dangos ein bod ni’n ceisio bod yn sanctaidd fel mae Lefiticus 19:2 a 1 Pedr 1:15 yn ein hannog ni i’w wneud.
2 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n parhau i drafod Lefiticus pennod 19. Beth gall y bennod hon ein dysgu ni am ddangos caredigrwydd tuag at y rhai sydd â chyfyngiadau corfforol, am fod yn onest mewn busnes, ac am ddangos cariad tuag at eraill? Rydyn ni eisiau bod yn sanctaidd fel mae Duw yn sanctaidd, felly gad inni weld beth gallwn ni ei ddysgu.
BOD YN GAREDIG TUAG AT Y RHAI Â CHYFYNGIADAU CORFFOROL
3-4. Yn ôl Lefiticus 19:14, sut roedd pobl fyddar a dall i fod i gael eu trin?
3 Darllen Lefiticus 19:14. Roedd Jehofa yn disgwyl i’w bobl fod yn garedig tuag at y rhai â chyfyngiadau corfforol. Er enghraifft, dywedodd wrth yr Israeliaid i beidio ag enllibio dyn byddar. Roedd hynny’n cynnwys ei fygwth neu ei felltithio. Am beth ofnadwy i’w wneud i ddyn byddar! Doedd ef ddim yn gallu clywed beth oedd yn cael ei ddweud amdano, felly ni fyddai’n gallu amddiffyn ei hun.
4 Hefyd, yn adnod 14, dywedodd Duw wrth ei weision y dylen nhw beidio â ‘gosod rhywbeth o flaen rhywun sy’n ddall i wneud iddo faglu.’ Dywedodd un llyfr am bobl â chyfyngiadau corfforol: “Yn y Dwyrain Canol gynt, roedden nhw’n cael eu trin mewn ffordd annheg a chreulon.” Efallai byddai rhywun sbeitlyd yn rhoi rhywbeth o flaen dyn dall er mwyn ei frifo neu chwerthin am ei ben. Am beth cas i’w wneud! Ond gwnaeth y gyfraith yn adnod 14 helpu pobl Jehofa i weld y dylen nhw fod yn garedig tuag at y rhai llai ffodus.
5. Sut gallwn ni ddangos tosturi tuag at y rhai â chyfyngiadau corfforol?
5 Dangosodd Iesu dosturi tuag at y rhai oedd â chyfyngiadau corfforol. Cofia’r neges a anfonodd at Ioan Fedyddiwr: “Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy’n dioddef o’r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw.” Ar ôl gweld gwyrthiau Iesu, “roedd pawb . . . yn moli Duw.” (Luc 7:20-22; 18:43) Mae Cristnogion eisiau efelychu agwedd dosturiol Iesu tuag at y rhai sydd â chyfyngiadau corfforol. Felly, rydyn ni’n garedig ac yn amyneddgar â’r rhai hynny. Wrth gwrs, dydy Jehofa ddim wedi rhoi’r gallu inni wneud gwyrthiau. Ond mae gynnon ni’r fraint o ddweud wrth y rhai sy’n ddall yn gorfforol ac yn ysbrydol am y newyddion da am baradwys lle bydd pawb yn berffaith iach yn gorfforol ac yn ysbrydol. (Luc 4:18) Mae’r newyddion da hwn eisoes yn gwneud i lawer foli Duw.
BOD YN ONEST MEWN BUSNES
6. Sut mae Lefiticus pennod 19 yn ein helpu ni i ddeall y Deg Gorchymyn yn well?
6 Mae rhai adnodau yn Lefiticus pennod 19 yn ein helpu ni i ddeall y Deg Gorchymyn yn well. Er enghraifft, gwnaeth yr wythfed gorchymyn ddweud yn syml: “Paid dwyn.” (Ex. 20:15) Efallai byddai rhywun yn dod i’r casgliad eu bod nhw’n ufuddhau i’r gorchymyn hwnnw cyn belled eu bod nhw’n ofalus i beidio â chymryd rhywbeth doedd ddim yn perthyn iddyn nhw. Ond, gallai fod yn dwyn mewn ffyrdd eraill.
7. Sut gallai masnachwr fynd yn erbyn yr wythfed gorchymyn ynglŷn â dwyn?
7 Efallai byddai masnachwr yn meddwl nad ydy ef yn dwyn am ei fod erioed wedi cymryd rhywbeth nad oedd yn perthyn iddo. Ond ydy ef wastad yn onest mewn materion busnes? Yn Lefiticus 19:35, 36, dywedodd Jehofa: “Peidiwch twyllo wrth fesur hyd rhywbeth, pwysau, na mesur hylifol. Dylech ddefnyddio clorian sy’n gywir, pwysau cywir a mesurau sych a hylifol cywir.” Felly byddai masnachwr oedd yn defnyddio clorian neu fesurau anghywir er mwyn twyllo ei gwsmeriaid yn dwyn oddi wrthyn nhw mewn gwirionedd. Mae adnodau eraill yn Lefiticus pennod 19 hefyd yn gwneud hynny’n amlwg.
8. Sut gwnaeth y manylion yn Lefiticus 19:11-13 helpu’r Iddewon i roi’r egwyddor tu ôl i’r wythfed gorchymyn ar waith, a sut gallwn ni elwa?
8 Darllen Lefiticus 19:11-13. Mae geiriau agoriadol Lefiticus 19:11 yn dweud: “Peidiwch dwyn.” Ac mae adnod 13 yn mynd ymlaen i ddweud: “Paid cymryd mantais o bobl eraill neu ddwyn oddi arnyn nhw.” Felly, mae bod yn anonest mewn busnes cystal â dwyn. Tra oedd yr wythfed gorchymyn yn dweud bod dwyn yn anghywir, roedd y manylion yn Lefiticus yn helpu’r Iddewon i ddeall sut gallen nhw roi’r egwyddor tu ôl i’r gyfraith ar waith, hynny ydy, sut gallen nhw fod yn onest ym mhopeth. Mae’n beth da i feddwl am safbwynt Duw ynglŷn â bod yn anonest a dwyn. Gallwn ofyn i ni’n hunain: ‘O ystyried Lefiticus 19:11-13, oes ’na rywbeth yn fy mywyd sydd angen sylw? Ydw i angen newid fy arferion busnes?’
9. Sut gwnaeth y gyfraith yn Lefiticus 19:13 amddiffyn gweithwyr?
9 Mae ’na agwedd arall o onestrwydd y dylai Cristnogion sydd â busnes ei hystyried. Mae Lefiticus 19:13 yn dweud: “Tala ei gyflog i weithiwr ar ddiwedd y dydd, paid cadw’r arian tan y bore.” Yn Israel, roedd y rhan fwyaf o bobl yn gweithio ar ffermydd, ac roedd y gweithwyr yn cael eu talu ar ddiwedd pob diwrnod gwaith. Os nad oedd gweithiwr yn cael ei gyflog ar ddiwedd y dydd, efallai na fyddai ganddo’r arian i fwydo ei deulu. Esboniodd Jehofa eu bod nhw’n “dlawd ac angen yr arian i fyw.”—Deut. 24:14, 15; Math. 20:8.
10. Beth gallwn ni ei ddysgu o Lefiticus 19:13?
10 Heddiw, mae gweithwyr yn cael eu talu unwaith neu ddwywaith y mis, yn hytrach na phob dydd. Ond, mae’r egwyddor yn Lefiticus 19:13 dal yn berthnasol heddiw. Mae rhai cyflogwyr yn cymryd mantais o’u gweithwyr drwy dalu cyflog llawer llai na maen nhw’n ei haeddu. Maen nhw’n gwybod does gan y gweithwyr hyn ddim llawer o ddewis ond i weithio am gyflog pitw. Mewn ffordd, mae cyflogwyr o’r fath yn “cadw’r arian,” hynny ydy, maen nhw’n dal yn ôl rhag talu cyflog teg. Yn bendant, byddai Cristion sydd â busnes eisiau cymryd hyn o ddifri. Nawr, gad inni weld beth arall gallwn ni ei ddysgu o Lefiticus pennod 19.
CARU ERAILL FEL RWYT TI’N DY GARU DY HUN
11-12. Beth gwnaeth Iesu ei bwysleisio drwy ddyfynnu Lefiticus 19:17, 18?
11 Mae’n ddigon gwir fod Duw wedi dweud wrthon ni i beidio â brifo eraill, ond mae’n disgwyl inni fynd ymhellach na hynny. Rydyn ni’n gweld hyn yn Lefiticus 19:17, 18. (Darllen.) Dywedodd Jehofa yn glir: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.” Mae’n rhaid i Gristnogion wneud hyn os ydyn nhw eisiau plesio Duw.
12 Ystyria sut gwnaeth Iesu bwysleisio’r gorchymyn yn Lefiticus 19:18. Gofynnodd Pharisead wrth Iesu unwaith: “Pa un o’r gorchmynion yn y Gyfraith ydy’r pwysica?” Atebodd Iesu mai’r “gorchymyn cyntaf a’r pwysica” yw i garu Jehofa gyda’n holl galon, ein holl enaid, a’n holl feddwl. Yna gwnaeth Iesu ddyfynnu Lefiticus 19:18 gan ddweud: “Mae yna ail un sydd yr un fath: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.’” (Math. 22:35-40) Mae ’na lawer o ffyrdd i ddangos cariad tuag at ein cymydog, ond unwaith eto gallwn ni ddysgu am rai ohonyn nhw yn Lefiticus pennod 19.
13. Sut mae hanes Joseff yn ein helpu ni i ddeall Lefiticus 19:18 yn well?
13 Un ffordd gallwn ni ddangos cariad tuag at ein cymydog yw drwy roi’r cyngor yn Lefiticus 19:18 ar waith. Mae’n dweud: “Paid dial ar bobl neu ddal dig yn eu herbyn nhw.” Mae’r rhan fwyaf ohonon ni yn adnabod rhywun sydd wedi dal dig am flynyddoedd yn erbyn cyd-weithiwr, rhywun yn yr ysgol, neu rywun yn y teulu. Cofia fod deg hanner brawd Joseff wedi dal dig yn ei erbyn a gwnaeth hynny, yn y pen draw, eu cymell nhw i wneud rhywbeth ofnadwy. (Gen. 37:2-8, 25-28) Ac yna, meddylia am sut gwnaeth Joseff eu trin nhw. Pan oedd ganddo awdurdod a chyfle i ddial ar ei frodyr, dangosodd drugaredd. Wnaeth Joseff ddim dal dig. Yn hytrach, fe wnaeth fel mae Lefiticus 19:18 yn dweud wrthon ni i’w wneud.—Gen. 50:19-21.
14. Beth sy’n dangos bod yr egwyddorion yn Lefiticus 19:18 dal yn wir heddiw?
14 Mae’r ffordd gwnaeth Joseff faddau yn lle dial yn gosod patrwm ar gyfer Cristnogion sydd eisiau plesio Duw. Mae hefyd yn cytuno â’r weddi enghreifftiol lle gwnaeth Iesu ddweud y dylen ni faddau i’r rhai sy’n pechu yn ein herbyn. (Math. 6:9, 12) Gwnaeth yr apostol Paul hefyd annog Cristnogion: “Peidiwch mynnu dial ar bobl, ffrindiau.” (Rhuf. 12:19) Gwnaeth ef hefyd dweud wrthyn nhw: “Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi’n meddwl eu bod nhw ar fai.” (Col. 3:13) Dydy egwyddorion Jehofa ddim yn newid. Felly mae’r egwyddorion tu ôl i’r gyfraith yn Lefiticus 19:18 dal yn wir heddiw.
15. Sut gallwn ni egluro’r angen i beidio â dal dig?
15 Ystyria eglureb. Gall teimladau sydd wedi cael eu brifo gael eu cymharu â briw llythrennol. Mae rhai yn fach; mae eraill yn fwy difrifol. Er enghraifft, wrth agor amlen, gallen ni dorri’r croen ar ein bys. Gall hynny frifo am ychydig, ond dydy’r boen ddim yn para. Ar ôl diwrnod neu ddau, efallai fydden ni ddim hyd yn oed yn cofio lle oedd y briw. Mewn ffordd debyg, weithiau mae pobl yn gwneud pethau bach sy’n ein brifo ni. Er enghraifft, pan fydd ffrind yn dweud neu’n gwneud rhywbeth yn ddifeddwl, rydyn ni’n gallu maddau iddo’n hawdd. Ar y llaw arall, os ydy’r briw yn fwy difrifol, efallai bydd rhaid inni fynd at y doctor i gael pwythau a rhwymo’r briw. Petasen ni’n pigo’r briw ac yn ei gyffwrdd bob munud, bydden ni ond yn gwneud pethau’n waeth. Yn anffodus, gall rhywun wneud rhywbeth tebyg os ydy ei deimladau wedi cael eu brifo. Efallai bydd yn meddwl yn ddi-baid am gymaint mae wedi ypsetio, a sut mae’r person arall wedi ei frifo. Ond mae’r rhai sy’n dal dig ond yn gwneud pethau’n waeth iddyn nhw eu hunain. Mae’n llawer gwell i ddilyn y cyngor yn Lefiticus 19:18!
16. Yn ôl Lefiticus 19:33, 34, sut roedd yr Israeliaid i fod i drin estronwyr, a beth gallwn ni ei ddysgu o hynny?
16 Pan wnaeth Jehofa orchymyn i’r Israeliaid garu eu cymdogion, doedd ef ddim yn golygu y dylen nhw garu dim ond Israeliaid eraill. Roedden nhw hefyd i fod i garu’r estroniaid yn eu plith. Mae’r neges honno’n glir yn Lefiticus 19:33, 34. (Darllen.) Wrth sôn am estroniaid, dywedodd Jehofa, “dylet ti eu trin nhw a dy bobl dy hun yr un fath.” Felly, roedd rhaid i’r Israeliaid eu “caru nhw” fel nhw eu hunain. Er enghraifft, roedd yr Israeliaid i fod i adael i estroniaid a rhai tlawd loffa’r caeau. (Lef. 19:9, 10) Mae’r egwyddor am garu estroniaid hefyd yn berthnasol i Gristnogion heddiw. (Luc 10:30-37) Sut? Mae ’na filiynau o fewnfudwyr ar draws y byd, ac mae’n debyg bod ’na rai yn byw yn dy ardal di. Mae’n bwysig ein bod ni’n trin y dynion, merched, a phlant hyn gydag urddas a pharch.
LEFITICUS PENNOD 19
EDRYCH TU HWNT I17-18. (a) Beth mae Lefiticus 19:2 a 1 Pedr 1:15 yn ein hannog ni i’w wneud? (b) Pa waith pwysig gwnaeth yr apostol Pedr ein hannog ni i’w wneud?
17 Mae Lefiticus 19:2 a 1 Pedr 1:15 yn annog pobl Dduw i fod yn sanctaidd. Mae llawer o adnodau eraill yn Lefiticus pennod 19 yn ein helpu ni i weld sut gallwn ni blesio Jehofa. Rydyn ni wedi trafod adnodau sy’n dangos dim ond rhai o’r pethau positif y dylen ni eu gwneud a rhai o’r pethau negyddol y dylen ni eu hosgoi. * Mae’r Ysgrythurau Groeg yn dangos ein bod ni dal angen rhoi’r egwyddorion hyn ar waith heddiw. Ond mae’r apostol Pedr yn ychwanegu rhywbeth.
18 Efallai ein bod ni’n cael rhan mewn llawer o weithgareddau ysbrydol yn barod, ac yn gwneud pethau da dros eraill yn aml, ond pwysleisiodd Pedr un peth yn benodol. Cyn i Pedr ein hannog ni i fod yn sanctaidd yn y ffordd rydyn ni’n ymddwyn, dywedodd: “Byddwch yn barod.” (1 Pedr 1:13, 15) Yn barod am beth? Dywedodd Pedr y byddai brodyr eneiniog Crist yn “dangos i eraill mor wych ydy Duw, yr Un alwodd” nhw. (1 Pedr 2:9) Mae gynnon ni i gyd fel Cristnogion heddiw y cyfle i wneud y gwaith hollbwysig hwn sy’n helpu pobl yn fwy nag unrhyw beth arall rydyn ni’n ei wneud. Am fraint arbennig sydd gynnon ni fel pobl sanctaidd Duw i gael rhan lawn yn y gwaith pregethu a dysgu! (Marc 13:10) Pan ydyn ni’n gwneud ein gorau glas i roi’r egwyddorion yn Lefiticus pennod 19 ar waith, rydyn ni’n profi ein bod ni’n caru Duw a’n cymydog. Rydyn ni hefyd yn dangos ein bod ni eisiau ‘bod yn sanctaidd’ ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud.
CÂN 111 Rhesymau Dros Ein Llawenydd
^ Par. 5 Dydy Cristnogion ddim o dan Gyfraith Moses, ond mae’r Gyfraith honno yn sôn am lawer o bethau y dylen ni eu gwneud neu eu hosgoi. Gall dysgu amdanyn nhw ein helpu ni i ddangos cariad tuag at eraill a phlesio Duw. Mae’r erthygl hon yn trafod sut gallwn ni elwa o’r gwersi yn Lefiticus pennod 19.
^ Par. 17 Yn yr erthyglau hyn, wnaethon ni ddim trafod adnodau yn Lefiticus pennod 19 sy’n sôn am ddangos ffafriaeth, cario clecs, bwyta gwaed, yn ogystal â dweud ffortiwn a dewino, ac anfoesoldeb rhywiol.—Lef. 19:15, 16, 26-29, 31.—Gweler “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn y rhifyn hwn.
^ Par. 52 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae Tyst yn helpu brawd byddar i gyfathrebu â doctor.
^ Par. 54 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd sy’n rhedeg busnes peintio yn talu cyflog i un o’i weithwyr.
^ Par. 56 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae chwaer yn anghofio am friw bychan yn hawdd. A fydd hi’n dewis gwneud yr un peth mewn sefyllfa fwy difrifol?