Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 51

Dalia Ati i ‘Wrando Arno’

Dalia Ati i ‘Wrando Arno’

“Fy Mab annwyl i ydy hwn; mae wedi fy mhlesio i’n llwyr. Gwrandwch arno!”—MATH. 17:5.

CÂN 54 “Dyma’r Ffordd”

CIPOLWG *

1-2. (a) Pa orchymyn gafodd tri o apostolion Iesu, a sut gwnaethon nhw ymateb? (b) Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

AR ÔL gŵyl y Pasg 32 OG, cafodd yr apostolion Pedr, Iago, ac Ioan weledigaeth ryfeddol. Ar fynydd uchel, o bosib rhan o Fynydd Hermon, cafodd Iesu ei drawsnewid o’u blaenau nhw. “Roedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a throdd ei ddillad yn wyn llachar fel golau.” (Math. 17:1-4) Tuag at ddiwedd y weledigaeth, gwnaeth yr apostolion glywed Duw yn dweud: “Fy Mab annwyl i ydy hwn; mae wedi fy mhlesio i’n llwyr. Gwrandwch arno!” (Math. 17:5) O hynny ymlaen, profodd y tri apostol drwy eu ffordd o fyw eu bod nhw wedi gwrando ar Iesu. Rydyn ni eisiau efelychu eu hesiamplau.

2 Yn yr erthygl ddiwethaf, gwnaethon ni ddysgu bod gwrando ar lais Iesu yn golygu y dylen ni beidio â gwneud rhai pethau. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod dau beth ddywedodd Iesu y dylen ni eu gwneud.

“EWCH I MEWN DRWY’R FYNEDFA GUL”

3. Yn ôl Mathew 7:13, 14, beth dylen ni ei wneud?

3 Darllen Mathew 7:13, 14. Sylwa fod Iesu wedi sôn am ddwy fynedfa yn arwain at ddwy ffordd wahanol. Un “llydan” ac un “gul.” Does ’na ddim trydedd ffordd. Mae’n rhaid inni ddewis droston ni’n hunain pa ffordd rydyn ni’n teithio arni. Dyma’r penderfyniad pwysicaf wnawn ni erioed, oherwydd dim ond un o’r ffyrdd sy’n arwain at fywyd tragwyddol.

4. Sut byddet ti’n disgrifio’r ffordd ‘lydan’?

4 Mae’n rhaid inni gofio’r gwahaniaethau rhwng y ddwy ffordd. Mae’r ffordd ‘lydan’ yn boblogaidd am ei bod yn hawdd teithio arni. Yn anffodus, mae llawer yn dewis aros ar y ffordd honno, a dilyn y dorf sy’n teithio arni. Dydyn nhw ddim yn cydnabod mai’r un sy’n hyrwyddo’r ffordd hon ydy Satan y Diafol, a’i bod yn arwain at farwolaeth.—1 Cor. 6:9, 10; 1 Ioan 5:19.

5. Pa ymdrechion mae rhai wedi eu gwneud i ffeindio’r ffordd “gul” a dechrau teithio arni?

5 Yn wahanol i’r ffordd ‘lydan,’ mae’r ffordd arall yn “gul,” a dywedodd Iesu mai dim ond ychydig fyddai’n dod o hyd iddi. Pam? Yn yr adnod nesaf, gwnaeth Iesu rybuddio ei ddilynwyr yn erbyn gau broffwydi. (Math. 7:15) Yn ôl rhai, mae ’na filoedd o grefyddau, ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn honni mai nhw sy’n dysgu’r gwir. Oherwydd hynny, mae miliynau o bobl wedi drysu’n llwyr ac anobeithio, felly dydyn nhw ddim bellach yn trio chwilio am y ffordd i fywyd. Ond mae hi’n bosib dod o hyd iddi. Dywedodd Iesu: “Os daliwch afael yn yr hyn dw i wedi ei ddangos i chi, dych chi’n ddilynwyr go iawn i mi. Byddwch yn dod i wybod beth sy’n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw’n rhoi rhyddid i chi.” (Ioan 8:31, 32) Gwnest ti’n dda i beidio â dilyn y dorf; yn hytrach, gwnest ti chwilio am y gwir. Gwnest ti ddechrau astudio gair Duw yn drylwyr i ddysgu beth mae’n ei ofyn gynnon ni, a gwnest ti wrando ar ddysgeidiaethau Iesu. Ymysg pethau eraill, gwnest ti ddysgu bod Jehofa’n disgwyl inni wrthod dysgeidiaethau gau grefydd, a stopio dathlu gwyliau sydd â gwreiddiau paganaidd. Gwnest ti hefyd dysgu bod gwneud newidiadau yn dy fywyd i blesio Jehofa ddim wastad yn hawdd. (Math. 10:34-36) Efallai dest ti ar draws llawer o heriau yn hynny o beth, ond gwnest ti ddal ati am dy fod ti’n caru dy Dad nefol ac eisiau ei blesio. Meddylia pa mor falch ydy ef ohonot ti!—Diar. 27:11.

SUT I AROS AR Y FFORDD GUL

Mae cyngor Duw a’i safonau yn ein helpu ni i aros ar y ffordd “gul” (Gweler paragraffau 6-8) *

6. Yn ôl Salm 119:9, 10, 45, 133, beth all ein helpu ni i aros ar y ffordd gul?

6 Unwaith rydyn ni wedi dechrau teithio ar y ffordd gul, beth all ein helpu i aros arni? Ystyria’r eglureb hon. Mae barier sy’n rhedeg ar hyd ochr lôn fynyddig gul, yno er mwyn diogelwch gyrrwr a’i gar—i’w helpu i osgoi mynd yn rhy agos at ochr y lôn neu fynd drosodd yn gyfan gwbl. Fyddai’r rhan fwyaf o yrwyr ddim yn cwyno bod barier o’r fath yn cyfyngu arnyn nhw. Mae safonau Jehofa yn y Beibl yn debyg i’r barier hwnnw. Mae ei safonau yn ein helpu i aros ar y ffordd gul.—Darllen Salm 119:9, 10, 45, 133.

7. Sut dylai’r rhai ifanc ystyried y ffordd gul?

7 Os wyt ti’n ifanc, wyt ti weithiau yn teimlo bod safonau Jehofa yn cyfyngu arnat ti? Dyna beth mae Satan eisiau iti feddwl. Mae ef eisiau iti ganolbwyntio ar beth mae’r rhai sy’n teithio ar y ffordd lydan yn ei wneud, a’r amser da maen nhw i weld yn ei gael. Efallai bydd yn defnyddio beth mae dy ffrindiau ysgol yn ei wneud, neu beth rwyt ti’n ei weld ar y we, i wneud iti deimlo dy fod ti’n colli allan ar yr hwyl i gyd. Mae Satan eisiau iti feddwl bod safonau Jehofa yn dy ddal di’n ôl rhag mwynhau bywyd yn llawn. * Ond cofia hyn: Dydy Satan ddim eisiau i’r rhai sy’n teithio ar ei ffordd ef i weld beth sy’n disgwyl amdanyn nhw ar ddiwedd y daith. Ond mae Jehofa, ar y llaw arall, wedi dweud wrthot ti yn union beth sy’n disgwyl amdanat ti os wyt ti’n aros ar y ffordd i fywyd.—Salm 37:29; Esei. 35:5, 6; 65:21-23.

8. Beth all rhai ifanc ei ddysgu o esiampl Olaf?

8 Ystyria beth gelli di ei ddysgu o brofiad un brawd ifanc o’r enw Olaf. * Gwnaeth ei ffrindiau ysgol roi pwysau arno i wneud pethau anfoesol. Pan wnaeth ef esbonio bod Tystion Jehofa yn byw yn ôl safonau moesol uchel y Beibl, gwnaeth rhai merched yn ei ddosbarth weld hyn fel her, a cheisio ei berswadio i gael rhyw gyda nhw. Ond gwnaeth Olaf safiad dros beth sy’n iawn. Ac nid dyna’r unig bwysau oedd arno. Dywedodd Olaf: “Gwnaeth fy athrawon drio fy mherswadio i i fynd ar ôl addysg uwch oherwydd wedyn byddai pobl yn fy edmygu. Gwnaethon nhw ddweud wrtho i fyddwn i ddim yn llwyddo hebddo.” Beth helpodd Olaf i wrthod y fath bwysau? Dywedodd: “Wnes i wneud ffrindiau da efo rhai yn fy nghynulleidfa. Daethon nhw fel teulu imi. Wnes i hefyd ddechrau cymryd fy astudiaeth bersonol o’r Beibl o ddifri. Y mwyaf o’n i’n astudio, y mwyaf o’n i’n hollol sicr mai dyma oedd y gwir. O ganlyniad, o’n i’n benderfynol o wasanaethu Jehofa.”

9. Beth sydd angen i’r rhai sydd eisiau aros ar y ffordd gul ei wneud?

9 Byddai Satan wrth ei fodd yn gwneud i ti droi oddi ar y ffordd sy’n arwain i fywyd. Mae ef eisiau iti wneud beth mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei wneud, a cherdded ar y ffordd lydan “sy’n arwain i ddinistr.” (Math. 7:13) Ond, byddwn ni’n llwyddo i aros ar y ffordd gul os ydyn ni’n parhau i wrando ar Iesu a gweld y ffordd honno fel un ddiogel. Nawr, gad inni ystyried rhywbeth arall dywedodd Iesu y dylen ni ei wneud.

GWNA HEDDWCH GYDA DY FRAWD

10. Yn ôl Mathew 5:23, 24, beth ddywedodd Iesu y dylen ni ei wneud?

10 Darllen Mathew 5:23, 24. Disgrifiodd Iesu rywbeth oedd yn bwysig iawn i’r Iddewon oedd yn gwrando arno. Dychmyga rywun yn y deml yn barod i roi anifail i offeiriad fel aberth. Os oedd y person yn cofio yn y foment honno fod gan ei frawd rywbeth yn ei erbyn, roedd i fod i adael ei aberth a mynd o ’na. Pam? Beth allai fod yn bwysicach nag offrymu aberth i Jehofa? Dywedodd Iesu’n glir: “Dos i wneud pethau’n iawn gyda [dy frawd] yn gyntaf.”

A fyddi di’n efelychu esiampl Jacob, oedd yn ddigon gostyngedig i wneud heddwch â’i frawd? (Gweler paragraffau 11-12) *

11. Disgrifia beth wnaeth Jacob i wneud heddwch ag Esau.

11 Gallwn ni ddysgu gwersi gwerthfawr am wneud heddwch drwy ystyried rhywbeth a ddigwyddodd ym mywyd Jacob. Ar ôl iddo fod i ffwrdd o’i wlad enedigol am tua 20 mlynedd, gwnaeth Duw ei orchymyn drwy angel i fynd yn ôl yno. (Gen. 31:11, 13, 38) Ond roedd ’na broblem. Roedd ei frawd mawr, Esau, wedi bod eisiau ei ladd. (Gen. 27:41) Roedd gan Jacob “ofn am ei fywyd” o feddwl am y posibilrwydd bod ei frawd yn dal dig yn ei erbyn o hyd. (Gen. 32:7) Beth wnaeth Jacob i wneud heddwch â’i frawd? Yn gyntaf, gweddïodd yn daer ar Jehofa am y mater. Yna, anfonodd anrheg hael at Esau. (Gen. 32:9-15) Ac yn olaf, pan wnaeth y ddau frawd gyfarfod wyneb yn wyneb, cymerodd Jacob y cam cyntaf i ddangos parch at Esau. Ymgrymodd o flaen Esau—nid unwaith, nid ddwywaith, ond saith gwaith! Drwy fod yn ostyngedig ac yn barchus, llwyddodd Jacob i wneud heddwch â’i frawd.—Gen. 33:3, 4.

12. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Jacob?

12 Rydyn ni’n dysgu gwers o sut gwnaeth Jacob baratoi i weld ei frawd, a beth wnaeth ef unwaith iddyn nhw gyfarfod. Yn ostyngedig, gwnaeth Jacob ofyn i Jehofa am help. Yna, gweithiodd yn unol â’i weddi, drwy wneud ei orau i wneud heddwch â’i frawd. Pan wnaeth y ddau frawd gyfarfod, wnaeth Jacob ddim dadlau gydag Esau am bwy oedd yn iawn. Nod Jacob oedd gwneud heddwch â’i frawd. Sut gallwn ni efelychu esiampl Jacob?

SUT I WNEUD HEDDWCH AG ERAILL

13-14. Os ydyn ni’n brifo cyd-grediniwr, beth dylen ni ei wneud?

13 Rydyn ni sy’n teithio ar y ffordd i fywyd eisiau cadw heddwch â’n brodyr. (Rhuf. 12:18) Beth ddylen ni ei wneud pan rydyn ni’n sylweddoli ein bod ni wedi brifo cyd-grediniwr? Fel Jacob, dylen ni droi at Jehofa mewn gweddi daer. Gallwn ni ofyn iddo fendithio ein hymdrechion i ennill ein brawd.

14 Dylen ni hefyd gymryd yr amser i feddwl am ein hagwedd. Gallwn ni ofyn cwestiynau fel hyn i’n hunain: ‘Ydw i’n fodlon syrthio ar fy mai, ymddiheuro’n ostyngedig, a gwneud heddwch? Sut bydd Jehofa ac Iesu’n teimlo os ydw i’n cymryd y cam cyntaf i adennill yr heddwch rhyngo i a fy mrawd neu chwaer?’ Gall ein hatebion ein cymell ni i wrando ar Iesu a mynd at ein cyd-grediniwr yn ostyngedig er mwyn gwneud heddwch. Gallwn ni efelychu esiampl Jacob yn hyn o beth.

15. Sut gall rhoi’r egwyddor yn Effesiaid 4:2, 3 ar waith ein helpu i wneud heddwch â’n brawd?

15 Dychmyga beth fyddai wedi digwydd petai Jacob wedi dangos balchder pan wnaeth ef gyfarfod ei frawd! Mae’n debyg byddai pethau wedi troi allan yn wahanol iawn. Pan fyddwn ni’n mynd at ein brawd i wneud heddwch ag ef, mae’n rhaid inni fod yn ostyngedig. (Darllen Effesiaid 4:2, 3.) Mae Diarhebion 18:19 yn dweud: “Mae perthynas wedi digio yn ystyfnig fel caer; a chwerylon fel barrau i gloi giatiau castell.” Gall ymddiheuro’n ostyngedig ein helpu ni i godi’r “barrau” hynny.

16. Beth arall dylen ni feddwl amdano, a pham?

16 Rydyn ni hefyd angen meddwl yn ofalus am beth rydyn ni am ddweud wrth ein brawd a sut rydyn ni am ei ddweud. Pan ydyn ni’n barod, dylen ni fynd at yr un rydyn ni wedi ei bechu, gyda’r nod o leddfu unrhyw boen yn ei galon. I ddechrau, efallai bydd ef yn dweud pethau sydd ddim yn hawdd i’w clywed. Efallai byddwn ni’n teimlo fel ffrwydro, neu gyfiawnhau ein hunain, ond a fyddai gwneud hynny yn arwain at heddwch? Na fyddai siŵr. Cofia fod adennill heddwch â dy frawd yn bwysicach na chadarnhau pwy oedd yn iawn.—1 Cor. 6:7.

17. Beth gelli di ei ddysgu o esiampl Gilbert?

17 Gweithiodd brawd o’r enw Gilbert yn galed i wneud heddwch. Dywedodd: “Roedd pethau’n annifyr iawn rhyngo i a fy merch am gyfnod. Am dros ddwy flynedd, wnes i drio trafod pethau gyda hi mewn ffordd heddychlon a heb ddigio er mwyn adfer y berthynas dda rhyngon ni.” Beth arall wnaeth Gilbert? “Cyn siarad efo fy merch, byddwn i’n gweddïo ac yn paratoi fy hun yn feddyliol ar gyfer unrhyw beth angharedig fyddai hi’n ei ddweud. O’n i angen bod yn barod i faddau. Wnes i ddysgu ddylwn i ddim trio profi mai fi oedd yn iawn, ac mai fy nghyfrifoldeb i yn y sefyllfa hon oedd trio gwneud heddwch.” Beth oedd y canlyniad? Dywedodd Gilbert: “Heddiw, mae gen i heddwch meddwl am fod gen i berthynas dda â phawb yn fy nheulu.”

18-19. Os ydyn ni wedi pechu rhywun, beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud a pham?

18 Felly beth dylet ti fod yn benderfynol o’i wneud pan wyt ti’n sylweddoli dy fod ti wedi pechu un o dy frodyr neu chwiorydd? Dilyna gyngor Iesu i wneud heddwch. Siarada â Jehofa am y mater, a dibynna ar ei ysbryd glân i dy helpu i hyrwyddo heddwch. Drwy wneud hynny, byddi di’n hapus, a byddi di’n dangos dy fod ti’n gwrando ar Iesu.—Math. 5:9.

19 Rydyn ni’n ddiolchgar bod Jehofa’n rhoi arweiniad cariadus inni drwy ben y gynulleidfa, Iesu Grist. (Eff. 5:23) Gad inni fod yn benderfynol o ‘wrando arno,’ fel roedd yr apostolion Pedr, Iago, ac Ioan. (Math. 17:5) Rydyn ni wedi trafod sut gallwn ni wneud hynny drwy wneud heddwch â rhywun rydyn ni wedi ei bechu. Drwy wneud hynny, ac aros ar y ffordd gul sy’n arwain i fywyd, byddwn ni’n cael llawer o fendithion nawr a hapusrwydd diddiwedd yn y dyfodol.

CÂN 130 Byddwch Faddeugar

^ Par. 5 Mae Iesu yn ein hannog ni i fynd drwy’r fynedfa gul sy’n arwain at y ffordd i fywyd. Mae hefyd yn dweud wrthon ni i wneud heddwch â’n brodyr a chwiorydd. Pa heriau gallen ni eu hwynebu wrth drio dilyn ei gyngor, a sut gallwn ni eu trechu?

^ Par. 7 Gweler Cwestiwn 6 yn y llyfryn 10 Ateb i Gwestiynau Pobl Ifanc, Sut Galla i Wrthsefyll Pwysau gan Gyfoedion?” a’r animeiddiad bwrdd gwyn Gwrthsefyll Pwysau gan Gyfoedion ar jw.org. (Edrycha o dan DYSGEIDIAETHAU’R BEIBL > ARDDEGAU.)

^ Par. 8 Newidiwyd rhai enwau.

^ Par. 56 DISGRIFIAD O’R LLUN: Drwy aros ar y ffordd “gul” lle mae Duw wedi gosod bariyrs ar hyd ei hochr, rydyn ni’n osgoi peryglon fel pornograffi, cwmni anfoesol, a phwysau i roi addysg uwch yn gyntaf yn ein bywydau.

^ Par. 58 DISGRIFIAD O’R LLUN: Er mwyn gwneud heddwch, ymgrymodd Jacob sawl gwaith o flaen ei frawd, Esau.