Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiwn Syml Gall Unrhyw Un Ei Ofyn

Cwestiwn Syml Gall Unrhyw Un Ei Ofyn

Mae Mary a’i gŵr, John, a yn byw mewn gwlad lle mae ganddyn nhw’r cyfle i bregethu i lawer o bobl o’r Philipinau sydd wedi dod yno i fyw ac i weithio. Yn ystod y pandemig COVID-19, llwyddodd Mary i ddechrau astudiaethau Beiblaidd, nid yn unig yn ei gwlad hi, ond hefyd mewn gwledydd eraill. Sut felly?

Roedd Mary yn gofyn i’w myfyrwyr y Beibl, “A wyt ti’n gallu meddwl am rywun arall a fyddai’n hoffi astudio’r Beibl?” Os oedden nhw’n dweud ydw, roedd hi’n gofyn i’w cyfarfod nhw. Roedd gofyn y cwestiwn syml hwn yn aml yn cael canlyniadau da. Pam? Oherwydd, fel arfer, mae pobl sy’n gwerthfawrogi Gair Duw eisiau rhannu beth maen nhw’n ei ddysgu â’u teulu a’u ffrindiau annwyl. Sut gwnaeth ei myfyrwyr ymateb i’r cwestiwn hwnnw?

Gwnaeth Jasmin, un o fyfyrwyr Mary, ei chyflwyno hi i bedwar person a oedd eisiau astudio’r Beibl. Roedd un ohonyn nhw, o’r enw Kristine, yn mwynhau ei hastudiaeth gymaint nes iddi ofyn i astudio ddwywaith yr wythnos. Pan ofynnodd Mary a oedd Kristine yn adnabod unrhyw un arall fyddai’n hoffi astudio’r Beibl, fe ddywedodd hi, “Ydw, fe wna i eu cyflwyno nhw iti.” O fewn ychydig o wythnosau, roedd Mary wedi cyfarfod pedwar o ffrindiau Kristine a oedd eisiau cael astudiaeth. Yn nes ymlaen, fe wnaeth Kristine gyflwyno mwy o ffrindiau iddi, ac fe wnaethon nhw fynd trwy’r un broses gydag eraill.

Roedd Kristine hefyd eisiau i’w theulu yn y Philipinau ddysgu am y Beibl. Felly, fe wnaeth hi siarad â’i merch, Andrea. I ddechrau, roedd Andrea’n meddwl, ‘Mae Tystion Jehofa’n gwlt, dydyn nhw ddim yn credu mewn Iesu, ac maen nhw ond yn defnyddio’r Hen Destament.’ Ond ar ôl ei hastudiaeth gyntaf, sylweddolodd hi fod ganddi’r syniad anghywir. Wrth astudio, byddai hi’n dweud, “Os dyna beth sydd yn y Beibl, mae’n rhaid ei fod yn wir!”

Mewn amser, fe wnaeth Andrea gyflwyno Mary i ddau o’i ffrindiau ac i un o’i chyd-weithwyr ac fe ddechreuon nhw astudio. Hefyd, roedd Angela, modryb ddall Andrea, yn gwrando mewn ar yr astudiaeth heb i Mary wybod. Yna un diwrnod, gofynnodd Angela i Andrea ei chyflwyno hi i Mary i ofyn am astudiaeth Feiblaidd ei hun. Roedd Angela’n caru’r hyn roedd hi’n ei ddysgu. O fewn mis, roedd hi wedi dysgu llawer o adnodau ar gof ac roedd hi eisiau astudio bedair gwaith yr wythnos! Gyda help Andrea, dechreuodd hi fynychu’r cyfarfodydd yn rheolaidd dros fideo-gynadledda.

Dysgodd Mary fod gŵr Kristine, Joshua, yn loetran yn y cefndir yn ystod astudiaethau Kristine. Felly gofynnodd Mary iddo a oedd ef eisiau ymuno â nhw. Dywedodd Joshua, “Fe wna i wrando, ond paid â gofyn unrhyw gwestiynau imi, neu fe wna i adael.” O fewn y pum munud cyntaf o’r astudiaeth, fe ofynnodd mwy o gwestiynau na Kristine ac roedd eisiau parhau i astudio’r Beibl.

Gwnaeth cwestiwn syml Mary arwain at nifer o astudiaethau Beiblaidd. Fe wnaeth hi drefnu i lawer ohonyn nhw astudio gyda Thystion eraill. Dechreuodd Mary 28 o astudiaethau Beiblaidd mewn pedair gwlad wahanol.

Cafodd Jasmin ei bedyddio ym mis Ebrill 2021. Cafodd Kristine ei bedyddio ym mis Mai 2022 ac ers hynny mae hi wedi mynd yn ôl i’r Philipinau i fod gyda’i theulu. Mae dau o’r myfyrwyr eraill a gafodd eu cyflwyno i Mary gan Kristine hefyd wedi cael eu bedyddio. Rai misoedd wedyn, cafodd Angela ei bedyddio ac nawr mae hi’n gwasanaethu fel arloeswraig llawn amser. Mae Joshua, gŵr Kristine, eu merch, Andrea, a llawer o fyfyrwyr eraill yn gwneud cynnydd da.

Yn y ganrif gyntaf, lledaenodd y newyddion da yn gyflym rhwng teulu a ffrindiau. (Ioan 1:​41, 42a; Act. 10:​24, 27, 48; 16:​25-33) Beth am ofyn i dy fyfyrwyr Beiblaidd ac i eraill sydd â diddordeb, “A wyt ti’n gallu meddwl am rywun arall a fyddai’n hoffi astudio’r Beibl?” Pwy a ŵyr faint o astudiaethau Beiblaidd a fydd yn cael eu cychwyn o ganlyniad i’r cwestiwn syml hwn?

a Newidiwyd yr enwau.