HANES BYWYD
“Doeddwn i Byth ar Fy Mhen Fy Hun”
GALL llawer o bethau yn ein bywydau wneud inni deimlo’n unig, fel colli anwylyn, symud i rywle newydd, neu fod ar ein pennau ein hunain. Rydw i wedi profi’r rhain i gyd. Ond, wrth edrych yn ôl ar fy mywyd, rydw i’n sylweddoli nad oeddwn i byth yn wir ar fy mhen fy hun. Gad imi esbonio sut des i i’r casgliad hwnnw.
ESIAMPL FY RHIENI
Roedd Mam a Dad yn Gatholigion selog. Ond ar ôl iddyn nhw ddysgu o’r Beibl mai enw Duw ydy Jehofa, fe ddaethon nhw’n Dystion Jehofa selog. Gwnaeth fy nhad stopio cerfio delwau o Iesu. Yn lle hynny, fe ddefnyddiodd ei sgiliau fel saer coed i droi y llawr gwaelod o’n tŷ yn Neuadd y Deyrnas—yr un cyntaf yn San Juan del Monte, ardal o Manila, prifddinas y Philipinau.
Fe ges i fy ngeni ym 1952, a gwnaeth fy rhieni fy nysgu i am y Beibl yn yr un ffordd a wnaethon nhw gyda fy mhedwar brawd a thair chwaer hŷn. Wrth imi dyfu i fyny, gwnaeth fy nhad fy annog i ddarllen pennod o’r Beibl bob dydd, ac fe wnaeth astudio llawer o gyhoeddiadau theocrataidd gwahanol gyda fi. Weithiau, fe wnaeth fy rhieni wahodd arolygwyr teithiol a brodyr o’r gangen i aros yn ein tŷ. Fel teulu, cawson ni ein calonogi gan brofiadau’r brodyr hyn a gwnaeth hyn ein cymell ni i flaenoriaethu’r weinidogaeth.
Dysgais gymaint gan esiampl ffyddlon fy rhieni. Pan fu farw fy mam ar ôl salwch, dechreuodd fy nhad a minnau arloesi gyda’n gilydd ym 1971. Ond wedyn, ym 1973 pan oeddwn i’n 20 mlwydd oed, bu farw fy nhad. Teimlais yn wag ac yn unig ar ôl colli fy rhieni. Ond roedd y gobaith o’r Beibl, sy’n “sicr ac yn gadarn” fel angor, yn fy helpu i i aros yn sefydlog yn emosiynol ac yn ysbrydol. (Heb. 6:19) Yn fuan ar ôl i fy nhad farw, derbyniais aseiniad fel arloeswr arbennig ar ynys Coron, yn nhalaith Palawan.
YN WYNEBU ASEINIADAU ANODD AR FY MHEN FY HUN
Pan oeddwn i’n 21 mlwydd oed, cyrhaeddais Coron. Oherwydd fy mod i’n wastad wedi byw mewn dinas, roeddwn i wedi synnu i weld nad oedd ’na lawer o drydan, dŵr tap, na llawer o geir ar yr ynys. Doedd gen i ddim partner arloesi, er bod ’na ychydig o frodyr
yno, ac weithiau roedd rhaid imi bregethu ar fy mhen fy hun. Am y mis cyntaf, roeddwn i’n colli fy nheulu a’m ffrindiau yn ofnadwy. Yn y nos, roeddwn i’n edrych ar y sêr yn yr awyr wrth i’r dagrau lifo i lawr fy wyneb. Roeddwn i’n teimlo fel rhoi’r gorau i fy aseiniad a mynd yn ôl adref.Yn ystod yr adegau unig hyn, roeddwn i’n tywallt fy nghalon i Jehofa. Roeddwn i’n meddwl am bethau calonogol roeddwn i wedi eu darllen yn y Beibl ac yn ein cyhoeddiadau. Daeth Salm 19:14 i fy meddwl yn aml. Sylweddolais mai Jehofa a fyddai “fy nghraig a’m hachubwr” petaswn i’n myfyrio ar bethau a oedd yn ei blesio, fel ei weithredoedd a’i rinweddau. Gwnaeth yr erthygl yn y Tŵr Gwylio “You Are Never Alone” a fy helpu i yn fawr iawn. Darllenais yr erthygl drosodd a throsodd. Pan oeddwn i ar fy mhen fy hun, teimlais fel fy mod i gyda Jehofa, ac roedd yr adegau hyn yn gyfleoedd arbennig imi weddïo, astudio, a myfyrio.
Yn fuan ar ôl cyrraedd Coron, ges i fy mhenodi fel yr unig henuriad ar yr ynys. Pob wythnos, roeddwn i’n arwain Ysgol y Weinidogaeth, y Cyfarfod Gwasanaeth, Astudiaeth Llyfr y Gynulleidfa, a’r Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio. Roeddwn i hefyd yn rhoi anerchiad cyhoeddus bob wythnos. Roedd un peth yn siŵr—doedd gen i ddim digon o amser i deimlo’n unig bellach!
Fe ges i ganlyniadau da yn y weinidogaeth ar Coron—gwnaeth rhai o fy astudiaethau Beiblaidd gael eu bedyddio mewn amser. Ond roedd ’na anawsterau hefyd. Weithiau, byddai’n rhaid imi gerdded am hanner diwrnod i gyrraedd y diriogaeth, heb wybod lle byddwn i’n cysgu yn y nos. Roedd y diriogaeth hefyd yn cynnwys llawer o ynysoedd llai. Yn aml roeddwn i’n teithio ar gwch modur trwy dywydd stormus i’w cyrraedd nhw er nad oeddwn i’n gwybod sut i nofio! Trwy’r holl adegau anodd hyn, gwnaeth Jehofa fy amddiffyn a fy nghynnal i. Yn hwyrach ymlaen, sylweddolais fod Jehofa wedi fy mharatoi i am broblemau anoddach yn fy aseiniad nesaf.
PAPWA GINI NEWYDD
Ym 1978, fe ges i fy aseinio i Papwa Gini Newydd, sydd i’r gogledd o Awstralia. Mae Papwa Gini Newydd yn wlad fynyddig, bron yr un maint â Sbaen. Roeddwn i wedi synnu i ddysgu bod y boblogaeth o tua thair miliwn o bobl yn siarad dros 800 o ieithoedd. Diolch byth, roedd y rhan fwyaf o bobl yn gallu siarad Pijin Melanesia, a elwir hefyd Toc Pisin.
Fe ges i aseiniad dros dro yng nghynulleidfa Saesneg yn y brifddinas, Port Moresby. Ond wedyn symudais i gynulleidfa Toc Pisin. Cymerais wersi i ddysgu’r iaith. Wrth bregethu, defnyddiais beth roeddwn i wedi ei ddysgu yn y dosbarth. Gwnaeth hyn fy helpu i ddysgu’r iaith yn gyflymach. Cyn bo hir, roeddwn i’n gallu rhoi anerchiad cyhoeddus yn yr iaith Toc Pisin. Daeth fel sioc pan gefais fy mhenodi fel arolygwr cylchdaith ar gyfer y cynulleidfaoedd Toc Pisin mewn sawl talaith fawr llai na blwyddyn ar ôl imi gyrraedd Papwa Gini Newydd.
Oherwydd bod y cynulleidfaoedd yn bell oddi wrth ei gilydd, roedd rhaid inni drefnu llawer o gynulliadau cylchdaith a theithio llawer. I ddechrau, roeddwn i’n teimlo’n unig iawn mewn amgylchiadau newydd—gwlad
newydd, iaith newydd, ac arferion newydd. Roedd rhaid imi deithio ar awyren rhwng y cynulleidfaoedd bron bob wythnos oherwydd bod y tir yn fynyddig ac yn greigiog. Weithiau fi oedd yr unig deithiwr ar awyren fach a oedd mewn cyflwr ofnadwy. Roedd y teithiau hynny yn codi ofn arna i yn yr un ffordd â’r teithiau cynt ar gychod!Nid oedd gan lawer o bobl deleffonau, felly ysgrifennais lythyrau at y cynulleidfaoedd. Yn aml, byddwn i’n cyrraedd cyn y llythyrau ac roedd rhaid imi ofyn i’r bobl leol am bwy oedd y Tystion. Ond bob tro des i o hyd i’r brodyr, fe ges i groeso cynnes, a gwnaeth hyn fy atgoffa i pam roeddwn i’n gwneud yr holl bethau hyn. Teimlais gefnogaeth Jehofa mewn llawer o ffyrdd, a gwnes i nesáu ato yn fwy byth.
Yn ystod fy nghyfarfod cyntaf ar ynys o’r enw Bougainville, daeth cwpl ata i yn gwenu o glust i glust, a gofynnon nhw: “A wyt ti’n ein cofio ni?” Roeddwn i’n cofio tystiolaethu i’r cwpl hyn pan gyrhaeddais Port Moresby am y tro cyntaf. Roeddwn i wedi dechrau astudiaeth Feiblaidd â nhw, cyn trosglwyddo’r astudiaeth i frawd lleol. Roedd y ddau ohonyn nhw wedi cael eu bedyddio! Dyma un o’r llawer o fendithion ges i yn ystod fy nhair blynedd yn Papwa Gini Newydd.
TEULU BACH PRYSUR
Cyn imi adael Coron ym 1978, roeddwn i wedi cwrdd â chwaer hyfryd a hunanaberthol o’r enw Adel. Roedd hi’n arloesi’n llawn amser wrth fagu ei dau blentyn, Samuel a Shirley. Ar yr un pryd, roedd hi’n edrych ar ôl ei mam mewn oed. Ym mis Mai, 1981, es i’n ôl i’r Philipinau i briodi Adel. Ar ôl inni briodi, gwnaethon ni arloesi’n llawn amser ac edrych ar ôl y teulu gyda’n gilydd.
Er bod gen i deulu, ym 1983 fe ges i fy mhenodi unwaith eto fel arloeswr arbennig a fy aseinio i’r ynys Linapacan, yn nhalaith Palawan. Symudodd y teulu cyfan i’r lle unig hwn lle nad oedd yna unrhyw Dystion. Bu farw mam Adel tua blwyddyn wedyn. Ond, arhoson ni’n brysur yn y weinidogaeth, a gwnaeth hyn ein helpu ni i ymdopi â’n galar. Dechreuon ni lawer o astudiaethau Beiblaidd ar Linapacan, a chyn bo hir roedd angen am Neuadd y Deyrnas arnon ni. Felly adeiladon ni un ein hunain. Dim ond tair blynedd ar ôl inni gyrraedd, roedden ni wrth ein boddau i weld 110 o bobl yn mynychu’r Goffadwriaeth, a gwnaeth llawer ohonyn nhw gael eu bedyddio ar ôl inni adael.
Ym 1986, fe ges i fy aseinio i Culion, ynys lle roedd yna gymuned o bobl a oedd yn dioddef o’r gwahanglwyf. Ar ôl hynny, cafodd Adel hefyd ei phenodi fel arloeswraig arbennig. I ddechrau, roedden ni’n teimlo’n nerfus am bregethu i bobl a oedd yn wahanglwyfus. Ond, gwnaeth y cyhoeddwyr leihau ein pryderon gan ddweud bod y bobl a oedd yn sâl wedi cael triniaeth a doedd ’na ddim llawer o beryg y byddwn ni’n dal y salwch. Gwnaeth rhai ohonyn nhw fynychu’r cyfarfodydd yng nghartref un o’r chwiorydd. Yn fuan, fe wnaethon ni addasu ac roedd yn hyfryd i rannu’r gobaith sydd yn y Beibl â rhai a oedd yn teimlo bod Duw a phobl eraill wedi Luc 5:12, 13.
troi eu cefnau arnyn nhw. Roedd hi mor braf i weld pobl a oedd yn ofnadwy o sâl yn llawenhau wrth ddysgu am y gobaith o gael iechyd perffaith yn y dyfodol.—Sut gwnaeth ein plant addasu i fywyd ar Culion? Wel, gwnaeth Adel a minnau wahodd dwy chwaer ifanc o Coron er mwyn i’r plant gymdeithasu â ffrindiau da. Gwnaeth Samuel, Shirley, a’r ddwy chwaer ifanc hyn fwynhau dysgu eraill am y gwir. Gwnaethon nhw astudio gyda llawer o blant tra bod Adel a minnau’n astudio gyda’r rhieni. Ar un adeg, roedden ni’n astudio gydag 11 o deuluoedd. Yn fuan, roedd gynnon ni gymaint o astudiaethau Beiblaidd, roedden ni’n gallu ffurfio cynulleidfa newydd!
I ddechrau, fi oedd yr unig henuriad yn yr ardal. Felly gofynnodd y swyddfa cangen imi arwain y cyfarfodydd bob wythnos ar gyfer yr wyth cyhoeddwr yn Culion ac ar gyfer y naw cyhoeddwr mewn pentref o’r enw Marily a oedd yn dair awr i ffwrdd ar gwch. Ar ôl y cyfarfodydd yno, cerddon ni fel teulu trwy ardal fynyddig am lawer o oriau er mwyn cynnal astudiaethau Beiblaidd mewn pentref o’r enw Halsey.
Yn y pen draw, gwnaeth cymaint o bobl ddod i mewn i’r gwir ym Marily ac yn Halsey nes inni adeiladu Neuaddau’r Deyrnas yn y ddau le. Fel ar Linapacan, roedd y brodyr a rhai a oedd â diddordeb yn y gwir yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith a gwnaeth y mwyafrif o’r deunydd ddod o’u cyfraniadau. Roedd y neuadd ym Marily yn gallu dal 200 o bobl a chael ei hagor i fyny i ddal mwy er mwyn inni gael cynulliadau yno.
GALAR, TEIMLO’N UNIG, A CHAEL FY LLAWENYDD YN ÔL
Ym 1993, ar ôl i’r plant dyfu i fyny, gwnaeth Adel a minnau ddechrau yn y gwaith cylch yn y Philipinau. Wedyn yn 2000, fe es i i’r Ysgol Hyfforddi Gweinidogaethol er mwyn cael fy hyfforddi i arwain yr ysgol honno. Doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n ddigon da ar gyfer yr aseiniad. Ond roedd Adel yn wastad yn fy nghalonogi i. Roedd hi’n fy atgoffa i byddai Jehofa’n rhoi’r nerth imi gyflawni yr aseiniad newydd hwn. (Phil. 4:13) Roedd Adel yn siarad o brofiad oherwydd ei bod hi’n cyflawni ei haseiniad ei hun tra oedd hi’n delio â phroblemau iechyd.
Yn 2006, tra oeddwn i’n arwain yr ysgol, cafodd Adel ei diagnosio â chlefyd Parkinson. Doedden ni ddim yn disgwyl hynny! Pan awgrymais y dylen ni stopio ein haseiniad er mwyn edrych ar ei hôl hi, ymatebodd Adel, “Plîs ffeindia doctor a all fy helpu i gyda fy salwch, a dwi’n gwybod bydd Jehofa yn ein helpu ni i ddal ati.” Am y chwe blynedd nesaf, gwnaeth Adel barhau yn ei gwasanaeth i Jehofa heb gwyno. Pan nad oedd hi’n gallu cerdded, roedd hi’n pregethu o’i chadair olwyn. Pan oedd hi’n cael trafferth siarad, roedd hi’n ateb gydag un neu ddau o eiriau yn y cyfarfodydd. Cafodd Adel lawer o negeseuon yn aml yn diolch iddi am ei hesiampl hyfryd o ddyfalbarhad hyd at ei marwolaeth yn 2013. Roeddwn i wedi treulio dros 30 o flynyddoedd gydag Adel, gwraig ffyddlon a chariadus. Felly, ar ôl iddi farw roeddwn i’n teimlo’n unig unwaith eto a gwnaeth fy ngalar fy llethu i.
Roedd Adel eisiau imi barhau yn fy aseiniad, felly dyna beth wnes i. Arhosais yn brysur a gwnaeth hyn fy helpu i i beidio â theimlo’n unig. O 2014 i 2017, fe ges i fy aseinio i ymweld â chynulleidfaoedd Tagalog eu hiaith mewn gwledydd lle nad oedd y brodyr yn gallu addoli’n rhydd. Ar ôl hynny, fe es i i gynulleidfaoedd Tagalog yn Taiwan, yr Unol Daleithiau, a Chanada. Yn 2019, gwnes i ddysgu mewn Saesneg yn yr Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas yn India a Gwlad Thai. Mae’r holl aseiniadau hyn wedi dod â llawenydd mawr imi. Does dim byd yn dod â mwy o lawenydd imi na phan ydw i’n brysur yng ngwasanaeth Jehofa.
DYDY HELP BYTH YN BELL I FFWRDD
Rydw i’n caru’r brodyr a’r chwiorydd ym mhob aseiniad newydd, felly dydy eu gadael nhw byth yn beth hawdd i’w wneud. Ar adegau o’r fath, rydw i wedi dysgu i ymddiried yn Jehofa’n llwyr. Rydw i wedi teimlo ei gefnogaeth yn aml ac mae hyn wedi fy helpu i i dderbyn â fy holl galon unrhyw newidiadau sy’n dod. Heddiw, rydw i’n arloeswr arbennig yn y Philipinau. Rydw i wedi setlo i mewn i fy nghynulleidfa newydd, ac maen nhw fel teulu sy’n fy ngharu i ac yn fy nghefnogi i. Rydw i hefyd mor prowd o Samuel a Shirley wrth iddyn nhw efelychu ffydd eu mam.—3 Ioan 4.
Yn wir, rydw i wedi wynebu llawer o dreialon yn fy mywyd, gan gynnwys gwylio fy ngwraig annwyl yn dioddef ac yn marw o salwch ofnadwy. Roedd hefyd angen imi addasu i lawer o amgylchiadau newydd. Ond, rydw i wedi gweld nad ydy Jehofa yn “bell oddi wrth unrhyw un ohonon ni.” (Act. 17:27) Dydy llaw Jehofa ddim “yn rhy fyr” i gefnogi ei weision, hyd yn oed mewn llefydd unig. (Esei. 59:1, BCND) Mae Jehofa, fy Nghraig, wedi bod gyda mi drwy gydol fy mywyd, ac rydw i mor ddiolchgar iddo ef. Doeddwn i byth ar fy mhen fy hun.
a Gweler y Tŵr Gwylio Saesneg Medi 1, 1972, tt. 521-527.