Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gwrthod Agwedd Hunanol y Byd

Gwrthod Agwedd Hunanol y Byd

A WYT ti wedi sylwi bod llawer yn y byd yn teimlo eu bod nhw’n haeddu breintiau, hawliau, neu gael eu trin mewn ffordd arbennig? Hyd yn oed pan mae hynny’n digwydd, maen nhw’n credu eu bod nhw’n haeddu mwy. Mae’r agweddau hunanol ac anniolchgar hyn yn arwydd o’r dyddiau olaf.—2 Tim. 3:2.

Wrth gwrs, dydy agweddau hunanol ddim yn beth newydd. Er enghraifft, penderfynodd Adda ac Efa drostyn nhw eu hunain beth oedd yn dda ac yn ddrwg, gyda chanlyniadau ofnadwy. Canrifoedd wedyn, gwnaeth y Brenin Usseia feddwl bod ganddo’r hawl i offrymu arogldarth yn y deml, ond roedd hynny’n hollol anghywir. (2 Cron. 26:​18, 19) Mewn ffordd debyg, roedd y Phariseaid a’r Sadwceaid yn credu eu bod nhw’n haeddu ffafr Duw oherwydd eu bod nhw’n ddisgynyddion Abraham.—Math. 3:9.

Heddiw mae ’na bobl hunanol a hunanbwysig o’n cwmpas ni, a gall eu hagweddau nhw ddylanwadu arnon ni. (Gal. 5:26) Efallai byddwn ni’n dechrau meddwl ein bod ni’n haeddu derbyn braint benodol neu gael ein trin mewn ffordd arbennig. Sut gallwn ni osgoi’r agwedd hon? I ddechrau, mae angen inni ystyried safbwynt Jehofa ynglŷn â hyn. Bydd dwy egwyddor Feiblaidd yn ein helpu ni.

Jehofa sy’n penderfynu beth rydyn ni’n ei haeddu. Ystyria rai esiamplau.

  • Yn y teulu, mae Jehofa eisiau i ŵr deimlo ei fod yn cael ei barchu gan ei wraig, ac i wraig deimlo cariad ei gŵr. (Eff. 5:33) Dylai cwpl priod ddangos cariad rhamantus tuag at ei gilydd yn unig. (1 Cor. 7:3) Dylai plant fod yn ufudd i’w rhieni, a dylai rhieni garu a chefnogi eu plant fel y maen nhw’n haeddu.—2 Cor. 12:14; Eff. 6:2.

  • Yn y gynulleidfa, mae henuriaid sy’n gweithio’n galed yn haeddu ein parch. (1 Thes. 5:12) Ond, nid oes ganddyn nhw’r awdurdod i reoli beth mae eu brodyr a’u chwiorydd yn ei wneud.—1 Pedr 5:​2, 3.

  • Mae Duw wedi rhoi’r hawl i lywodraethau dynol ofyn am drethi ac anrhydedd gan y bobl maen nhw’n rheoli drostyn nhw.—Rhuf. 13:​1, 6, 7.

Mae Jehofa’n rhoi llawer mwy inni na’r hyn rydyn ni’n ei haeddu. Oherwydd ein bod ni’n bechaduriaid, rydyn ni’n haeddu marw. (Rhuf. 6:23) Ond oherwydd ei gariad ffyddlon tuag aton ni, mae Jehofa’n ein bendithio ni mewn llawer o ffyrdd. (Salm 103:​10, 11) Rydyn ni’n gallu derbyn yr holl fendithion hyn oherwydd ei garedigrwydd rhyfeddol.Rhuf. 12:​6-8; Eff. 2:8.

SUT I OSGOI DATBLYGU AGWEDD HUNANOL A HUNANBWYSIG

Osgoi agwedd y byd. Efallai byddwn ni’n dechrau meddwl ein bod ni’n haeddu cael mwy nag eraill. Dangosodd Iesu gall hynny ddigwydd heb inni sylweddoli drwy roi yr eglureb am y gweithwyr a gafodd eu talu denariws. Gwnaeth rhai ddechrau gweithio yn gynnar yn y bore hyd at ddiwedd y dydd o dan yr haul poeth, tra bod eraill dim ond wedi gweithio am awr. Roedd y grŵp cyntaf o weithwyr yn teimlo eu bod nhw’n haeddu cael mwy o bres oherwydd eu gwaith caled. (Math. 20:​1-16) Defnyddiodd Iesu yr eglureb hon i ddangos i’w ddilynwyr y dylen nhw fod yn fodlon ar yr hyn y mae Jehofa’n ei ddarparu.

Roedd y dynion a oedd wedi gweithio trwy’r dydd yn meddwl eu bod nhw’n haeddu mwy o bres

Bydda’n ddiolchgar, heb ddisgwyl unrhyw beth oddi wrth eraill. (1 Thes. 5:18) Efelycha’r apostol Paul. Ni wnaeth ef ofyn am gefnogaeth faterol oddi wrth y brodyr yng Nghorinth er bod ganddo’r hawl i wneud hynny. (1 Cor. 9:​11-14) Dylen ni fod yn ddiolchgar am bob peth rydyn ni’n ei dderbyn heb ddisgwyl cael mwy oddi wrth eraill.

Doedd yr apostol Paul ddim yn disgwyl cael cefnogaeth faterol

Bydda’n ostyngedig. Pan mae rhywun yn meddwl gormod ohono’i hun, fel arfer mae’n dechrau meddwl ei fod yn haeddu mwy. Mae gostyngeiddrwydd yn ein helpu ni i beidio ag ymddwyn mewn ffordd mor beryglus.

Oherwydd gostyngeiddrwydd Daniel, roedd yn werthfawr i Jehofa

Gosododd y proffwyd Daniel esiampl dda o ddangos gostyngeiddrwydd. Roedd Daniel yn olygus, yn glyfar, yn alluog, ac roedd ganddo gefndir da. Gallai fod wedi teimlo ei fod yn haeddu ei freintiau a chael ei drin mewn ffordd arbennig. (Dan. 1:​3, 4, 19, 20) Ond, arhosodd Daniel yn ostyngedig, ac o ganlyniad roedd yn werthfawr iawn i Jehofa.—Dan. 2:30; 10:​11, 12.

Gad inni wrthod yr agwedd hunanol a hunanbwysig sy’n cynyddu yn y byd hwn heddiw. Yn hytrach, bydda’n benderfynol o lawenhau yn yr holl fendithion rydyn ni’n eu derbyn gan Jehofa drwy ei garedigrwydd rhyfeddol.