ERTHYGL ASTUDIO 8
CÂN 130 Byddwch Faddeugar
Maddeuant Jehofa—Sut Gelli Di Ei Efelychu?
“Yn union fel y mae Jehofa wedi maddau i chi heb ddal yn ôl, mae’n rhaid i chithau hefyd wneud yr un fath.”—COL. 3:13.
PWRPAS
Bydd yr erthygl hon yn trafod camau ymarferol gallwn ni eu cymryd i faddau i rywun sydd wedi ein brifo ni.
1-2. (a) Pryd gall maddau i rywun fod yn enwedig o anodd? (b) Sut dangosodd Denise faddeuant?
YDY hi’n anodd iti faddau i eraill? Mae hynny’n wir am lawer ohonon ni, yn enwedig pan mae rhywun yn dweud neu’n gwneud rhywbeth sy’n ein brifo ni i’r byw. Ond, gallwn ni ddod dros ein teimladau negyddol a maddau i eraill. Er enghraifft, ystyria esiampl chwaer o’r enw Denise, a a wnaeth faddau mewn ffordd anghredadwy. Yn 2017, gwnaeth Denise a’i theulu ymweld â Phencadlys newydd Tystion Jehofa. Ar eu ffordd adref, gwnaeth gyrrwr arall golli rheolaeth dros ei gar a tharo eu car nhw. Gwnaeth Denise golli ymwybyddiaeth yn y ddamwain. Unwaith iddi ddeffro, dysgodd hi fod ei phlant wedi cael eu brifo’n ofnadwy a bod ei gŵr, Brian, wedi cael ei ladd. Wrth feddwl am y ddamwain, dywedodd Denise: “O’n i’n teimlo’n isel ac ar goll.” Yn nes ymlaen, pan ddysgodd hi nad oedd unrhyw beth wedi amharu ar y gyrrwr arall na thynnu ei sylw, gwnaeth hi weddïo am heddwch.
2 Cafodd y gyrrwr arall ei arestio a’i gymryd i’r llys am ddyn-laddiad. Ond, dywedodd y llys wrth Denise y bydden nhw’n penderfynu os byddai’r dyn yn mynd i’r carchar neu ddim ar sail ei thystiolaeth hi. Dywedodd Denise: “Wrth imi ail-fyw adeg waethaf fy mywyd, o’n i’n teimlo fel bod rhywun wedi ailagor fy mriw a’i lenwi â halen.” Ychydig o wythnosau wedyn, roedd Denise yn eistedd yn ystafell y llys yn barod i roi ei thystiolaeth o flaen y dyn a oedd wedi achosi gymaint o boen i’w theulu. Beth ddigwyddodd wedyn? Gofynnodd Denise i’r barnwr ddangos trugaredd tuag at y dyn. b Pan oedd hi wedi gorffen siarad, dechreuodd y barnwr grio. Dywedodd: “Dwi wedi bod yn barnu am 25 mlynedd, a dwi erioed wedi profi rhywbeth o’r fath. Dwi erioed wedi clywed rhywun yn gofyn am drugaredd ar ran rhywun sydd wedi ei frifo. Dydw i byth yn clywed geiriau o gariad a maddeuant.”
3. Beth wnaeth gymell Denise i faddau?
3 Beth helpodd Denise i fod yn faddeugar? Gwnaeth hi fyfyrio ar faddeuant Jehofa. (Mich. 7:18) Bydd trysori maddeuant Jehofa yn ein cymell ni i faddau i eraill hefyd.
4. Beth mae Jehofa eisiau inni ei wneud? (Effesiaid 4:32)
4 Mae Jehofa eisiau inni ei efelychu, a pheidio â dal yn ôl rhag maddau i eraill. (Darllen Effesiaid 4:32.) Mae’n disgwyl inni fod yn barod i faddau i’r rhai sy’n ein brifo ni. (Salm 86:5; Luc 17:4) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried tri pheth a all ein helpu ni i faddau.
PAID AG ANWYBYDDU DY DEIMLADAU
5. Yn ôl Diarhebion 12:18, sut gallen ni deimlo pan mae rhywun yn ein brifo ni?
5 Efallai bydden ni’n cael ein brifo i’r byw oherwydd rhywbeth mae rhywun yn ei ddweud neu’n ei wneud, yn enwedig os ydy’r person yn ffrind agos neu’n aelod o’n teulu. (Salm 55:12-14) Gall y poen emosiynol weithiau teimlo fel ein bod ni wedi cael ein trywanu â chyllell. (Darllen Diarhebion 12:18.) Petasen ni’n ceisio anwybyddu ein teimladau, byddai fel gadael y cyllell yn y briw. Yn wir, allwn ni ddim disgwyl i’n teimladau wella os ydyn ni’n eu hanwybyddu nhw.
6. Sut gallen ni ymateb pan mae rhywun yn ein brifo ni?
6 Pan mae rhywun yn ein brifo ni, efallai ein hymateb cyntaf fydd i wylltio. Mae’r Beibl yn cydnabod efallai byddwn ni’n teimlo’n grac ar adegau. Ond, mae hefyd yn ein rhybuddio ni i beidio â gadael i’r teimladau hynny ein rheoli ni. (Diar. 14:29; Eff. 4:26) Pam? Oherwydd yn aml, mae emosiynau yn arwain at weithredoedd, a dydy dicter ddim fel arfer yn arwain at ganlyniadau da. (Iago 1:20) Cofia, mae gwylltio yn ymateb, ond mae aros yn ddig yn benderfyniad.
Mae gwylltio yn ymateb, ond mae aros yn ddig yn benderfyniad
7. Pa emosiynau eraill gallwn ni eu teimlo pan mae rhywun yn ein brifo ni?
7 Pan mae rhywun yn ein trin ni’n ddrwg, efallai byddwn ni’n teimlo emosiynau poenus eraill. Er enghraifft, dywedodd chwaer o’r enw Ann: “Pan o’n i’n fach, gwnaeth fy nhad adael fy mam a phriodi’r ddynes roedden nhw’n ei thalu i fy ngwarchod i. O’n i’n teimlo’n unig iawn. Yna, pan gawson nhw blant, o’n i’n teimlo fel doedden nhw ddim eisiau fi, a bod eu plant wedi cymryd fy lle.” Gwnaeth chwaer o’r enw Georgette ddisgrifio sut roedd hi’n teimlo pan oedd ei gŵr yn anffyddlon iddi: “Roedden ni wedi bod yn ffrindiau ers ein plentyndod. Roedden ni wedi arloesi gyda’n gilydd! Roedd fy nghalon wedi ei thorri.” Dywedodd Chwaer o’r enw Naomi: “O’n i erioed wedi dychmygu y byddai fy ngŵr yn fy mrifo i. Felly, pan wnaeth ef gyfaddef ei fod wedi bod yn gwylio pornograffi ar y slei, o’n i’n teimlo fel ei fod wedi fy nhwyllo a fy mradychu i.”
8. (a) Beth ydy rhai rhesymau dros faddau i eraill? (b) Pa fendithion sy’n dod o ganlyniad i faddau? (Gweler y blwch “ Beth os Ydy Rhywun Wedi Achosi Trawma Inni?”)
8 Allwn ni ddim rheoli beth mae eraill yn ei ddweud neu’n ei wneud. Ond, gallwn ni geisio rheoli ein hymateb. Yn aml iawn, yr ymateb gorau ydy i faddau. Pam? Oherwydd ein bod ni’n caru Jehofa, ac mae ef eisiau inni faddau i eraill. Os ydyn ni’n dal dig ac yn gwrthod maddau, efallai byddwn ni’n gwneud rhywbeth gwirion ac achosi niwed i ni’n hunain. (Diar. 14:17, 29, 30) Sylwa ar esiampl chwaer o’r enw Christine. Dywedodd hi: “Pan dwi’n cael fy llyncu gan fy nheimladau negyddol, dydw i ddim yn gwenu mor aml ag arfer. Dydw i ddim yn bwyta’n iach, dydw i ddim yn cael digon o gwsg, ac mae’n anodd imi reoli fy emosiynau. Mae hynny’n effeithio ar fy mhriodas ac ar fy mherthynas ag eraill.”
9. Pam dylen ni stopio dal dig?
9 Hyd yn oed os nad ydy’r person yn derbyn y bai am ei weithredoedd, gallwn ni leihau’r niwed mae ef wedi ei achosi inni. Sut? Dywedodd Georgette: “Cymerodd amser, ond yn y pen draw gwnes i lwyddo i stopio dal dig yn erbyn fy nghyn-ŵr. O ganlyniad i hynny, ges i heddwch anhygoel.” Mae stopio dal dig yn erbyn rhywun arall yn ein helpu ni i beidio â gadael i chwerwder effeithio ar y ffordd rydyn ni’n trin eraill. Rydyn ni hefyd yn rhoi anrheg i ni’n hunain—y gallu i symud ymlaen gyda’n bywydau, ac i fwynhau bywyd unwaith eto. (Diar. 11:17) Ond, beth os ar ôl iti gydnabod dy deimladau, dwyt ti dal ddim yn barod i faddau?
DELIO Â DY DEIMLADAU
10. Pam dylen ni ddangos amynedd wrth inni wella’n emosiynol? (Gweler hefyd y lluniau.)
10 Sut gallwn ni ddod dros ein teimladau negyddol? Trwy fod yn amyneddgar. Ar ôl i berson gael triniaeth feddygol, mae’n cymryd amser iddo wella. Yn yr un modd, efallai bydd hi’n cymryd amser inni wella’n emosiynol cyn inni fod yn barod i faddau i rywun o’n calonnau.—Preg. 3:3; 1 Pedr 1:22.
11. Sut gall gweddi dy helpu di i faddau?
11 Gweddïa ar Jehofa am help i faddau. c Gwnaeth Ann esbonio sut gwnaeth gweddi ei helpu hi. Dywedodd: “Gofynnais i Jehofa faddau’r pethau roedden ni wedi eu dweud neu eu gwneud doedd ddim cweit yn iawn. Yna, gwnes i ysgrifennu llythyr at fy nhad a’i wraig newydd, a dweud wrthyn nhw fy mod i wedi maddau iddyn nhw.” Gwnaeth Ann gyfaddef doedd gwneud hynny ddim yn beth hawdd, ond aeth hi ymlaen i ddweud: “Dwi’n gobeithio bydd fy ymdrechion i geisio efelychu maddeuant Jehofa yn cymell fy nhad a’i wraig i ddysgu mwy am Jehofa.”
12. Pam dylen ni drystio Jehofa yn hytrach na’n teimladau? (Diarhebion 3:5, 6)
12 Trystia Jehofa, nid dy deimladau. (Darllen Diarhebion 3:5, 6.) Mae Jehofa’n wastad yn gwybod beth ydy’r peth gorau inni, a fydd ef byth yn gofyn inni wneud rhywbeth a fydd yn achosi niwed inni. (Esei. 55:8, 9.) Felly, pan mae’n ein hannog ni i faddau i eraill, gallwn ni fod yn hyderus bydd hynny o les inni. (Salm 40:4; Esei. 48:17, 18) Ar y llaw arall, petasen ni’n trystio ein teimladau, efallai fydden ni byth yn gallu maddau i rywun. (Diar. 14:12; Jer. 17:9) Dywedodd Naomi: “I gychwyn, o’n i’n teimlo fel doedd dim rhaid imi faddau i fy ngŵr am wylio pornograffi. O’n i’n poeni y byddai ef yn fy mrifo i eto neu’n anghofio faint o niwed roedd wedi ei achosi. O’n i’n meddwl bod Jehofa’n deall fy nheimladau. Ond dechreuais sylweddoli, er bod Jehofa’n deall fy nheimladau, dydy hynny ddim yn golygu ei fod yn cytuno â nhw. Mae’n gwybod sut dwi’n teimlo a’i bod hi’n cymryd amser i wella. Ond, mae hefyd eisiau imi faddau.” d
MEITHRIN TEIMLADAU POSITIF
13. Yn ôl Rhufeiniaid 12:18-21, beth mae’n rhaid inni ei wneud?
13 Wrth inni faddau i rywun sydd wedi ein brifo ni i’r byw, rydyn ni eisiau gwneud mwy na pheidio â siarad am beth ddigwyddodd. Ar ben hynny, os ydy’r person arall yn frawd neu’n chwaer inni yn y gynulleidfa, rydyn ni eisiau creu heddwch. (Math. 5:23, 24) Yn hytrach na bod yn ddig, rydyn ni’n penderfynu dangos trugaredd a maddau. (Darllen Rhufeiniaid 12:18-21; 1 Pedr 3:9) Beth all ein helpu ni i wneud hynny?
14. Beth dylen ni geisio ei wneud, a pham?
14 Dylen ni wneud ymdrech lew i geisio gweld y person sydd wedi ein brifo ni o safbwynt Jehofa. Mae Jehofa’n dewis gweld y pethau da mewn pobl. (2 Cron. 16:9; Salm 130:3) Mae’n hawdd iawn gweld y drwg os ydyn ni’n chwilio amdano. Ond, gall yr un peth fod yn wir am bethau da, felly os ydyn ni’n canolbwyntio ar y rheini, bydd hi’n llawer haws inni faddau. Er enghraifft, dywedodd brawd o’r enw Jarrod: “Mae’n llawer haws imi faddau i frawd sydd wedi fy mrifo i os ydw i’n canolbwyntio ar yr holl bethau da dwi’n hoffi amdano yn hytrach na chanolbwyntio ar ei gamgymeriad.”
15. Pam mae’n beth da i ddweud wrth rywun dy fod ti’n maddau iddo?
15 Mae hefyd yn bwysig iawn i ddweud wrth y person arall dy fod ti wedi maddau iddo. Pam? Sylwa ar beth ddywedodd Naomi: “Gofynnodd fy ngŵr imi, ‘A wyt ti wedi maddau imi?’ Pan wnes i agor fy ngheg i ddweud fy mod i wedi maddau iddo, doeddwn i ddim yn gallu. Sylweddolais doeddwn i ddim wir wedi maddau iddo yn fy nghalon. Yn y pen draw, o’n i’n gallu dweud wrtho, ‘Dwi’n maddau iti.’ Gwnaeth hyn symud fy ngŵr i ddagrau, ac o’n i’n methu credu cymaint yn well roedd y ddau ohonon ni’n teimlo. Ers hynny, dwi wedi ailadeiladu fy hyder yn fy ngŵr, ac rydyn ni’n ffrindiau gorau unwaith eto.”
16. Beth rwyt ti wedi ei ddysgu am faddeuant?
16 Mae Jehofa eisiau inni faddau. (Col. 3:13) Gall hynny fod yn anodd inni ar adegau. Ond, os ydyn ni’n gwneud ein gorau glas i ddelio â’n teimladau yn hytrach na’u hanwybyddu nhw, mae maddeuant yn bosib. Yna, gallwn ni ddechrau creu teimladau positif newydd.—Gweler y blwch “ Camau at Faddeuant.”
CANOLBWYNTIA AR Y BENDITHION O FADDAU
17. Sut mae maddau o les inni?
17 Mae gynnon ni resymau da dros faddau i eraill. Yn gyntaf, rydyn ni’n efelychu ac yn plesio ein Tad trugarog, Jehofa. (Luc 6:36) Yn ail, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n gwerthfawrogi maddeuant Jehofa. (Math. 6:12) Ac yn drydydd, bydd gynnon ni iechyd gwell a ffrindiau da.
18-19. Beth all ddigwydd o ganlyniad i faddeuant?
18 Gall maddau i eraill ddod â bendithion annisgwyl. Er enghraifft, sylwa ar beth ddigwyddodd yn achos Denise. Doedd hi ddim yn gwybod ar y pryd, ond roedd y dyn a achosodd y ddamwain car yn bwriadu lladd ei hun ar ôl y treial. Cafodd maddeuant Denise effaith fawr arno, a dechreuodd astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa.
19 Efallai ein bod ni’n teimlo bod maddau i rywun yn un o’r pethau mwyaf anodd bosib inni. Ond, mae hefyd yn dod â chymaint o fendithion. (Math. 5:7) Felly, gad i bob un ohonon ni wneud ein gorau glas i efelychu maddeuant Jehofa.
CÂN 125 Gwyn Eu Byd y Rhai Trugarog
a Newidiwyd rhai enwau.
b Mewn sefyllfa o’r fath, bydd rhaid i bob Cristion wneud penderfyniad personol ynglŷn â beth i’w wneud.
c Gweler y caneuon gwreiddiol ar jw.org “Bod yn Barod i Faddau,” “Friends Again,” a “Forgive One Another.”
d Er bod gwylio pornograffi yn bechod ac yn niweidiol, nid yw’n gosod sail i’r cymar di-euog gael ysgariad Ysgrythurol.