Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PROSIECT ASTUDIO

Dangos Dewrder o dan Bwysau

Dangos Dewrder o dan Bwysau

Darllen Jeremeia 38:​1-13 i ddysgu mwy am ddewrder o esiamplau Jeremeia a’r eunuch Ebed-melech.

Ystyria’r cyd-destun. Sut dangosodd Jeremeia ddewrder wrth gyhoeddi neges Jehofa? (Jer. 27:​12-14; 28:​15-17; 37:​6-10) Beth oedd ymateb y bobl?—Jer. 37:​15, 16.

Cloddia’n ddyfnach. Pa fath o bwysau roedd Jeremeia yn ei wynebu? (jr-E 26-27 ¶20-22) Gwna ymchwil am bydewau hynafol. (it-1-E 471) Wyt ti’n gallu dychmygu emosiynau Jeremeia pan oedd yn y pydew mwdlyd? Beth efallai roedd Ebed-melech yn ei ofni?—w12-E 5/1 31 ¶2-3.

Meddylia am y gwersi. Gofynna i ti dy hun:

  • ‘Beth rydw i’n ei ddysgu o’r hanes hwn am y ffordd mae Jehofa’n amddiffyn ei weision ffyddlon?’ (Salm 97:10; Jer. 39:​15-18)

  • ‘Ym mha sefyllfaoedd bydd rhaid imi fod yn ddewr?’

  • ‘Sut galla i fod yn fwy dewr er mwyn gwneud beth sy’n iawn pan ydw i o dan bwysau?’ (w11-E 3/1 30) a

a Am fwy o syniadau am brosiectau astudio, gweler “Awgrymiad ar Gyfer Astudio” yn rhifyn Gorffennaf 2023 o’r Tŵr Gwylio.