Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 4

CÂN 18 Gwerthfawrogi’r Pridwerth

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Aberth Iesu

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Aberth Iesu

“Dyma sut cafodd cariad Duw ei ddangos tuag aton ni.”1 IOAN 4:9.

PWRPAS

Beth mae aberth Iesu yn ei ddysgu inni am rinweddau hyfryd Jehofa Dduw ac Iesu Grist.

1. Sut rydyn ni’n elwa o fynychu’r Goffadwriaeth bob blwyddyn?

 MAE aberth Iesu yn rhodd hynod o werthfawr inni. (2 Cor. 9:15) Gelli di gael perthynas agos â Jehofa oherwydd bod Iesu wedi aberthu ei fywyd drostot ti. Hefyd, mae gen ti’r gobaith o fyw am byth. Mae gynnon ni lawer o resymau i fod yn ddiolchgar i Jehofa gan ei fod wedi rhoi ei Fab ar ein cyfer ni allan o’i gariad! (Rhuf. 5:8) Sefydlodd Iesu y Goffadwriaeth flynyddol fel na fyddwn ni byth yn anghofio’r hyn a wnaeth Jehofa ac Iesu ac i’n helpu ni i aros yn ddiolchgar.—Luc 22:​19, 20.

2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Bydd y Goffadwriaeth yn cael ei chynnal eleni ar ddydd Sadwrn, Ebrill 12, 2025. Mae’n siŵr ein bod ni i gyd yn bwriadu bod yno. Yn ystod adeg y Goffadwriaeth, byddwn ni’n elwa os ydyn ni’n myfyrio a ar yr hyn mae Jehofa a’i Fab wedi ei wneud droston ni. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod beth mae aberth Iesu yn ei ddysgu inni am Jehofa a’i Fab. Bydd yr erthygl nesaf yn ein helpu ni i ddeall sut gallwn ni elwa o’i aberth a sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar.

BETH MAE ABERTH IESU YN EI DDYSGU INNI AM JEHOFA

3. Sut gallai marwolaeth un dyn ryddhau miliynau o bobl? (Gweler hefyd y llun.)

3 Mae aberth Iesu yn ein dysgu ni am gyfiawnder Jehofa. (Deut. 32:4) Sut felly? Ystyria hyn: Oherwydd anufudd-dod Adda, gwnaethon ni etifeddu pechod sy’n arwain at farwolaeth. (Rhuf. 5:12) Gwnaeth Jehofa drefnu i Iesu dalu’r pris er mwyn ein rhyddhau ni o bechod a marwolaeth. Ond sut gallai aberth un dyn perffaith ryddhau miliynau o bobl? Esboniodd yr apostol Paul: “Yn union fel gwnaeth anufudd-dod un dyn [Adda] achosi i lawer fod yn bechaduriaid, yn yr un modd bydd ufudd-dod un person [Iesu] yn achosi i lawer fod yn gyfiawn.” (Rhuf. 5:19; 1 Tim. 2:6) Mewn geiriau eraill, oherwydd anufudd-dod un dyn perffaith, rydyn ni i gyd yn bechaduriaid ac o ganlyniad yn marw. Felly er mwyn cael ein rhyddhau o bechod a marwolaeth, roedd rhaid i ddyn perffaith aros yn ffyddlon i Dduw.

Oherwydd un dyn, rydyn ni i gyd yn pechu a marw. Yn yr un modd, gwnaeth un dyn ein rhyddhau ni (Gweler paragraff 3)


4. Pam na wnaeth Jehofa ganiatáu i ddisgynyddion ffyddlon Adda fyw am byth?

4 A oedd wir angen i Iesu farw er mwyn ein hachub ni? Pam nad oedd Jehofa’n gallu caniatáu i ddisgynyddion ffyddlon Adda fyw am byth? I bobl amherffaith, efallai byddai hyn wedi ymddangos fel ffordd garedig a rhesymol o ddatrys y broblem. Ond byddai hynny’n mynd yn erbyn cyfiawnder perffaith Jehofa. Oherwydd bod Jehofa’n gyfiawn, fyddai ef byth yn gallu anwybyddu pechod mor ddifrifol gan Adda.

5. Pam gallwn ni fod yn siŵr bydd Jehofa yn wastad yn gwneud beth sy’n iawn?

5 Beth os nad oedd Jehofa wedi talu’r pris, ac yn lle hynny, wedi anwybyddu ei gyfiawnder drwy ganiatáu i ddisgynyddion amherffaith Adda fyw am byth? Mae’n debyg byddai pobl yn amau a fyddai Duw yn gweithredu’n gyfiawn yn y dyfodol, ac efallai yn gofyn a fyddai ef yn cadw ei addewidion i gyd. Does dim angen inni boeni am unrhyw beth o’r fath. Pam? Oherwydd bod Jehofa wedi gwneud beth oedd yn gyfiawn er bod hynny’n beth anodd iawn i’w wneud—aberthu ei Fab ei hun. Felly, gallwn ni fod yn siŵr bydd ef yn wastad yn gwneud beth sy’n iawn.

6. Beth a wnaeth gymell Jehofa i anfon ei Fab aton ni? (1 Ioan 4:​9, 10)

6 Mae ’na rinwedd arall a wnaeth gymell Jehofa i anfon ei Fab i farw droston ni, sef ei gariad dwfn tuag aton ni. (Ioan 3:16; darllen 1 Ioan 4:​9, 10.) Anfonodd Jehofa ei Fab ar ein cyfer ni oherwydd ei fod eisiau inni fyw am byth a hefyd inni fod yn rhan o’i deulu. Ystyria hyn: Ar ôl i Adda bechu, doedd ef ddim yn gallu aros yn rhan o deulu Jehofa bellach. O ganlyniad i hyn, rydyn ni i gyd wedi cael ein geni y tu allan i deulu Duw. Ond ar sail aberth Iesu, mae Jehofa’n maddau ein pechodau ac yn y dyfodol fe fydd yn casglu pawb sy’n ufudd ac sy’n ffyddlon iddo i mewn i’w deulu. Hyd yn oed nawr gallwn ni fwynhau perthynas agos â Jehofa a’n cyd-gredinwyr. Mae Jehofa’n wir yn ein caru ni!—Rhuf. 5:​10, 11.

7. Sut mae dioddefaint Iesu yn ein helpu ni i ddeall faint mae Jehofa’n ein caru ni?

7 Gallwn ni ddeall yn well faint mae Jehofa’n ein caru ni os ydyn ni’n meddwl am ei boen pan gollodd ei Fab. Mae Satan yn honni na fyddai unrhyw was i Dduw yn aros yn ffyddlon iddo pan mae’n anodd i wneud hynny. Ymatebodd Jehofa i’r celwydd hwn drwy ganiatáu i Iesu ddioddef cyn iddo farw. (Job 2:​1-5; 1 Pedr 2:21) Gwelodd Jehofa bobl yn gwawdio Iesu, yn ei chwipio, ac yn ei hoelio ar stanc. Wedyn roedd rhaid i Jehofa wylio wrth i’w Fab annwyl ddioddef marwolaeth ofnadwy o boenus. (Math. 27:​28-31, 39) Roedd gan Jehofa’r pŵer i gamu i mewn ar unrhyw foment. Er enghraifft, pan ddywedodd y bobl: “Gad [i Dduw] nawr ei achub os yw Ef yn dymuno,” roedd Jehofa’n gallu gwneud yn union hynny. (Math. 27:​42, 43) Ond, petasai Duw wedi camu i mewn, ni fyddai’r pris wedi cael ei dalu a byddwn ni heb unrhyw obaith. Felly, fe wnaeth Jehofa ganiatáu i’w Fab ddioddef nes iddo gymryd ei anadl olaf.

8. A deimlodd Jehofa boen wrth weld ei Fab yn dioddef? Esbonia. (Gweler hefyd y llun.)

8 Byddai’n gamgymeriad i feddwl nad oes gan Jehofa deimladau gan ei fod yr hollalluog! Rydyn ni wedi cael ein creu ar ei ddelw gyda’r gallu i deimlo, felly mae hynny’n golygu bod gan Jehofa deimladau hefyd. Mae’r Beibl yn dweud ei fod wedi teimlo’n “drist iawn” a bod “ei galon yn brifo.” (Gen. 6:​6, tdn) Ystyria hefyd brofiad Abraham ac Isaac. Cofia fod Jehofa wedi dweud wrth Abraham i aberthu ei unig fab. (Gen. 22:​9-12; Heb. 11:​17-19) Gallwn ni ond dychmygu’r holl emosiynau gwahanol deimlodd Abraham wrth iddo baratoi i ladd Isaac gydag un trawiad o’i gyllell. Cymaint yn fwy, felly, byddai Jehofa wedi dioddef wrth weld ei Fab ei hun yn cael ei arteithio a’i ladd gan ddynion annuwiol!—Gweler y fideo ar jw.org Efelychu Eu Ffydd—Abraham, Rhan 2.

Roedd gwylio ei Fab yn dioddef yn torri calon Jehofa (Gweler paragraff 8)


9. Beth mae Rhufeiniaid 8:​32, 38, 39 yn ei ddysgu iti am ddyfnder cariad Jehofa tuag atat ti a dy gyd-gredinwyr?

9 Mae aberth Iesu yn ein dysgu ni fod Jehofa’n ein caru ni’n fwy nag y mae unrhyw un arall yn ein caru ni—hyd yn oed ein teulu annwyl neu’n ffrind gorau. (Darllen Rhufeiniaid 8:​32, 38, 39.) Mae’n amlwg bod Jehofa’n ein caru ni’n fwy nag ydyn ni’n caru ein hunain. A wyt ti eisiau byw am byth? Nid cymaint ag y mae Jehofa eisiau iti. A wyt ti eisiau cael maddeuant am dy bechodau? Nid cymaint ag y mae Jehofa eisiau maddau iti. Y cyfan y mae’n gofyn gynnon ni ydy inni dderbyn ei rodd anhygoel drwy ymarfer ffydd a bod yn ufudd. Mae aberth Iesu yn dangos cariad Jehofa mewn ffordd ryfeddol, ac yn y byd newydd, byddwn ni’n dysgu mwy byth am gariad Jehofa.—Preg. 3:11.

BETH RYDYN NI’N EI DDYSGU AM IESU O’I ABERTH

10. (a) Beth a wnaeth brifo Iesu i’r byw ynglŷn â’i farwolaeth? (b) Sut gwnaeth Iesu sancteiddio enw Jehofa? (Gweler hefyd y blwch “ Gwnaeth Ffyddlondeb Iesu Sancteiddio Enw Jehofa.”)

10 Roedd enw da ei Dad yn bwysig iawn i Iesu. (Ioan 14:31) Roedd y syniad o gael ei gyhuddo o gabledd yn brifo Iesu i’r byw oherwydd fe fyddai’n pardduo enw da ei Dad. Dyna pam fe weddïodd: “Fy Nhad, os yw’n bosib, gad i’r cwpan hwn fynd heibio oddi wrtho i.” (Math. 26:39) Drwy aros yn ffyddlon i Jehofa hyd at farwolaeth, fe wnaeth sancteiddio enw ei Dad yn llwyr.

11. Sut dangosodd Iesu gariad dwfn tuag at bobl? (Ioan 13:1)

11 Mae aberth Iesu hefyd yn ein dysgu ni ei fod yn caru pobl yn fawr iawn, yn enwedig ei ddilynwyr. (Diar. 8:31; darllen Ioan 13:1.) Er enghraifft, roedd Iesu’n gwybod byddai rhai o’r pethau roedd rhaid iddo ei wneud am fod yn anodd iawn, yn enwedig ei farwolaeth boenus. Ond roedd Iesu’n barod i wneud yr holl bethau hyn oherwydd ei gariad tuag at bobl. Fe roddodd ei holl galon i mewn i bregethu, i ddysgu, ac i weini ar eraill. Hyd yn oed ar ddiwrnod ei farwolaeth, cymerodd Iesu’r amser i olchi traed ei apostolion ac i’w cysuro a’u hyfforddi nhw. (Ioan 13:​12-15) Yna pan oedd ar y stanc, fe roddodd obaith i droseddwr a oedd ar fin marw a threfnodd i Ioan ofalu am ei fam. (Luc 23:​42, 43; Ioan 19:​26, 27) Dangosodd Iesu ei gariad dwfn tuag at bobl, nid yn unig drwy farw drostyn nhw, ond hefyd drwy eu trin nhw’n garedig.

12. Ym mha ffordd mae Iesu’n dal i wneud aberthau ar ein cyfer?

12 Er bod Iesu wedi marw “unwaith ac am byth,” y mae’n dal i wneud aberthau ar ein cyfer. (Rhuf. 6:10) Sut felly? Mae’n parhau i weithio’n galed er mwyn rhoi inni’r nifer o bethau da sydd nawr yn bosib oherwydd ei aberth. Ystyria beth sy’n ei gadw’n brysur. Mae’n gwasanaethu fel ein Brenin, ein Harchoffeiriad, a phen y gynulleidfa. (1 Cor. 15:25; Eff. 5:23; Heb. 2:17) Mae’n gyfrifol am y gwaith o gasglu’r eneiniog a’r dyrfa fawr, gwaith a fydd yn cael ei gwblhau cyn diwedd y trychineb mawr. b (Math. 25:32; Marc 13:27) Mae ef hefyd yn sicrhau bod ei weision ffyddlon yn cael digon o fwyd ysbrydol yn ystod y dyddiau olaf hyn. (Math. 24:45) Ac yn ystod ei Deyrnasiad Mil Blynyddoedd bydd ef yn parhau i weithredu ar ein cyfer ni. Yn wir, rhoddodd Jehofa ei Fab inni heb ddal yn ôl!

PAID BYTH Â STOPIO DYSGU

13. Sut gall myfyrio dy helpu di i barhau i ddysgu am y cariad sydd gan Jehofa ac Iesu aton ni?

13 Gelli di barhau i ddysgu am gariad Jehofa ac Iesu drwy fyfyrio arno. Efallai yn ystod adeg y Goffadwriaeth eleni, gelli di ddarllen yn ofalus un neu fwy o’r Efengylau. Paid â cheisio gwneud gormod mewn un tro. Yn lle hynny, arafa ac edrycha am resymau eraill dros garu Jehofa ac Iesu. Ac wrth gwrs, rhanna beth rwyt ti’n ei ddysgu ag eraill.

14. Yn ôl Salm 119:​97, sut gall gwneud ymchwil ein helpu ni i barhau i ddysgu am aberth Iesu a phethau eraill? (Gweler hefyd y llun.)

14 Os wyt ti wedi bod yn y gwir am lawer o flynyddoedd, efallai byddi di’n gofyn a yw’n bosib dysgu unrhyw beth newydd am gyfiawnder Duw, am ei gariad, ac am aberth Iesu. Y gwir amdani yw does ’na ddim diwedd i beth gallwn ni ei ddysgu am y pynciau hyn ac eraill. Felly, beth gelli di ei wneud? Gwna’r gorau o’r wybodaeth sydd ar gael yn ein cyhoeddiadau. Pan wyt ti’n dod ar draws adnod nad wyt ti’n ei deall yn llwyr, gwna ymchwil. Wedyn yn ystod y dydd, myfyria ar beth rwyt ti wedi ei ddysgu am Jehofa, ei Fab, a’u cariad tuag atat ti.—Darllen Salm 119:97.

Bydd ein diolchgarwch am aberth Iesu yn cynyddu wrth inni ddysgu pethau newydd amdano, hyd yn oed os ydyn ni wedi bod yn y gwir am lawer o flynyddoedd (Gweler paragraff 14)


15. Pam dylen ni ddal ati i edrych am drysorau yn y Beibl?

15 Os nad wyt ti’n ffeindio unrhyw beth newydd neu ddiddorol bob tro rwyt ti’n eistedd i lawr i ddarllen neu i wneud ymchwil, paid â digalonni. Mewn ffordd, rwyt ti fel person sy’n panio am aur. Mae pobl yn treulio oriau neu ddyddiau cyn dod o hyd i’r darn lleiaf o aur. Ond maen nhw’n dal ati yn amyneddgar oherwydd bod pob darn o aur yn werthfawr iawn iddyn nhw. Cymaint yn fwy gwerthfawr mae pob gwirionedd rydyn ni’n ei ddysgu o’r Beibl! (Salm 119:127; Diar. 8:10) Felly, bydda’n amyneddgar a darllena’r Beibl yn rheolaidd.—Salm 1:2.

16. Sut gallwn ni efelychu Jehofa ac Iesu?

16 Wrth iti astudio, edrycha am ffyrdd i roi ar waith yr hyn rwyt ti’n ei ddysgu. Er enghraifft, efelycha Jehofa drwy drin eraill heb ffafriaeth. Ceisia adlewyrchu cariad Iesu tuag at ei Dad ac at eraill drwy fod yn barod i wneud ewyllys Duw a thrwy helpu eraill hyd yn oed pan mae’n anodd i wneud hynny. Hefyd, efelycha Iesu drwy bregethu i eraill fel eu bod nhw’n gallu cael y cyfle i dderbyn y rhodd werthfawr hon oddi wrth Jehofa.

17. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

17 Mwya’n y byd rydyn ni’n deall ac yn gwerthfawrogi gwerth aberth Iesu, mwya’n y byd byddwn ni’n caru Jehofa a’i Fab. O ganlyniad, byddan nhw’n ein caru ni’n fwy byth. (Ioan 14:21; Iago 4:8) Felly gad inni ddefnyddio darpariaethau Jehofa er mwyn inni ddal ati i ddysgu am y pris a gafodd ei dalu. Bydd yr erthygl nesaf yn trafod sut gall aberth Iesu fod o les inni a sut gallwn ni ddangos ein diolchgarwch i Jehofa am ei gariad.

CÂN 107 Patrwm Dwyfol Gariad

a ESBONIAD: Mae “myfyrio” yn golygu canolbwyntio dy feddyliau ar bwnc a meddwl amdano yn ddwfn.

b Yn Effesiaid 1:10 gwnaeth Paul sôn am y “pethau yn y nefoedd” yn cael eu casglu. Gwnaeth Iesu sôn yn Mathew 24:31 a Marc 13:27 am “y rhai sydd wedi cael eu dewis” yn cael eu casglu. Beth yw’r gwahaniaeth? Roedd Paul yn cyfeirio at yr amser pan mae Jehofa’n dewis y rhai a fydd yn rheoli gyda Iesu drwy ei eneinio nhw ag ysbryd glân. Roedd Iesu yn cyfeirio at yr amser pan fydd gweddill yr eneiniog yn cael eu casglu i’r nef yn ystod y trychineb mawr.