Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 2

CÂN 132 Nawr Rydym yn Un

Dylai Gŵr Anrhydeddu Ei Wraig

Dylai Gŵr Anrhydeddu Ei Wraig

“Chi wŷr, . . . rhowch anrhydedd iddyn nhw.”1 PEDR 3:7.

PWRPAS

Sut dylai gŵr anrhydeddu ei wraig mewn gair a gweithred.

1. Beth ydy un rheswm pam y gwnaeth Jehofa greu’r briodas?

 JEHOFA yw’r “Duw hapus,” ac mae eisiau inni fod yn hapus hefyd. (1 Tim. 1:11) Mae wedi rhoi llawer o anrhegion inni i’n helpu ni i fwynhau bywyd. (Iago 1:17) Un o’r anrhegion hynny yw priodas. Pan fydd dyn a dynes yn priodi, maen nhw’n addo caru, parchu, a thrysori ei gilydd. Pan fydd gŵr a gwraig yn cadw eu cariad yn gryf, fe fyddan nhw’n hapus.—Diar. 5:18.

2. Sut mae llawer o briodasau yn troi allan heddiw?

2 Yn drist iawn, mae llawer o gyplau priod heddiw yn anghofio’r hyn y gwnaethon nhw ei addo i’w gilydd ar ddiwrnod eu priodas. O ganlyniad, dydyn nhw ddim yn hapus. Mae adroddiad diweddar gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn dangos bod llawer o wŷr yn cam-drin eu gwragedd yn gorfforol, yn emosiynol, a gyda’u geiriau. Efallai bydd gŵr sy’n gwneud hyn y trin ei wraig yn barchus o flaen pobl eraill ond yn ei thrin hi’n gas yn y cartref. Mae llawer o briodasau hefyd yn cael eu rhoi o dan straen pan fydd gŵr yn gwylio pornograffi.

3. Pam mae rhai gwŷr yn cam-drin eu gwragedd?

3 Beth all achosi i ŵr gam-drin ei wraig? Efallai ei fod wedi cael ei fagu gan dad treisgar, ac yna’n meddwl bod yr ymddygiad hwn yn normal. Mae eraill yn cael eu dylanwadu gan eu diwylliant, a allai rhoi’r argraff anghywir bod “dyn go iawn” yn gorfod dangos i’w wraig pwy ydy’r bòs. Efallai na chafodd dynion eraill eu dysgu sut i reoli eu hemosiynau, gan gynnwys eu dicter. Mae gwylio pornograffi yn rheolaidd wedi achosi i rai dynion edrych ar ferched a rhyw mewn ffordd anghywir. Hefyd, mae adroddiadau yn dangos bod y pandemig COVID-19 wedi gwneud i’r problemau hyn waethygu. Ond, wrth gwrs, does dim esgus dros ŵr yn cam-drin ei wraig.

4. Beth mae’n rhaid i wŷr Cristnogol fod yn ofalus i beidio â’i wneud, a pham?

4 Mae’n rhaid i wŷr Cristnogol fod yn ofalus i beidio â chael yr agwedd anghywir tuag at ferched. a Pam? Un rheswm ydy bod meddyliau person yn aml yn arwain at weithredoedd. Fe wnaeth yr apostol Paul rybuddio Cristnogion eneiniog yn Rhufain i ‘stopio cael eu mowldio gan y byd hwn.’ (Rhuf. 12:​1, 2) Pan ysgrifennodd Paul at y Rhufeiniaid, roedd y rhai yn y gynulleidfa wedi bod yn Gristnogion am sawl blynedd. Ond, mae geiriau Paul yn awgrymu bod rhai ohonyn nhw’n dal yn cael eu dylanwadu gan feddylfryd y byd. Dyna pam gwnaeth Paul eu hannog nhw i newid eu meddylfryd a’u hymddygiad. Yn wir, mae’r cyngor hwnnw’n berthnasol i wŷr Cristnogol heddiw. Ond yn drist iawn, mae rhai wedi cael eu dylanwadu gan y byd ac wedi hyd yn oed cam-drin eu gwragedd. b Sut mae Jehofa’n disgwyl i ŵr drin ei wraig? Mae prif adnod yr erthygl hon yn rhoi’r ateb inni.

5. Yn ôl 1 Pedr 3:​7, sut dylai gŵr drin ei wraig?

5 Darllen 1 Pedr 3:7. Mae Jehofa’n gorchymyn i wŷr anrhydeddu eu gwragedd. Mae anrhydedd yn golygu dangos parch tuag at rywun. Mae gŵr sy’n anrhydeddu ei wraig yn ei thrin hi’n garedig a gyda chariad. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried sut gall gŵr ddangos anrhydedd tuag at ei wraig. Ond, yn gyntaf, gad inni drafod pa fath o ymddygiad sy’n amharchu gwragedd.

PAID AG AMHARCHU DY WRAIG

6. Sut mae Jehofa’n teimlo am ddyn sy’n cam-drin ei wraig yn gorfforol? (Colosiaid 3:19)

6 Cam-drin yn gorfforol. Mae Jehofa’n casáu unrhyw un sy’n dreisgar. (Salm 11:5) Mae’n gas ganddo pan fydd gŵr yn cam-drin ei wraig. (Mal. 2:16; darllen Colosiaid 3:19.) Yn ôl ein prif adnod, 1 Pedr 3:​7, os nad ydy gŵr yn trin ei wraig yn dda, bydd ei berthynas â Duw yn cael ei heffeithio. Efallai fydd Jehofa ddim hyd yn oed yn gwrando ar ei weddïau.

7. Yn ôl Effesiaid 4:​31, 32, pa fath o siarad dylai gwŷr ei osgoi? (Gweler hefyd “Esboniad.”)

7 Cam-drin gyda geiriau. Mae rhai gwŷr yn cam-drin eu gwragedd gan ddefnyddio geiriau cas. Ond, mae Jehofa’n casáu “llid, dicter, sgrechian, a siarad cas.” c (Darllen Effesiaid 4:​31, 32.) Mae’n clywed popeth. Mae’r ffordd y mae gŵr yn siarad â’i wraig, hyd yn oed yn y cartref, yn bwysig i Jehofa. Mae gŵr sy’n siarad yn llym â’i wraig yn niweidio nid yn unig ei berthynas â’i wraig ond hefyd ei berthynas â Duw.—Iago 1:26.

8. Sut mae Jehofa’n teimlo am bornograffi, a pham?

8 Gwylio pornograffi. Sut mae Jehofa’n teimlo am bornograffi? Mae’n ei gasáu. Mae gŵr sy’n edrych ar luniau aflan yn niweidio ei berthynas â Jehofa ac yn iselhau ei wraig. d Mae Jehofa’n disgwyl i ŵr fod yn ffyddlon i’w wraig. Ni fyddai gŵr ffyddlon yn ymddwyn yn anfoesol gyda dynes arall. Ni fyddai hyd yn oed yn meddwl am wneud hynny! Dywedodd Iesu fod dyn sy’n edrych ar ddynes arall mewn ffordd rywiol “eisoes wedi cyflawni godineb â hi yn ei galon.” eMath. 5:​28, 29.

9. Pam mae’n gas gan Jehofa pan fydd gŵr yn trin ei wraig yn wael mewn ffordd rywiol?

9 Trin gwraig yn wael mewn ffordd rywiol. Mae rhai gwŷr yn rhoi pwysau ar eu gwragedd i wneud pethau rhywiol sy’n gwneud i’r wraig deimlo’n ddiwerth, yn aflan, a heb gariad. Mae Jehofa’n casáu ymddygiad mor oeraidd a hunanol. Mae’n disgwyl i ŵr garu a thrysori ei wraig ac i barchu ei theimladau hi. (Eff. 5:​28, 29) Ond, sut gall gŵr Cristnogol sydd eisoes yn bychanu ac yn cam-drin ei wraig, neu sy’n gwylio pornograffi, newid ei ffordd o feddwl a’i ymddygiad?

SUT GALL GŴR NEWID EI YMDDYGIAD DRWG?

10. Sut gall esiampl Iesu helpu gwŷr?

10 Beth all helpu gŵr i beidio â cham-drin ac iselhau ei wraig? Fe all geisio efelychu Iesu. Er nad oedd Iesu erioed wedi priodi, mae’r ffordd roedd yn trin ei ddisgyblion yn esiampl i wŷr o sut i drin eu gwragedd. (Eff. 5:25) Ystyria beth gall gwŷr ei ddysgu o’r ffordd roedd Iesu yn trin ei apostolion a’r ffordd roedd yn siarad â nhw.

11. Sut gwnaeth Iesu drin ei apostolion?

11 Roedd Iesu yn trin ei apostolion yn garedig a gydag urddas. Doedd ef byth yn llym nac yn greulon. Er mai ef oedd eu Harglwydd a’u Meistr, doedd Iesu ddim yn teimlo’r angen i brofi ei awdurdod drostyn nhw drwy ddangos ei nerth. Yn hytrach, fe wnaeth weini arnyn nhw’n ostyngedig. (Ioan 13:​12-17) Fe ddywedodd wrth ei ddisgyblion: “Dysgwch gen i, oherwydd rydw i’n addfwyn ac yn ostyngedig o galon, a byddwch chi’n cael eich adfywio.” (Math. 11:​28-30) Sylwa fod Iesu’n addfwyn. Dydy person addfwyn ddim yn wan. Yn hytrach, mae ganddo gryfder mewnol, ac y mae’n ei ddal ei hun yn ôl. Pan fydd yn cael ei herio, y mae’n rheoli ei emosiynau.

12. Sut gwnaeth Iesu siarad ag eraill?

12 Defnyddiodd Iesu ei eiriau i gysuro ac i galonogi eraill. Ni wnaeth siarad yn gas â’i ddilynwyr. (Luc 8:​47, 48) Hyd yn oed pan oedd ei wrthwynebwyr yn ei sarhau ac yn ceisio ei herio, “ni wnaeth ef sarhau yn ôl.” (1 Pedr 2:​21-23) Ar adegau, fe wnaeth Iesu hyd yn oed benderfynu dweud dim yn lle ymateb yn gas. (Math. 27:​12-14) Am esiampl wych i wŷr!

13. Fel mae’n dweud yn Mathew 19:​4-6, sut gall gŵr ‘lynu wrth ei wraig’? (Gweler hefyd y llun.)

13 Gorchmynnodd Iesu i wŷr aros yn ffyddlon i’w gwragedd. Fe ddyfynnodd ei Dad a ddywedodd y dylai gŵr ‘lynu wrth ei wraig.’ (Darllen Mathew 19:​4-6.) Mae’r gair Groeg sy’n cael ei gyfieithu “glynu” yn llythrennol yn golygu “gludo.” Felly, dylai’r berthynas rhwng gŵr a gwraig fod mor gryf y mae fel petai eu bod nhw wedi cael eu gludo wrth ei gilydd. Ni all eu perthynas gael ei thorri heb achosi niwed i’r ddau ohonyn nhw. Bydd gŵr sydd â chariad dwfn tuag at ei wraig yn gwrthod pob math o bornograffi. Fe fydd yn troi i ffwrdd rhag edrych ar “bethau diwerth” yn syth. (Salm 119:37) Mewn ffordd, y mae’n gwneud cytundeb â’i lygaid i beidio ag edrych ar unrhyw ddynes heblaw am ei wraig mewn ffordd rywiol.—Job 31:1.

Mae gŵr ffyddlon yn gwrthod edrych ar bornograffi (Gweler paragraff 13) g


14. Pa gamau y dylai gŵr sy’n cam-drin ei wraig eu cymryd er mwyn adfer ei berthynas â’i wraig a gyda Jehofa?

14 Mae angen i ŵr sy’n cam-drin ei wraig yn gorfforol neu gyda’i eiriau gymryd mwy o gamau er mwyn adfer ei berthynas â’i wraig a Jehofa. Beth ydy’r camau hyn? Yn gyntaf, y mae’n rhaid iddo gydnabod bod ganddo broblem ddifrifol. Does dim byd yn cael ei guddio o olwg Jehofa. (Salm 44:21; Preg. 12:14; Heb. 4:13) Yn ail, y mae’n stopio cam-drin ei wraig ac yn newid ei ymddygiad. (Diar. 28:13) Yn drydydd, y mae’n ymddiheuro i’w wraig ac i Jehofa ac yn gofyn am faddeuant. (Act. 3:19) Hefyd, fe ddylai ef erfyn ar Jehofa am yr awydd i newid ac am help i reoli ei feddyliau, ei eiriau, a’i weithredoedd. (Salm 51:​10-12; 2 Cor. 10:5; Phil. 2:13) Yn bedwerydd, y mae’n gweithio’n unol â’i weddïau drwy ddysgu i gasáu trais o bob math a geiriau cas. (Salm 97:10) Yn bumed, y mae’n mynd yn syth at yr henuriaid cariadus yn y gynulleidfa am help. (Iago 5:​14-16) Yn chweched, y mae’n creu cynllun a fydd yn ei helpu i osgoi ymddygiad o’r fath yn y dyfodol. Dylai gŵr sy’n gwylio pornograffi ddilyn yr un camau. Bydd Jehofa’n bendithio ei ymdrechion i newid ei ymddygiad. (Salm 37:5) Ond mae’n rhaid iddo wneud mwy na stopio brifo ei wraig. Mae angen iddo hefyd ddysgu sut i’w hanrhydeddu hi. Sut gallai ef wneud hynny?

SUT I ANRHYDEDDU DY WRAIG

15. Sut gall gŵr ddangos cariad at ei wraig?

15 Dangos cariad. Mae rhai brodyr sydd â phriodasau hapus yn gwneud rhywbeth bob dydd i ddangos i’w gwragedd eu bod nhw’n eu caru. (1 Ioan 3:18) Gallai gŵr ddangos ei fod yn caru ei wraig yn y pethau bach y mae’n eu gwneud, fel gafael yn ei llaw a rhoi cwtsh iddi. Gallai yrru neges destun iddi sy’n dweud “Dwi’n dy golli di” neu i ofyn “Sut mae dy ddiwrnod yn mynd?” Ar rai adegau, fe allai ysgrifennu cerdyn sy’n dweud faint y mae ef yn ei charu hi. Pan fydd gŵr yn gwneud y pethau hyn, y mae’n anrhydeddu ei wraig ac yn cryfhau eu priodas.

16. Pam dylai gŵr ganmol ei wraig?

16 Dangos gwerthfawrogiad. Mae gŵr sy’n anrhydeddu ei wraig yn ei thrysori hi ac yn gwneud iddi deimlo’n dda amdani hi ei hun. Un o’r pethau fe allai ei wneud ydy cofio dweud diolch wrthi am yr holl bethau y mae hi’n eu gwneud i’w gefnogi. (Col. 3:15) Pan fydd gŵr yn canmol ei wraig i’r cymylau, fe fydd yn cyffwrdd â’i chalon. Yna, fe fydd hi’n teimlo’n ddiogel a bod ei gŵr yn ei charu ac yn ei hanrhydeddu.—Diar. 31:28.

17. Sut gall gŵr ddangos parch tuag at ei wraig?

17 Bod yn garedig ac yn barchus. Mae gŵr sy’n caru ei wraig yn ei gwerthfawrogi ac yn ei thrysori. Y mae’n ei gweld hi fel anrheg werthfawr oddi wrth Jehofa. (Diar. 18:22; 31:10) O ganlyniad, y mae’n ei thrin hi’n garedig ac yn barchus, hyd yn oed yn ystod y rhannau preifat o’u priodas, fel cael rhyw. Ni fydd yn rhoi pwysau arni i wneud pethau rhywiol sy’n gwneud iddi deimlo’n anghyfforddus, yn ddiwerth, ac sy’n poeni ei chydwybod hi. f Fe fydd ef hefyd yn ceisio cael cydwybod lân o flaen Jehofa.—Act. 24:16.

18. Beth dylai gwŷr fod yn benderfynol o’i wneud? (Gweler hefyd y blwch “ Pedair Ffordd y Gall Gŵr Ddangos Parch.”)

18 Os wyt ti’n ŵr, gelli di fod yn siŵr bod Jehofa’n gweld ac yn gwerthfawrogi dy ymdrechion i anrhydeddu dy wraig ym mhob rhan o dy fywyd. Bydda’n benderfynol o’i hanrhydeddu hi drwy osgoi ymddygiad anweddus a thrwy ddangos cariad a pharch tuag ati. Drwy wneud hyn, rwyt ti’n dangos dy fod ti’n ei charu ac yn ei thrysori. Os wyt ti’n anrhydeddu dy wraig, byddi di’n gwarchod dy berthynas fwyaf pwysig, sef dy berthynas â Jehofa.—Salm 25:14.

CÂN 131 ‘Yr Hyn Mae Duw Wedi’i Uno’

a Byddai’n dda i wŷr ddarllen yr erthygl “Wyt Ti’n Efelychu’r Ffordd Mae Jehofa’n Trin Merched?” yn rhifyn Ionawr 2024 o’r Tŵr Gwylio.

b Byddai’n dda i rai sydd wedi dioddef trais yn y cartref ddarllen yr erthygl “Help i’r Rhai Sy’n Dioddef Trais yn y Cartref” yn y gyfres erthyglau “Pynciau Eraill” ar jw.org ac yn JW Library®.

c ESBONIAD: Mae “siarad cas” yn cynnwys galw enwau ar rywun neu ladd ar rywun yn ddi-baid. Os ydy gŵr yn dweud unrhyw beth i frifo neu i sarhau ei wraig, gall hynny gael ei ystyried fel cam-drin gyda geiriau.

d Gweler yr erthygl “Pornography Can Shatter Your Marriage” ar jw.org ac yn JW Library.

e Byddai’n dda i wraig sydd â gŵr sy’n gwylio pornograffi ddarllen yr erthygl “Beth Os Ydy Dy Gymar yn Gwylio Pornograffi?” yn rhifyn Awst 2023 o’r Tŵr Gwylio.

f Dydy’r Beibl ddim yn rhoi manylion ar ba arferion rhywiol rhwng gŵr a gwraig sy’n cael eu hystyried yn lân neu’n aflan. Mae’n rhaid i gwpl Cristnogol wneud penderfyniadau sy’n dangos eu bod nhw eisiau anrhydeddu Jehofa, plesio ei gilydd, a chadw cydwybod lân. Fel arfer, fyddai cwpl ddim yn trafod gydag eraill y peth preifat hwn yn eu priodas.

g DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae dynion sydd ddim yn Dystion yn ceisio cael brawd sy’n gweithio â nhw i edrych ar gylchgrawn pornograffig.