Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 3

CÂN 35 “Pwyso Gwerth y Pethau Pwysicaf”

Gwna Benderfyniadau Sy’n Plesio Jehofa

Gwna Benderfyniadau Sy’n Plesio Jehofa

“Parchu’r ARGLWYDD ydy’r cam cyntaf i fod yn ddoeth, ac mae nabod yr Un Sanctaidd yn rhoi deall.”DIAR. 9:10.

PWRPAS

Sut i ddefnyddio gwybodaeth, dealltwriaeth, a dy allu meddyliol i wneud penderfyniadau doeth.

1. Pa beth anodd y mae’n rhaid inni i gyd ei wneud?

 MAE’N rhaid inni wneud penderfyniadau bob dydd. Mae rhai penderfyniadau yn hawdd i’w gwneud, fel beth i’w gael i frecwast neu pryd i fynd i wely. Ond mae rhai penderfyniadau yn anoddach i’w gwneud oherwydd eu bod nhw’n effeithio ar ein hiechyd, ein hapusrwydd, ein teulu, neu ein haddoliad. Rydyn ni eisiau gwneud penderfyniadau a fydd o les i ni ac i’r rhai rydyn ni’n eu caru. Ond yn bwysicaf oll, rydyn ni’n dymuno i’n penderfyniadau blesio Jehofa.—Rhuf. 12:​1, 2.

2. Pa gamau fydd yn dy helpu di i wneud penderfyniadau doeth?

2 Byddi di’n fwy tebygol o wneud penderfyniad doeth os wyt ti (1) yn cael y ffeithiau, (2) yn ystyried safbwynt Jehofa, a (3) yn pwyso a mesur yr opsiynau. Bydd yr erthygl hon yn trafod y camau hyn, a hefyd yn ein helpu ni i weld sut gallwn ni hyfforddi ein deall, neu ein gallu meddyliol.—Diar. 2:11.

CAEL Y FFEITHIAU

3. Eglura pam mae angen iti gael y ffeithiau cyn gwneud penderfyniad.

3 Y peth cyntaf y dylen ni ei wneud er mwyn gwneud penderfyniad da yw cael y ffeithiau. Pam mae hyn yn bwysig? Dychmyga fod rhywun yn siarad â doctor am broblem feddygol ddifrifol. A fyddai’r doctor yn penderfynu ar fath penodol o driniaeth heb asesu’r person a gofyn cwestiynau yn gyntaf? Na fyddai. Gelli di hefyd wneud penderfyniadau gwell os wyt ti’n ystyried y ffeithiau sy’n berthnasol i’r sefyllfa. Sut gelli di wneud hynny?

4. Yn unol â Diarhebion 18:​13, sut gelli di wneud yn siŵr bod gen ti’r ffeithiau? (Gweler hefyd y llun.)

4 Yn aml, gelli di ddod o hyd i’r ffeithiau drwy ofyn cwestiynau. Er enghraifft, dychmyga dy fod ti’n cael dy wahodd i ddigwyddiad i gymdeithasu ag eraill. A ddylet ti fynd? Os nad wyt ti’n adnabod y person sydd wedi trefnu’r digwyddiad, nac yn gwybod beth fydd yn digwydd yno, gelli di ofyn cwestiynau fel: “Pryd a ble fydd y digwyddiad? Faint o bobl fydd yn mynd? Pwy fydd yn arolygu? Pwy fydd yno? Beth fydd yn digwydd yno? A fydd ’na alcohol?” Gall yr atebion i’r cwestiynau hyn dy helpu di i wneud penderfyniad doeth.—Darllen Diarhebion 18:13.

Cael y ffeithiau drwy ofyn cwestiynau (Gweler paragraff 4) a


5. Beth dylet ti ei wneud ar ôl cael y ffeithiau?

5 Nesaf, ar ôl iti gael y ffeithiau, meddylia’n ofalus am y darlun mawr. Er enghraifft, beth os wyt ti’n dysgu bod ’na bobl yn mynd sydd ddim yn parchu egwyddorion y Beibl, neu fydd neb yno i gadw llygad ar faint mae pawb yn yfed? A wyt ti’n meddwl y bydd hi’n bosib i’r digwyddiad hwn droi’n barti gwyllt? (1 Pedr 4:3) Ar y llaw arall, beth os byddai mynd i’r digwyddiad yn golygu methu cyfarfod neu’r weinidogaeth? Ar ôl iti weld y darlun mawr, byddi di ar dy ffordd i wneud penderfyniad da. Ond mae ’na un peth arall y dylet ti ei wneud. Mae’n un peth i ddeall sut rwyt ti’n teimlo am y sefyllfa, ond sut mae Jehofa yn teimlo amdani?—Diar. 2:6.

YSTYRIED SAFBWYNT JEHOFA

6. Yn ôl Iago 1:​5, pam dylen ni weddïo ar Jehofa am help?

6 Gofynna i Jehofa am help i ddeall ei safbwynt. Mae Jehofa yn addo rhoi inni’r doethineb sydd ei angen i ddeall a fydd y penderfyniad yn ei blesio. Mae’n rhoi doethineb o’r fath yn “hael i bob un heb weld bai arno.”—Darllen Iago 1:5.

7. Sut gelli di weld pethau o safbwynt Jehofa? Eglura.

7 Ar ôl iti weddïo am arweiniad Jehofa, cymera sylw manwl o’i ateb. I egluro: Dychmyga dy fod ti wedi mynd ar goll wrth deithio, efallai fe fyddi di’n gofyn i rywun lleol am help. Ond a fyddi di wedyn yn cerdded i ffwrdd cyn iddo gael cyfle i ateb? Wrth gwrs ddim. Byddi di’n gwrando’n ofalus ar ei gyfarwyddiadau. Mewn ffordd debyg, ar ôl iti ofyn i Jehofa am ddoethineb, ceisia ddod o hyd i’w ateb drwy ddysgu pa gyfreithiau ac egwyddorion Beiblaidd sy’n berthnasol i dy sefyllfa. Er enghraifft, wrth iti benderfynu a ddylet ti fynd i’r digwyddiad y soniwyd amdano yn gynharach, byddet ti’n gallu ystyried beth mae’r Beibl yn ei ddweud am bartïon gwyllt, cwmni drwg, a’r angen i roi’r Deyrnas yn gyntaf yn lle blaenoriaethu’r hyn rwyt ti eisiau ei wneud.—Math. 6:33; Rhuf. 13:13; 1 Cor. 15:33.

8. Beth gelli di ei wneud os oes rhaid iti gael help i ddod o hyd i’r wybodaeth rwyt ti’n edrych amdano? (Gweler hefyd y llun.)

8 Ond, ar adegau, bydd rhaid iti gael help i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnat ti. Efallai gelli di ofyn am gyngor gan frawd neu chwaer brofiadol. Ar ben hynny, byddi di’n elwa o wneud dy ymchwil dy hun. Mae ’na lwyth o wybodaeth yn ein hadnoddau astudio, fel yn Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa ac yn Adnodau ar Gyfer Bywyd Cristnogol. Cofia’r nod: i wneud penderfyniad a fydd yn plesio Jehofa.

Ystyried safbwynt Jehofa (Gweler paragraff 8) b


9. Sut gallwn ni fod yn siŵr y bydd ein penderfyniad yn plesio Jehofa? (Effesiaid 5:17)

9 Sut gallwn ni fod yn siŵr bod ein penderfyniad yn plesio Jehofa? Yn gyntaf, mae’n rhaid inni ddod i’w adnabod yn dda. Mae’r Beibl yn dweud bod “nabod yr Un Sanctaidd yn rhoi deall.” (Diar. 9:10) Yn sicr, mae gwir ddealltwriaeth yn dod o wybod rhinweddau Jehofa, ei bwrpas, beth mae’n ei garu, a beth sy’n gas ganddo. Gofynna i ti dy hun: ‘Ar sail yr hyn dwi’n gwybod am Jehofa, pa benderfyniad a fydd yn ei blesio?’—Darllen Effesiaid 5:17.

10. Pam mae egwyddorion y Beibl yn bwysicach na’n teulu neu ein diwylliant?

10 Er mwyn plesio Jehofa, weithiau bydd yn rhaid inni siomi rhai sy’n agos aton ni. Er enghraifft, gall rhai rhieni, sydd â chymhellion da, fynnu bod eu merch yn priodi dyn cyfoethog er nad ydy ef yn ysbrydol gryf. Wrth gwrs, maen nhw eisiau i’w merch gael bywyd cyfforddus, ond pwy fydd yn ei helpu hi i wneud cynnydd ysbrydol? Sut mae Jehofa’n teimlo am y mater? Mae’r ateb i’w weld yn Mathew 6:33. Yno, mae Cristnogion yn cael eu hannog i “geisio yn gyntaf y Deyrnas.” Er ein bod ni’n anrhydeddu ein rhieni ac yn parchu pobl yn ein cymuned, ein prif nod ydy gwneud Jehofa’n hapus.

PWYSO A MESUR YR OPSIYNAU

11. Pa egwyddor sydd i’w gweld yn Philipiaid 1:​9, 10 a fydd yn dy helpu di i bwyso a mesur dy opsiynau?

11 Ar ôl iti ystyried pa egwyddorion Beiblaidd sy’n berthnasol i dy benderfyniad, mae’n rhaid iti bwyso a mesur yr opsiynau. (Darllen Philipiaid 1:​9, 10; gweler y nodyn astudio ar “full discernment.”) Bydd dy allu meddyliol yn dy helpu di i ddychmygu beth fydd canlyniad pob opsiwn. Weithiau gall rhai penderfyniadau fod yn amlwg, ond gall eraill fod yn fwy cymhleth. Pan wyt ti’n wynebu penderfyniad anodd, bydd gallu meddyliol yn dy helpu di i wneud penderfyniad doeth.

12-13. Sut gelli di wneud penderfyniad doeth ynglŷn â gwaith?

12 Dychmyga hyn: Rwyt ti’n edrych am swydd er mwyn cefnogi dy deulu. Mae ’na ddwy swydd ar gael. Rwyt ti’n meddwl am y ffeithiau i gyd, gan gymryd sylw o’r math o waith, yr amserlen, yr amser y bydd yn ei gymryd i deithio, ac yn y blaen. Yn y ddau achos, mae’r gwaith ei hun yn dderbyniol i Gristnogion. Efallai byddi di’n ffafrio un o’r opsiynau oherwydd dy fod ti’n hoffi’r math o waith neu oherwydd ei fod yn talu’n dda. Ond mae ’na bethau eraill i’w hystyried cyn gwneud penderfyniad.

13 Er enghraifft, a fyddai’r swydd yn gwneud iti fethu’r cyfarfodydd? A fyddai’r swydd yn lleihau’r amser sydd ei angen arnat ti i ofalu am anghenion ysbrydol ac emosiynol dy deulu? Bydd gofyn cwestiynau o’r fath yn dy helpu di i wneud yn siŵr o “beth yw’r pethau mwyaf pwysig,” sef blaenoriaethu addoliad ac anghenion dy deulu dros bethau materol. Wedyn byddi di’n gallu gwneud penderfyniad y bydd Jehofa’n ei fendithio.

14. Sut bydd gallu meddyliol a dangos cariad yn ein helpu ni beidio â baglu eraill?

14 Bydd gallu meddyliol hefyd yn ein cymell ni i ystyried sut gallai ein penderfyniad effeithio ar eraill, er mwyn inni beidio â ‘baglu eraill.’ (Phil. 1:10) Mae hyn yn bwysig wrth inni wneud penderfyniadau am bethau fel gwisg a thrwsiad. Er enghraifft, efallai byddwn ni’n ffafrio un steil o ddillad. Ond, beth os byddai’n baglu eraill tu mewn neu tu allan i’r gynulleidfa? Bydd ein gallu meddyliol yn ein helpu ni i barchu eu teimladau. Bydd cariad yn ein cymell ni i geisio “mantais y person arall” ac i wisgo’n weddus. (1 Cor. 10:​23, 24, 32; 1 Tim. 2:​9, 10) Wedyn, byddwn ni’n gwneud penderfyniad sy’n dangos ein cariad a’n parch tuag at eraill.

15. Pam mae’n bwysig i wneud cynllun cyn gweithredu ar benderfyniad mawr?

15 Os wyt ti’n gwneud penderfyniad pwysig iawn, meddylia am beth bydd angen iti ei wneud i weithredu arno. Dysgodd Iesu inni ‘gyfri’r gost.’ (Luc 14:28) Felly ystyria’r amser, yr adnoddau, a’r ymdrech sydd eu hangen arnat ti er mwyn gwneud i’r penderfyniad lwyddo. Weithiau, efallai bydd angen iti drafod â dy deulu sut gall pob un ohonyn nhw gefnogi’r penderfyniad. Pam mae’n bwysig i wneud cynllun? Efallai fe fyddai’n dangos bod angen addasu, neu fod opsiwn gwahanol yn fwy ymarferol. A thrwy gynnwys dy deulu a gwrando ar eu syniadau, byddan nhw’n fwy parod i gydweithio â ti i wneud i’r penderfyniad lwyddo.—Diar. 15:22.

GWNA BENDERFYNIAD A FYDD YN LLWYDDO

16. Pa gamau a fydd yn dy helpu di i wneud penderfyniad a fydd yn llwyddo? (Gweler hefyd y blwch “ Sut i Wneud Penderfyniadau Doeth.”)

16 Os wyt ti wedi dilyn y camau yn yr erthygl hon, rwyt ti’n barod i wneud penderfyniad doeth. Rwyt ti wedi cael y ffeithiau i gyd a meddwl am yr egwyddorion a fydd yn dy helpu di i wneud penderfyniad sy’n plesio Jehofa. Nawr gelli di ofyn i Jehofa am help i wneud i’r penderfyniad lwyddo.

17. Beth yw’r allwedd i wneud penderfyniadau da?

17 Mae’n rhaid iti ddibynnu ar ddoethineb Jehofa ac nid ar dy allu neu dy brofiad dy hun er mwyn llwyddo, hyd yn oed os wyt ti wedi gwneud llawer o benderfyniadau da yn y gorffennol. Ef yn unig sy’n gallu rhoi iti wir wybodaeth, dealltwriaeth, a gallu meddyliol—sylfeini doethineb. (Diar. 2:​1-5) Gall Jehofa dy helpu di i wneud penderfyniadau a fydd yn ei blesio.—Salm 23:​2, 3.

CÂN 28 Dod yn Ffrind i Jehofa

a DISGRIFIAD O’R LLUN: Brodyr a chwiorydd ifanc yn siarad am wahoddiad i barti y maen nhw wedi ei dderbyn ar eu ffonau.

b DISGRIFIAD O’R LLUN: Un o’r brodyr yn gwneud ymchwil cyn penderfynu a ddylai fynd i’r parti neu ddim.