Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 1

CÂN 2 Jehofa Yw Dy Enw

Rhoi Anrhydedd i Jehofa

Rhoi Anrhydedd i Jehofa

TESTUN Y FLWYDDYN AR GYFER 2025: “Anrhydeddwch enw Jehofa fel y mae Ef yn haeddu.”SALM 96:​8, NWT.

PWRPAS

Dysgu sut gallwn ni roi i Jehofa yr anrhydedd y mae ef yn ei haeddu.

1. Beth mae llawer heddiw yn ffocysu arno?

 A WYT ti wedi sylwi bod llawer heddiw yn hunanol? Er enghraifft, mae llawer ar gyfryngau cymdeithasol yn tynnu sylw atyn nhw eu hunain ac at yr hyn y maen nhw’n ei wneud. Ond, does dim llawer o bobl heddiw yn anrhydeddu Jehofa Dduw. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod beth mae’n ei olygu i anrhydeddu Jehofa a pham y dylen ni wneud hynny. Hefyd, byddwn ni’n dysgu sut gallwn ni roi i Dduw yr anrhydedd y mae’n wir yn ei haeddu a sut bydd Jehofa yn gogoneddu ei enw ei hun yn y dyfodol agos.

BETH MAE’N EI OLYGU I ANRHYDEDDU JEHOFA?

2. Sut gwnaeth Jehofa ddangos ei ogoniant wrth Fynydd Sinai? (Gweler hefyd y llun.)

2 Beth yw anrhydedd? Yn y Beibl, gall y gair “anrhydedd” gyfeirio at rywbeth sy’n gwneud rhywun yn rhyfeddol. Dangosodd Jehofa ei anrhydedd mewn ffordd ryfeddol yn fuan ar ôl i genedl Israel gael ei rhyddhau o’r Aifft. Dychmyga hyn: Gwnaeth miliynau o Israeliaid ddod at ei gilydd wrth ymyl Mynydd Sinai i glywed geiriau Duw. Daeth cwmwl tywyll dros y mynydd. Yn sydyn, teimlon nhw’r ddaear yn crynu o dan eu traed a gwelon nhw fwg yn gorchuddio’r mynydd. Hefyd, roedd mellt a tharanau yn llenwi’r awyr a chlywon nhw gorn swnllyd. (Ex. 19:​16-18; 24:17; Salm 68:8) Dychmyga sut roedd yr Israeliaid wedi rhyfeddu wrth i Jehofa ddatgelu ei ogoniant mewn ffordd mor anhygoel.

Ym Mynydd Sinai, dangosodd Jehofa ei ogoniant i’r Israeliaid (Gweler paragraff 2)


3. Beth mae’n ei olygu i anrhydeddu Jehofa?

3 Ond beth amdanon ni? A ydyn ni’n gallu dod ag anrhydedd i Jehofa? Yn bendant. Un ffordd gallwn ni anrhydeddu Jehofa ydy drwy ddweud wrth eraill am ei nerth anhygoel a’i rinweddau hyfryd. Hefyd, rydyn ni’n anrhydeddu Duw pan ydyn ni’n rhoi’r clod iddo am yr holl bethau y mae wedi ein helpu ni i’w gwneud. (Esei. 26:12) Roedd y Brenin Dafydd yn esiampl anhygoel o rywun a oedd yn anrhydeddu Jehofa. Pan weddïodd o flaen cynulleidfa Israel, dywedodd Dafydd wrth Dduw: “O ARGLWYDD, ti ydy’r Duw mawr, cryf, godidog, ac enwog sy’n teyrnasu dros bopeth yn y nefoedd a’r ddaear! Ti ydy’r un sy’n ben ar y cwbl i gyd!” Ar ôl i Dafydd orffen ei weddi, “dyma’r gynulleidfa gyfan yn moli’r ARGLWYDD.”—1 Cron. 29:​11, 20.

4. Sut gwnaeth Iesu anrhydeddu Jehofa?

4 Tra oedd Iesu ar y ddaear, fe wnaeth ogoneddu ei Dad gan gydnabod mai Ef oedd y nerth y tu ôl i’w wyrthiau. (Marc 5:​18-20) Roedd ffordd Iesu o drin eraill ac o siarad am ei Dad hefyd yn dod ag anrhydedd i Jehofa. Ar un achlysur pan oedd Iesu’n dysgu yn y synagog, roedd ’na ddynes yn gwrando a oedd â chythraul ynddi ers 18 mlynedd. Roedd y cythraul wedi achosi i’w chefn hi grymu a doedd hi ddim yn gallu sythu o gwbl. Am beth ofnadwy! Gwnaeth tosturi gymell Iesu i siarad â hi yn garedig, gan ddweud: “Ddynes, rwyt ti wedi cael dy ryddhau oddi wrth dy anabledd.” Wedyn, fe roddodd ei ddwylo arni, ac ar unwaith fe wnaeth hi sefyll yn syth “a dechrau gogoneddu Duw”! (Luc 13:​10-13) Gyda’i hiechyd a’i hurddas yn ôl, roedd ganddi resymau da dros ogoneddu Jehofa, ac mae gynnon ni resymau da dros wneud yr un peth.

BETH SY’N EIN CYMELL NI I ANRHYDEDDU JEHOFA?

5. Pa resymau sydd gynnon ni dros barchu Jehofa?

5 Rydyn ni’n anrhydeddu Jehofa oherwydd ein parch dwfn tuag ato. Mae gynnon ni lawer o resymau dros ei barchu. Jehofa yw’r hollalluog, ac mae ei nerth yn ddi-ben-draw. (Salm 96:​4-7) Mae ei ddoethineb mawr yn amlwg yn yr hyn y mae wedi ei greu. Ef yw ffynhonnell bywyd, ac mae wedi rhoi popeth sydd ei angen arnon ni i fyw. (Dat. 4:11) Mae’n ffyddlon. (Dat. 15:4) Mae’n llwyddo ym mhopeth y mae’n ei wneud, ac mae’n wastad yn cadw ei addewidion. (Jos. 23:14) Dyna pam dywedodd y proffwyd Jeremeia am Jehofa: “Dydy pobl fwya doeth y gwledydd i gyd a’r teyrnasoedd ddim byd tebyg i ti”! (Jer. 10:​6, 7) Yn wir, mae gynnon ni resymau da dros barchu ein Tad nefol. Ond mae Jehofa yn gwneud mwy na ennill ein parch yn unig, mae hefyd yn ennill ein cariad.

6. Pam rydyn ni’n caru Jehofa?

6 Rydyn ni’n anrhydeddu Jehofa oherwydd ein bod ni’n ei garu yn fawr iawn. Ystyria sawl rhinwedd Jehofa sy’n gwneud inni ei garu. Mae’n drugarog ac yn dosturiol. (Salm 103:13; Esei. 49:15) Mae’n dangos empathi ac yn wir yn teimlo ein poen. (Sech. 2:8) Mae’n ei gwneud hi’n hawdd inni nesáu ato fel ffrind. (Salm 25:​14, BCND; Act. 17:27) Ac mae’n ostyngedig; “mae’n plygu i lawr i edrych ar y nefoedd a’r ddaear oddi tano. Mae e’n codi pobl dlawd o’r baw.” (Salm 113:​6, 7) Oherwydd y rhesymau hyn i gyd, sut gallen ni beidio â gogoneddu Duw?—Salm 86:12.

7. Pa gyfle arbennig sydd gynnon ni?

7 Rydyn ni’n anrhydeddu Jehofa gan ein bod ni eisiau i eraill ddod i’w adnabod. Dydy llawer ddim yn gwybod y gwir am Jehofa. Pam? Oherwydd bod Satan wedi dallu eu meddyliau drwy ledaenu celwyddau ofnadwy amdano. (2 Cor. 4:4) Mae Satan wedi perswadio pobl bod Jehofa yn dduw cas heb gariad ac mai Ef sydd y tu ôl i holl ddioddefaint y byd. Ond rydyn ni’n gwybod y gwir am ein Duw! Mae gynnon ni’r cyfle i ddweud y gwir wrth eraill a’i anrhydeddu. (Esei. 43:10) Mae Salm 96 yn ffocysu ar ogoneddu Jehofa. Wrth inni drafod rhai o eiriau ysbrydoledig y salm hon, meddylia am sut gelli di anrhydeddu Jehofa fel y mae’n haeddu.

SUT GALLWN NI ROI I JEHOFA’R ANRHYDEDD Y MAE’N EI HAEDDU?

8. Ym mha ffordd gallwn ni anrhydeddu Jehofa? (Salm 96:​1-3)

8 Darllen Salm 96:​1-3. Gallwn ni anrhydeddu Jehofa drwy’r hyn rydyn ni’n ei ddweud amdano. Yn yr adnodau hyn, mae pobl Jehofa yn cael eu hannog i ganu i Jehofa, i foli ei enw, i gyhoeddi’r newyddion da am ei iachawdwriaeth, ac i ddweud wrth eraill am ei ogoniant. Drwy wneud yr holl bethau hyn, rydyn ni’n gallu clodfori ein Tad nefol. Ni wnaeth Iddewon ffyddlon na Christnogion y ganrif gyntaf ddal yn ôl rhag siarad am rinweddau hyfryd Jehofa a’r holl bethau roedd Ef wedi eu gwneud ar eu cyfer nhw. (Dan. 3:​16-18; Act. 4:29) Sut gallwn ni wneud yr un peth?

9-10. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad Angelena? (Gweler hefyd y llun.)

9 Ystyria esiampl Angelena, a chwaer sy’n byw yn yr Unol Daleithiau a wnaeth amddiffyn enw da Jehofa yn ddewr. Cafodd hi ac eraill a oedd newydd ddechrau gweithio i’r un cwmni eu gwahodd i gyfarfod lle cawson nhw’r cyfle i ddweud rhywbeth am eu cefndir. Roedd Angelena wedi paratoi sioe sleidiau a oedd yn dangos y llawenydd sy’n dod o fod yn un o Dystion Jehofa. Ond, cyn iddi gael y cyfle i siarad, dywedodd un o’i chyd-weithwyr ei fod wedi cael ei fagu fel un o Dystion Jehofa. Fe ddechreuodd wawdio ein daliadau. Mae Angelena’n dweud: “Roedd fy nghalon yn curo’n gyflym. Ond meddyliais i fi fy hun: ‘A ydw i am adael i rywun ddweud celwyddau am Jehofa, neu a ydw i’n mynd i’w amddiffyn?’”

10 Ar ôl i’w chyd-weithiwr orffen siarad, dywedodd Angelena weddi fach ddistaw. Yna, fe ddywedodd hi yn garedig wrtho: “Mae fy nghefndir i yn debyg i dy un di. Fe ges i hefyd fy magu fel un o Dystion Jehofa, ac rydw i’n dal yn un hyd heddiw.” Roedd y tensiwn yn yr ystafell yn amlwg, ond ni wnaeth Angelena gynhyrfu. Fe wnaeth hi ddangos i’w chyd-weithwyr luniau ohono’i hun a’i ffrindiau yn gwasanaethu Jehofa’n llawen, ac fe wnaeth hi amddiffyn ei daliadau yn barchus. (1 Pedr 3:15) Beth oedd y canlyniad? Erbyn i Angelena orffen ei chyflwyniad, roedd agwedd y dyn wedi newid. Fe wnaeth hyd yn oed fynegi bod ganddo atgofion melys o dyfu i fyny fel un o Dystion Jehofa. Mae Angelena’n dweud: “Mae Jehofa’n haeddu cael ei amddiffyn. Mae’n fraint i ddweud y gwir amdano.” Mae gynnon ni hefyd y fraint o foli Jehofa a’i glodfori pan fydd eraill yn ei amharchu.

Gallwn ni anrhydeddu Jehofa yn y ffordd rydyn ni’n siarad (Gweler paragraffau 9-10) c


11. Sut mae gweision Jehofa wedi dilyn yr egwyddor yn Salm 96:8 o hyd?

11 Darllen Salm 96:​8, NWT o’r troednodyn. b Rydyn ni’n anrhydeddu Jehofa gyda’n pethau gwerthfawr. Dyna sut mae gweision Jehofa wedi ei anrhydeddu o hyd. (Diar. 3:9) Er enghraifft, fe wnaeth yr Israeliaid gyfrannu at adeiladu ac edrych ar ôl y deml. (2 Bren. 12:​4, 5; 1 Cron. 29:​3-9) Fe wnaeth disgyblion Crist weini arno ef a’i apostolion “o’r pethau oedd ganddyn nhw.” (Luc 8:​1-3) Hefyd, fe wnaeth Cristnogion y ganrif gyntaf roi cymorth i’w brodyr a’u chwiorydd ysbrydol. (Act. 11:​27-29) Heddiw, rydyn ni hefyd yn gallu clodfori Jehofa gyda’n cyfraniadau gwirfoddol.

12. Sut gall ein cyfraniadau anrhydeddu Jehofa? (Gweler hefyd y llun.)

12 Ystyria un esiampl sy’n dangos sut mae ein cyfraniadau yn dod ag anrhydedd i Jehofa. Yn 2020, roedd ’na gyfnod hir sych heb law yn Simbabwe. Roedd miliynau o bobl bron â llwgu, gan gynnwys chwaer o’r enw Prisca. Er gwaetha’r sychder, parhaodd Prisca i bregethu bob dydd Mercher a dydd Gwener, hyd yn oed yn ystod y tymor pan oedden nhw’n trin y caeau. Fe wnaeth ei chymdogion wneud hwyl am ei phen am fynd ar y weinidogaeth yn lle gweithio yn ei chaeau. Dywedon nhw, “Rwyt ti’n mynd i lwgu,” ond yn hyderus, ymatebodd Prisca, “Dydy Jehofa erioed wedi siomi ei weision.” Ddim yn hir ar ôl hynny, fe dderbyniodd Prisca fwyd a nwyddau eraill oddi wrth ein cyfundrefn. Roedd y cymorth hwn yn bosib oherwydd ein cyfraniadau. Roedd cymdogion Prisca wedi synnu, a dywedon nhw, “Dydy Duw erioed wedi dy siomi di, felly rydyn ni eisiau dysgu mwy amdano.” Fe wnaeth saith o’i chymdogion ddechrau mynychu’r cyfarfodydd.

Gallwn ni anrhydeddu Jehofa gyda’n pethau materol (Gweler paragraff 12) d


13. Sut gall ein hymddygiad anrhydeddu Jehofa? (Salm 96:9)

13 Darllen Salm 96:9. Gall ein hymddygiad anrhydeddu Jehofa. Roedd angen i’r offeiriaid a oedd yn gwasanaethu yn nheml Jehofa fod yn gorfforol lân. (Ex. 40:​30-32) Ond, mae ymddygiad glân yn bwysicach na glendid corfforol. (Salm 24:​3, 4; 1 Pedr 1:​15, 16) Mae angen inni weithio’n galed i dynnu’r “hen bersonoliaeth” oddi amdanon ni, sef gweithredoedd ac agweddau aflan. Yna, mae’n rhaid inni wisgo’r “bersonoliaeth newydd,” sef ffordd o feddwl ac ymddygiad sy’n adlewyrchu rhinweddau hyfryd Jehofa. (Col. 3:​9, 10) Gyda help Jehofa, gall hyd yn oed y bobl fwyaf treisgar ac anfoesol roi’r bersonoliaeth newydd ymlaen.

14. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad Jack? (Gweler hefyd y llun.)

14 Ystyria esiampl Jack, dyn hynod o beryglus a threisgar. Fe gafodd y llysenw Y Cythraul. Oherwydd ei droseddau, fe gafodd Jack ei ddedfrydu i farwolaeth. Ond, tra oedd Jack yn disgwyl cael ei roi i farwolaeth, fe dderbyniodd astudiaeth Feiblaidd gan frawd a oedd yn ymweld â’r carchar. Er gwaethaf ei gefndir, newidiodd Jack ei bersonoliaeth yn llwyr, ac ymhen amser, fe gafodd ei fedyddio. Newidiodd Jack gymaint nes bod gan rai o warchodwyr y carchar ddagrau yn eu llygaid ar ddiwrnod ei farwolaeth. Dywedodd sarjant a oedd yn gweithio yn y carchar: “Ar un adeg, Jack oedd un o’r carcharorion gwaethaf yma. Nawr, mae’n un o’r rhai gorau.” Yr wythnos ar ôl i Jack gael ei roi i farwolaeth, fe aeth y brodyr yn ôl i’r carchar i gynnal cyfarfod wythnosol. Tra oedden nhw yno, daeth dyn newydd i’r cyfarfod am y tro cyntaf. Beth a wnaeth ei ysgogi i fynychu? Roedd personoliaeth newydd Jack wedi gwneud argraff fawr arno, a nawr roedd ef eisiau gwybod sut i addoli Jehofa. Yn wir, gall ein hymddygiad anrhydeddu ein Tad nefol!—1 Pedr 2:12.

Gallwn ni anrhydeddu Jehofa gyda’n hymddygiad (Gweler paragraff 14) e


SUT BYDD JEHOFA’N ANRHYDEDDU EI ENW YN Y DYFODOL AGOS?

15. Sut bydd Jehofa’n anrhydeddu ei enw unwaith ac am byth yn y dyfodol agos? (Salm 96:​10-13)

15 Darllen Salm 96:​10-13. Mae adnodau olaf Salm 96 yn dweud bod Jehofa’n teyrnasu ac yn barnu’n gyfiawn. Sut bydd Jehofa’n anrhydeddu ei enw yn y dyfodol agos? Drwy ei farnedigaethau. Yn fuan, bydd Jehofa’n dinistrio Babilon Fawr am ddod â gwarth ar ei enw sanctaidd. (Dat. 17:​5, 16; 19:​1, 2) Efallai bydd rhai a fydd yn gweld Babilon Fawr yn cael ei dinistrio yn dechrau addoli Jehofa gyda ni. Yna, yn Armagedon, bydd Jehofa’n dinistrio byd Satan yn llwyr, gan gael gwared ar y rhai sy’n gwrthwynebu Duw ac sy’n cablu ei enw. Ond, bydd pawb sy’n ei garu, sy’n ufudd iddo, ac sydd eisiau ei anrhydeddu yn cael eu hachub. (Marc 8:38; 2 Thes. 1:​6-10) Ar ôl y prawf olaf a fydd yn dilyn Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist, bydd Jehofa wedi sancteiddio ei enw unwaith ac am byth. (Dat. 20:​7-10) Ar yr adeg honno, bydd y ddaear wedi ei llenwi “â gwybodaeth o ogoniant yr ARGLWYDD, fel y mae’r dyfroedd yn llenwi’r môr.”—Hab. 2:​14, BCND.

16. Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud? (Gweler hefyd y llun.)

16 Oni fydd hi’n hyfryd pan fydd pawb yn rhoi gogoniant i Jehofa yn union fel y mae Ef yn haeddu! Ond nes bod y diwrnod hwnnw’n cyrraedd, gallwn ni wneud ein rhan ni i glodfori Jehofa ar bob cyfle. Er mwyn pwysleisio hyn, mae’r Corff Llywodraethol wedi dewis Salm 96:8 fel testun y flwyddyn ar gyfer 2025: “Anrhydeddwch enw Jehofa fel y mae Ef yn haeddu.”

Yn y pen draw, bydd pawb byw yn rhoi i Jehofa yr anrhydedd y mae’n ei haeddu! (Gweler paragraff 16)

CÂN 12 Mawr Dduw, Jehofa

a Newidiwyd rhai enwau.

b Salm 96:​8, NWT: “Anrhydeddwch enw Jehofa fel y mae Ef yn haeddu; Dewch ag anrheg a dewch i mewn i gyrtiau ei dŷ.”

c DISGRIFIAD O’R LLUN: Llun yn portreadu profiad Angelena.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Llun yn portreadu profiad Prisca.

e DISGRIFIAD O’R LLUN: Llun yn portreadu profiad Jack.