Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 5

CÂN 108 Cariad Ffyddlon Duw

Sut Rydyn Ni’n Elwa o Gariad Jehofa

Sut Rydyn Ni’n Elwa o Gariad Jehofa

“Daeth Crist Iesu i mewn i’r byd i achub pechaduriaid.”1 TIM. 1:15.

PWRPAS

Sut rydyn ni’n elwa o aberth Iesu a sut gallwn ni ddiolch i Jehofa.

1. Sut gallwn ni wneud Jehofa’n hapus?

 DYCHMYGA roi anrheg hardd ac ymarferol i rywun rwyt ti’n ei garu. Sut byddet ti’n teimlo petasai’r person yn ei rhoi mewn bocs a byth yn meddwl amdani? Wedi dy siomi! Ar y llaw arall, byddet ti’n hapus iawn petasen nhw’n gwneud defnydd da o’r anrheg ac yn diolch iti amdani. Beth ydy’r pwynt? Mae Jehofa wedi rhoi ei Fab ar ein cyfer ni. Mae’n rhaid bod Jehofa’n hapus iawn pan ydyn ni’n dangos ein diolch am y rhodd werthfawr honno ac am ei gariad a wnaeth ei gymell i drefnu aberth Iesu!—Ioan 3:16; Rhuf. 5:​7, 8.

2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Ond wrth i amser fynd heibio, gallwn ni ddechrau cymryd y rhodd o aberth Iesu’n ganiataol. Byddai gwneud hynny fel rhoi anrheg Duw mewn bocs. Rydyn ni’n hapus i’w chael ond rydyn ni’n ei chadw allan o olwg. Er mwyn osgoi hynny rhag digwydd, mae’n rhaid inni feddwl yn aml am bopeth mae Duw a Christ wedi ei wneud droston ni. Bydd yr erthygl hon yn ein helpu ni i wneud hynny. Byddwn ni’n trafod sut gallwn ni elwa o aberth Iesu nawr ac yn y dyfodol. Byddwn ni hefyd yn ystyried sut gallwn ni ddiolch i Jehofa am ei gariad, yn enwedig yn ystod adeg y Goffadwriaeth.

SUT RYDYN NI’N ELWA NAWR

3. Ym mha ffordd rydyn ni’n elwa o aberth Iesu nawr?

3 Mae aberth Iesu yn ein helpu ni hyd yn oed heddiw. Er enghraifft, ar sail y pris a gafodd ei dalu, mae Jehofa’n maddau ein pechodau. Does dim rhaid iddo faddau inni, ond mae eisiau gwneud hynny. Canodd y salmydd: “Rwyt ti, ARGLWYDD, yn dda ac yn maddau.”—Salm 86:5; 103:​3, 10-13.

4. Am bwy roedd Jehofa wedi trefnu i’r pris gael ei dalu? (Luc 5:32; 1 Timotheus 1:15)

4 Mae rhai yn teimlo nad ydyn nhw’n haeddu maddeuant Jehofa. Mewn gwirionedd, dydy’r un ohonon ni’n deilwng. Dywedodd yr apostol Paul nad oedd ‘yn deilwng i gael ei alw yn apostol.’ Ond eto, ychwanegodd: “Drwy garedigrwydd rhyfeddol Duw, rydw i yr hyn ydw i.” (1 Cor. 15:​9, 10) Pan ydyn ni’n edifarhau am ein pechodau, mae Jehofa’n maddau inni. Pam? Nid oherwydd ein bod ni’n ei haeddu, ond gan ei fod yn ein caru ni. Os wyt ti’n poeni o hyd nad wyt ti’n ddigon da i dderbyn maddeuant, cofia fod Jehofa wedi talu’r pris, nid am bobl heb bechod, ond am bechaduriaid sy’n edifarhau.—Darllen Luc 5:32; 1 Timotheus 1:15.

5. A ddylen ni deimlo bod gynnon ni’r hawl i dderbyn trugaredd Jehofa? Esbonia.

5 Ni ddylai’r un ohonon ni deimlo bod gynnon ni’r hawl i dderbyn trugaredd Jehofa hyd yn oed os ydyn ni wedi ei wasanaethu am lawer o flynyddoedd. Wrth gwrs, mae Jehofa’n gwerthfawrogi popeth rydyn ni wedi ei wneud drosto. (Heb. 6:10) Mae wedi rhoi ei Fab inni yn rhad ac am ddim fel rhodd, nid fel tâl ar gyfer ein holl waith. Petasen ni’n honni ein bod ni wedi ennill trugaredd Jehofa neu ein bod ni’n haeddu cael ein trin mewn ffordd arbennig, bydden ni mewn ffordd yn dweud nad oes angen aberth Iesu arnon ni.—Cymhara Galatiaid 2:21.

6. Pam roedd Paul yn gweithio’n galed yng ngwasanaeth Jehofa?

6 Roedd Paul yn gwybod nad oedd yn gallu hawlio ffafr Duw. Pam, felly, gwnaeth ef weithio mor galed i wasanaethu Jehofa? Nid i ddangos ei fod yn deilwng, ond i ddiolch i Jehofa am ei garedigrwydd rhyfeddol. (Eff. 3:7) Rydyn ni fel Paul yn gwasanaethu’n selog, nid i ennill trugaredd Jehofa, ond i ddangos ein gwerthfawrogiad amdano.

7. Ym mha ffordd arall rydyn ni’n elwa o aberth Iesu nawr? (Rhufeiniaid 5:1; Iago 2:23)

7 Ffordd arall rydyn ni’n elwa o aberth Iesu nawr ydy drwy gael perthynas agos a phersonol â Jehofa. a Fel dangosodd yr erthygl flaenorol, doedd gynnon ni ddim perthynas â Duw pan gawson ni ein geni. Ond oherwydd y pris a gafodd ei dalu, rydyn ni’n gallu mwynhau “heddwch â Duw” ac o ganlyniad yn gallu nesáu ato.—Darllen Rhufeiniaid 5:1; Iago 2:23.

8. Pam dylen ni fod yn ddiolchgar i Jehofa am y fraint o gael gweddïo?

8 Ystyria un rhan o’n perthynas â Jehofa—y fraint o gael gweddïo. Mae Jehofa’n clywed nid yn unig gweddïau cyhoeddus ei bobl pan maen nhw wedi dod at ei gilydd. Ond hefyd gweddïau preifat pob un ohonon ni. Gall gweddi ein llonyddu a rhoi tawelwch meddwl inni, ond mae’n gwneud llawer mwy na rhoi therapi da inni. Fe all gryfhau ein perthynas â Duw. (Salm 65:2; Iago 4:8; 1 Ioan 5:14) Tra oedd Iesu ar y ddaear, gweddïodd yn aml oherwydd roedd yn gwybod bod Jehofa’n gwrando a byddai gweddi yn cadw ei berthynas â Jehofa’n gryf. (Luc 5:16) Mor ddiolchgar ydyn ni am aberth Iesu, sy’n gosod sail inni fod yn ffrindiau â Jehofa ac i siarad ag Ef mewn gweddi!

SUT GALLWN NI ELWA YN Y DYFODOL

9. Sut bydd addolwyr ffyddlon yn elwa o aberth Iesu yn y dyfodol?

9 Sut bydd addolwyr ffyddlon Jehofa yn elwa o aberth Iesu yn y dyfodol? Bydd Jehofa’n rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw. Mae llawer o bobl yn meddwl bod hyn yn amhosib oherwydd bod pobl wedi marw erioed. Ond, pwrpas gwreiddiol Jehofa oedd i bobl fyw am byth. Petasai Adda ddim wedi pechu, fyddai neb yn ei chael hi’n anodd credu mewn bywyd tragwyddol. Ac er bod byw am byth yn gallu teimlo tu hwnt i’n dychymyg ar hyn o bryd, gallwn ni gredu ynddo oherwydd bod Jehofa wedi talu’r pris uchaf, sef bywyd ei Fab annwyl, i wneud hyn yn bosib.—Rhuf. 8:32.

10. Beth mae’r eneiniog a’r defaid eraill yn edrych ymlaen ato?

10 Er bod bywyd tragwyddol yn rhywbeth byddwn ni’n ei gael yn y dyfodol, mae Jehofa eisiau inni ei gadw mewn cof wrth inni ddisgwyl. Mae’r eneiniog yn edrych ymlaen at fywyd cyffrous yn y nefoedd lle byddan nhw’n rheoli gyda Christ dros y ddaear. (Dat. 20:6) Mae’r defaid eraill yn edrych ymlaen at fyw ar baradwys ddaear heb boen a thristwch. (Dat. 21:​3, 4) A wyt ti’n un o’r defaid eraill gyda’r gobaith o fyw am byth ar y ddaear? Os felly, nid wobr gysur ydy honno. Dyna’r union reswm pam cafodd pobl eu creu. Bydd bywyd ar y ddaear yn ein gwneud ni’n hapus dros ben.

11-12. Pa fendithion yn y Baradwys rydyn ni’n edrych ymlaen atyn nhw? (Gweler hefyd y lluniau.)

11 Dychmyga dy fywyd ar ddaear sy’n baradwys. Ni fyddi di’n poeni o gwbl am salwch neu farwolaeth. (Esei. 25:8; 33:24) Bydd Jehofa’n boddhau pob dymuniad sydd gen ti. Beth hoffet ti ddysgu amdano? Ffiseg? Cemeg? Cerddoriaeth? Celf? Yn sicr, bydd ’na angen am benseiri, adeiladwyr, a ffermwyr. Hefyd, bydd ’na angen i wneud gwaith fel paratoi bwyd, creu tŵls, a phlannu gerddi prydferth ac edrych ar eu holau nhw. (Esei. 35:1; 65:21) Gyda bywyd tragwyddol o dy flaen di, bydd gen ti’r amser i wneud y pethau hyn i gyd, a llawer mwy.

12 Dychmyga’r llawenydd bydd yn dod o groesawu’n ôl y rhai sydd wedi cael eu hatgyfodi! (Act. 24:15) Dychmyga hefyd sut byddi di’n mwynhau dysgu mwy am Jehofa a’r nifer mawr o bethau mae ef wedi eu creu. (Salm 104:24; Esei. 11:9) Y peth gorau yw, byddi di’n gallu addoli Jehofa heb deimlo’n euog o gwbl. A fyddi di’n dewis colli allan ar y bendithion hyn am ‘bleserau dros dro pechod’? (Heb. 11:25) Wrth gwrs ddim! Bydd ein dyfodol hyfryd yn llawer gwell nag unrhyw beth gallwn ni ei gael yn y byd hwn heddiw. Cofia, ni fydd y baradwys wastad ar y gorwel, mewn amser fe fydd yn dod yn realiti. Ac mae hyn i gyd yn bosib oherwydd bod Jehofa wedi ein caru ni gymaint nes iddo roi ei Fab i dalu’r pris!

Pa fendithion yn y Baradwys rwyt ti’n edrych ymlaen atyn nhw? (Gweler paragraffau 11-12)


YMATEBA I GARIAD JEHOFA

13. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar am gariad Jehofa? (2 Corinthiaid 6:1)

13 Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar i Jehofa am dalu’r pris? Drwy flaenoriaethu ei waith yn ein bywydau. (Math. 6:33) Wedi’r cwbl, gwnaeth Iesu farw “er mwyn i’r rhai sy’n byw beidio â byw iddyn nhw eu hunain mwyach, ond i’r un a wnaeth farw drostyn nhw ac a gafodd ei atgyfodi.” (2 Cor. 5:15) Dydyn ni ddim eisiau methu’r pwynt o garedigrwydd rhyfeddol Jehofa.—Darllen 2 Corinthiaid 6:1.

14. Sut gallwn ni ddangos ein ffydd yn arweiniad Jehofa?

14 Gallwn ni hefyd ymateb i gariad Jehofa drwy ddangos ffydd yn ei arweiniad. Sut? Pan fydd yn rhaid inni wneud penderfyniadau fel dewis faint o addysg seciwlar sydd ei hangen arnon ni neu ba fath o swydd byddwn ni’n ei derbyn, mae angen inni ystyried beth byddai Jehofa eisiau inni ei wneud. (1 Cor. 10:31; 2 Cor. 5:7) Pan ydyn ni’n ymarfer ein ffydd, mae rhywbeth hyfryd yn digwydd—mae ein ffydd a’n perthynas â Jehofa’n tyfu yn fwy byth. Mae ein gobaith yn cael ei atgyfnerthu.—Rhuf. 5:​3-5; Iago 2:​21, 22.

15. Sut gallwn ni ddangos ein diolchgarwch yn ystod adeg y Goffadwriaeth?

15 Mae ’na ffordd arall gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar am gariad Jehofa. Gallwn ni ddefnyddio adeg y Goffadwriaeth i ddangos i Jehofa ein bod ni’n gwerthfawrogi aberth Iesu. Yn ogystal â pharatoi i fynychu’r Goffadwriaeth, gallwn ni wahodd eraill i ddod hefyd. (1 Tim. 2:4) Esbonia i’r rhai rwyt ti wedi eu gwahodd beth fydd yn digwydd yn ystod y Goffadwriaeth. Gelli di ddangos iddyn nhw ar jw.org y fideos Pam Roedd Rhaid i Iesu Farw? a Cofio Marwolaeth Iesu. Dylai henuriaid wneud yn siŵr eu bod nhw’n gwahodd rhai anweithredol. Dychmyga’r llawenydd yn y nef ac ar y ddaear petai rhai o ddefaid coll Jehofa yn cael eu cymell i ddod yn ôl i’w braidd! (Luc 15:​4-7) Ar noson y Goffadwriaeth, gad inni ymdrechu i groesawu pawb, yn enwedig y rhai newydd a’r rhai sydd ddim wedi mynychu am amser hir. Rydyn ni eisiau iddyn nhw gael croeso cynnes!—Rhuf. 12:13.

16. Pam dylen ni feddwl am wneud mwy yn ein gweinidogaeth yn ystod adeg y Goffadwriaeth?

16 A elli di wneud mwy yn dy wasanaeth i Jehofa yn ystod adeg y Goffadwriaeth? Dyna ffordd dda i fynegi dy ddiolchgarwch am bopeth mae Duw ac Iesu wedi ei wneud droston ni. Y mwyaf rydyn ni’n ei wneud yng ngwasanaeth Jehofa, y mwyaf byddwn ni’n profi ei gefnogaeth. O ganlyniad, bydd ein hyder ynddo ef yn tyfu’n fwy byth. (1 Cor. 3:9) Hefyd, gwna’n siŵr dy fod ti’n gwneud darlleniad Beiblaidd y Goffadwriaeth sydd yn Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd neu yn y siart sydd yng ngweithlyfr y cyfarfodydd. Efallai gelli di wneud prosiect astudio ar sail yr adnodau hyn.

17. Beth sy’n gwneud Jehofa’n hapus? (Gweler hefyd y blwch “ Ffyrdd i Ymateb i Gariad Jehofa.”)

17 Wrth gwrs, efallai nad ydy dy amgylchiadau yn caniatáu iti wneud popeth mae’r erthygl hon yn ei awgrymu. Ond cofia, dydy Jehofa ddim yn cymharu’r hyn rwyt ti’n gallu ei wneud â beth mae eraill yn gallu ei wneud; mae’n gweld beth sydd yn dy galon. Pan mae’n gweld bod dy ddiolchgarwch am aberth ei Fab yn dod o dy galon, mae wrth ei fodd.—1 Sam. 16:7; Marc 12:​41-44.

18. Pam rydyn ni’n ddiolchgar i Jehofa ac i Iesu Grist?

18 Heb aberth Iesu, ni fyddwn ni’n gallu cael maddeuant am ein pechodau, perthynas â Jehofa, na’r gobaith o fyw am byth. Gad inni ddangos ein diolchgarwch am gariad Jehofa a wnaeth ei gymell i wneud y bendithion hyn ar gael inni. (1 Ioan 4:19) Gad inni hefyd ddangos ein gwerthfawrogiad am Iesu, oherwydd fe wnaeth ein caru ni gymaint nes iddo roi ei fywyd ei hun ar ein cyfer ni!—Ioan 15:13.

CÂN 154 Cariad Diddarfod

a Gwnaeth Jehofa faddau i’r rhai a oedd yn ei addoli hyd yn oed cyn i Iesu farw er mwyn talu’r pris. Roedd Jehofa’n gallu gwneud hyn oherwydd roedd yn hollol hyderus byddai ei Fab yn aros yn ffyddlon hyd at farwolaeth. Felly o safbwynt Jehofa, roedd fel petasai’r pris wedi cael ei dalu yn barod.—Rhuf. 3:25.