ERTHYGL ASTUDIO 48
CÂN 97 Mae Bywyd yn Ddibynnol ar Air Duw
Darpariaeth Wyrthiol o Fara
“Fi ydy bara’r bywyd. Ni fydd y sawl sy’n dod ata i byth yn teimlo’n llwglyd.”—IOAN 6:35.
PWRPAS
Beth rydyn ni’n ei ddysgu o Ioan pennod 6, lle rydyn ni’n darllen am wyrth Iesu pan fwydodd dyrfa fawr o bobl gyda bara a physgod.
1. Pa mor bwysig oedd bara i bobl yn nyddiau’r Beibl?
ROEDD bara’n bwysig iawn i bobl yn adeg y Beibl. (Gen. 14:18; Luc 4:4) Roedd mor bwysig nes bod y Beibl weithiau yn defnyddio “bara” i olygu bwyd yn gyffredinol. (Math. 6:11; Act. 20:7, nodyn astudio) Defnyddiodd Iesu fara mewn dau o’i wyrthiau. (Math. 16:9, 10) Mae Ioan pennod 6 yn cofnodi un ohonyn nhw. Wrth inni edrych ar yr hanes hwn, byddwn ni’n gweld beth gallwn ni ei ddysgu a’i roi ar waith heddiw.
2. Pa sefyllfa a gododd lle roedd angen bwydo llawer o bobl?
2 Ar ôl i apostolion Iesu orffen taith pregethu, aeth Iesu â nhw ar gwch ar draws Môr Galilea er mwyn cael gorffwys. (Marc 6:7, 30-32; Luc 9:10) Cyrhaeddon nhw le unig yn Bethsaida. Ond yn fuan wedyn, daeth miloedd o bobl i weld Iesu. Ni wnaeth ef gefnu arnyn nhw. Yn garedig, fe gymerodd yr amser i’w dysgu nhw am y Deyrnas ac i iacháu’r rhai sâl. Roedd hi’n mynd yn hwyr a doedd y disgyblion ddim yn gwybod sut byddai pawb yn cael digon i fwyta. Roedd rhai efallai wedi dod â thipyn bach o fwyd gyda nhw, ond byddai’r gweddill wedi gorfod mynd i’r pentrefi i brynu bwyd. (Math. 14:15; Ioan 6:4, 5) Beth byddai Iesu’n ei wneud?
BARA YN CAEL EI DDARPARU’N WYRTHIOL
3. Sut ymatebodd Iesu i anghenion y dyrfa? (Gweler hefyd y llun.)
3 Dywedodd Iesu wrth ei apostolion: “Does dim rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd; rhowch chithau rywbeth i’w fwyta iddyn nhw.” (Math. 14:16) Roedd hyn yn broblem oherwydd bod ’na tua 5,000 o ddynion yno. Ac wrth feddwl am y merched a’r plant, efallai roedd ’na 15,000 o bobl i’w bwydo. (Math. 14:21) Yna dywedodd Andreas: “Mae ’na fachgen bach yma ac mae ganddo bum torth haidd a dau bysgodyn bach. Ond sut gall y rhain fwydo cymaint o bobl?” (Ioan 6:9) Roedd bara wedi ei wneud o haidd yn fwyd bob dydd i’r bobl, ac mae’n bosib bod y pysgod wedi eu halltu a’u sychu. Ond doedd hynny ddim yn ddigon i fwydo cymaint o bobl, nag oedd?
4. Beth mae Ioan 6:11-13 yn ei ddysgu inni? (Gweler hefyd y lluniau.)
4 Roedd Iesu eisiau bod yn lletygar, felly gofynnodd i’r bobl eistedd mewn grwpiau ar y glaswellt. (Marc 6:39, 40; darllen Ioan 6:11-13.) Yna fe wnaeth Iesu ddiolch i Dduw am y bara a’r pysgod. Roedd hi’n addas i ddiolch i Dduw oherwydd ef ydy ffynhonnell bwyd. Mae esiampl Iesu yn ein hatgoffa ni i weddïo cyn bwyta, ni waeth os ydyn ni ar ein pennau ein hunain neu o gwmpas eraill. Nesaf, rhannodd Iesu’r bwyd â’r bobl, ac fe wnaeth pawb fwyta a chael digon. Roedd ’na fwyd dros ben a doedd Iesu ddim eisiau ei wastraffu. Felly gofynnodd i’w ddisgyblion gasglu beth oedd ar ôl efallai i’w ddefnyddio yn nes ymlaen. Gosododd Iesu yr esiampl am sut i ddefnyddio ein hadnoddau yn ddoeth. Os wyt ti’n rhiant, beth am adolygu’r hanes hwn gyda dy blant a thrafod pa wersi gallwn ni eu dysgu am weddi, lletygarwch, a haelioni.
5. Beth ceisiodd y bobl ei wneud ar ôl gweld gweithredoedd rhyfeddol Iesu, a sut gwnaeth ef ymateb?
5 Roedd gwyrthiau Iesu a’i ffordd o ddysgu eraill yn synnu’r bobl. Roedden nhw’n gwybod bod Moses wedi addo y byddai Duw yn anfon proffwyd arbennig ac efallai byddan nhw wedi gofyn, ‘Ai Iesu ydy’r proffwyd hwnnw?’ (Deut. 18:15-18) Os felly, byddai Iesu wedi bod yn arweinydd rhagorol, efallai gyda’r gallu i fwydo’r genedl gyfan. O ganlyniad, roedd y dyrfa ar fin ei “gipio a’i wneud yn frenin.” (Ioan 6:14, 15) Petasai Iesu wedi caniatáu i hynny ddigwydd, fe fyddai wedi cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth yr Iddewon o dan reolaeth y Rhufeiniaid. Ond ni adawodd i hynny ddigwydd. Fe “aeth i ffwrdd . . . i’r mynydd” ar unwaith. Felly er gwaethaf pwysau gan eraill, roedd Iesu eisiau cadw draw oddi wrth wleidyddiaeth. Am wers i ni!
6. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni eisiau dilyn esiampl Iesu? (Gweler hefyd y llun.)
6 Wrth gwrs, fydd neb yn gofyn inni ddarparu bara’n wyrthiol iddyn nhw nac i iacháu’r sâl, nac yn ceisio ein gwneud ni’n frenin. Ond efallai byddan nhw’n gofyn inni bleidleisio neu gefnogi rhywun maen nhw’n meddwl bydd yn gwella pethau. Ond mae esiampl Iesu yn glir. Fe wrthododd gymryd rhan mewn materion gwleidyddol, gan hyd yn oed ddweud: “Dydy fy Nheyrnas i ddim yn rhan o’r byd hwn.” (Ioan 17:14; 18:36) Mae’n rhaid i Gristnogion heddiw efelychu meddylfryd a gweithredoedd Iesu. Rydyn ni’n cefnogi, yn tystiolaethu am, ac yn gweddïo am y Deyrnas. (Math. 6:10) Beth arall gallwn ni ei ddysgu am yr hanes o Iesu’n darparu bara’n wyrthiol?
“YSTYR Y TORTHAU”
7. Beth a wnaeth Iesu, a sut gwnaeth yr apostolion ymateb? (Ioan 6:16-20)
7 Ar ôl i Iesu fwydo’r dyrfa, fe aeth i ffwrdd i’r mynydd i wrthod ymdrechion y bobl i’w wneud yn frenin. Ar yr un pryd aeth ei apostolion mewn cwch i Gapernaum. (Darllen Ioan 6:16-20.) Yn ystod taith yr apostolion, cododd storm gyda gwynt cryf a thonnau mawr. Yna daeth Iesu atyn nhw, yn cerdded ar y dŵr. Fe wahoddodd yr apostol Pedr i gerdded ar y dŵr gydag ef. (Math. 14:22-31) Ar ôl i Iesu fynd i mewn i’r cwch, tawelodd y storm wynt. Gwnaeth y disgyblion ryfeddu a dweud: “Ti yn wir yw Mab Duw.” a (Math. 14:33) Ond, roedden nhw’n dal yn methu gweld y cysylltiad rhwng y wyrth hon a’r un gynharach gyda’r dyrfa. Ychwanegodd Marc: “[Roedd yr apostolion yn] rhyfeddu’n fawr at hyn, oherwydd doedden nhw ddim wedi deall ystyr y torthau, ond roedd eu calonnau’n dal i gael trafferth deall.” (Marc 6:50-52) Yn wir, roedd y disgyblion yn methu deall y nerth roedd Jehofa wedi ei roi i Iesu i wneud gwyrthiau. Yn fuan wedyn, siaradodd Iesu am y wyrth o fara er mwyn dysgu gwers arall inni.
8-9. Pam gwnaeth y dyrfa chwilio am Iesu? (Ioan 6:26, 27)
8 Canolbwyntiodd y dyrfa ar foddhau eu hanghenion a’u chwantau corfforol. Sut felly? Y diwrnod wedyn, gwelon nhw fod Iesu a’i apostolion wedi gadael. Felly aethon nhw i mewn i’r cychod a oedd wedi dod o Tiberius a hwylio i Gapernaum i chwilio am Iesu. (Ioan 6:22-24) A oedden nhw eisiau clywed mwy am Deyrnas Dduw? Nag oedden, eu prif fwriad oedd cael mwy o fara oddi wrth Iesu. Sut rydyn ni’n gwybod hynny?
9 Ystyria beth ddigwyddodd pan ddaeth y dyrfa o hyd i Iesu yn agos i Gapernaum. Dywedodd Iesu wrthyn nhw eu bod nhw’n blaenoriaethu boddhau eu hanghenion corfforol dros dro. Er eu bod nhw “wedi bwyta’r bara a chael digon,” esboniodd Iesu bod y bwyd hwn yn ‘fwyd sy’n darfod.’ Fe wnaeth eu hannog nhw i weithio “am y bwyd sy’n para ac sy’n arwain i fywyd tragwyddol.” (Darllen Ioan 6:26, 27.) Dywedodd Iesu y byddai ei Dad yn darparu bwyd o’r fath. Mae’n siŵr bod y bobl wedi syfrdanu wrth glywed bod bwyd yn gallu arwain i fywyd tragwyddol. Pa fwyd a allai wneud hynny, a sut gallai gwrandawyr Iesu gael hyd i’r bwyd hwn?
10. Pa fath o ‘waith Duw’ roedd angen i’r bobl ddysgu amdano?
10 Mae’n amlwg roedd yr Iddewon hynny’n teimlo bod rhaid iddyn nhw wneud gweithredoedd arbennig er mwyn bod yn gymwys i dderbyn y bwyd hwn. Efallai eu bod nhw’n meddwl am ‘weithredoedd’ Cyfraith Moses. Ond dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Dyma ydy gwaith Duw, ichi ymarfer ffydd yn yr un y gwnaeth ef ei anfon.” (Ioan 6:28, 29) Roedd rhaid iddyn nhw ymarfer ffydd yn Iesu er mwyn “cael bywyd tragwyddol.” (Ioan 3:16-18, 36) Mewn gwirionedd, roedd Iesu wedi siarad am hyn yn barod, ac yn nes ymlaen fe fyddai’n siarad mwy am sut gallwn ni gael bywyd tragwyddol.—Ioan 17:3.
11. Sut dangosodd yr Iddewon eu bod nhw ond eisiau cael bara llythrennol oddi wrth Iesu? (Salm 78:24, 25)
11 Doedd yr Iddewon hynny ddim yn credu bod rhaid iddyn nhw ymarfer ffydd yn Iesu. Gofynnon nhw iddo: “Pa arwydd rwyt ti’n ei wneud, er mwyn inni fedru ei weld a chredu ynot ti?” (Ioan 6:30) Gwnaethon nhw sôn am y manna a gafodd eu cyndadau yn nyddiau Moses. Roedd y manna fel bara iddyn nhw. (Neh. 9:15; darllen Salm 78:24, 25.) Mae’n amlwg bod yr unig beth ar eu meddyliau nhw oedd bara llythrennol. A phan siaradodd Iesu am y ‘gwir fara o’r nef’ a oedd yn llawer gwell na bwyd llythrennol fel manna, ni wnaeth y bobl ofyn am beth roedd hynny’n ei olygu. (Ioan 6:32) Roedd y bobl yn canolbwyntio cymaint ar eu hanghenion corfforol nes eu bod nhw’n methu gweld y gwirioneddau ysbrydol roedd Iesu’n ceisio eu rhannu â nhw. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r hanes hwn?
BETH DYLEN NI EI FLAENORIAETHU?
12. Sut dangosodd Iesu beth dylen ni ei flaenoriaethu?
12 Beth dylen ni ei flaenoriaethu? Mae Ioan pennod 6 yn cynnwys gwers bwysig inni. Dylen ni flaenoriaethu ein hanghenion ysbrydol. Cofia fod Iesu wedi tynnu sylw at hyn pan wrthododd demtasiynau Satan. (Math. 4:3, 4) Yn y bregeth ar y mynydd, pwysleisiodd Iesu y pwysigrwydd o fod yn ymwybodol o’n hangen ysbrydol. (Math. 5:3) Felly, gallwn ni ofyn i ni’n hunain, ‘Ydy fy ffordd o fyw yn dangos fy mod i’n blaenoriaethu boddhau fy anghenion ysbrydol yn hytrach na fy anghenion corfforol?’
13. (a) Pam nad oes unrhyw beth o’i le gyda mwynhau bwyd? (b) Pa rybudd y dylen ni ei gymryd o ddifri? (1 Corinthiaid 10:6, 7, 11)
13 Mae’n briodol inni weddïo am y pethau sydd eu hangen arnon ni ac i’w mwynhau nhw. (Luc 11:3) Mae gwaith caled sy’n galluogi inni ‘fwyta’ ac “yfed” yn gwneud inni lawenhau oherwydd “Duw sy’n rhoi hyn i gyd i ni.” (Preg. 2:24; 8:15; Iago 1:17) Ond, mae angen inni barhau i gadw pethau materol yn eu lle. Pwysleisiodd yr apostol Paul hyn wrth ysgrifennu at y Cristnogion. Gwnaeth Paul sôn am esiampl ddrwg yr Israeliaid yn yr anialwch gan gynnwys beth ddigwyddodd wrth Fynydd Sinai. Fe rybuddiodd y Cristnogion i “beidio â chwenychu pethau niweidiol, fel y [gwnaeth yr Israeliaid].” (Darllen 1 Corinthiaid 10:6, 7, 11.) Oherwydd trachwant yr Israeliaid am fwyd, daeth darpariaethau gwyrthiol Jehofa yn ‘bethau niweidiol’ iddyn nhw. (Num. 11:4-6, 31-34) Ac wrth i’r Israeliaid addoli llo aur, y peth pwysicaf iddyn nhw oedd bwyta, yfed, a mwynhau eu hunain. (Ex. 32:4-6) Defnyddiodd Paul eu hesiampl fel rhybudd i’r Cristnogion a oedd yn byw yng nghyfnod olaf y system Iddewig. Rydyn ni’n byw yng nghyfnod olaf y system hon, felly mae’n rhaid inni gymryd geiriau Paul o ddifri.
14. Ynglŷn â bwyd, beth gallwn ni ei ddisgwyl yn y byd newydd?
14 Wrth siarad am “ein bara ar gyfer y diwrnod hwn,” dysgodd Iesu y dylen ni weddïo am i ewyllys Duw ddigwydd ar “ar y ddaear, fel y mae yn y nef.” (Math. 6:9-11) Beth mae hynny’n gwneud iti feddwl amdano? Mae’r Beibl yn dangos yn glir bod ewyllys Duw ar gyfer y ddaear yn cynnwys bwyd da. Yn ôl Eseia 25:6-8, bydd ’na ddigonedd o fwyd blasus ar y ddaear o dan Deyrnas Jehofa. Mae Salm 72:16 yn dweud: “Boed digonedd o ŷd yn y wlad—yn tyfu hyd at ben y mynyddoedd.” A wyt ti’n edrych ymlaen at baratoi dy hoff fath o fwyd neu goginio rhywbeth newydd? Gelli di blannu gwinllannoedd a phrofi’r llawenydd sy’n dod o fwyta eu ffrwyth. (Esei. 65:21, 22) Bryd hynny, bydd pawb ar y ddaear yn gallu mwynhau’r pethau hyn.
15. Beth bydd rhaid i’r rhai sy’n cael eu hatgyfodi ei ddysgu? (Ioan 6:35)
15 Darllen Ioan 6:35. Beth sydd o flaen y rhai a wnaeth dderbyn y pysgod a’r bara oddi wrth Iesu? Er nad oedd llawer ohonyn nhw wedi ymarfer ffydd ynddo, efallai bydden nhw’n cael eu hatgyfodi a byddi di’n gallu eu cyfarfod nhw. (Ioan 5:28, 29) Bydd rhaid iddyn nhw ddysgu ystyr geiriau Iesu: “Fi ydy bara’r bywyd. Ni fydd y sawl sy’n dod ata i byth yn teimlo’n llwglyd.” Bydd rhaid iddyn nhw ddatblygu ffydd yn y ffaith bod Iesu wedi aberthu ei fywyd drostyn nhw. Bryd hynny, bydd rhaid i’r rhai sy’n cael eu hatgyfodi, ac unrhyw blant sy’n cael eu geni, ddysgu’r gwir am Jehofa a’i bwrpas. Bydd yn bleser pur i ddysgu’r pethau hyn iddyn nhw! Bydd helpu eraill i feithrin perthynas agos â Jehofa yn fwy pleserus na’r holl fwyd byddwn ni’n ei fwynhau yn y byd newydd.
16. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl nesaf?
16 Rydyn ni wedi ystyried rhan o hanes Ioan pennod 6, ond roedd gan Iesu lawer mwy i ddweud am “fywyd tragwyddol.” Roedd angen i’r Iddewon dalu sylw i’w eiriau ac mae angen inni wneud yr un peth heddiw. Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n edrych yn fwy ar Ioan pennod 6.
CÂN 20 Rhoist Dy Ffyddlon Fab
a Am fwy o wybodaeth am yr hanes diddorol hwn, gweler Jesus—The Way, the Truth, the Life, t. 131, ac Imitate Their Faith, t. 185.