Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Dydw i Erioed Wedi Stopio Dysgu

Dydw i Erioed Wedi Stopio Dysgu

RWY’N ddiolchgar i Jehofa am y fraint o gael fy nysgu ganddo, yr Addysgwr Mawr. (Esei. 30:20) Mae’n dysgu ei addolwyr drwy ei Air, y Beibl, ei greadigaeth ryfeddol, a’i gyfundrefn. Mae ef hefyd yn defnyddio ein cyd-ddyn—ein brodyr a’n chwiorydd ysbrydol—i’n helpu ni. Er fy mod i bron yn gan mlwydd oed, rydw i’n parhau i elwa ar gyfarwyddyd Jehofa yn yr holl ffyrdd hynny. Gad imi esbonio sut.

Gyda fy nheulu ym 1948

Ces i fy ngeni ym 1927 mewn tref fechan ger Chicago, Illinois, UDA. Roedd gan Dad a Mam bump o blant—Jetha, Don, fi, Karl, a Joy. Roedden ni i gyd yn benderfynol o wasanaethu Jehofa gyda’n holl enaid. Aeth Jetha i ail ddosbarth Gilead ym 1943. Aeth Don, Karl, a Joy i’r Bethel yn Brooklyn, Efrog Newydd, ym 1944, 1947, a 1951. Cafodd eu hesiamplau gwych yn ogystal ag esiampl fy rhieni argraff fawr arna i.

EIN TEULU YN DYSGU’R GWIR

Roedd Dad a Mam yn ddarllenwyr o’r Beibl a oedd yn caru Duw ac yn meithrin y cariad hwnnw ynon ni, eu plant. Fodd bynnag, gwnaeth Dad golli ei barch at yr eglwysi ar ôl gwasanaethu fel milwr yn Ewrop yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Mam yn ddiolchgar iawn ei fod wedi dod yn ôl adref yn fyw, a dywedodd hi wrtho: “Karl, gad inni fynd i’r eglwys fel roedden ni’n arfer gwneud.” Atebodd Dad: “Wna i eich cerdded chi yna, ond sai’n mynd i mewn.” Gofynnodd hi: “Pam ddim?” Fe atebodd: “Yn ystod y rhyfel, gwnaeth clerigwyr o’r un grefydd ar y ddwy ochr o’r rhyfel fendithio’r milwyr a’u harfau! A oedd Duw ar y ddwy ochr?”

Yn ddiweddarach, tra bod Mam yn yr eglwys, galwodd dau o Dystion Jehofa ar ein tŷ ni. Cynigion nhw Light, i Dad, sef dwy gyfrol gymorth ar gyfer astudio’r Beibl a oedd yn trafod llyfr Datguddiad. Roedd gan Dad ddiddordeb ac fe dderbyniodd eu cynnig. Unwaith i Mam weld y llyfrau, fe ddechreuodd hi eu darllen. Yna un diwrnod, gwelodd hi hysbysfwrdd yn y papur newydd lleol yn gwahodd rhai â diddordeb i astudiaeth Feiblaidd gyda chymorth y llyfrau Light. Penderfynodd Mam fynd. Ar ôl iddi gyrraedd, atebodd menyw hŷn y drws. Wrth ddal un o’r llyfrau lan, gofynnodd Mam, “Ydych chi’n astudio hwn yma?” Yr ateb? “Ydyn cariad, dere mewn.” Yr wythnos wedyn cymerodd Mam ni’r plant gyda hi, ac ar ôl hynny fe aethon ni yn rheolaidd.

Mewn un cyfarfod, gofynnodd yr arweinydd imi ddarllen Salm 144:​15, sy’n dweud bod y rhai sy’n addoli Jehofa yn hapus. Cafodd y testun hwnnw argraff arna i, yn ogystal â dwy adnod arall—1 Timotheus 1:​11, sy’n dweud mai Jehofa yw’r “Duw hapus,” ac Effesiaid 5:​1, sy’n ein hannog ni i fod “yn efelychwyr Duw.” Fe ddes i i’r casgliad y dylwn i fwynhau’r hyn y gallwn i ei wneud ar gyfer fy Nghreawdwr, a diolch iddo am y fraint o’i wasanaethu. Mae’r ddau beth yma wedi bod yn ganolog yn fy mywyd.

Roedd y gynulleidfa agosaf yn 20 milltir (32 km) i ffwrdd yn Chicago. Serch hynny, fe aethon ni, a gwnaeth fy nealltwriaeth o’r Beibl dyfu. Rydw i’n cofio ar un achlysur yr arweinydd yn galw ar Jetha i roi ateb. Wrth wrando arni hi, meddyliais: ‘Roeddwn i’n gwybod hynny. Gallwn i fod wedi rhoi fy llaw lan i ateb.’ Dechreuais baratoi a gwneud atebion fy hun. Yn bwysicach byth, gwnes i dyfu’n ysbrydol gyda fy mrodyr a’m chwiorydd. Ces i fy medyddio ym 1941.

DYSGU GAN JEHOFA YN Y CYNADLEDDAU

Rydw i’n cofio’n arbennig y gynhadledd ym 1942 yn Cleveland, Ohio. Gwnaethon ni aros mewn pebyll gyda llawer o deuluoedd eraill, yn agos i safle’r gynhadledd. Roedd brodyr a chwiorydd mewn dros 50 lleoliad arall yn yr UDA yn gwrando dros y ffôn. Ar y pryd, roedd yr Ail Ryfel Byd yn cael ei frwydro’n ffyrnig, ac roedd gwrthwynebiad tuag at Dystion Jehofa yn cynyddu. Gyda’r nos, gwelais grwpiau o frodyr yn parcio eu ceir gyda’u goleuadau yn wynebu i’r tu allan o’r gwersyll. Roedd pawb wedi cytuno i rywun fod ym mhob car drwy’r nos. Os oedd ’na unrhyw drafferth, byddai’r brodyr yn troi goleuadau’r ceir ymlaen i ddallu’r ymosodwyr, ac yn swnio’r cyrn. Wedyn, byddai eraill yn rhedeg draw i’w helpu. Gwnes i feddwl, ‘Mae pobl Jehofa wedi eu paratoi am bopeth!’ O wybod hyn, cysgais yn sownd, ac ni chawson ni unrhyw drafferth.

Flynyddoedd wedyn, wrth feddwl am y gynhadledd honno, fe wnes i sylweddoli nad oedd fy mam yn dangos unrhyw arwydd o bryder nac ofn. Roedd hi’n ymddiried yn llwyr yn Jehofa a’i gyfundrefn. Ni fydda i byth yn anghofio ei hesiampl wych.

Ychydig cyn y gynhadledd honno, daeth Mam yn arloeswraig llawn amser. Felly, cymerodd hi sylw arbennig o’r anerchiadau a oedd yn trafod gwasanaeth llawn amser. Ar y ffordd adref, dywedodd hi: “Hoffwn i barhau i arloesi, ond dydw i ddim yn gallu gwneud hynny a gofalu’n dda am ein cartref.” Yna, gofynnodd hi os oedden ni’n fodlon helpu. Dywedon ni y bydden ni, felly gwnaeth hi roi ystafell neu ddwy i bob un ohonon ni i’w glanhau cyn brecwast. Ar ôl inni fynd i’r ysgol, roedd hi’n gwneud yn siŵr bod y tŷ mewn cyflwr da, ac yna’n mynd allan ar y weinidogaeth. Roedd hi’n fenyw brysur, ond wnaeth hi erioed anghofio am ei phlant. Pan oedden ni’n dod adref am ginio ac ar ôl ysgol, roedd hi yna inni bob amser. Rai dyddiau, ar ôl ysgol, aethon ni gyda hi ar y weinidogaeth, a gwnaeth hyn ein helpu ni i ddeall beth roedd bod yn arloeswr yn ei olygu.

DECHRAU GWASANAETH LLAWN AMSER

Dechreuais arloesi yn 16 mlwydd oed. Er nad oedd Dad wedi dod yn Dyst eto, roedd ganddo ddiddordeb yn y ffordd roeddwn i’n gwneud fy ngweinidogaeth. Un noson dywedais i wrtho ef, er fy mod i’n trio’n galed, doeddwn i ddim yn dod o hyd i unrhyw un a oedd eisiau astudiaeth Feiblaidd. Ar ôl saib, fe wnes i ofyn, “A fyddet ti’n fodlon astudio gyda mi?” Meddyliodd am eiliad, ac atebodd: “Dydw i ddim yn gallu meddwl am reswm pam ddim.” Ie, fy myfyriwr cyntaf oedd fy nhad—dyna fraint!

Gwnaethon ni astudio’r llyfr “The Truth Shall Make You Free.” Wrth i’r astudiaeth fynd ymlaen, sylweddolais fod Dad yn fy helpu i i fod yn fyfyriwr ac yn athro gwell. Er enghraifft, un noson ar ôl inni ddarllen paragraff, dywedodd: “Rydw i’n gweld beth mae’r llyfr yn ei ddweud, ond sut rwyt ti’n gwybod bod y llyfr yn gywir?” Doeddwn i ddim yn barod am hynny, felly dywedais i: “Alla i ddim profi hyn iti nawr, ond erbyn ein hastudiaeth nesaf, dylwn i fod wedi cael yr ateb.” Ac fe wnes i. Fe ddes i o hyd i adnodau a oedd yn cefnogi’r pwynt o dan drafodaeth. Ar ôl hynny, roeddwn i’n paratoi’n well ar gyfer ein hastudiaeth, gan ddysgu i wneud ymchwil. Gwnaeth hyn fy helpu innau i dyfu’n ysbrydol a hefyd fy nhad. Rhoddodd ar waith yr hyn roedd ef wedi ei ddysgu ac fe gafodd ei fedyddio ym 1952.

GWNES I BARHAU I DDYSGU WRTH OSOD AMCANION

Fe wnes i adael gartref pan oeddwn i’n 17. Daeth Jetha a yn genhades, a dechreuodd Don weithio yn y Bethel. Roedden nhw wrth eu boddhau â’u haseiniadau, ac fe wnaeth hynny fy nghalonogi’n fawr. Felly llenwais gais ar gyfer gwasanaethu yn y Bethel a hefyd cais i fynd i Ysgol Gilead, a gadael y mater yn nwylo Jehofa. Y canlyniad? Ces i wahoddiad i’r Bethel ym 1946.

Dros y blynyddoedd, rydw i wedi cael llawer o aseiniadau gwahanol yn y Bethel. Felly, ces i’r cyfle i ddysgu llawer o bethau newydd. Yn wir, yn fy 75 mlynedd yn y Bethel, gwnes i ddysgu sut i helpu i wneud llyfrau a sut i gadw cyfrifon. Dysgais hefyd sut i brynu nwyddau ar gyfer y Bethel a sut i anfon nwyddau i wledydd eraill. Ond yn fwy na dim, rwy’n mwynhau’r addysg ysbrydol mae’r Bethel yn ei darparu’n rheolaidd drwy addoliad y bore ac anerchiadau eraill.

Dysgu dosbarth o henuriaid

Fe wnes i ddysgu hefyd o fy mrawd iau, Karl, a ddaeth i’r Bethel ym 1947. Roedd yn fyfyriwr ac yn athro rhagorol o’r Beibl. Gwnes i ofyn am ei help unwaith gydag anerchiad. Fe wnes i esbonio i Karl fy mod i wedi casglu llawer o ddeunydd, ond roeddwn i’n cael trafferth gwybod sut i’w ddefnyddio. Gwnaeth ef fy arwain i at yr ateb gydag un cwestiwn: “Joel, beth yw thema’r anerchiad?” Fe ges i’r pwynt yn glou—dim ond defnyddio’r deunydd sy’n berthnasol i’r thema, ac yna cael gwared ar y gweddill. Wnes i erioed anghofio’r wers honno.

I fod yn hapus yn y Bethel, mae’n rhaid inni wneud ein gorau yn y weinidogaeth, a gall hynny arwain at brofiadau calonogol. Rydw i’n cofio un achlysur a ddechreuodd yn gynnar un noson yn y Bronx, Efrog Newydd. Galwodd brawd a minnau ar fenyw a oedd wedi derbyn Y Tŵr Gwylio a’r Deffrwch! o’r blaen. Aethon ni i gyflwyno ein hunain, gan ddweud: “Heno, rydyn ni’n helpu pobl i ddysgu pethau calonogol o’r Beibl.” Atebodd hi, “Os hoffech chi drafod y Beibl, dewch i mewn.” Darllenon ni a thrafod sawl ysgrythur am Deyrnas Dduw a’r byd newydd sydd i ddod. Roedd yn amlwg bod hyn wedi cael argraff arni, oherwydd estynodd hi wahoddiad i rai o’i ffrindiau i ymuno â ni yr wythnos wedyn. Yn nes ymlaen, daeth hi a’i gŵr yn weision ffyddlon i Jehofa.

DYSGU GAN FY NGWRAIG

Roeddwn i wedi bod yn chwilio am gymar am ryw 10 mlynedd cyn imi gwrdd â fy ngwraig. Beth helpodd fi i ddod o hyd i wraig addas? Fe wnes i weddïo ar Jehofa a meddwl am y cwestiwn: ‘Beth ydw i eisiau ei wneud ar ôl priodi?’

Gyda Mary yn y gwaith cylch

Yn dilyn y gynhadledd ym 1953 yn Yankee Stadium, fe wnes i gwrdd â chwaer o’r enw Mary Aniol. Roedd hi a Jetha wedi bod yn ail ddosbarth Gilead, ac yna roedd Mary yn bartner cenhadol i’m chwaer. Yn llawn brwdfrydedd, dywedodd Mary wrtho i am ei haseiniadau cenhadol yn y Caribî a’r astudiaethau Beiblaidd roedd hi wedi eu cynnal dros y blynyddoedd. Wrth inni ddod i adnabod ein gilydd, sylweddolon ni ein bod ni wedi gosod yr un amcanion ysbrydol. Tyfodd ein cariad tuag at ein gilydd, ac fe wnaethon ni briodi ym mis Ebrill, 1955. Mewn sawl ffordd, profodd Mair i fod yn anrheg oddi wrth Jehofa ac yn esiampl i’w hefelychu. Roedd hi’n hapus ym mha bynnag aseiniad a gafodd hi. Roedd hi’n gweithio’n galed, yn gofalu’n ddiffuant am eraill, ac yn rhoi Teyrnas Dduw yn gyntaf yn ei bywyd. (Math. 6:33) Gwasanaethon ni yn y gwaith cylch am dair blynedd, ac ym 1958, cawson ni wahoddiad i’r Bethel fel cwpl.

Dysgais lawer gan Mary. Er enghraifft, yn gynnar yn ein priodas, fe benderfynon ni wneud ein darlleniad o’r Beibl gyda’n gilydd, gan ddarllen tua 15 adnod ar y tro. Ar ôl i un ohonon ni ddarllen am ychydig, bydden ni’n rhoi sylwadau ar yr ysgrythurau a thrafod sut i’w rhoi nhw ar waith yn ein bywydau. Byddai Mary yn aml yn dweud wrtho i beth roedd hi wedi ei ddysgu o Gilead, neu o’i gwasanaeth cenhadol. Gwnaeth yr hyn a ddysgais o’r sgyrsiau hyn fy helpu i wella fy anerchiadau ac i wybod sut i roi anogaeth i chwiorydd.—Diar. 25:11.

Bu farw fy annwyl Mary yn 2013. Rwy’n dyheu gymaint am ei gweld hi yn y byd newydd! Yn y cyfamser, rwy’n benderfynol o barhau i ddysgu ac i ymddiried yn Jehofa â fy holl galon. (Diar. 3:​5, 6) Rwy’n cael cysur a llawenydd wrth feddwl am yr hyn bydd pobl Jehofa’n ei wneud yn y byd newydd. Bydd hynny’n sicr yn cynnwys dysgu pethau newydd gan, ac am ein Haddysgwr Mawr! Yn wir, fedra i ddim diolch digon iddo am bopeth mae ef wedi ei ddysgu imi hyd yn hyn ac am ddangos ei gariad rhyfeddol mewn llawer ffordd.

a Gweler hanes bywyd Jetha Sunal yn rhifyn Mawrth 1, 2003, o’r Tŵr Gwylio Saesneg, tt. 23-29.