Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 49

CÂN 147 Yr Addewid o Fywyd Tragwyddol

Gelli Di Fyw am Byth—Ond Sut?

Gelli Di Fyw am Byth—Ond Sut?

[Bydd] pob un sy’n cydnabod y Mab ac sy’n ymarfer ffydd ynddo [yn cael] bywyd tragwyddol.”IOAN 6:40.

PWRPAS

Sut mae’r eneiniog a’r defaid eraill yn elwa o aberth Iesu Grist.

1. Sut efallai bydd rhai yn teimlo am fyw am byth?

 MAE llawer o bobl yn ofalus am beth maen nhw’n ei fwyta ac yn gwneud ymarfer corff yn aml er mwyn cadw’n iach. Ond, dydyn nhw ddim yn disgwyl byw am byth ac efallai eu bod nhw’n meddwl bod hynny’n amhosib. Er hynny, yn Ioan 3:16 a 5:24, siaradodd Iesu mewn ffordd bositif am ‘fywyd tragwyddol.’

2. Beth mae Ioan pennod 6 yn ei ddweud am fywyd tragwyddol? (Ioan 6:​39, 40)

2 Un diwrnod, defnyddiodd Iesu fara a physgod i fwydo miloedd o bobl yn wyrthiol. a Roedd y wyrth hon yn anhygoel, ond roedd geiriau Iesu y diwrnod nesaf yn fwy anhygoel byth. Roedd y dyrfa wedi ei ddilyn i Gapernaum, ac wedyn dywedodd Iesu wrthyn nhw y gall pobl gael eu hatgyfodi a mwynhau bywyd tragwyddol. (Darllen Ioan 6:​39, 40.) Meddylia am beth mae hynny’n ei olygu i dy anwyliaid sydd wedi marw. Mae geiriau Iesu yn cadarnhau y bydd llawer sydd wedi marw yn gallu cael eu hatgyfodi, a gelli di a dy deulu fwynhau byw am byth. Ond, mae llawer wedi cael trafferth yn deall geiriau Iesu yn Ioan pennod 6. Gad inni eu hystyried nhw’n fwy dwfn.

3. Yn ôl Ioan 6:​51, beth gwnaeth Iesu ei ddatgelu amdano’i hun?

3 Gwelodd y dyrfa yng Nghapernaum gysylltiad rhwng y bara roedd Iesu wedi ei roi iddyn nhw a’r manna roedd Jehofa wedi ei roi i’w hynafiaid. Yn wir, mae’r Ysgrythurau yn galw’r manna hwnnw yn fara o’r nef. (Salm 105:40; Ioan 6:31) Defnyddiodd Iesu esiampl y manna i helpu’r dyrfa i ddeall rhywbeth pwysig iawn. Doedd y manna ddim yn gallu rhoi bywyd tragwyddol i’r rhai a wnaeth ei fwyta er ei fod yn wyrth oddi wrth Dduw. (Ioan 6:49) Ond dywedodd Iesu mai ef oedd y “gwir fara . . . o’r nef.” Hefyd, fe alwodd ei hun yn ‘fara Duw’ a “bara’r bywyd.” (Ioan 6:​32, 33, 35) Disgrifiodd Iesu y prif wahaniaeth rhyngddo ef a’r manna. Dywedodd: “Fi ydy’r bara bywiol a ddaeth i lawr o’r nef. Petai rhywun yn bwyta o’r bara yma fe fydd yn byw am byth.” (Darllen Ioan 6:51.) Ond doedd yr Iddewon hynny ddim yn deall. Sut roedd Iesu yn gallu dweud ei fod wedi dod i lawr o’r nefoedd fel “bara” a oedd yn well na’r manna gwyrthiol roedd Duw wedi ei roi i’w cyndadau? Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Y bara bydda i’n ei roi ydy fy nghnawd.” Beth oedd hynny’n ei olygu? Mae’n bwysig inni ystyried yr ateb oherwydd mae’n dangos bod bywyd tragwyddol yn bosib inni a’n hanwyliaid.

Y BARA BYWIOL A’I GNAWD

4. Pam roedd rhai mewn sioc ar ôl clywed geiriau Iesu?

4 Roedd rhai mewn sioc wrth glywed Iesu’n dweud am roi ei ‘gnawd er mwyn i’r byd gael byw.’ A oedden nhw’n meddwl efallai byddai ef yn rhoi iddyn nhw ei gnawd llythrennol i fwyta mewn rhyw fath o ganibaliaeth? (Ioan 6:52) Sylwch ar fanylyn annisgwyl ychwanegodd Iesu: “Oni bai eich bod chi’n bwyta cnawd Mab y dyn ac yn yfed ei waed, does gynnoch chi ddim bywyd ynoch chi.”—Ioan 6:53.

5. Pam gallwn ni fod yn siŵr nad oedd Iesu’n gofyn i’r bobl yfed ei waed llythrennol?

5 Yn nyddiau Noa, roedd Duw wedi gwahardd pobl rhag bwyta gwaed. (Gen. 9:​3, 4) Gwnaeth Jehofa ailadrodd y gorchymyn hwn yn y Gyfraith a roddodd i Israel. Roedd unrhyw un a oedd yn bwyta gwaed i’w gael ei “dorri allan,” neu ei roi i farwolaeth. (Lef. 7:27) Roedd Iesu’n cynnal y Gyfraith honno. (Math. 5:​17-19) Felly, ni fyddai Iesu byth yn gofyn i dyrfa o Iddewon fwyta ei gnawd a’i waed llythrennol. Yn hytrach, gyda’r geiriau diddorol hyn, roedd Iesu yn dysgu’r bobl sut i gael “bywyd tragwyddol.”—Ioan 6:54.

6. Sut dylen ni ddeall geiriau Iesu am fwyta ei gnawd ac yfed ei waed?

6 Beth oedd Iesu’n ei bwysleisio? Mae’n glir bod Iesu’n siarad mewn ffordd ffigurol, fel y gwnaeth pan ddywedodd wrth ddynes o Samaria: “Bydd pwy bynnag sy’n yfed o’r dŵr rydw i’n ei roi iddo byth yn mynd yn sychedig o gwbl, ond bydd y dŵr rydw i’n ei roi iddo fel ffynnon o ddŵr sy’n byrlymu i roi bywyd tragwyddol.” (Ioan 4:​7, 14) b A oedd Iesu’n awgrymu byddai’r ddynes o Samaria yn byw am byth petai hi’n yfed dŵr penodol? Nag oedd. Yn yr un ffordd, doedd ef ddim yn awgrymu byddai’r dyrfa yng Nghapernaum yn cael bywyd tragwyddol petasen nhw’n bwyta ei gnawd ac yn yfed ei waed llythrennol.

DAU ACHLYSUR GWAHANOL

7. Beth mae rhai yn ei ddweud am eiriau Iesu yn Ioan 6:53?

7 Mae geiriau Iesu yn Ioan 6:53 yn debyg i’w eiriau pan sefydlodd Swper yr Arglwydd. (Math. 26:​26-28) Oherwydd hyn, mae rhai pobl grefyddol yn dweud ei fod wedi gosod patrwm i’w ddilyn ac y dylai pawb sy’n mynychu Swper yr Arglwydd fwyta’r bara ac yfed y gwin sy’n cael eu pasio o gwmpas. A ydyn nhw’n gywir? Mae’n bwysig inni ddod o hyd i’r ateb oherwydd bod miliynau o bobl ledled y byd yn ymuno â ni bob blwyddyn ar gyfer y digwyddiad hwnnw. Byddwn ni’n ystyried nifer o wahaniaethau rhwng y geiriau yn Ioan 6:53 a beth ddywedodd Iesu yn ystod Swper yr Arglwydd.

8. Pa wahaniaethau sydd ’na rhwng y ddau achlysur? (Gweler hefyd y lluniau.)

8 Gad inni ystyried dau wahaniaeth rhwng yr achlysuron hyn. Yn gyntaf, ble a phryd cafodd y geiriau yn Ioan 6:​53-56 eu dweud gan Iesu? Fe ddywedodd y pethau hyn wrth dyrfa o Iddewon yng Ngalilea yn 32 OG. Digwyddodd hyn tua blwyddyn cyn iddo sefydlu Swper yr Arglwydd yn Jerwsalem. Yn ail, at bwy roedd ef yn siarad? Roedd y rhan fwyaf o’i wrandawyr yng Ngalilea ond yn poeni am foddhau eu hanghenion corfforol dros dro yn lle eu hanghenion ysbrydol. (Ioan 6:26) Yn wir, pan ddywedodd Iesu rywbeth a oedd yn anodd iddyn nhw ei ddeall, gwnaethon nhw golli eu ffydd ynddo yn gyflym. Gwnaeth hyd yn oed rhai o’i ddisgyblion stopio ei ddilyn. (Ioan 6:​14, 36, 42, 60, 64, 66) Roedd y digwyddiad hwn yn hollol wahanol i beth ddigwyddodd tua blwyddyn wedyn pan sefydlodd Iesu Swper yr Arglwydd yn 33 OG. Ar yr achlysur hwnnw, roedd ei 11 apostol ffyddlon wrth ei ochr er nad oedden nhw’n deall popeth roedd yn ei ddysgu iddyn nhw. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r bobl yng Ngalilea, roedd yr apostolion ffyddlon yn gwybod yn gadarn mai Iesu oedd Mab Duw a ddaeth i lawr o’r nef. (Math. 16:16) Rhoddodd ef y ganmoliaeth hon iddyn nhw: “Chi ydy’r rhai sydd wedi glynu wrtho i drwy gydol fy nhreialon.” (Luc 22:28) Mae’r ddau wahaniaeth hyn yn tanseilio’r syniad bod geiriau Iesu yn Ioan 6:53 yn gosod y patrwm ar gyfer Swper yr Arglwydd. Ond mae ’na fwy o wahaniaethau gallwn ni eu hystyried.

Mae Ioan 6 yn datgelu geiriau Iesu wrth iddo siarad â thyrfa o Iddewon yng Ngalilea (y chwith). Blwyddyn wedyn fe siaradodd â grŵp bach o’i apostolion ffyddlon yn Jerwsalem (y dde) (Gweler paragraff 8)


BETH MAE GEIRIAU IESU YN EI OLYGU I TI?

9. Yn ystod Swper yr Arglwydd, at bwy roedd geiriau Iesu yn cyfeirio?

9 Yn ystod Swper yr Arglwydd, rhoddodd Iesu fara croyw i’w apostolion gan ddweud wrthyn nhw ei fod yn cynrychioli ei gorff. Wedyn fe roddodd win iddyn nhw, gan ddweud ei fod yn golygu “gwaed y cyfamod.” (Marc 14:​22-25; Luc 22:20; 1 Cor. 11:24) Mae ei eiriau yn bwysig iawn. Dywedodd fod y “cyfamod newydd” hwn rhwng Jehofa a “thŷ Israel.” Dydy hynny ddim yn cynnwys pobl yn gyffredinol ond y rhai a fydd yn rheoli gyda Iesu “yn Nheyrnas Dduw.” (Heb. 8:​6, 10; 9:15) Er nad oedd yr apostolion yn deall ar y pryd, yn fuan bydden nhw’n cael eu heneinio â’r ysbryd glân i fod yn rhan o’r cyfamod newydd ac ymuno â Iesu yn y nef.—Ioan 14:​2, 3.

10. Pa wahaniaeth arall sydd ’na rhwng geiriau Iesu yn ystod Swper yr Arglwydd a’i eiriau yng Ngalilea? (Gweler hefyd y llun.)

10 Yn ystod Swper yr Arglwydd, fe wnaeth Iesu ffocysu ar y “praidd bychan.” Ei apostolion ffyddlon a oedd gydag ef oedd y rhai cyntaf i fod yn rhan o’r grŵp bach hwnnw. (Luc 12:32) Byddai angen iddyn nhw ac unrhyw un a fyddai’n dod yn rhan o’r grŵp hwnnw yn nes ymlaen fwyta’r bara ac yfed y gwin. Bydd y rhai hyn yn ymuno â Iesu yn y nef. Felly dyma wahaniaeth arall rhwng Swper yr Arglwydd a’r digwyddiad yn gynharach yng Ngalilea. Roedd geiriau Iesu yn ystod Swper yr Arglwydd ond yn berthnasol i grŵp bach o bobl, ond roedd ei eiriau yng Ngalilea yn berthnasol i nifer fawr o bobl.

Mae’r rhai sy’n bwyta’r bara ac yn yfed y gwin yn rhan o grŵp bach, ond gall unrhyw un ymarfer ffydd yn Iesu a chael bywyd tragwyddol (Gweler paragraff 10)


11. Sut mae geiriau Iesu yn dangos nad oedd ef yn cyfeirio at nifer fach o bobl?

11 Pan oedd Iesu’n siarad â’r bobl yng Ngalilea yn 32 OG, roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw ond eisiau bara ganddo. Ond, fe wnaeth dynnu eu sylw at rywbeth a fyddai’n llawer gwell iddyn nhw na bwyd llythrennol—rhywbeth a all rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw. Dywedodd Iesu gall y rhai oedd wedi marw gael eu hatgyfodi ar y dydd olaf a byw am byth. Yn wahanol i Swper yr Arglwydd, doedd ef ddim yn cyfeirio at rywbeth y bydd dim ond nifer fach o bobl yn gallu ei gael. Yn lle hynny, yng Ngalilea fe wnaeth ffocysu ar fendith a fydd ar gael i bawb. Mewn gwirionedd, fe ddywedodd: “Petai rhywun yn bwyta o’r bara yma fe fydd yn byw am byth . . . Y bara bydda i’n ei roi ydy fy nghnawd, er mwyn i’r byd gael byw.”—Ioan 6:51. c

12. Beth sydd angen ei wneud er mwyn cael bywyd tragwyddol?

12 A oedd geiriau Iesu yn golygu bydd y fendith hon yn dod i bob person a oedd erioed wedi byw? Nag oedd. Bydd dim ond y rhai sy’n “bwyta o’r bara yma,” neu’r rhai sy’n ymarfer ffydd yn Iesu, yn elwa. Mae llawer o bobl heddiw yn teimlo bod credu mewn Iesu yn ddigon i gael eu hachub. (Ioan 6:29) Ond, gwnaeth rhai yn y dyrfa a oedd wedi credu yn Iesu ar y dechrau yna gefnu arno. Pam?

13. Beth sydd angen ei wneud er mwyn bod yn wir ddisgybl i Iesu?

13 Roedd y rhan fwyaf o’r dyrfa roedd Iesu wedi eu bwydo yn hapus i’w ddilyn tra oedden nhw’n cael beth roedden nhw eisiau. Roedden nhw eisiau iddo ef eu hiacháu nhw, rhoi bwyd iddyn nhw, a ticlo eu clustiau. Ond, dangosodd Iesu y byddai’n rhaid i’w wir ddisgyblion wneud mwy ’na hynny. Ni ddaeth Iesu i’r ddaear i foddhau eu hanghenion corfforol yn unig. Yn hytrach, fe ddaeth i ddysgu iddyn nhw beth roedd rhaid iddyn nhw ei wneud er mwyn dod yn wir ddilynwyr iddo.—Ioan 5:40; 6:44.

14. Beth sydd angen inni ei wneud er mwyn elwa o gnawd a gwaed Iesu?

14 Dysgodd Iesu i’r dyrfa byddai ef yn aberthu ei gnawd a’i waed er mwyn ei gwneud hi’n bosib iddyn nhw fyw am byth. Ond roedd rhaid iddyn nhw ymarfer ffydd yn y gwirionedd hwnnw. Roedd ffydd o’r fath yn angenrheidiol i’r Iddewon hynny, ac mae’n dal yn angenrheidiol inni heddiw. (Ioan 6:40) Felly mae geiriau Iesu yn Ioan 6:53 yn golygu bod rhaid inni ddangos ffydd yn ei aberth er mwyn derbyn bywyd tragwyddol. Mae’r fendith hon ar gael i nifer fawr o bobl.—Eff. 1:7.

15-16. Pa bethau pwysig mae Ioan pennod 6 wedi eu dysgu inni?

15 Mae Ioan pennod 6 yn werthfawr iawn inni a’n hanwyliaid. Mae’n dangos yn glir gariad Iesu tuag at bobl. Tra oedd ef yng Ngalilea fe wnaeth iacháu’r sâl, dysgu pobl am y Deyrnas, a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw fwyd. (Luc 9:11; Ioan 6:​2, 11, 12) Yn bwysicaf oll, dysgodd Iesu mai ef “ydy bara’r bywyd.”—Ioan 6:​35, 48.

16 Ni ddylai’r rhai y gwnaeth Iesu gyfeirio atyn nhw fel y ‘defaid eraill’ fwyta’r bara nac yfed y gwin yn ystod Swper yr Arglwydd. (Ioan 10:16) Er hynny, maen nhw’n dal yn gallu mwynhau’r bendithion sy’n dod o’i gnawd a’i waed drwy ymarfer ffydd yn ei aberth a’r pethau rhyfeddol mae ei aberth wedi gwneud yn bosib. (Ioan 6:53) Yn wahanol i hynny, mae’r rhai sy’n bwyta’r bara ac yn yfed y gwin yn dangos eu bod nhw’n rhan o’r cyfamod newydd ac yn cael y gobaith o reoli yn y Deyrnas nefol. Felly, mae Ioan pennod 6 yn dysgu gwersi pwysig inni ni waeth os ydyn ni’n un o’r eneiniog neu’n un o’r defaid eraill. Mae’n dysgu inni y pwysigrwydd o ymarfer ffydd yn aberth Iesu er mwyn derbyn bywyd tragwyddol.

CÂN 150 Trowch at Dduw am Waredigaeth

a Mae Ioan 6:​5-35 yn cael ei drafod yn yr erthygl flaenorol.

b Mae’r dŵr hwn yn cynrychioli darpariaethau Jehofa ar gyfer bywyd tragwyddol.

c Mae Ioan pennod 6 yn defnyddio geiriau fel “pob un,” “pwy bynnag,” ac “y sawl” i gyfeirio at y rhai a all fyw am byth.—Ioan 6:​35, 40, 47, 54, 56-58.