Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 51

CÂN 3 Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder

Mae Dy Ddagrau yn Werthfawr i Jehofa

Mae Dy Ddagrau yn Werthfawr i Jehofa

“Ti’n casglu fy nagrau mewn costrel. Mae’r cwbl wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr.”SALM 56:8.

PWRPAS

Sut mae Jehofa’n deall yn llwyr ein teimladau poenus ac yn rhoi’r cysur sydd ei angen arnon ni.

1-2. Pa sefyllfaoedd a all wneud inni grio?

 RYDYN ni i gyd yn crio ar adegau. Mewn sefyllfaoedd sy’n ein gwneud ni’n hapus iawn, efallai byddwn ni’n crio dagrau o lawenydd. Efallai gwnest ti grio wrth i rywbeth pwysig neu arbennig ddigwydd iti—er enghraifft, pan gafodd dy blentyn ei eni, pan wyt ti’n meddwl am atgofion melys, neu pan oeddet ti’n cyfarfod hen ffrind ar ôl amser maith.

2 Ond yn aml, mae ein dagrau yn dangos y boen sydd y tu mewn i’n calonnau. Er enghraifft, efallai byddwn ni’n crio pan fydd rhywun wedi ein siomi ni. Gall y boen ofnadwy sy’n dod o salwch hirdymor, neu wrth alaru dros anwylyn sydd wedi marw, hefyd wneud inni grio. Ar adegau o’r fath, efallai byddwn ni’n teimlo’r un ffordd â’r proffwyd Jeremeia pan gafodd Jerwsalem ei dinistrio gan y Babiloniaid. Dywedodd Jeremeia: “Mae afonydd o ddagrau yn llifo o’m llygaid . . . Mae’r dagrau’n llifo yn ddi-baid; wnân nhw ddim stopio.”—Galar. 3:​48, 49.

3. Sut mae Jehofa’n teimlo wrth weld ei weision yn dioddef? (Eseia 63:9)

3 Mae Jehofa wedi cymryd sylw o bob deigryn rydyn ni wedi ei golli yn ystod adegau poenus. Mae’r Beibl yn ein helpu ni i weld ei fod yn ymwybodol o ddioddefaint ei weision ac yn gwrando arnon ni wrth inni erfyn arno ef. (Salm 34:15) Ond mae Jehofa’n gwneud mwy na hynny. Fel rhiant cariadus, mae’n teimlo’n drist iawn pan fydd yn ein gweld ni’n crio, ac mae’n awyddus i’n helpu ni.—Darllen Eseia 63:9.

4. Pa esiamplau Beiblaidd y byddwn ni’n eu hystyried, a beth byddwn ni’n ei ddysgu am Jehofa?

4 Mae Jehofa’n dweud wrthon ni yn ei Air am sut roedd ef yn teimlo wrth weld ei weision yn crio, a sut gwnaeth ef eu helpu nhw. Gallwn ni weld hyn drwy ystyried esiamplau Hanna, Dafydd, a’r Brenin Heseceia. Beth wnaeth achosi iddyn nhw grio? Beth oedd ymateb Jehofa i’w herfyniadau am help? A sut gall eu hesiamplau ein cysuro ni pan fyddwn ni’n teimlo’n drist, pan fydd rhywun wedi ein bradychu, neu pan fyddwn ni’n teimlo’n anobeithiol?

DAGRAU O ALAR

5. Sut roedd Hanna’n teimlo am ei sefyllfa?

5 Gwnaeth Hanna wynebu llawer o broblemau a achosodd iddi deimlo’n hynod o drist a gwneud iddi grio. Roedd gan ŵr Hanna wraig arall, a’i henw hi oedd Penina, ac roedd hi’n trin Hanna yn greulon. Ac ar ben hynny, doedd Hanna ddim yn gallu cael plant, ond roedd gan Penina sawl plentyn. (1 Sam. 1:​1, 2) Gwnaeth Penina fychanu Hanna yn ddi-baid oherwydd hyn. Sut byddet ti wedi teimlo yn yr un sefyllfa? Roedd Hanna mor drist “nes iddi wylo a pheidio â bwyta,” ac fe ddaeth hi’n “ofnadwy o chwerw” yn ei chalon.—1 Sam. 1:​6, 7, 10.

6. Sut daeth Hanna o hyd i gysur?

6 Sut cafodd Hanna ei chysuro? Un peth a wnaeth ei helpu hi oedd mynd i’r tabernacl i addoli Jehofa. Yna, efallai yn agos at fynedfa cwrt y tabernacl, “dechreuodd hi weddïo ar Jehofa a beichio crio.” Gwnaeth hi erfyn ar Jehofa: ‘Edrycha faint rydw i’n dioddef a chofia fi.’ (1 Sam. 1:10b, 11) Gwnaeth Hanna dywallt ei chalon i Jehofa mewn gweddi. Roedd Jehofa’n caru Hanna’n fawr iawn fel ei ferch annwyl, a phan welodd hi’n crio roedd eisiau ei chysuro hi.

7. Sut cafodd Hanna ei chysuro trwy dywallt ei chalon i Jehofa?

7 Ar ôl i Hanna siarad â Jehofa am sut roedd hi’n teimlo, gwnaeth yr archoffeiriad Eli ei hannog hi drwy ddweud y byddai Jehofa yn ateb ei gweddi. Sut roedd hi’n teimlo ar ôl clywed hynny? Mae’r Beibl yn dweud: “Aeth y ddynes ar ei ffordd a bwyta, ac roedd yn amlwg ar ei hwyneb nad oedd hi’n drist bellach.” (1 Sam. 1:​17, 18) Er nad oedd y sefyllfa anodd wedi newid eto, roedd Hanna’n teimlo’n llawer gwell. Roedd hi wedi taflu ei baich emosiynol ar Jehofa. Fe welodd ei phoen, gwrandawodd ar ei gweddïau, ac yn hwyrach ymlaen, fe fendithiodd hi â’r gallu i gael plant.—1 Sam. 1:​19, 20; 2:21.

8-9. Yn ôl Hebreaid 10:​24, 25, pam mae’n bwysig inni fynychu’r cyfarfodydd? (Gweler hefyd y llun.)

8 Gwersi i ni. A wyt ti’n wynebu sefyllfa anodd sy’n achosi iti grio dagrau o alar? Efallai rwyt ti’n galaru ar ôl colli aelod o’r teulu neu ffrind. Ar adegau fel hyn, mae’n ddigon naturiol iti eisiau bod ar dy ben dy hun. Ond fel y gwnaeth Hanna ddod o hyd i gysur ac anogaeth drwy fynd i’r tabernacl, gelli dithau gael cysur drwy fynd i’r cyfarfodydd—hyd yn oed os wyt ti’n teimlo’n flinedig ac yn drist. (Darllen Hebreaid 10:​24, 25.) Wrth inni wrando ar adnodau calonogol o’r Beibl yn ystod y cyfarfodydd, gall Jehofa ein helpu ni i beidio â chanolbwyntio ar ein teimladau negyddol. Gall hyn ein helpu ni i reoli ein hemosiynau hyd yn oed os nad ydy ein sefyllfa yn gwella yn syth.

9 Yn ein cyfarfodydd, rydyn ni hefyd yn mwynhau cwmni ein cyd-gredinwyr tosturiol. Maen nhw’n ein hannog ni ac yn dangos inni gymaint maen nhw’n ein caru ni, ac mae hyn yn gwneud inni deimlo’n well. (1 Thes. 5:​11, 14) Ystyria brofiad un arloeswr arbennig ar ôl iddo golli ei wraig. Fe ddywedodd: “Weithiau, dwi’n eistedd mewn cornel a dydw i ddim yn gallu stopio crio. Ond pan dwi’n mynd i’r cyfarfodydd dwi’n cael yr anogaeth sydd ei hangen arna i. Mae geiriau caredig fy mrodyr a fy chwiorydd yn wir yn fy nghysuro i. Ni waeth faint dwi’n poeni neu’n pryderu cyn cyrraedd y cyfarfod, rydw i’n wastad yn teimlo’n well yno.” Pan fyddwn ni’n mynd i’r cyfarfodydd, gall Jehofa ddefnyddio ein brodyr a’n chwiorydd i’n helpu ni.

Gallwn gael ein cysuro gan ein cyd-gredinwyr (Gweler paragraffau 8-9)


10. Sut gallwn ni ddilyn esiampl Hanna pan fyddwn ni’n teimlo’n drist ofnadwy?

10 Ffordd arall daeth Hanna o hyd i gysur oedd drwy dywallt ei chalon i Jehofa mewn gweddi. Gelli dithau hefyd ‘fwrw dy holl bryder ar Jehofa’ gyda hyder y bydd ef yn gwrando arnat ti. (1 Pedr 5:7) Dywedodd un chwaer ar ôl i’w gŵr gael ei ladd gan ladron: “Roeddwn i’n teimlo fel bod fy nghalon wedi cael ei thorri yn ddarnau bach ac ni fyddai byth yn mendio. Ond bryd bynnag y gweddïais ar fy Nhad cariadus Jehofa, teimlais ei gysur. Weithiau, doeddwn i ddim yn gwybod sut i esbonio fy nheimladau, ond roedd Ef yn fy neall i. Pan oeddwn i mewn poen emosiynol ofnadwy, roeddwn i’n gweddïo am heddwch. Roeddwn i’n teimlo tawelwch yn dod dros fy nghalon a fy meddwl ac yna roeddwn i’n gallu dyfalbarhau.” Wrth iti dywallt dy galon i Jehofa, bydd ef yn teimlo drostot ti ac yn deall yn union y boen sydd yn dy galon. Hyd yn oed os nad ydy’r broblem yn mynd i ffwrdd, gall Jehofa dy helpu i dawelu dy galon a theimlo heddwch. (Salm 94:19; Phil. 4:​6, 7) A bydd ef yn dy wobrwyo di am dy ddyfalbarhad ffyddlon.—Heb. 11:6.

DAGRAU AR ÔL CAEL DY FRADYCHU

11. Sut roedd Dafydd yn teimlo am y treialon anodd roedd ef yn eu hwynebu?

11 Yn ystod ei fywyd, gwnaeth Dafydd wynebu llawer o dreialon anodd a achosodd iddo grio. Roedd llawer o bobl yn ei gasáu ac fe wnaeth hyd yn oed rhai o’i ffrindiau a’i deulu ei fradychu. (1 Sam. 19:​10, 11; 2 Sam. 15:​10-14, 30) Ar un adeg, fe ysgrifennodd: “Dw i wedi blino tuchan. Mae fy ngwely’n wlyb gan ddagrau bob nos; mae dagrau wedi socian lle dw i’n gorwedd.” Pam roedd Dafydd yn teimlo fel hyn? Fe esboniodd: “O achos fy holl elynion.” (Salm 6:​6, 7) Pan oedd eraill yn trin Dafydd yn gas, roedd yn teimlo mor drist fel nad oedd yn gallu stopio crio.

12. Yn ôl Salm 56:​8, o beth roedd Dafydd yn hollol?

12 Er bod bywyd Dafydd yn anodd, roedd yn sicr fod Jehofa yn ei garu. Fe ysgrifennodd: “Mae’r ARGLWYDD wedi fy nghlywed i’n crïo.” (Salm 6:8) Ar achlysur arall, fe ysgrifennodd y geiriau hyfryd sydd yn Salm 56:8. (Darllen.) Mae’r geiriau hyn yn creu darlun sy’n ein helpu ni i ddeall cymaint mae Jehofa’n ein caru ni. Roedd Dafydd yn teimlo bod Jehofa yn casglu ei ddagrau mewn potel neu’n eu cofnodi nhw mewn llyfr, fel petai. Roedd Dafydd yn gwybod bod Jehofa wedi cofio a chymryd sylw o’i boen. Roedd Dafydd yn hollol sicr fod ei Dad cariadus yn ymwybodol nid yn unig o’i broblemau ond hefyd o sut roedden nhw wedi effeithio arno.

13. Pan fydd eraill yn ein siomi, beth sy’n bwysig inni ei gofio? (Gweler hefyd y llun.)

13 Gwersi i ni. A ydy dy galon wedi torri oherwydd dy fod ti wedi cael dy fradychu neu dy siomi gan rywun roeddet ti’n ei drystio? Efallai rwyt ti’n delio â phoen emosiynol ofnadwy oherwydd dy fod ti wedi stopio canlyn neu oherwydd bod dy briodas wedi torri. Neu efallai gwnaeth rhywun rwyt ti’n ei garu stopio gwasanaethu Jehofa. Dywedodd un brawd ar ôl i’w wraig odinebu a’i adael: “Doeddwn i ddim yn gallu credu bod hyn wedi digwydd imi. Roeddwn i’n teimlo’n ddi-werth, yn drist ac yn flin.” Os wyt ti wedi cael dy fradychu neu dy siomi gan rywun, cofia, ni fydd Jehofa byth yn dy adael di. Dywedodd y brawd: “Rydw i wedi sylweddoli na fydd pobl yn wastad yn ffyddlon iti, ond mae Jehofa’n Graig inni. Does dim ots beth sy’n digwydd, mae ef bob amser yno i ni. Ni fydd byth yn gadael ei rai ffyddlon.” (Salm 37:28) Cofia hefyd fod Jehofa’n dy garu di’n llawer mwy nag y gall unrhyw berson ei wneud. Er bod profi bradychiad yn boenus iawn, dydy hynny ddim yn effeithio ar y ffordd mae Jehofa’n teimlo amdanat ti, rwyt ti’n werthfawr iawn iddo. (Rhuf. 8:​38, 39) Dyma’r pwynt: Does dim ots sut mae pobl eraill yn dy drin di, mae dy Dad nefol yn dy garu di.

Mae’r Salmau yn ein calonogi ni fod Jehofa’n agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau (Gweler paragraff 13)


14. Pa gysur mae Salm 34:18 yn ei roi inni?

14 Wrth ddelio â chael ein bradychu, gallwn ni hefyd gael ein cysuro gan eiriau Dafydd sydd yn Salm 34:18. (Darllen.) Mae un cyfeirlyfr yn dweud bod “y rhai sydd wedi anobeithio” efallai yn cyfeirio at y “rhai sydd heb unrhyw beth da i edrych ymlaen ato.” Sut mae Jehofa’n ymateb i’r rhai sy’n teimlo fel hyn? Fel rhiant cariadus sy’n dal plentyn yn ei freichiau ac yn ei gysuro, mae Jehofa’n “agos” aton ninnau hefyd—mae’n dangos tosturi tuag aton ni ac yn barod i’n helpu ni os nad ydyn ni’n gallu delio â’r boen. Mae ef yn awyddus i’n cysuro ni os ydyn ni’n teimlo’n dorcalonnus ac yn meddwl ein bod ni’n ddi-werth. Ac mae’n rhoi llawer o bethau inni edrych ymlaen atyn nhw sy’n ein helpu ni i ddyfalbarhau yn ystod ein treialon.—Esei. 65:17.

DAGRAU O ANOBAITH

15. Pa sefyllfa a achosodd i Heseceia grio?

15 Pan oedd y Brenin Heseceia yn 39 mlwydd oed, fe ddysgodd fod ganddo salwch difrifol. Rhoddodd y proffwyd Eseia neges oddi wrth Jehofa yn dweud y bydd Heseceia yn marw oherwydd ei salwch. (2 Bren. 20:1) Roedd hi’n ymddangos fel nad oedd unrhyw obaith i Heseceia. Wrth glywed y newyddion, dechreuodd Heseceia feichio crio a gweddïo’n daer ar Jehofa.—2 Bren. 20:​2, 3.

16. Sut gwnaeth Jehofa ymateb i ddagrau Heseceia?

16 Gwnaeth erfyniadau Heseceia gyffwrdd â chalon Jehofa ac felly fe ddywedodd wrtho: “Rydw i wedi clywed dy weddi. Rydw i wedi gweld dy ddagrau. Rydw i am dy iacháu di.” Yn ei drugaredd, defnyddiodd Jehofa y proffwyd Eseia i addo y byddai Ef yn estyn bywyd Heseceia ac yn achub Jerwsalem rhag yr Asyriaid.—2 Bren. 20:​4-6.

17. Sut mae Jehofa’n ein cysuro ni wrth inni ddioddef salwch difrifol? (Salm 41:3) (Gweler hefyd y llun.)

17 Gwersi i ni. A wyt ti’n dioddef salwch sy’n ymddangos yn hollol anobeithiol? Tro at Jehofa mewn gweddi, hyd yn oed os wyt ti’n crio. Mae’r Beibl yn ein hannog ni drwy ddweud y bydd “y Tad sy’n llawn trugaredd a Duw pob cysur” yn ein cysuro ni yn ein holl dreialon. (2 Cor. 1:​3, 4) Heddiw, ni allwn ni ddisgwyl i Jehofa gymryd i ffwrdd ein holl broblemau, ond gallwn ni ddibynnu arno am gysur. (Darllen Salm 41:3.) Trwy ei ysbryd glân mae Jehofa’n rhoi inni’r nerth, y doethineb, a’r heddwch mewnol sydd eu hangen arnon ni i ddal ati. (Diar. 18:14; Phil. 4:13) Mae hefyd wedi rhoi gobaith am y dyfodol inni, pan na fydd neb yn sâl bellach.—Esei. 33:24.

Bydd Jehofa’n ateb ein gweddïau gan roi inni nerth, doethineb, a heddwch mewnol (Gweler paragraff 17)


18. Pa ysgrythur sydd wedi dy gysuro di wrth iti wynebu treialon sy’n hynod o anodd? (Gweler y blwch “ Geiriau a All Sychu Ein Dagrau.”)

18 Cafodd Heseceia ei gysuro gan eiriau Jehofa. Gallwn ninnau hefyd ddod o hyd i gysur yng Ngair Duw. Gwnaeth Jehofa gofnodi geiriau calonogol a all godi ein calonnau wrth inni wynebu treialon. (Rhuf. 15:4) Pan gafodd chwaer yng Ngorllewin Affrica ddiagnosis canser, roedd hi’n crio’n aml. Mae hi’n dweud: “Un ysgrythur sydd yn wir yn fy nghysuro ydy Eseia 26:3. Er nad ydyn ni fel arfer yn gallu newid y sefyllfa, mae’r adnod hon yn fy annog i drwy ddangos y gall Jehofa roi inni’r heddwch mewnol sydd yn ein helpu ni i reoli sut rydyn ni’n ymateb i’r treialon.” A oes ’na ysgrythur sy’n dy gysuro di wrth iti wynebu treialon sy’n hynod o anodd, hyd yn oed y rhai sy’n ymddangos yn hollol anobeithiol?

19. Pa ddyfodol sydd o’n blaenau?

19 Mae diwedd y system hon yn agos, ac felly rydyn ni’n disgwyl i’r hyn sy’n achosi inni grio waethygu. Ond, fel y dysgon ni oddi wrth esiamplau Hanna, Dafydd, a’r Brenin Heseceia, mae Jehofa’n gweld ein dagrau ac maen nhw’n cael effaith ar ei deimladau. Mae ein dagrau yn wir yn werthfawr iawn iddo. Felly, wrth inni wynebu treialon anodd, mae angen inni dywallt ein calonnau i Jehofa mewn gweddi. Dydyn ni byth eisiau cadw draw oddi wrth ein brodyr a’n chwiorydd yn y gynulleidfa. A gad inni barhau i ddod o hyd i gysur yn y geiriau calonogol sydd yng Ngair Duw. Gallwn fod yn hollol sicr y bydd Jehofa yn ein gwobrwyo os ydyn ni’n dal ati’n ffyddlon. Mae hynny’n cynnwys ei addewid hyfryd sy’n dweud y bydd ef yn sychu pob deigryn o alar, o frad, ac o anobaith o’n llygaid. (Dat. 21:4) Wedyn, byddwn ni ond yn crio dagrau o lawenydd.

CÂN 4 Jehofa Yw Fy Mugail