Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PROSIECT ASTUDIO

Mae Pobl Ffyddlon yn Cadw Eu Haddewidion i Jehofa

Mae Pobl Ffyddlon yn Cadw Eu Haddewidion i Jehofa

Darllen Barnwyr 11:​30-40 i weld hanes Jefftha a’i ferch ac i ddysgu sut i gadw addewidion.

Edrych ar y cyd-destun. Sut roedd yr Israeliaid yn teimlo am eu haddewidion i Jehofa? (Num. 30:2) Sut dangosodd Jefftha a’i ferch fod ganddyn nhw ffydd yn Jehofa?—Barn. 11:​9-11, 19-24, 36.

Cloddio’n ddyfnach. Beth oedd bwriad Jefftha wrth iddo wneud ei addewid i Jehofa? (w16.04 6 ¶12) Beth gwnaeth Jefftha a’i ferch ei aberthu er mwyn cadw ei addewid? (w16.04 6-7 ¶14-16) Pa fath o addewidion gall Cristnogion eu gwneud heddiw?—w17.04 5-8 ¶10-19.

Meddwl am y gwersi. Gofynna i ti dy hun:

  • ‘Beth all fy helpu i gadw fy addewid i wasanaethu Jehofa am byth?’ (w20.03 13 ¶20)

  • ‘Beth galla i ei aberthu er mwyn gwneud mwy i Jehofa?’

  • ‘Beth all fy helpu i gadw fy addewid i aros yn ffyddlon i fy nghymar?’ (Math. 19:​5, 6; Eff. 5:​28-33)