Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 50

CÂN 135 Anogaeth Wresog Jehofa: “Bydd Ddoeth, Fy Mab”

Rieni—Helpwch Eich Plant i Gryfhau Ei Ffydd

Rieni—Helpwch Eich Plant i Gryfhau Ei Ffydd

“Profi i chi’ch hunain ewyllys da a derbyniol a pherffaith Duw.”RHUF. 12:2.

PWRPAS

Awgrymiadau ymarferol ar sut gall rhieni gyfathrebu’n dda â’u plant a’u helpu nhw i gryfhau eu ffydd yn Nuw a’r Beibl.

1-2. Sut dylai rhieni ymateb pan fydd plentyn yn gofyn cwestiynau am Dduw a’r Beibl?

 BYDDAI nifer yn cytuno fod magu plant yn swydd llawn amser. Os wyt ti’n rhiant gyda phlentyn ifanc, rwyt ti’n haeddu canmoliaeth am weithio’n galed i’w helpu nhw i adeiladu ffydd gref. (Deut. 6:​6, 7) Wrth i dy blentyn dyfu, efallai fe fydd yn gofyn cwestiynau ynglŷn â’n ffydd, gan gynnwys safonau moesol y Beibl.

2 Efallai byddi di’n becso am gwestiynau dy blentyn, gan gredu bod y cwestiynau hyn yn gam yn ôl o ran ei ffydd. Ond, wrth i blant dyfu, mae’n rhaid iddyn nhw ofyn cwestiynau er mwyn cryfhau eu ffydd eu hunain. (1 Cor. 13:11) Felly does dim rheswm i ofni hyn. Gelli di weld cwestiynau diffuant dy blentyn fel cyfle i’w helpu i ddatblygu ei allu i feddwl.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut gall rhieni helpu eu plentyn neu eu plant i (1) ddatblygu ffydd gref yn Nuw a’r Beibl, (2) gwerthfawrogi safonau moesol y Beibl, a (3) amddiffyn eu daliadau. Wrth wneud hyn, byddwn ni hefyd yn ystyried pam mae’n beth positif i blant ofyn cwestiynau ac yn edrych ar gyfleoedd gwahanol i siarad am ein daliadau Cristnogol fel teulu.

HELPA DY BLENTYN I DDATBLYGU EI FFYDD

4. Pa gwestiynau efallai bydd plentyn yn eu gofyn?

4 Mae rhieni Cristnogol yn sylweddoli nad ydy ffydd yn Nuw yn rhywbeth mae plentyn yn ei hetifeddu. Wnest ti ddim cael dy eni gyda ffydd yn Jehofa. Mae hynny’n wir am dy blentyn hefyd. Dros amser gall cwestiynau godi fel: ‘Sut rydw i’n gwybod bod ’na Dduw? A alla i gredu beth mae’r Beibl yn ei ddweud?’ Yn wir, mae’r Beibl yn ein hannog ni i ddefnyddio ein “gallu i feddwl” er mwyn ‘gwneud yn siŵr bod pob peth yn gywir.’ (Rhuf. 12:1; 1 Thes. 5:21) Sut gelli di helpu dy blentyn i gryfhau ei ffydd?

5. Beth gall rhieni ei wneud i helpu eu plentyn i ddatblygu ffydd yn y Beibl? (Rhufeiniaid 12:2)

5 Anoga dy blentyn i brofi’r gwir iddo ef ei hunan. (Darllen Rhufeiniaid 12:2.) Pan fydd dy blentyn yn gofyn cwestiynau, cymera’r cyfle i ddangos iddyn nhw sut i ffeindio’r atebion gan ddefnyddio’r tŵls sydd ar gael inni, fel Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa a’r Watch Tower Publications Index. Yn y Llawlyfr Cyhoeddiadau, o dan y pwnc “Y Beibl,” gallai edrych ar “Ysbrydoli gan Dduw” i weld tystiolaeth bod y Beibl yn fwy na llyfr da sydd wedi cael ei ysgrifennu gan ddynion. Mewn gwirionedd, mae’n ‘air Duw.’ (1 Thes. 2:13) Er enghraifft, gallai wneud ymchwil am yr hen ddinas yn Asyria, Ninefe. Yn y gorffennol, dywedodd rhai ysgolheigion y Beibl nad oedd y ddinas hon erioed wedi bodoli. Ond erbyn y 1850au, cafodd adfeilion y ddinas eu darganfod, sy’n profi bod y Beibl yn fanwl gywir. (Seff. 2:​13-15) Am fwy o wybodaeth am sut roedd dinistr Ninefe yn cyflawni proffwydoliaeth Feiblaidd, gallai edrych ar yr erthygl “Oeddet Ti’n Gwybod?” yn rhifyn Tachwedd 2021 o’r Tŵr Gwylio. Trwy gymharu beth mae wedi ei ddysgu o’n llenyddiaeth ni a ffynonellau seciwlar, bydd gan dy blentyn resymau da dros gael ffydd yn y Beibl.

6. Sut gall rhieni helpu plentyn i ddatblygu’r gallu i feddwl? Rho enghraifft. (Gweler hefyd y llun.)

6 Helpa dy blentyn i ddatblygu’r gallu i feddwl. Mae ’na nifer o wahanol ffyrdd y gall rhieni gael trafodaethau diddorol gyda’u plentyn am y Beibl neu am ffydd yn Nuw. Mae’r cyfleoedd hyn yn gallu codi efallai wrth fynd i amgueddfa, i ardd fotaneg, neu i weld arddangosfa yn y Bethel. Er enghraifft, wrth fynd ar daith amgueddfa, mewn person neu ar-lein, gelli di dynnu sylw dy blentyn at bethau hanesyddol neu at arteffactau sy’n gallu cryfhau ei ffydd bod y Beibl yn gywir. A ydy dy blentyn yn ymwybodol bod enw Duw wedi ei ysgrifennu ar slab o garreg sydd dros dair mil o flynyddoedd oed a elwir Carreg Moab. Mae Carreg Moab ar gael i’w gweld yn amgueddfa’r Louvre ym Mharis, Ffrainc. Mae copi o’r garreg hefyd ar gael i’w gweld yn yr arddangosfa “Y Beibl a’r Enw Dwyfol” ym Mhencadlys Tystion Jehofa yn Warwick, Efrog Newydd. Mae Carreg Moab yn dangos bod y Brenin Mesa o Moab wedi ymladd yn erbyn Israel. Mae hyn yn cytuno â beth mae’r Beibl yn ei ddweud. (2 Bren. 3:​4, 5) Pan fydd dy blentyn yn gweld â’i lygaid ei hunan y dystiolaeth glir hon o fanylder a chywirdeb y Beibl, bydd ei ffydd yn cryfhau.—Cymhara 2 Cronicl 9:6.

A elli di helpu dy blentyn i ddatblygu ei allu i feddwl gan dynnu ei sylw at bethau mewn amgueddfeydd? (Gweler paragraff 6)


7-8. (a) Beth gallwn ni ei ddysgu o’r prydferthwch rydyn ni’n ei weld ym myd natur? Rho enghraifft. (Gweler hefyd y llun.) (b) Pa gwestiynau a all helpu dy blentyn i gryfhau ei ffydd yn y Creawdwr?

7 Helpa dy blentyn i edrych ar fyd natur. Wrth gerdded trwy ardal wledig neu wrth arddio, tynna sylw dy blentyn at batrymau cymhleth sydd i’w gweld ym myd natur. Pam? Mae’r patrymau hyn yn rhoi tystiolaeth eu bod nhw wedi cael eu dylunio gan rywun doeth iawn. Er enghraifft, mae patrymau troellog, neu sbiralau, wedi eu hastudio gan wyddonwyr am lawer o flynyddoedd. Mae’r bioffisegydd Nicola Fameli yn esbonio dy fod ti’n gallu darganfod dilyniant penodol o rifau wrth gyfri’r nifer o sbiralau ym myd natur. Mae’r rhifau hyn yn cael eu galw dilyniant Fibonacci. Gall sbiralau gael eu gweld mewn nifer o bethau, fel siâp galaethau, y patrwm ar gragen Bedr neu nawtilws, dail planhigion, ac ar flodau’r haul. a

8 Wrth i dy blentyn ddysgu mwy yn ei wersi gwyddoniaeth yn yr ysgol, fe fydd yn dysgu am y patrymau sy’n gyffredin mewn natur. Er enghraifft, mae gan bob pluen eira batrymau geometrig sy’n cael eu galw’n ffractalau. Mae ffractalau i’w gweld mewn nifer o bethau eraill ym myd natur. Ond pwy wnaeth ddylunio a chreu’r rheolau sy’n ffurfio’r patrymau pert hyn? Wrth i dy blentyn feddwl am gwestiynau o’r fath, mae’n debygol y bydd yn datblygu ffydd gref bod Duw wedi creu popeth. (Heb. 3:4) Efallai rywbryd byddai’n syniad da i ofyn iddo, “Os ydy Duw wedi creu’r holl bethau hyn, a fyddai’n gwneud synnwyr ei fod wedi rhoi safonau moesol i’n helpu ni i fod yn hapus?” Yna, gelli di ddangos bod y safonau moesol hyn i’w cael yn y Beibl.

NASA, ESA, and the Hubble Heritage (STScl/AURA)-ESA/Hubble Collaboration

Beth sydd y tu ôl i’r hyfrydwch a’r dyluniad rydym yn gweld ym myd natur? (Gweler paragraffau 7-8)


HELPA DY BLENTYN I WERTHFAWROGI SAFONAU MOESOL Y BEIBL

9. Beth allai achosi i blentyn gwestiynu gwerth safonau moesol y Beibl?

9 Os ydy dy blentyn yn gofyn cwestiynau ynglŷn â phwrpas safonau moesol y Beibl, ceisia ddarganfod beth yw’r rhesymau dros y cwestiynau. A ydy ef yn wir yn anghytuno â safonau moesol y Beibl, neu a ydy ef ond yn cael trafferth yn amddiffyn ei ddaliadau wrth siarad ag eraill? Yn y ddau achos, mae’n bwysig iti helpu dy blentyn i ddysgu am safonau moesol y Beibl drwy astudio’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! b

10. Sut gelli di helpu dy blentyn i feddwl am ei berthynas â Jehofa?

10 Anoga dy blentyn i drysori ei berthynas â Jehofa. Wrth iti astudio’r Beibl gyda dy blentyn, ceisia ddarganfod ei deimladau gan ddefnyddio’r cwestiynau safbwynt a’r eglurebau sydd i’w cael yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! (Diar. 20:5) Er enghraifft, mae gwers 8 yn cymharu Jehofa â ffrind cariadus sy’n ein hatgoffa ni o bethau sy’n gallu ein hamddiffyn a’n helpu ni. Ar ôl trafod 1 Ioan 5:​3, efallai gelli di ofyn, “Gan wybod bod Jehofa yn ffrind mor dda, sut dylen ni deimlo am beth mae’n gofyn inni ei wneud?” Efallai fod hynny’n swnio fel cwestiwn syml iawn, ond efallai bydd yn helpu dy blentyn i sylweddoli bod gorchmynion Jehofa yn dystiolaeth o’i gariad.—Esei. 48:​17, 18.

11. Sut gelli di helpu dy blentyn i werthfawrogi egwyddorion y Beibl? (Diarhebion 2:​10, 11)

11 Trafoda sut mae egwyddorion y Beibl yn ein helpu ni. Wrth ddarllen y Beibl neu destun y dydd gyda’ch gilydd, trafodwch sut mae egwyddorion y Beibl wedi helpu’r teulu. Er enghraifft, a ydy dy blentyn yn gweld pa mor fuddiol yw bod yn weithgar ac yn onest ym mhopeth? (Heb. 13:18) Gelli di hefyd ddangos sut mae egwyddorion y Beibl yn ein hamddiffyn ni’n gorfforol ac yn emosiynol. (Diar. 14:​29, 30) Gall trafod egwyddorion o’r fath helpu dy blentyn i sylweddoli bod cyngor y Beibl yn bwysig.—Darllen Diarhebion 2:​10, 11.

12. Sut mae un tad yn helpu ei fab i weld gwerth ymarferol egwyddorion y Beibl?

12 Esboniodd dad yn Ffrainc o’r enw Steve sut gwnaeth ef a’i wraig helpu Ethan, eu mab yn ei arddegau, i weld y cariad sydd y tu ôl i gyfreithiau Jehofa: “Rydyn ni’n gofyn iddo gwestiynau fel, ‘Pam mae Jehofa eisiau inni ddilyn yr egwyddor hon? Sut mae hyn yn dangos ei fod yn ein caru ni? Beth fyddai’n digwydd petasen ni ddim yn dilyn yr egwyddor honno?’” Mae trafodaethau fel hyn wedi helpu Ethan i ddeall bod rhaid iddo fabwysiadu safonau moesol Jehofa. Dywedodd Steve: “Ein nod yw helpu Ethan i weld bod cyngor y Beibl yn llawer uwch na doethineb dynol.”

13. Sut gall rhieni hyfforddi plentyn i roi egwyddorion y Beibl ar waith? Rho enghraifft.

13 Hyffordda dy blentyn i roi egwyddorion y Beibl ar waith. Un cyfle arall i wneud hyn yw pan fydd rhaid i dy blentyn ddarllen llyfr fel rhan o brosiect ysgol. Efallai bydd y llyfr yn portreadu ymddygiad anfoesol neu dreisgar mewn ffordd apelgar. Gelli di annog dy blentyn i edrych ar y cymeriadau a’u cymharu nhw ag egwyddorion Beiblaidd. (Diar. 22:​24, 25; 1 Cor. 15:33; Phil. 4:8) Gall hynny ei baratoi i dystiolaethu i’r athrawon neu i’w gyd-ddisgyblion wrth iddyn nhw drafod y deunydd.

DYSGA DY BLENTYN I AMDDIFFYN EI DDALIADAU

14. Pa bwnc a all godi ofn ar Gristnogion ifanc, a pham?

14 Weithiau, efallai na fydd gan Gristnogion ifanc yr hyder i amddiffyn eu daliadau. Efallai bydd trafod theori esblygiad yn yr ysgol yn codi ofn arnyn nhw. Pam? Efallai fod yr athrawon yn trin esblygiad fel ffaith. Os wyt ti’n rhiant, sut gelli di helpu dy blentyn i fod yn hyderus wrth amddiffyn ei ddaliadau?

15. Beth all helpu plentyn i fod yn fwy hyderus yn beth mae’n ei gredu?

15 Helpa dy blentyn i fod yn fwy hyderus yn beth mae’n ei gredu. Does dim angen i dy blentyn deimlo cywilydd am wybod y gwir am y greadigaeth. (2 Tim. 1:8) Pam ddim? Y ffaith yw bod nifer o wyddonwyr yn deall nad ydy bywyd wedi dod i fodolaeth ar hap. Maen nhw’n gallu gweld bod dylunio deallus yn amlwg wrth edrych ar gymhlethdod bywyd. O ganlyniad, dydyn nhw ddim yn derbyn theori esblygiad sy’n cael ei dysgu mewn ysgolion ar draws y byd. Gall dy blentyn gryfhau ei ddaliadau ei hunan drwy ystyried beth a wnaeth berswadio brodyr a chwiorydd eraill i gredu bod bywyd wedi cael ei greu. c

16. Sut gall rhieni helpu plentyn i amddiffyn ei ffydd mewn Creawdwr? (1 Pedr 3:15) (Gweler hefyd y llun.)

16 Helpa dy blentyn i esbonio pam mae’n credu mewn creawdwr. (Darllen 1 Pedr 3:15.) Efallai byddai’n ddefnyddiol i drafod erthyglau ar jw.org sy’n trafod esblygiad a’r greadigaeth. Yna gad i dy blentyn ddewis esboniad y mae’n gallu ei ddefnyddio i helpu eraill i ddeall y gwir am y Creawdwr. Atgoffa ef nad oes angen dadlau gyda’i gyd-ddisgyblion. Os ydy rhai yn barod i siarad am y pwnc, anoga dy blentyn i resymu â nhw mewn ffordd syml. Er enghraifft, efallai bydd ffrind ysgol yn dweud: “Dwi ond yn credu mewn beth dwi’n gallu ei weld, a dwi erioed wedi gweld Duw.” Gall Cristion ifanc ymateb: “Dychmyga dy fod ti’n cerdded trwy goedwig yn bell o unrhyw ddinas ac rwyt ti’n dod ar draws ffynnon. Beth fydd dy gasgliad? Byddai’n amlwg fod rhywun wedi creu’r ffynnon, ac mae’r un peth yn wir am y bydysawd. Mae’n rhaid bod rhywun wedi ei greu!”

Defnyddia resymeg wrth siarad ag eraill yn yr ysgol (Gweler paragraffau 16-17) d


17. Sut gall rhieni annog eu plentyn i edrych am gyfleoedd i rannu gwirioneddau’r Beibl ag eraill? Eglura.

17 Anoga dy blentyn i ddefnyddio’r cyfleoedd hyn i drafod gwirioneddau’r Beibl ag eraill. (Rhuf. 10:10) Mae dysgu i siarad am ei ffydd yn debyg i’r ymdrech sydd ei angen wrth ddysgu i chwarae offeryn cerdd. I ddechrau, mae dysgwr yn ymarfer cerddoriaeth syml. Dros amser, wrth iddo wella, mae chwarae yn dod yn haws. Yn yr un modd, efallai bydd Cristion ifanc yn dechrau drwy drafod pethau syml wrth siarad am ei ffydd. Er enghraifft, fe allai ofyn i’w gyd-ddisgybl: “A oeddet ti’n gwybod bod peirianwyr yn aml yn copïo patrymau o natur? Gad imi ddangos iti fideo diddorol amdano.” Ar ôl dangos fideo o’r gyfres Wedi ei Ddylunio? fe allai ofyn: “Os ydy gwyddonwyr yn cael y clod am ddyluniad sy’n bodoli’n barod mewn natur, pwy ddylai gael y clod am y patrwm gwreiddiol?” Trwy ddefnyddio pethau syml fel hyn, efallai bydd y cyd-ddisgybl eisiau dysgu mwy.

PARHA I GRYFHAU FFYDD DY BLANT

18. Sut gall rhieni barhau i gryfhau ffydd eu plentyn yn Nuw?

18 Mae’r byd hwn yn llawn pobl sydd heb ffydd yn Jehofa. (2 Pedr 3:3) Felly, os wyt ti’n rhiant, astudia’r Beibl gyda dy blentyn a’i annog i feddwl am bynciau a fydd yn ei helpu i barchu Gair Duw a’i safonau yn fwy. Helpa ef i ddatblygu’r gallu i feddwl drwy dynnu ei sylw at y greadigaeth ryfeddol. Dysga ef i werthfawrogi proffwydoliaethau’r Beibl sydd wedi dod yn wir. Ac yn bwysicaf oll, gweddïa dros dy blentyn a gydag ef hefyd. Trwy wneud hyn, bydd Jehofa yn gwobrwyo dy ymdrechion i helpu dy blentyn i gryfhau ei ffydd.—2 Cron. 15:7.

CÂN 133 Addolwch Jehofa Chi Bobl Ifanc

a Am fwy o wybodaeth, gweler y fideo The Wonders of Creation Reveal God’s Glory—Patterns ar jw.org.

b Os ydy dy blentyn wedi gorffen astudio’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! gelli di adolygu rhai o’r gwersi yn rhannau 3 a 4, sy’n sôn am safonau moesol y Beibl.

c Gweler yr erthygl “Why We Believe in a Creator” yn y Deffrwch! Saesneg, Medi 2006, a’r llyfryn The Origin of Life—Five Questions Worth Asking. Am fwy o enghreifftiau, gwylia’r gyfres fideos Safbwyntiau ar Darddiad Bywyd ar jw.org.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae tyst ifanc yn dangos fideo o’r gyfres Wedi ei Ddylunio? i rywun yn ei ddosbarth sydd â diddordeb mewn dronau.