Cwestiynau Ein Darllenwyr
Pwy ydy’r “angylion sydd wedi cael eu dewis” y mae 1 Timotheus 5:21 yn cyfeirio atyn nhw?
Ysgrifennodd yr apostol Paul at Timotheus, a oedd yn henuriad: “Rydw i’n dy orchymyn di o flaen Duw a Christ Iesu, a’r angylion sydd wedi cael eu dewis, i gadw’r cyfarwyddiadau hyn heb unrhyw ragfarn na ffafriaeth.”—1 Tim. 5:21.
Yn gyntaf, gallwn ni drafod pa angylion dydy’r adnod ddim yn cyfeirio atyn nhw. Mae’n amlwg dydy’r angylion hyn ddim yn cynnwys y 144,000. Doedd atgyfodiad yr eneiniog i’r nef ddim wedi dechrau pan ysgrifennodd Paul at Timotheus. Doedd yr apostolion a’r rhai eneiniog eraill ddim wedi dod yn ysbryd greaduriaid eto. Felly, mae’n amlwg dydy’r “angylion sydd wedi cael eu dewis” ddim yn cyfeirio atyn nhw.—1 Cor. 15:50-54; 1 Thes. 4:13-17; 1 Ioan 3:2.
Hefyd, ni allai’r “angylion sydd wedi cael eu dewis” gyfeirio at yr angylion anufudd yn adeg y Dilyw. Gwnaeth yr angylion hynny ochri gyda Satan a throi’n gythreuliaid ac felly yn elynion i Iesu. (Gen. 6:2; Luc 8:30, 31; 2 Pedr 2:4) Yn y dyfodol bydd Iesu’n eu taflu nhw i mewn i’r dyfnder am 1,000 o flynyddoedd ac ar ôl hynny, byddan nhw a Satan yn cael eu dinistrio.—Jwd. 6; Dat. 20:1-3, 10.
Mae’n rhaid bod yr “angylion sydd wedi cael eu dewis” wedi bod yn y nef yn cefnogi “Duw a Christ Iesu.”
Mae ’na filoedd ar filoedd o angylion ffyddlon. (Heb. 12:22, 23) Mae’n amlwg nad oes gan bob angel yr un aseiniad ar yr un pryd. (Dat. 14:17, 18) Cofia ar un adeg cafodd un angel ei aseinio i ddinistrio 185,000 o filwyr Asyria. (2 Bren. 19:35) Hefyd mae’n bosib bod nifer fawr o angylion wedi cael eu haseinio i ‘gasglu allan o Deyrnas Iesu bob peth sy’n achosi i rywun faglu a phobl sy’n gwneud pethau drwg.’ (Math. 13:39-41) Bydd rhai angylion efallai yn “casglu at ei gilydd y rhai sydd wedi cael eu dewis” i fynd i’r nef. (Math. 24:31) Ac mae eraill yn ein hamddiffyn ni ‘ble bynnag rydyn ni’n mynd.’—Salm 91:11; Math. 18:10; cymhara Mathew 4:11; Luc 22:43.
Yn ôl pob tebyg, cafodd yr angylion sy’n cael eu sôn amdanyn nhw yn 1 Timotheus 5:21 eu haseinio i ofalu am y gynulleidfa. Yng nghyd-destun yr adnod hon, rhoddodd Paul gyngor i henuriaid ac fe ddywedodd eu bod nhw’n haeddu parch y gynulleidfa. Fe ddywedodd y dylen nhw ofalu am eu cyfrifoldebau “heb unrhyw ragfarn na ffafriaeth” a meddwl yn ofalus cyn gwneud penderfyniadau. Roedd ganddyn nhw reswm da dros ddilyn cyngor Paul am eu bod nhw’n gwneud hyn “o flaen Duw a Christ Iesu, a’r angylion sydd wedi cael eu dewis.” Felly mae’n glir bod gan rai angylion aseiniadau ynglŷn â’r gynulleidfa, fel amddiffyn gweision Jehofa, arolygu’r gwaith pregethu, ac adrodd i Jehofa yr hyn maen nhw’n ei weld.—Math. 18:10; Dat. 14:6.