Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Wyt Ti’n Cofio?

Wyt Ti’n Cofio?

Wyt ti wedi darllen rhifynnau’r Tŵr Gwylio eleni yn ofalus? Wel, ceisia ateb y cwestiynau canlynol:

Pa esiampl mae Jehofa’n ei gosod ynglŷn â sut i drin merched?

Mae’n ei thrin nhw heb ffafriaeth, dydy ef ddim yn ffafrio dynion dros ferched. Mae Duw yn gwrando ar ferched oherwydd mae ganddo ef ddiddordeb yn eu teimladau a’u problemau. Mae’n eu trystio nhw i wneud ei waith.—w24.01, tt. 15-16.

Sut gallwn ni roi Effesiaid 5:7 ar waith, sy’n dweud: “Peidiwch â gwneud fel y maen nhw’n gwneud”?

Roedd yr apostol Paul yn ein rhybuddio ni rhag treulio amser gyda phobl sy’n ei gwneud hi’n anodd inni lynu at safonau Jehofa. Gall cwmni drwg o’r fath heddiw gynnwys nid yn unig cymdeithasu wyneb yn wyneb, ond hefyd cymdeithasu ar gyfryngau cymdeithasol.—w24.03, tt. 22-23.

Pa fath o storïau ffug mae angen inni fod yn ofalus amdanyn nhw?

Mae angen inni fod yn ofalus am storïau sy’n dod o ffrindiau sydd â bwriadau da, mewn e-byst oddi wrth rywun nad ydyn ni’n ei adnabod, neu oddi wrth wrthgilwyr sy’n honni bod ganddyn nhw ddiddordeb yn y gwir.—w24.04, t. 12.

Beth rydyn ni’n ei wybod a beth dydyn ni ddim yn ei wybod am farnedigaeth Jehofa ar y Brenin Solomon a’r rhai a wnaeth farw yn y Dilyw a Sodom a Gomorra?

Dydyn ni ddim yn gwybod os bydd Jehofa’n eu hatgyfodi nhw neu ddim. Ond, rydyn ni yn gwybod ei fod yn llawn trugaredd ac yn ystyried y ffeithiau i gyd.—w24.05, tt. 3-4.

Pa gysur rydyn ni’n ei gael o wybod bod Jehofa yn ‘Graig’? (Deut. 32:4)

Mae Jehofa yn lloches inni. Mae ef yn ddibynadwy ac yn wastad yn cadw ei addewidion. Mae ef yn gyson, dydy ei bersonoliaeth na’i bwrpas byth yn newid.—w24.06, tt. 26-28.

Beth gall dy helpu di i addasu i gynulleidfa newydd?

Dibynna ar Jehofa, bydd ef yn dy helpu di yn union fel y gwnaeth helpu ei weision yn y gorffennol. Paid â chymharu dy hen gynulleidfa â dy gynulleidfa newydd. Cadwa’n brysur yn dy gynulleidfa newydd a cheisia gwneud ffrindiau newydd.—w24.07, tt. 26-28.

Pa wersi gallwn ni eu dysgu o’r tair dameg yn Mathew pennod 25?

Mae dameg y defaid a’r geifr yn pwysleisio’r pwysigrwydd o fod yn ffyddlon. Mae dameg y deg gwyryf yn pwysleisio’r angen i fod yn barod ac yn wyliadwrus. Ac mae dameg y talentau yn esbonio’n glir yr angen i fod yn weithgar.—w24.09, tt. 20-24.

Beth oedd uchder y cyntedd o flaen teml Solomon?

Yn 2 Cronicl 3:​4, mae rhai llawysgrifau hynafol yn dweud 120 cufydd, neu 53 metr (175 tr). Ond mae llawysgrifau eraill yn dweud 20 cufydd neu tua 9 metr (30 tr). Mae’r ail fesur yn cyd-fynd â pha mor drwchus oedd waliau’r deml.—w24.10, t. 31.

Beth mae’n ei olygu i was y gynulleidfa ‘fod yn ŵr i un wraig’? (1 Tim. 3:12)

Mae’n golygu bod yn briod i un ddynes a pheidio â bod yn anfoesol yn rhywiol. Hefyd, ddylai ef byth roi sylw amhriodol i ferched eraill.—w24.11, t. 19.

Pam na allwn ni ddweud bod Ioan 6:53 yn gosod patrwm ar gyfer Swper yr Arglwydd?

Mae Ioan 6:53 yn sôn am yr angen i fwyta cnawd Iesu ac i yfed ei waed. Dywedodd Iesu y geiriau hyn i Iddewon yng Ngalilea yn 32 OG a oedd heb roi ffydd ynddo eto. Ond, cafodd Swper yr Arglwydd ei sefydlu yn Jerwsalem y flwyddyn wedyn. Yna, siaradodd Iesu â rhai a fyddai’n rheoli gydag ef yn y nef.—w24.12, tt. 10-11.