AWGRYMIAD AR GYFER ASTUDIO
Creu Awyrgylch Da i Astudio
A hoffet ti fwynhau dy astudiaeth bersonol yn fwy? Ystyria rai awgrymiadau i dy helpu di i ganolbwyntio’n well wrth iti astudio:
-
Dewisa leoliad addas. Os yw’n bosib, ffeindia le taclus gyda digon o olau. Gelli di eistedd wrth ddesg neu fwrdd, neu rywle cyfforddus mas tu fas.
-
Dewisa le preifat. Dewisodd Iesu weddïo “yn gynnar yn y bore” mewn ‘lle unig.’ (Marc 1:35) Os dwyt ti ddim yn gallu bod ar dy ben dy hun, gelli di ofyn i dy deulu neu i bwy bynnag rwyt ti’n byw gyda nhw i roi heddwch i ti.
-
Cadwa dy ffocws. Os wyt ti’n defnyddio dy ffôn neu dy dabled i astudio, beth am ei dawelu fel na fyddai’n tynnu dy sylw? Hefyd os wyt ti’n meddwl am rywbeth mae’n rhaid iti ei wneud, ysgrifenna nodyn i ddod yn ôl ato yn nes ymlaen. Os yw’n anodd iti ganolbwyntio, beth am gymryd egwyl a mynd am dro?