Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 45

CÂN 138 Prydferthwch Hwyrddydd Oes

Dysga o Eiriau Olaf Dynion Ffyddlon

Dysga o Eiriau Olaf Dynion Ffyddlon

“Onid pobl mewn oed sy’n ddoeth a’r rhai sydd wedi byw’n hir sy’n deall?”JOB 12:12.

PWRPAS

Mae ufuddhau i Jehofa yn arwain at fendithion nawr a bywyd tragwyddol yn y dyfodol.

1. Pam gallwn ni ddysgu llawer gan rai hŷn?

 MAE angen help ar bawb i wneud penderfyniadau pwysig yn eu bywydau. Rydyn ni’n gallu cael yr help hwn gan henuriaid a hefyd gan Gristnogion aeddfed eraill. Hyd yn oed os ydy’r person yn llawer hŷn na ni, ddylen ni ddim meddwl bod ei gyngor yn hen ffasiwn, neu ddim yn berthnasol inni heddiw. Mae Jehofa eisiau inni ddysgu o’r rhai hyn. Maen nhw wedi cael mwy o amser i ennill profiad, dealltwriaeth, a doethineb.—Job 12:12.

2. Beth byddwn ni’n ei drafod?

2 Yn adeg y Beibl, defnyddiodd Jehofa ei weision ffyddlon hŷn i annog ac i arwain ei bobl. Ystyria esiamplau Moses, Dafydd, a’r apostol Ioan. Roedden nhw’n byw mewn adegau gwahanol gydag amrywiaeth o amgylchiadau. Wrth iddyn nhw agosáu at ddiwedd eu bywydau, gwnaethon nhw roi cyngor i bobl ifanc. Gwnaeth pob un o’r dynion hyn ganolbwyntio ar y pwysigrwydd o fod yn ufudd i Dduw. Gwnaeth Jehofa gadw eu geiriau yn saff inni heddiw. Gallwn ni elwa o’u geiriau os ydyn ni’n ifanc neu’n hŷn. (Rhuf. 15:4; 2 Tim. 3:16) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried geiriau olaf y tri dyn hyn a’r gwersi gallwn ni eu dysgu oddi wrthyn nhw.

“EF FYDD YN ESTYN DY DDYDDIAU ITI GAEL BYW”

3. Ym mha ffyrdd gwahanol gwnaeth Moses wasanaethu?

3 Gwnaeth Moses weithio’n galed i Jehofa yn ystod ei fywyd. Gwasanaethodd fel proffwyd, barnwr, arweinydd, a hanesydd. Roedd gan Moses lawer o brofiad bywyd! Gwnaeth ef arwain yr Israeliaid allan o gaethiwed yn yr Aifft a gwelodd lawer o wyrthiau Jehofa gyda’i lygaid ei hun. Defnyddiodd Jehofa Moses i ysgrifennu pum llyfr cyntaf y Beibl, Salm 90, ac efallai Salm 91. Mae’n debyg ei fod hefyd wedi ysgrifennu llyfr Job.

4. I bwy rhoddodd Moses anogaeth, a pham?

4 Yn fuan cyn iddo farw, yn 120 oed, galwodd Moses yr Israeliaid at ei gilydd i’w hatgoffa nhw o’r pethau roedd Jehofa wedi eu gwneud drostyn nhw. Yn eu hieuenctid, gwelodd rhai ohonyn nhw lawer o wyrthiau Jehofa yn ogystal â’i farnedigaeth yn erbyn yr Aifft. (Ex. 7:​3, 4) Cerddon nhw drwy’r Môr Coch a oedd wedi cael ei hollti a gwelon nhw ddinistr byddin Pharo. (Ex. 14:​29-31) Yn yr anialwch, roedden nhw wedi profi amddiffyniad a gofal Jehofa. (Deut. 8:​3, 4) Wrth i’r bobl baratoi i fynd i mewn i Wlad yr Addewid, cymerodd Moses y cyfle i annog y bobl. a

5. Pa sicrwydd roddodd Moses i’r Israeliaid gyda’i eiriau yn Deuteronomium 30:​19, 20?

5 Beth ddywedodd Moses? (Darllen Deuteronomium 30:​19, 20, BCND.) Roedd gan yr Israeliaid ddyfodol hyfryd i edrych ymlaen ato. Gyda bendith Jehofa, gallen nhw fyw am gyfnod hir yn y wlad roedd Jehofa wedi addo ei rhoi iddyn nhw. Roedd y wlad yn hyfryd ac yn ffrwythlon! Cafodd ei disgrifio gan Moses fel hyn: “Dinasoedd mawr hardd wnaethoch chi ddim eu hadeiladu; tai yn llawn pethau wnaethoch chi mo’u casglu; pydewau wnaethoch chi ddim eu cloddio; gwinllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi mo’u plannu.”—Deut. 6:​10, 11.

6. Pam gwnaeth Duw ganiatáu i Israel gael ei choncro gan genhedloedd eraill?

6 Rhoddodd Moses rybudd i’r Israeliaid hefyd. Er mwyn parhau i fyw yn y wlad ffrwythlon hon, roedd rhaid iddyn nhw fod yn ufudd i orchmynion Jehofa. Gwnaeth Moses eu hannog nhw i ‘ddewis bywyd’ drwy wrando ar Jehofa a “glynu wrtho.” Ond, roedd yr Israeliaid yn anufudd i Jehofa. Felly mewn amser, gwnaeth Jehofa ganiatáu i’r Asyriaid, ac yn hwyrach ymlaen y Babiloniaid, eu concro nhw a’u halltudio nhw.—2 Bren. 17:​6-8, 13, 14; 2 Cron. 36:​15-17, 20.

7. Beth gallwn ni ei ddysgu o eiriau Moses? (Gweler hefyd y llun.)

7 Beth yw’r wers i ni? Mae ufudd-dod yn arwain at fywyd. Fel yr Israeliaid a oedd ar fin mynd i mewn i Wlad yr Addewid, rydyn ni hefyd yn agos iawn at y byd newydd y mae Duw wedi ei addo inni, lle byddwn ni’n gweld y ddaear yn troi’n baradwys unwaith eto. (Esei. 35:1; Luc 23:43) Ni fydd y Diafol na’i gythreuliaid yno bellach. (Dat. 20:​2, 3) Ni fydd gau grefydd yn camarwain pobl i ffwrdd o Jehofa. (Dat. 17:16) Ni fydd llywodraethau dynol yn cam-drin y rhai o dan eu gofal dim mwy. (Dat. 19:​19, 20) Ni fydd ’na le i wrthryfelwyr yn y Baradwys. (Salm 37:​10, 11) Bydd pawb ym mhobman yn ufuddhau i orchmynion cyfiawn Jehofa. Felly bydd undod a heddwch yn cynyddu. O ganlyniad, bydd pawb yn caru ac yn trystio ei gilydd. (Esei. 11:9) Am beth hyfryd! Yn fwy na hynny, os ydyn ni’n ufuddhau i Jehofa, gallwn ni fyw mewn paradwys ar y ddaear, nid am gannoedd o flynyddoedd, ond am byth.—Salm 37:29; Ioan 3:16.

Os ydyn ni’n ufuddhau i Jehofa, gallwn ni fyw mewn paradwys ar y ddaear, nid am gannoedd o flynyddoedd, ond am byth (Gweler paragraff 7)


8. Sut gwnaeth yr addewid am fywyd tragwyddol helpu un cenhadwr profiadol? (Jwdas 20, 21)

8 Os ydyn ni’n myfyrio ar addewid Jehofa am fywyd tragwyddol, byddwn ni’n glynu wrtho er gwaethaf unrhyw her rydyn ni’n ei hwynebu. (Darllen Jwdas 20, 21.) Gall yr addewid hwn roi’r nerth inni frwydro yn erbyn unrhyw wendid sydd gynnon ni. Dywedodd cenhadwr profiadol yn Affrica a oedd yn stryglo gyda gwendid parhaol: “Sylweddolais fyddwn i ddim yn gallu byw am byth os oeddwn i’n anufudd i Jehofa. Gwnaeth hyn fy helpu i ddal ati i frwydro yn erbyn y broblem ac i weddïo ar Jehofa yn fwy. Gyda’i help, roeddwn i’n llwyddiannus.”

“BYDDI DI’N LLWYDDO”

9. Pa dreialon wynebodd Dafydd yn ystod ei fywyd?

9 Roedd Dafydd yn frenin arbennig. Roedd yn gerddor, yn fardd, yn filwr, ac yn broffwyd. Profodd lawer o dreialon. Am flynyddoedd roedd yn byw fel ffoadur oherwydd bod y Brenin Saul yn ceisio ei ladd. Ar ôl dod yn frenin, roedd rhaid i Dafydd redeg am ei fywyd unwaith eto oherwydd bod ei fab Absalom yn ceisio cipio’r orsedd. Er ei dreialon a’i wendidau personol, arhosodd Dafydd yn ffyddlon i Jehofa hyd at ddiwedd ei fywyd. Gwnaeth Jehofa ei ddisgrifio fel dyn “sy’n plesio fy nghalon.” Mae’n bwysig inni wrando ar gyngor doeth Dafydd!—Act. 13:22; 1 Bren. 15:5.

10. Pam gwnaeth Dafydd roi cyngor i’w fab Solomon, y brenin nesaf?

10 Ystyria, er enghraifft, y cyngor a roddodd Dafydd i’w fab Solomon, y brenin nesaf. Gwnaeth Jehofa ddewis Solomon i adeiladu teml i’w anrhydeddu Ef. (1 Cron. 22:5) Byddai Solomon yn wynebu heriau. Beth byddai Dafydd yn ei ddweud wrtho? Gad inni weld.

11. Yn ôl 1 Brenhinoedd 2:​2, 3, pa gyngor roddodd Dafydd i Solomon, a beth oedd y canlyniad? (Gweler hefyd y llun.)

11 Beth ddywedodd Dafydd? (Darllen 1 Brenhinoedd 2:​2, 3.) Dywedodd Dafydd wrth ei fab y byddai’n llwyddiannus petasai’n ufudd i Jehofa. Ac am flynyddoedd roedd Solomon yn llwyddiannus iawn. (1 Cron. 29:​23-25) Adeiladodd deml ryfeddol, ac ysgrifennodd a chyfrannu at sawl llyfr yn y Beibl. Daeth yn enwog am ei gyfoeth a’i ddoethineb. (1 Bren. 4:34) Ond, fel roedd Dafydd wedi esbonio iddo, byddai Solomon ond yn llwyddiannus petasai’n ufudd i Jehofa. Yn drist iawn, yn hwyrach yn ei fywyd, gwnaeth Solomon droi at dduwiau eraill. Collodd ffafr Jehofa yn ogystal â’r doethineb i reoli mewn ffordd deg a charedig.—1 Bren. 11:​9, 10; 12:4.

Mae geiriau olaf Dafydd i’w fab Solomon yn dangos bydd Jehofa yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau doeth os ydyn ni’n ufuddhau iddo (Gweler paragraffau 11-12) b


12. Beth gallwn ni ei ddysgu o eiriau Dafydd?

12 Beth yw’r wers i ni? Mae ufudd-dod yn arwain at lwyddiant. (Salm 1:​1-3) Wrth gwrs, dydy Jehofa ddim wedi addo ein gwneud ni’n gyfoethog nac yn enwog fel roedd Solomon. Ond, os ydyn ni’n ufudd i Dduw, bydd ef yn rhoi inni’r doethineb i wneud penderfyniadau da. (Diar. 2:​6, 7; Iago 1:5) Gall ei egwyddorion ein helpu ni i wneud penderfyniadau am waith, addysg, adloniant, ac arian. Bydd rhoi doethineb duwiol ar waith yn ein cadw ni’n saff rhag niwed parhaol. (Diar. 2:​10, 11) Byddwn ni’n meithrin perthynas dda ag eraill ac yn cael y cyngor sydd ei angen i gael teulu hapus.

13. Sut gwnaeth Carmen ffeindio gwir lwyddiant?

13 Roedd Carmen, sy’n byw ym Mosambîc, yn meddwl bod addysg uwch yn allweddol i lwyddiant. Aeth hi i brifysgol i astudio pensaernïaeth. “Roeddwn i’n caru beth roeddwn i’n ei ddysgu,” meddai. “Ond cymerodd lawer o fy amser ac egni. Roeddwn i yn yr ysgol o 7:30 yb. tan 6:00 yh. Roedd yn anodd i fynychu’r cyfarfodydd, a gwnaeth fy mherthynas â Jehofa wanhau. Roeddwn i’n gwybod yn fy nghalon fy mod i’n ceisio gwasanaethu dau feistr.” (Math. 6:24) Gweddïodd hi am ei sefyllfa a hefyd gwneud ymchwil yn ein cyhoeddiadau. Mae hi’n dweud: “Ar ôl derbyn cyngor oddi wrth frodyr aeddfed ac oddi wrth fy mam, dewisais adael y brifysgol i wasanaethu Jehofa’n llawn amser. Gwnaeth hyn fy helpu i wneud y penderfyniadau gorau yn fy mywyd, a dydw i ddim yn difaru unrhyw beth.”

14. Beth oedd y brif neges y tu ôl i eiriau Moses a Dafydd?

14 Roedd Moses a Dafydd yn caru Jehofa ac yn gwerthfawrogi’r pwysigrwydd o fod yn ufudd iddo. Yn eu geiriau olaf, gwnaethon nhw annog eu gwrandawyr i ddilyn eu hesiampl gan lynu wrth Jehofa Dduw. Hefyd, rhybuddion nhw y byddai’r rhai sy’n gadael Jehofa yn colli Ei ffafr a’r bendithion roedd wedi eu haddo iddyn nhw. Mae eu cyngor yn werthfawr inni heddiw. Canrifoedd wedyn, dangosodd gwas ffyddlon arall pa mor bwysig yw ffyddlondeb i Dduw.

“DOES DIM BYD YN FY NGWNEUD I’N FWY LLAWEN”

15. Pa brofiadau gafodd Ioan yn ystod ei fywyd?

15 Roedd yr apostol Ioan yn ffrind annwyl i Iesu. (Math. 10:2; Ioan 19:26) Gwelodd Ioan wyrthiau Iesu, ac arhosodd gydag ef yn ystod ei weinidogaeth a thrwy adegau anodd. Roedd yno pan gafodd Iesu ei ladd, a’i weld ar ôl ei atgyfodiad. Gwnaeth Ioan fyw i weld y gynulleidfa Gristnogol yn tyfu ac i weld y newyddion da yn cael ei bregethu “yn yr holl greadigaeth o dan y nef.”—Col. 1:23.

16. Pwy sydd wedi elwa o lythyrau Ioan?

16 Tuag at ddiwedd ei fywyd hir, cafodd Ioan y fraint o gyfrannu at Air ysbrydoledig Duw gan gynnwys cofnodi’r “datguddiad gan Iesu Grist.” (Dat. 1:1) Ysgrifennodd yr Efengyl sy’n dwyn ei enw a hefyd tri llythyr ysbrydoledig. Ysgrifennodd ei drydydd llythyr i Gristion ffyddlon o’r enw Gaius, a oedd fel plentyn ysbrydol annwyl i Ioan. (3 Ioan 1) Erbyn hynny, mae’n debyg ei fod yn ystyried llawer fel plant ysbrydol iddo. Mae geiriau’r dyn ffyddlon hwn wedi calonogi dilynwyr Iesu i gyd hyd heddiw.

17. Yn ôl 3 Ioan 4, beth sy’n dod â llawenydd inni?

17 Beth ysgrifennodd Ioan? (Darllen 3 Ioan 4.) Ysgrifennodd Ioan fod ufudd-dod yn arwain at lawenydd. Erbyn i Ioan ysgrifennu ei drydydd llythyr, roedd rhai yn lledaenu gau ddysgeidiaethau ac yn creu rhaniadau yn y gynulleidfa. Ond, roedd eraill yn parhau i ‘gerdded yn y gwir.’ Roedden nhw’n ufuddhau i Jehofa ac yn ‘cerdded yn ôl ei orchmynion.’ (2 Ioan 4, 6) Roedd y Cristnogion ffyddlon hyn yn dod â phleser mawr i Ioan ac i Jehofa ei hun.—Diar. 27:11.

18. Beth gallwn ni ei ddysgu o eiriau Ioan?

18 Beth yw’r wers i ni? Mae ffyddlondeb yn arwain at lawenydd. (1 Ioan 5:3) Er enghraifft, mae gwybod ein bod ni’n plesio Jehofa yn dod â llawenydd inni. Mae ef yn llawenhau wrth ein gweld ni’n gwrthod temtasiynau’r byd ac yn derbyn y gwir. (Diar. 23:15) Mae’r angylion hefyd yn llawenhau. (Luc 15:10) Gallwn ni ffeindio llawenydd drwy weld ffyddlondeb ein brodyr a’n chwiorydd, yn enwedig yn ystod treialon a themtasiynau. (2 Thes. 1:4) Ac wedyn pan mae byd Satan wedi cael ei ddinistrio, bydd gwybod ein bod ni wedi aros yn ffyddlon i Jehofa yn ein gwneud ni’n hapus.

19. Beth ddywedodd chwaer o’r enw Rachel am ddysgu’r gwir i eraill? (Gweler hefyd y llun.)

19 Rydyn ni’n llawenhau yn enwedig pan ydyn ni’n rhannu’r gwir ag eraill. Mae Rachel, sy’n byw yng Ngweriniaeth Dominica, yn teimlo bod dysgu rhywun am ein Duw yn fraint anhygoel. Wrth feddwl am ei phlant ysbrydol, mae hi’n dweud: “Mae’n anodd disgrifio’r llawenydd dwi’n ei deimlo wrth weld fy myfyrwyr yn tyfu yn eu cariad tuag at Jehofa, yn dibynnu arno, ac yn addasu eu bywydau er mwyn ei blesio. Mae’r llawenydd yn llawer mwy na’r ymdrech mae’n ei chymryd i’w dysgu nhw.”

Rydyn ni’n teimlo llawenydd wrth ddysgu eraill i garu Jehofa ac i fod yn ufudd iddo (Gweler paragraff 19)


ELWA O EIRIAU OLAF DYNION FFYDDLON

20. Sut rydyn ni’n debyg i Moses, Dafydd, ac Ioan?

20 Roedd Moses, Dafydd, ac Ioan yn byw ar adegau gwahanol iawn. Ond, roedd y dynion hyn yn debyg iawn i ni. Fel nhw, rydyn ni’n gwasanaethu’r gwir Dduw, yn edrych ato am arweiniad, ac yn gweddïo a dibynnu arno. Ac fel y dynion ffyddlon hynny, rydyn ni’n hyderus bod Jehofa’n bendithio’r rhai sy’n ufudd iddo.

21. Sut bydd Jehofa’n bendithio’r rhai sy’n dilyn cyngor rhai ffyddlon fel Moses, Dafydd, ac Ioan?

21 Gad inni, felly, ddilyn geiriau olaf y dynion ffyddlon hyn drwy aros yn ufudd i orchmynion Jehofa. Wedyn byddwn ni’n llwyddo ym mhob peth rydyn ni’n ei wneud. Byddwn ni’n cael ein “galluogi . . . i fyw” am byth! (Deut. 30:20) A byddwn ni’n cael y llawenydd sy’n dod o blesio ein Tad cariadus Jehofa, sy’n cyflawni ei holl addewidion mewn ffyrdd y tu hwnt i unrhyw beth gallwn ni ei ddychmygu.—Eff. 3:20.

CÂN 129 Dyfalbarhawn

a Ni wnaeth y mwyafrif o’r Israeliaid a welodd y gwyrthiau wrth ymyl y Môr Coch fyw i weld Gwlad yr Addewid. (Num. 14:​22, 23) Dywedodd Jehofa y byddai dynion a oedd yn 20 oed neu fwy yn marw yn yr anialwch. (Num. 14:29) Ond, gwnaeth Josua, Caleb, llwyth Lefi, a llawer yn y genhedlaeth iau fyw i weld Jehofa’n cyflawni ei addewid pan groesodd Israel yr Iorddonen i mewn i wlad Canaan.—Deut. 1:​24-40.

b DISGRIFIAD O’R LLUN: Ar y chwith: Mae Dafydd yn rhoi cyngor gyda’i eiriau olaf i’w fab Solomon. Ar y dde: Myfyrwyr mewn Ysgol Arloesi yn elwa o addysg theocrataidd.