Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 47

CÂN 103 Bugeiliaid—Dynion yn Rhoddion

Frodyr​—A Ydych Chi’n Estyn Allan i Fod yn Henuriad?

Frodyr​—A Ydych Chi’n Estyn Allan i Fod yn Henuriad?

“Os ydy dyn yn estyn allan i fod yn arolygwr, mae ef yn awyddus i wneud gwaith da.”1 TIM. 3:1.

PWRPAS

Bydd yr erthygl hon yn trafod rhai o’r gofynion Ysgrythurol mae angen i frawd eu cyrraedd i wasanaethu fel henuriad.

1-2. Pa ‘waith da’ mae henuriaid yn ei wneud?

 OS WYT ti wedi bod yn gwasanaethu fel gwas y gynulleidfa, efallai rwyt ti’n bell ar hyd y llwybr i ddod yn gymwys i wasanaethu fel henuriad. A elli di estyn allan am y “gwaith da” hwn?—1 Tim. 3:1.

2 Pa fath o waith y mae henuriad yn ei wneud? Mae’n cymryd y blaen yn y weinidogaeth, yn gweithio’n galed yn bugeilio a dysgu, ac yn helpu i gryfhau’r gynulleidfa drwy beth mae’n ei ddweud ac yn ei wneud. Mae ’na resymau da yn y Beibl dros ddisgrifio henuriaid yn “ddynion yn rhoddion.”—Eff. 4:8.

3. Sut gall brawd ddod yn henuriad? (1 Timotheus 3:​1-7; Titus 1:​5-9)

3 Sut gelli di ddod yn henuriad? Mae bod yn gymwys i fod yn henuriad yn wahanol iawn i unrhyw swydd seciwlar. Fel arfer, er mwyn cael swydd mae cyflogwr ond yn edrych am sgiliau penodol. Ond er mwyn dod yn henuriad, mae angen iti gael mwy na sgiliau dysgu a phregethu yn unig. Mae angen iti gyrraedd y gofynion Ysgrythurol ar gyfer henuriaid o 1 Timotheus 3:​1-7 a Titus 1:​5-9. (Darllen.) Bydd yr erthygl hon yn trafod tri pheth allweddol: ennill enw da y tu mewn i a’r tu allan i’r gynulleidfa, gosod esiampl dda fel penteulu, a bod yn barod i wasanaethu’r gynulleidfa.

ENNILL ENW DA

4. Beth mae’n ei olygu i fod ‘heb fai ar dy gymeriad’?

4 I ddod yn henuriad, mae angen iti fod ‘heb fai ar dy gymeriad,’ hynny yw, cael enw da yn y gynulleidfa oherwydd does neb yn gallu dy geryddu di am dy ymddygiad. Dylet ti hefyd gael “enw da ymhlith pobl o’r tu allan.” Efallai bydd pobl sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa yn cwestiynu dy ddaliadau, ond ddylen nhw ddim cael unrhyw reswm dros gwestiynu dy onestrwydd neu dy ymddygiad. (Dan. 6:​4, 5) Gofynna i ti dy hun, ‘A oes gen i enw da y tu mewn i a’r tu allan i’r gynulleidfa?’

5. Sut gelli di ddangos dy fod ti’n “caru daioni”?

5 Os wyt ti’n “caru daioni,” rwyt ti’n edrych am y da yn eraill ac yn eu canmol am eu rhinweddau da. Rwyt ti hefyd yn hapus i wneud daioni i eraill, hyd yn oed yn mynd tu hwnt i’r hyn sydd ei angen. (1 Thes. 2:8; gweler y nodyn astudio “lover of goodness” ar Titus 1:8.) Pam mae’r rhinwedd hon mor bwysig ar gyfer henuriaid? Oherwydd eu bod nhw’n defnyddio llawer o’u hamser yn bugeilio’r gynulleidfa ac yn gofalu am eu haseiniadau. (1 Pedr 5:​1-3) Er hynny, mae’r llawenydd sy’n dod o wasanaethu eraill yn llawer mwy nag unrhyw aberth maen nhw’n ei wneud.—Act. 20:35.

6. Ym mha ffyrdd gelli di fod yn “lletygar”? (Hebreaid 13:​2, 16; gweler hefyd y llun.)

6 Rwyt ti’n dangos dy fod ti’n “lletygar” drwy wneud pethau da dros eraill, gan gynnwys y rhai tu allan i dy grŵp o ffrindiau. (1 Pedr 4:9) Mae un cyfeirlyfr yn disgrifio dyn lletygar fel hyn: “Mae angen i ddrws ei dŷ—a’i galon—fod ar agor i bobl ddieithr.” Gofynna i ti dy hun, ‘A ydy eraill yn fy adnabod i fel rhywun sy’n croesawu ymwelwyr?’ (Darllen Hebreaid 13:​2, 16.) Mae dyn lletygar yn rhannu beth bynnag mae’n gallu gydag ymwelwyr, gan gynnwys rhai tlawd a gweision sy’n gweithio’n galed, fel arolygwyr cylchdaith a siaradwyr gwadd.—Gen. 18:​2-8; Diar. 3:27; Luc 14:​13, 14; Act. 16:15; Rhuf. 12:13.

Cwpl lletygar yn croesawu arolygwr teithiol a’i wraig (Gweler paragraff 6)


7. Sut mae henuriaid yn dangos dydyn nhw ddim yn “caru arian”?

7 “Nid yn caru arian.” Mae hyn yn golygu dwyt ti ddim yn canolbwyntio ar bethau materol. Dim ots os wyt ti’n gyfoethog neu’n dlawd, rwyt ti’n rhoi’r Deyrnas yn gyntaf ym mhob rhan o dy fywyd. (Math. 6:33) Rwyt ti’n defnyddio dy amser, dy egni, a dy adnoddau i addoli Jehofa, i ofalu am dy deulu, ac i wasanaethu yn y gynulleidfa. (Math. 6:24; 1 Ioan 2:​15-17) Gofynna i ti dy hun: ‘Sut rydw i’n teimlo am arian? A ydw i’n fodlon gyda’r pethau angenrheidiol? Neu a ydw i’n canolbwyntio ar gasglu arian a phethau materol?’—1 Tim. 6:​6, 17-19.

8. Sut gelli di “ymddwyn mewn ffordd gytbwys” a “dangos hunanreolaeth”?

8 Os wyt ti’n “ymddwyn mewn ffordd gytbwys” ac yn “dangos hunanreolaeth,” rwyt ti’n rhesymol ym mhob rhan o dy fywyd. Er enghraifft, dwyt ti ddim yn bwyta nac yn yfed gormod. Mae dy wisg a thrwsiad yn addas ac rwyt ti’n gwneud penderfyniadau da yn dy adloniant. Dwyt ti ddim yn dilyn ffordd y byd o fyw. (Luc 21:34; Iago 4:4) Dwyt ti ddim yn cynhyrfu, hyd yn oed pan mae eraill yn dy bryfocio di. Dwyt ti ddim yn “rhywun sy’n meddwi” nac yn cael dy adnabod fel rhywun sy’n yfed llawer. Gofynna i ti dy hun, ‘A ydy’r ffordd rydw i’n byw yn dangos hunanreolaeth a fy mod i’n berson cytbwys?’

9. Beth mae’n ei olygu i fod yn “synhwyrol” ac yn “drefnus”?

9 Os wyt ti’n “synhwyrol,” rwyt ti’n defnyddio egwyddorion Beiblaidd i feddwl yn ofalus am bethau. Rwyt ti wedi meddwl yn ddwfn am yr egwyddorion hyn, ac o ganlyniad, wedi cael dealltwriaeth a doethineb. Dwyt ti ddim yn gwneud penderfyniadau heb feddwl. Yn lle hynny, rwyt ti’n gwneud yn siŵr bod gen ti’r ffeithiau i gyd. (Diar. 18:13) Oherwydd hyn, rwyt ti’n gwneud penderfyniadau cytbwys sy’n adlewyrchu meddylfryd Jehofa. Mae bod “yn drefnus,” yn cynnwys bod yn brydlon. Mae eraill yn dy adnabod di fel rhywun dibynadwy sy’n dilyn arweiniad. Bydd y rhinweddau hyn yn dy helpu di i gael enw da. Gad inni nawr ystyried sut i gyrraedd y gofynion Ysgrythurol i fod yn benteulu da.

GOSOD ESIAMPL DDA FEL PENTEULU

10. Sut mae dyn yn “arwain ei deulu ei hun mewn ffordd dda”?

10 Mae angen i ŵr sydd eisiau bod yn gymwys i ddod yn henuriad “arwain ei deulu ei hun mewn ffordd dda.” Felly, mae’n rhaid i dy deulu hefyd gael enw da. Mae angen iti ofalu am dy deulu mewn ffordd gariadus a gwneud penderfyniadau da. Mae hyn yn cynnwys arwain addoliad teuluol, gwneud yn siŵr bod dy deulu’n mynd i’r cyfarfodydd, a’u helpu nhw i wneud eu gorau yn y weinidogaeth. Pam mae hyn mor bwysig? Gwnaeth yr apostol Paul resymu: “Os nad oes rhywun yn gwybod sut i arwain ei deulu ei hun, sut bydd ef yn gofalu am gynulleidfa Duw?”—1 Tim. 3:5.

11-12. Sut mae ymddygiad ei deulu yn effeithio ar gymwysterau brawd? (Gweler hefyd y llun.)

11 Os wyt ti’n dad, mae angen i dy blant ifanc fod yn “ufudd ac . . . ymddwyn yn dda.” Mae angen iti eu dysgu a’u hyfforddi nhw yn gariadus. Wrth gwrs, bydd pob plentyn yn mwynhau chwerthin a chwarae. Ond oherwydd dy hyfforddiant, bydd dy blant yn ufudd, yn barchus, ac yn bihafio. Hefyd, mae angen iti wneud dy orau glas i’w helpu nhw i feithrin perthynas agos â Jehofa, i fyw yn ôl egwyddorion y Beibl, ac i weithio tuag at y nod o gael eu bedyddio.

12 “Dylai ei blant fod yn gredinwyr sydd ddim wedi cael eu cyhuddo o ymddwyn yn wyllt na bod yn wrthryfelgar.” Petasai plentyn sydd yn y gwir yn pechu’n ddifrifol, sut byddai hynny’n effeithio ar ei dad? Os dydy’r tad ddim wedi hyfforddi’r plentyn na’i ddisgyblu, mae’n debyg na fyddai’r tad yn gymwys i fod yn henuriad.—Gweler rhifyn Hydref 15, 1996, y Tŵr Gwylio Saesneg, t. 21, par. 6-7.

Mae penteuluoedd yn hyfforddi eu plant i wasanaethu Jehofa a’r gynulleidfa (Gweler paragraff 11)


GWASANAETHU’R GYNULLEIDFA

13. Sut gelli di ddangos dy fod ti’n “rhesymol” ac “nid yn bengaled”?

13 Mae brodyr sy’n meithrin rhinweddau da yn werthfawr i’r gynulleidfa. Mae dyn “rhesymol” yn hyrwyddo heddwch. Os wyt ti eisiau cael dy adnabod fel rhywun rhesymol, gwranda ar eraill ac ystyria eu teimladau. Petaset ti mewn cyfarfod henuriaid, a fyddet ti’n hapus i gefnogi penderfyniad y corff, sy’n wahanol i dy farn di, os ydy ef yn cytuno ag egwyddorion y Beibl. “Nid yn bengaled.” Mae hynny’n golygu dwyt ti ddim yn mynnu gwneud pethau dy ffordd dy hun. Rwyt ti’n gwerthfawrogi cael cyngor gan nifer o bobl. (Gen. 13:​8, 9; Diar. 15:22) “Nid yn hoff o gweryla” ac “nid yn wyllt ei dymer.” Yn lle dadlau ag eraill, rwyt ti’n garedig â nhw. Fel dyn heddychlon, rwyt ti’n cymryd y cam cyntaf i adfer heddwch, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd anodd. (Iago 3:​17, 18) Gall dy eiriau caredig dawelu tymer eraill, gan gynnwys ein gwrthwynebwyr.—Barn. 8:​1-3; Diar. 20:3; 25:15; Math. 5:​23, 24.

14. Beth mae’n ei olygu i fod yn “ffyddlon” ac “nid yn ddyn sydd newydd ddod yn Gristion”?

14 Gelli di brofi dy hun “yn ffyddlon” drwy lynu wrth Jehofa a’i safonau cyfiawn a hefyd drwy ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’n eu rhoi drwy ei gyfundrefn. (1 Tim. 4:15) “Nid yn ddyn sydd newydd ddod yn Gristion.” Er nad oes rhaid i lawer o flynyddoedd fynd heibio ar ôl bedydd cyn bod yn gymwys i fod yn henuriad, mae’n rhaid bod yn Gristion aeddfed. Fel Iesu, mae angen bod yn ostyngedig ac yn hapus i aros am amser Jehofa iti dderbyn unrhyw aseiniadau yn y gynulleidfa.—Math. 20:23; Phil. 2:​5-8.

15. A oes angen i henuriad fod yn siaradwr ardderchog? Esbonia.

15 Mae’r Beibl yn dweud yn glir bod rhaid i henuriaid fod “yn gymwys i ddysgu eraill.” A ydy hynny’n golygu bod rhaid iti fod yn siaradwr ardderchog? Nac ydy. Dydy llawer o henuriaid profiadol ddim y siaradwyr gorau, ond maen nhw’n dysgu’n effeithiol yn y weinidogaeth ac ar alwadau bugeiliol. (Gweler y nodyn astudio “qualified to teach” ar 1 Timotheus 3:2; cymhara 1 Corinthiaid 12:​28, 29 ac Effesiaid 4:11.) Er hynny, mae’n rhaid i bob un ohonon ni weithio i wella ein sgiliau dysgu. Sut gelli di fod yn fwy effeithiol fel athro?

16. Sut gelli di fod yn athro gwell? (Gweler hefyd y llun.)

16 ‘Gafael yn dynn yn y gair ffyddlon.’ Er mwyn bod yn athro gwell, gwna’n siŵr bod beth rwyt ti’n ei ddysgu i eraill a’r cyngor rwyt ti’n ei roi wedi eu seilio ar y Beibl. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid iti astudio’r Beibl a’n cyhoeddiadau yn dda. (Diar. 15:28; 16:23; gweler y nodyn astudio “holding firmly to the faithful word” ar Titus 1:9.) Wrth iti astudio, cymera sylw o sut mae ein cyhoeddiadau yn esbonio adnodau o’r Beibl fel dy fod ti’n gallu eu defnyddio nhw’n gywir. Wrth iti ddysgu eraill, ceisia gyffwrdd â’r galon. Gelli di wella fel athro drwy ofyn am help gan henuriaid profiadol. (1 Tim. 5:17) Mae’n rhaid i henuriaid “fedru annog eraill,” ond weithiau mae angen iddyn nhw ‘geryddu’ eu brodyr a’u chwiorydd yn y gynulleidfa. Beth bynnag yw’r sefyllfa, mae angen i’r henuriaid fod yn garedig. Os wyt ti’n dyner ac yn gariadus ac yn seilio’r hyn rwyt ti’n ei ddysgu ar Air Duw, byddi di’n athro da oherwydd byddi di’n efelychu’r Athro Mawr, Iesu.—Math. 11:​28-30; 2 Tim. 2:24.

Mae gwas y gynulleidfa yn manteisio ar brofiad un o’r henuriaid er mwyn gwella’r ffordd mae’n dysgu eraill am y Beibl. Mae’r gwas hefyd yn ymarfer ei anerchiad o flaen drych (Gweler paragraff 16)


PARHA I ESTYN ALLAN

17. (a) Beth all helpu gweision y gynulleidfa i ddal ati i estyn allan? (b) Beth dylai henuriaid ei gadw mewn cof wrth asesu brodyr i weld a ydyn nhw’n gymwys i gael eu penodi? (Gweler y blwch “ Bydda’n Rhesymol Wrth Asesu Eraill.”)

17 Ar ôl adolygu’r gofynion i ddod yn henuriad, efallai bydd rhai gweision y gynulleidfa yn teimlo na allan nhw byth fod yn gymwys. Ond cofia, dydy Jehofa na’i gyfundrefn ddim yn disgwyl iti ddangos y rhinweddau hyn yn berffaith. (1 Pedr 2:21) Cofia hefyd fod Jehofa’n gallu defnyddio ei ysbryd glân pwerus i dy helpu di gyrraedd y gofynion. (Phil. 2:13) Oes ’na rinwedd benodol hoffet ti ei datblygu? Gweddïa ar Jehofa amdani, gwna ymchwil arni, a gofynna i’r henuriaid am awgrymiadau ar sut i wella.

18. Beth mae gweision y gynulleidfa yn cael eu hannog i’w wneud?

18 Gad inni i gyd, gan gynnwys yr henuriaid, weithio’n galed i ddatblygu’r rhinweddau rydyn ni wedi eu trafod yn yr erthygl hon. (Phil. 3:16) Os wyt ti’n was y gynulleidfa, estynna allan! Gofynna i Jehofa am help i dy hyfforddi di er mwyn gwasanaethu’r gynulleidfa yn fwy. (Esei. 64:8) Yn sicr, bydd Jehofa’n bendithio dy ymdrechion i fod yn gymwys i wasanaethu fel henuriad.

CÂN 101 Cydweithio Mewn Undod