Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 46

CÂN 49 Llawenhau Calon Jehofa

Frodyr​—A Ydych Chi’n Estyn Allan i Fod yn Was y Gynulleidfa?

Frodyr​—A Ydych Chi’n Estyn Allan i Fod yn Was y Gynulleidfa?

“Mae mwy o hapusrwydd yn dod o roi nag o dderbyn.”ACT. 20:35.

PWRPAS

I annog brodyr i estyn allan ac i fod yn gymwys i ddod yn weision y gynulleidfa.

1. Sut roedd yr apostol Paul yn teimlo am weision y gynulleidfa?

 MAE gweision y gynulleidfa yn gwneud gwaith pwysig iawn. Yn amlwg, roedd yr apostol Paul yn gwerthfawrogi’r dynion ffyddlon hyn. Er enghraifft, wrth ysgrifennu at y Cristnogion yn Philipi, fe wnaeth gyfarch gweision y gynulleidfa yn ogystal â’r henuriaid.—Phil. 1:1.

2. Sut mae brawd o’r enw Luis yn teimlo am ei aseiniad fel gwas y gynulleidfa?

2 Mae llawer o frodyr yn cael llawenydd mawr o fod yn weision y gynulleidfa, dim ots os ydyn nhw’n hen neu’n ifanc. Er enghraifft, roedd Devan yn 18 pan gafodd ei benodi. Ar y llaw arall, cafodd brawd o’r enw Luis ei benodi pan oedd yn ei 50au cynnar, ac fe wnaeth grynhoi teimladau llawer o frodyr pan ddywedodd, “Rydw i’n teimlo ei fod yn fraint i wneud gwaith gwas y gynulleidfa, yn enwedig pan ydw i’n myfyrio ar y cariad y mae’r gynulleidfa wedi ei ddangos i mi!”

3. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hystyried?

3 Os wyt ti’n frawd sydd wedi cael dy fedyddio, a elli di osod y nod o ddod yn was y gynulleidfa? Beth all dy gymell di i wneud hyn? A beth yw’r gofynion Ysgrythurol sydd angen iti eu cyrraedd? Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried yr atebion i’r cwestiynau hyn. Ond yn gyntaf, gad inni drafod rôl gwas y gynulleidfa.

BETH YW RÔL GWAS Y GYNULLEIDFA?

4. Beth yw rôl gwas y gynulleidfa? (Gweler hefyd y llun.)

4 Mae gwas y gynulleidfa yn frawd sydd wedi cael ei benodi gan yr ysbryd glân i helpu’r henuriaid i ofalu am lawer o bethau ymarferol yn y gynulleidfa. Mae rhai yn gwneud yn siŵr bod gan y gynulleidfa ddigon o diriogaeth a llenyddiaeth ar gyfer y weinidogaeth. Mae eraill yn helpu i lanhau a chynnal a chadw’r Neuadd. Maen nhw hefyd yn gweithio fel gwasanaethwyr yn ystod cyfarfodydd y gynulleidfa ac yn helpu gyda’r offer sain a fideo. Er bod llawer o waith gweision y gynulleidfa yn ymarferol, yn bennaf maen nhw’n ddynion ysbrydol. Maen nhw’n caru Jehofa ac yn byw yn ôl ei orchmynion, ac maen nhw hefyd yn caru eu brodyr a’u chwiorydd yn fawr iawn. (Math. 22:​37-39) Sut gall brawd estyn allan i fod yn was y gynulleidfa?

Mae gweision y gynulleidfa yn efelychu Iesu drwy ofalu am eraill o’u gwirfodd (Gweler paragraff 4)


5. Beth mae’n ei olygu i estyn allan?

5 Mae’r Beibl yn dweud wrthon ni pa rinweddau sydd eu hangen ar frawd er mwyn iddo fod yn was y gynulleidfa. (1 Tim. 3:​8-10, 12, 13) Gelli di estyn allan ar gyfer y fraint hon drwy astudio’r gofynion yn y Beibl ac yna gweithio’n galed i feithrin y rhinweddau angenrheidiol. Ond yn gyntaf, meddylia am y rheswm pam rwyt ti eisiau estyn allan yn y ffordd hon.

PAM RWYT TI EISIAU ESTYN ALLAN?

6. Beth ddylai dy gymell di i weithio ar ran dy frodyr a dy chwiorydd? (Mathew 20:28; gweler hefyd y llun.)

6 Meddylia am yr esiampl orau, Iesu Grist. Fe wnaeth bopeth oherwydd ei gariad tuag at ei Dad a phobl. Hefyd, ei gariad oedd yn ei ysgogi i weithio’n galed a gwneud gwaith gostyngedig ar ran pobl eraill. (Darllen Mathew 20:28; Ioan 13:​5, 14, 15) Os wyt ti hefyd yn gadael i gariad dy gymell di, bydd Jehofa’n dy fendithio di’n fawr ac yn dy helpu di i gyrraedd dy nod o fod yn was y gynulleidfa.—1 Cor. 16:14; 1 Pedr 5:5.

Drwy ei esiampl, dysgodd Iesu y dylai’r apostolion wasanaethu eraill yn ostyngedig yn hytrach na bod yn uchelgeisiol (Gweler paragraff 6)


7. Pam dylai brodyr osgoi bod yn uchelgeisiol?

7 Mae pobl yn y byd yn aml yn edmygu’r rhai sy’n ceisio edrych yn bwysig. Ond dydy hi ddim felly gyda phobl Jehofa. Dydy brawd sy’n caru eraill, fel roedd Iesu yn ei wneud, ddim yn ei lordio hi dros eraill nac yn poeni am edrych yn bwysig. Os byddai person uchelgeisiol yn cael ei benodi yn y gynulleidfa, mae’n debygol byddai’n gwrthod gwneud rhai o’r tasgau sydd eu hangen i ofalu am y gynulleidfa. Efallai byddai’n ystyried ei hun yn rhy bwysig i’w gwneud nhw. (Ioan 10:12) Ni fydd Jehofa yn bendithio rhywun sy’n dangos balchder neu sy’n trio gwneud i’w hun edrych yn fwy pwysig.—1 Cor. 10:​24, 33; 13:​4, 5.

8. Pa gyngor roddodd Iesu i’w apostolion?

8 Roedd hyd yn oed ffrindiau agos Iesu wedi estyn allan gyda’r cymhelliad anghywir ar adegau. Meddylia am beth wnaeth yr apostolion Iago ac Ioan. Gofynnon nhw i Iesu am aseiniad arbennig yn ei Deyrnas. Ond ni wnaeth Iesu eu canmol nhw am wneud hyn. Yn hytrach, esboniodd Iesu i’r 12 apostol: “Mae’n rhaid i bwy bynnag sydd eisiau bod yn fawr yn eich plith fod yn was ichi, ac mae’n rhaid i bwy bynnag sydd eisiau bod yn gyntaf yn eich plith fod yn gaethwas i bawb.” (Marc 10:​35-37, 43, 44) Mae brodyr sy’n estyn allan gyda’r cymhelliad cywir—hynny yw, i wasanaethu eraill—yn fendith i’r gynulleidfa.—1 Thes. 2:8.

SUT GELLI DI GRYFHAU DY DDYMUNIAD I ESTYN ALLAN?

9. Sut gelli di gryfhau dy ddymuniad i estyn allan?

9 Wrth gwrs, rwyt ti’n caru Jehofa ac eisiau gwasanaethu eraill. Er hynny, efallai fod gen ti ddiffyg awydd i wneud mwy o waith yn y gynulleidfa. Beth gall gryfhau dy ddymuniad i fod yn was y gynulleidfa? Ystyria’r hapusrwydd byddi di’n teimlo wrth wasanaethu dy frodyr a dy chwiorydd. Dywedodd Iesu: “Mae mwy o hapusrwydd yn dod o roi nag o dderbyn.” (Act. 20:35) Roedd Iesu’n byw yn ôl yr egwyddor hon. Gelli di gael yr un llawenydd ag ef drwy wasanaethu eraill hefyd.

10. Sut dangosodd Iesu ei fod yn hapus i wasanaethu eraill? (Marc 6:​31-34)

10 Ystyria un enghraifft pan oedd Iesu yn hapus i wasanaethu eraill. (Darllen Marc 6:​31-34.) Ar un achlysur, roedd ef a’i apostolion wedi blino. Roedden nhw ar eu ffordd i le unig i gael gorffwys. Ond cyrhaeddodd tyrfa o bobl yno o’u blaenau, yn gobeithio y byddai Iesu yn eu dysgu nhw. Gallai Iesu fod wedi gwrthod. Wedi’r cwbl, doedd ganddo ef a’i apostolion “ddim amser i gael pryd o fwyd hyd yn oed.” Neu gallai Iesu fod wedi anfon y dyrfa i ffwrdd ar ôl rhannu un neu ddau o wirioneddau. Ond oherwydd mai cariad oedd yn cymell Iesu, “dechreuodd ddysgu llawer o bethau iddyn nhw.” Ac fe barhaodd i’w dysgu nhw nes ei bod hi “wedi mynd yn hwyr.” (Marc 6:35) Nid oedd rhaid i Iesu wneud hyn, ond roedd eisiau “oherwydd eu bod nhw fel defaid heb fugail.” Roedd cariad yn ei gymell i eisiau dysgu a helpu’r bobl a daeth hyn â llawenydd mawr iddo.

11. Ym mha ffordd ymarferol gwnaeth Iesu wasanaethu ei wrandawyr? (Gweler hefyd y llun.)

11 Gwnaeth Iesu fwy na dysgu’r bobl am Dduw yn unig. Gofalodd hefyd am eu hanghenion corfforol. Fe roddodd fwyd yn wyrthiol i’r dyrfa a gofyn i’w ddisgyblion ei ddosbarthu. (Marc 6:41) Trwy wneud hyn, dysgodd ei ddisgyblion wers bwysig am wasanaethu eraill. Dysgodd hefyd fod helpu’n ymarferol—fel mae gweision y gynulleidfa yn ei wneud—yn bwysig iawn. Dychmyga lawenydd yr apostolion wrth iddyn nhw weithio gyda Iesu yn rhoi’r bwyd gwyrthiol i’r bobl nes bod pawb wedi ‘bwyta a chael digon’! (Marc 6:42) Wrth gwrs, nid dyma’r unig achlysur pan roddodd Iesu bobl eraill o flaen ei anghenion personol. Defnyddiodd ei holl fywyd ar y ddaear yn gwasanaethu eraill. (Math. 4:23; 8:16) Roedd Iesu’n hapus iawn i ddysgu pobl eraill a gofalu amdanyn nhw. Yn sicr, os wyt ti’n estyn allan i wasanaethu eraill fel gwas y gynulleidfa, byddi di’n cael hyd i lawenydd mawr.

Bydd dy gariad at Jehofa a dy ddymuniad i helpu eraill yn dy ysgogi i wasanaethu’r gynulleidfa mewn unrhyw ffordd y gelli di (Gweler paragraff 11) a


12. Pam ddylen ni ddim teimlo nad oes gynnon ni lawer i gynnig i’r gynulleidfa?

12 Os wyt ti’n teimlo nad oes gen ti unrhyw alluoedd arbennig, paid â digalonni. Mae gen ti rinweddau sy’n dy wneud di’n ddefnyddiol i’r gynulleidfa. Meddylia am beth ddywedodd Paul yn 1 Corinthiaid 12:​12-30. Mae geiriau Paul yn ei gwneud hi’n glir dy fod ti, a phawb arall sy’n gwasanaethu Jehofa, yn werthfawr iawn ac yn angenrheidiol yn y gynulleidfa. Os dwyt ti ddim yn was y gynulleidfa ar hyn o bryd, paid â rhoi’r ffidil yn y to. Yn hytrach, beth am osod y nod o wneud beth bynnag gelli di er mwyn gwasanaethu Jehofa neu helpu dy frodyr? Yn sicr, bydd yr henuriaid yn ystyried dy alluoedd wrth iddyn nhw roi aseiniadau iti.—Rhuf. 12:​4-8.

13. Beth sy’n wir am y rhan fwyaf o’r gofynion ar gyfer dynion apwyntiedig?

13 Meddylia am hyn: Mae’r rhan fwyaf o’r gofynion ar gyfer gweision y gynulleidfa yn berthnasol i bob Cristion. Yn wir, dylai pob Cristion nesáu at Dduw, bod yn hapus i roi i eraill, a byw mewn ffordd sy’n plesio Duw. Felly, mae’n debyg bod gen ti’r rhan fwyaf o’r rhinweddau yn barod. Beth yn enwedig gall frawd ei wneud i estyn allan i fod yn was y gynulleidfa?

SUT GELLI DI ESTYN ALLAN?

14. Beth mae’n ei olygu i “fod yn aeddfed”? (1 Timotheus 3:​8-10, 12)

14 Gad inni nawr ystyried rhai o’r gofynion sy’n dod o 1 Timotheus 3:​8-10, 12. (Darllen.) Mae’n rhaid i was y gynulleidfa “fod yn aeddfed.” Gall hyn hefyd gael ei gyfieithu “bod o ddifri,” “bod yn gyfrifol,” neu “ymddwyn mewn ffordd sy’n ennill parch.” Dydy hynny ddim yn golygu peidio â chael hwyl neu chwerthin. (Preg. 3:​1, 4) Ond, mae’n golygu dy fod ti’n gweithio’n galed i gyflawni dy gyfrifoldebau. Os oes gen ti enw da am fod yn ddibynadwy ac yn gyfrifol byddi di’n siŵr o ennill parch dy frodyr a dy chwiorydd.

15. Beth mae peidio â bod yn “ddauwynebog” neu’n “farus am elw anonest” yn ei olygu?

15 “Nid yn ddauwynebog.” Mae hyn yn golygu bod yn onest ac yn ddibynadwy. Rwyt ti’n cadw dy air a dwyt ti ddim yn twyllo eraill. (Diar. 3:32) “Nid yn farus am elw anonest.” Mae hyn yn golygu bod yn onest yn dy waith ac wrth ddelio ag arian. Ni fyddi di’n cymryd mantais ar dy berthynas â chyd-addolwyr er mwyn gwneud llawer o arian.

16. (a) Beth mae peidio ag “yfed llawer o win” yn ei olygu? (b) Beth mae’n ei olygu i gael ‘cydwybod lân’?

16 “Nid yn yfed llawer o win.” Mae hyn yn golygu peidio â goryfed alcohol neu gael enw am yfed llawer. Mae cael ‘cydwybod lân’ yn golygu byw yn ôl safonau Jehofa. Er nad wyt ti’n berffaith, rwyt ti’n mwynhau’r heddwch sy’n dod o berthynas agos â Jehofa.

17. Sut gall brodyr ddangos eu bod nhw’n ddibynadwy wrth “gael eu profi . . . i weld a ydyn nhw’n gymwys”? (1 Timotheus 3:10; gweler hefyd y llun.)

17 ‘Cael eu profi i weld a ydyn nhw’n gymwys.’ Mae hyn yn golygu bod yr henuriaid eisoes yn dy weld di fel rhywun cyfrifol a dibynadwy. Felly, pan maen nhw’n gofyn iti wneud aseiniad, dilyna eu cyfarwyddiadau nhw a chyfarwyddiadau’r gyfundrefn yn ofalus. Gwna’n siŵr dy fod ti’n deall beth mae’r aseiniad yn ei gynnwys ac yn gwybod pryd i’w orffen. Wrth iti wneud dy waith yn dda ac yn selog, bydd y gynulleidfa’n gweld dy fod ti’n tyfu i fod yn ddyn cyfrifol. Henuriaid, byddwch yn effro i hyfforddi brodyr sydd wedi cael eu bedyddio. (Darllen 1 Timotheus 3:10.) A oes yna frodyr yn eich cynulleidfa sydd yn eu harddegau cynnar neu’n ieuengach? A ydyn nhw’n gosod esiampl dda o astudio’r Beibl a pharatoi’n dda ar gyfer y cyfarfodydd? A ydyn nhw’n ateb yn y cyfarfodydd yn rheolaidd ac yn gyson yn y weinidogaeth hefyd? Os felly, rhowch aseiniadau iddyn nhw sy’n addas ar gyfer eu hoedran a’u hamgylchiadau. Yna, gall y brodyr hyn brofi erbyn eu harddegau hwyr eu bod nhw’n gymwys i fod yn weision y gynulleidfa.

Trwy roi aseiniadau i frodyr bedyddiedig, gall henuriaid eu profi “i weld a ydyn nhw’n gymwys” (Gweler paragraff 17)


18. Beth mae’n ei olygu i fod yn “rhydd o unrhyw gyhuddiad”?

18 ‘Yn rhydd o unrhyw gyhuddiad.’ Mae hyn yn golygu does gan neb sail i dy gyhuddo di o wneud unrhyw beth difrifol o’i le. Wrth gwrs, efallai bydd Cristion yn cael ei gamgyhuddo. Cafodd Iesu ei gamgyhuddo ac fe ddywedodd y byddai ei ddilynwyr yn cael eu trin yn yr un ffordd. (Ioan 15:20) Ond, os wyt ti’n cadw dy ymddygiad yn lân, fel Iesu, byddi di’n ennill enw da yn y gynulleidfa.—Math. 11:19.

19. Beth mae’n ei olygu i fod yn ‘ŵr i un wraig’?

19 “Yn wŷr i un wraig.” Os wyt ti’n briod, mae’n rhaid iti lynu wrth safon Jehofa ar gyfer priodas—un dyn ac un ddynes. (Math. 19:​3-9) Mae hyn golygu mwy na pheidio â bod yn anfoesol yn rhywiol. (Heb. 13:4) Mae’n rhaid iti fod yn ffyddlon i dy wraig drwy beidio byth â rhoi sylw amhriodol i ferched eraill.—Job 31:1.

20. Sut mae dyn yn gofalu am ei deulu “mewn ffordd dda”?

20 “Yn arwain eu plant a’u teuluoedd eu hunain mewn ffordd dda.” Os wyt ti’n benteulu, mae’n rhaid iti gymryd dy gyfrifoldeb o ddifri. Mae’n rhaid arwain addoliad teuluol yn gyson, pregethu gyda dy wraig a dy blant mor aml â phosib, a helpu dy blant i ddatblygu perthynas bersonol â Jehofa. (Eff. 6:4) Mae dyn sy’n gofalu am ei deulu yn dangos ei fod yn gallu gofalu am y gynulleidfa.—Cymhara 1 Timotheus 3:5.

21. Os dwyt ti ddim eto’n gwasanaethu fel gwas y gynulleidfa, beth gelli di ei wneud?

21 Os wyt ti’n frawd ond ddim eto’n gwasanaethu fel gwas y gynulleidfa, plîs darllena’r erthygl hon yn ofalus a gweddïa ar Jehofa am y mater. Astudia’r gofynion a gweithia’n galed i’w cyrraedd. Meddylia am ddyfnder dy gariad at Jehofa ac at dy frodyr a dy chwiorydd. Datblyga’r awydd i wasanaethu dy deulu ysbrydol a byddi di’n teimlo llawenydd mawr o’u helpu nhw. (1 Pedr 4:​8, 10) Yn sicr, bydd Jehofa’n bendithio dy ymdrechion i estyn allan er mwyn gwasanaethu fel gwas y gynulleidfa!—Phil. 2:13.

CÂN 17 ‘Dwi Eisiau Dy Helpu’

a DISGRIFIAD O’R LLUN: Ar y chwith, Iesu yn gwasanaethu ei ddisgyblion yn ostyngedig; ar y dde, gwas y gynulleidfa yn helpu brawd hŷn.