Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Help i Astudio’n Rheolaidd

Help i Astudio’n Rheolaidd

A WYT ti’n mwynhau astudio’r Beibl yn rheolaidd? Ar adegau, gall fod yn anodd inni i gyd. Ond meddylia am y pethau eraill rydyn ni’n eu gwneud yn rheolaidd, fel ymolchi. Mae ymolchi yn cymryd amser ac ymdrech ar ein rhan, ond rydyn ni’n teimlo cymaint yn well wedyn! Mae astudio’r Beibl yn debyg i gael ein “glanhau â gair Duw, fel petai mewn bath o ddŵr.” (Eff. 5:26) Ystyria rai awgrymiadau a all helpu:

  • Creu cynllun. Astudiaeth bersonol o’r Beibl yw un o’r “pethau mwyaf pwysig” y mae’n rhaid i Gristion ei wneud. (Phil. 1:10) Er mwyn dy helpu di i ddilyn dy gynllun, beth am ei roi rhywle amlwg fel ar hysbysfwrdd neu ar ddrws yr oergell? Neu, beth am osod larwm ar dy ddyfais electronig sy’n dy atgoffa di i astudio?

  • Addasu i dy anghenion. A ydy hi’n haws iti ganolbwyntio am gyfnod hir neu am nifer o gyfnodau byr? Ti sy’n gwybod yn well. Addasa dy sesiynau astudio yn ôl yr angen. Os nad wyt ti’n teimlo fel astudio, ceisia astudio am ddeg munud yn unig. Cofia fod deg munud o astudio yn well na pheidio ag astudio o gwbl. Unwaith iti ddechrau, efallai byddi di’n cael dy gymell i wneud mwy.—Phil. 2:13.

  • Dewis pynciau o flaen llaw. Os wyt ti’n dechrau heb wybod beth i’w astudio, efallai nad wyt ti’n defnyddio dy amser “yn y ffordd orau.” (Eff. 5:16) Beth am greu rhestr o erthyglau neu bynciau hoffet ti eu hastudio? Ysgrifenna i lawr unrhyw gwestiynau sy’n dod i dy feddwl. Efallai ar ddiwedd dy sesiwn astudio bydd gen ti fwy o syniadau i ychwanegu at dy restr.

  • Bod yn hyblyg. Ceisia gadw dy gynllun astudio yn hyblyg. Amrywia faint o amser rwyt ti’n ei dreulio yn astudio neu’r pynciau rwyt ti’n eu dewis. Nid pwnc, amser, neu hyd dy sesiwn astudio sy’n bwysig, ond dy fod ti’n ei wneud yn rheolaidd.

Byddwn ni’n elwa o gael rwtîn o astudio’n rheolaidd. Byddwn ni’n nesáu at Jehofa, dysgu i wneud penderfyniadau doeth, a chael ein cryfhau.—Jos. 1:8.