Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 44

CÂN 33 Bwrw Dy Faich ar Jehofa

Sut i Ddelio ag Anghyfiawnder

Sut i Ddelio ag Anghyfiawnder

“Peidiwch â gadael i ddrygioni eich concro chi; ewch ati i goncro’r drygioni â’r daioni.”RHU. 12:21.

PWRPAS

Sut i ddelio ag anghyfiawnder mewn ffordd fydd ddim yn gwneud pethau’n waeth.

1-2. Sut efallai gall anghyfiawnder effeithio ar bob un ohonon ni?

 RHODDODD Iesu eglureb am wraig weddw a oedd yn gofyn am help gan farnwr am ei bod hi’n cael ei cham-drin. Does dim syndod fod yr hanes hwnnw wedi cyffwrdd â chalonnau disgyblion Iesu, oherwydd yn yr adeg honno roedd y bobl hefyd wedi cael eu cam-drin. (Luc 18:​1-5) Rydyn ni heddiw yn gallu deall sut roedd hi’n teimlo oherwydd rydyn ni wedi profi anghyfiawnder yn ein bywydau ni hefyd.

2 Yn y byd heddiw mae rhagfarn, ymddwyn heb gariad, a bod yn farus yn gyffredin. Felly, dydyn ni ddim yn cael ein synnu pan ydyn ni’n cael ein trin yn annheg. (Preg. 5:8) Gallwn ni ddysgu llawer o’r ffordd gwnaeth Iesu ymateb i anghyfiawnder gan wrthwynebwyr drygionus. Rhywbeth a all ein synnu ni yw pan ydyn ni’n cael ein camfarnu gan frawd neu chwaer. Wrth gwrs dydy ein brodyr a’n chwiorydd ddim yn gwrthwynebu’r gwir, maen nhw ond yn amherffaith. Ond os ydyn ni’n gallu bod yn amyneddgar gyda gwrthwynebwyr sy’n trin ni yn annheg, cymaint yn fwy y dylen ni fod yn amyneddgar gyda’n cyd-gredinwyr! Sut mae Jehofa’n teimlo pan ydyn ni’n cael ein trin yn anghyfiawn neu’n annheg gan rai tu mewn, neu tu allan, i’r gynulleidfa? A ydy ef yn cymryd sylw ohonon ni?

3. Ydy’r anghyfiawnder rydyn ni’n ei wynebu yn bwysig i Jehofa, ac os felly, pam?

3 Mae’r ffordd rydyn ni’n cael ein trin yn bwysig i Jehofa. Mae Jehofa “yn caru beth sy’n gyfiawn.” (Salm 37:28) Mae Iesu yn ein calonogi ni y bydd Jehofa yn “rhoi cyfiawnder . . . yn gyflym” ar yr adeg iawn. (Luc 18:​7, 8) Ac yn fuan bydd yn cael gwared ar bob peth sy’n gwneud inni ddioddef unrhyw fath o anghyfiawnder.—Salm 72:​1, 2.

4. Pa help mae Jehofa’n ei roi inni heddiw?

4 Wrth inni aros am yr amser pan fydd Jehofa’n datrys y problemau hyn, mae Jehofa’n ein helpu ni i ddelio ag anghyfiawnder. (2 Pedr 3:13) Mae’n ein dysgu ni sut i osgoi gwneud unrhyw beth annoeth pan ydyn ni’n cael ein trin yn annheg. Trwy ei fab, mae wedi rhoi esiampl berffaith inni o’r ffordd gallwn ni ddelio ag anghyfiawnder, ac mae wedi rhoi cyngor ymarferol inni i’w ddilyn pan ydyn ni’n cael ein trin yn annheg.

BYDDA’N OFALUS WRTH YMATEB I ANGHYFIAWNDER

5. Pam dylen ni fod yn ofalus yn y ffordd rydyn ni’n ymateb i anghyfiawnder?

5 Efallai bydd anghyfiawnder yn ein brifo ni i’r byw. (Preg. 7:7) Roedd gweision ffyddlon fel Job a Habacuc yn teimlo’r un fath. (Job 6:​2, 3; Hab. 1:​1-3) Er bod ein teimladau yn hollol naturiol, mae angen inni fod yn ofalus am sut rydyn ni’n ymateb fel nad ydyn ni’n gwneud rhywbeth anghywir.

6. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl Absalom? (Gweler hefyd y llun.)

6 Gallen ni ymateb i anghyfiawnder drwy geisio delio â’r mater ar ein pennau’n hunain. Ond, gall ymateb fel hyn achosi i’r sefyllfa waethygu. Ystyria esiampl Absalom, mab y Brenin Dafydd. Roedd wedi gwylltio ar ôl i’w hanner brawd Amnon dreisio ei chwaer Tamar. Yn ôl Cyfraith Moses, roedd Amnon yn haeddu marw am beth roedd wedi ei wneud. (Lef. 20:17) Doedd dicter Absalom ddim yn anghywir, ond roedd yn anghywir iddo ddelio ag Amnon ei hun a’i ladd.—2 Sam. 13:​20-23, 28, 29.

Gwylltiodd Absalom oherwydd yr anghyfiawnder a ddigwyddodd yn achos Tamar (Gweler paragraff 6)


7. Sut gwnaeth anghyfiawnder effeithio ar y salmydd?

7 Pan mae’n edrych fel bod y rhai sy’n gweithredu’n annheg yn mynd heb gosb, efallai byddwn ni’n cwestiynu a ydy hi’n werth yr ymdrech i wneud beth sy’n iawn. Ystyria’r salmydd a welodd y rhai drwg yn ymddangos yn llwyddiannus ar draul y rhai cyfiawn. Dywedodd: “Dyna sut rai ydy pobl ddrwg! Yn malio dim.” (Salm 73:12) Roedd yr anghyfiawnder yn gwneud iddo deimlo mor drist nes iddo bron â cholli ei hyder yn y buddion o wasanaethu Jehofa, gan ddweud: “Roeddwn i’n ceisio deall y peth, a doedd e’n gwneud dim sens.” (Salm 73:​14, 16) Fe wnaeth hyd yn oed ddweud: “Ond bu bron i mi faglu; roeddwn i bron iawn â llithro.” (Salm 73:2) Gwnaeth rhywbeth tebyg ddigwydd i frawd y byddwn ni’n ei alw’n Alberto.

8. Sut gwnaeth anghyfiawnder effeithio ar un brawd?

8 Cafodd Alberto ei gamgyhuddo o ddwyn arian y gynulleidfa. O ganlyniad, collodd ei freintiau a pharch y brodyr yn y gynulleidfa a wnaeth glywed am y peth. Mae’n dweud: “Roeddwn i’n teimlo’n chwerw, yn flin ac yn rhwystredig.” Fe wnaeth ganiatáu i’w boen emosiynol effeithio ar ei berthynas â Jehofa, ac fe ddaeth yn anweithredol am bum mlynedd. Mae’r profiad hwn yn dangos beth all ddigwydd os dydyn ni ddim yn rheoli ein teimladau tuag at anghyfiawnder.

EFELYCHA SUT GWNAETH IESU DDELIO AG ANGHYFIAWNDER

9. Ym mha ffyrdd cafodd Iesu ei drin yn annheg? (Gweler hefyd y llun.)

9 Gosododd Iesu esiampl berffaith o sut i ddelio ag anghyfiawnder. Ystyria sut cafodd ei drin yn annheg gan lawer o bobl, gan gynnwys ei deulu. Roedd ei berthnasau yn ei gyhuddo o fod yn wallgof, yr arweinwyr crefyddol yn ei gyhuddo o weithio gyda’r cythreuliaid, a gwnaeth y milwyr Rhufeinig ei wawdio, ei arteithio, a’i ladd. (Marc 3:​21, 22; 14:55; 15:​16-20, 35-37) Ond, gwnaeth Iesu ddioddef yr holl bethau hyn a mwy heb dalu’r pwyth yn ôl. Beth gallwn ni ei ddysgu o’i esiampl?

Gosododd Iesu esiampl berffaith o sut i ddelio ag anghyfiawnder (Gweler paragraffau 9-10)


10. Sut gwnaeth Iesu ymateb i anghyfiawnder? (1 Pedr 2:​21-23)

10 Darllen 1 Pedr 2:​21-23. a Gadawodd Iesu esiampl berffaith inni ei dilyn pan ydyn ni’n wynebu anghyfiawnder. Roedd yn gwybod pryd i siarad a phryd i aros yn ddistaw. (Math. 26:​62-64) Ni wnaeth ymateb i bob cyhuddiad ffals yn ei erbyn. (Math. 11:19) Pan wnaeth ef siarad, ni wnaeth sarhau ei wrthwynebwyr na’u bygwth nhw. Dangosodd Iesu hunanreolaeth oherwydd fe ‘roddodd ei hun yn nwylo’r Un sy’n barnu’n gyfiawn.’ Roedd yn gwybod bod Jehofa’n gweld ei fod yn cael ei drin yn annheg, ac fe wnaeth trystio y byddai Ef yn datrys yr anghyfiawnder ar yr adeg iawn.

11. Ym mha ffyrdd gallwn ni reoli beth rydyn ni’n ei ddweud? (Gweler hefyd y lluniau.)

11 Gallwn ni efelychu Iesu drwy reoli sut rydyn ni’n ymateb wrth wynebu anghyfiawnder. Weithiau, byddwn ni’n dewis peidio â dweud na gwneud unrhyw beth oherwydd nad ydy’r anghyfiawnder yn rhy ddrwg, neu er mwyn osgoi gwneud pethau’n waeth. (Preg. 3:7; Iago 1:​19, 20) Ar adegau eraill, efallai bydd rhaid inni ddweud rhywbeth er mwyn amddiffyn ein ffydd, neu pan ydyn ni’n gweld rhywun yn cael ei gam-drin. (Act. 6:​1, 2) Petasen ni’n dewis siarad, byddai angen inni fod yn addfwyn ac yn barchus.—1 Pedr 3:15. b

Wrth wynebu anghyfiawnder, gallwn ni efelychu Iesu drwy ddewis yn ofalus beth i’w ddweud a phryd i siarad (Gweler paragraffau 11-12)


12. Sut gallwn ni roi ein hunain “yn nwylo’r Un sy’n barnu’n gyfiawn”?

12 Gallwn ni hefyd efelychu Iesu drwy roi ein hunain “yn nwylo’r Un sy’n barnu’n gyfiawn.” Pan mae eraill yn ein camfarnu neu’n ein cam-drin ni, gallwn ni fod yn sicr bod Jehofa’n gwybod y gwir. Gall hyder o’r fath ein helpu ni i ddal ati er gwaethaf triniaeth annheg oherwydd ein bod ni’n gwybod y bydd Jehofa’n cywiro pethau yn y pen draw. Bydd gadael pethau yn nwylo Jehofa yn amddiffyn ein calonnau rhag teimladau niweidiol fel dicter a chasineb. Gall y teimladau hyn wneud inni orymateb, dinistrio ein llawenydd, a niweidio ein perthynas â Jehofa.—Salm 37:8.

13. Beth all ein helpu ni i ddal ati er gwaethaf anghyfiawnder?

13 Wrth gwrs, fydden ni byth yn gallu dilyn esiampl Iesu yn berffaith. Ar adegau, byddwn ni’n dweud neu’n gwneud pethau byddwn ni’n eu difaru wedyn. (Iago 3:2) A gall rhai o’n profiadau o anghyfiawnder ein gadael ni gyda phoen emosiynol a chorfforol ofnadwy. Os dyna ydy dy brofiad di, cofia fod Jehofa’n gwybod yn union sut rwyt ti’n teimlo. Ac mae Iesu’n gallu cydymdeimlo â dy deimladau gan ei fod ef hefyd wedi profi anghyfiawnder. (Heb. 4:​15, 16) Yn ogystal â rhoi Iesu fel esiampl berffaith inni, mae Jehofa hefyd yn rhoi cyngor ymarferol sy’n gallu ein helpu i ddod dros anghyfiawnder. Gad inni edrych ar ddwy adnod yn llyfr Rhufeiniaid sy’n gallu ein helpu ni.

“GADEWCH HYNNY I DDUW”

14. Beth yw ystyr yr ymadrodd, “gadewch hynny i Dduw yn ei ddicter cyfiawn”? (Rhufeiniaid 12:19)

14 Darllen Rhufeiniaid 12:19. Pan ddywedodd yr apostol Paul wrth y Cristnogion, “gadewch hynny i Dduw yn ei ddicter cyfiawn,” beth roedd hynny’n ei olygu? Rydyn ni’n gadael pethau i Dduw drwy adael iddo benderfynu pryd a sut i ddangos ei ddicter cyfiawn. Ar ôl i frawd o’r enw John gael ei drin yn annheg, dywedodd: “Roedd rhaid imi frwydro yn erbyn y temtasiwn i drwsio’r sefyllfa ar fy mhen fy hun. Gwnaeth Rhufeiniaid 12:19 fy helpu i fod yn amyneddgar ac i drystio Jehofa.”

15. Sut mae aros i Jehofa ddatrys problem o les inni?

15 Mae aros i Jehofa ddatrys problem o les inni. Trwy wneud hynny, byddwn ni’n osgoi’r trafferthion sy’n dod o geisio datrys y broblem ein hunain. Mae Jehofa eisiau ein helpu ni. Mae’n dweud, fel petai, ‘Gad yr anghyfiawnder i mi, fe fydda i’n datrys y sefyllfa.’ Os ydyn ni’n derbyn addewid Jehofa, “fe fydda i’n talu yn ôl,” gallwn ni roi’r mater y tu ôl inni, gan wybod y bydd ef yn delio â’r mater yn y ffordd orau bosib. Dyna beth helpodd John, a ddyfynnwyd yn gynharach. Dywedodd, “Os ydw i’n gallu aros yn amyneddgar am Jehofa, bydd ef yn delio â’r sefyllfa yn llawer gwell na fi.”

“EWCH ATI I GONCRO’R DRYGIONI Â’R DAIONI”

16-17. Sut gall gweddïo ein helpu ni i ddal ati “i goncro’r drygioni â’r daioni”? (Rhufeiniaid 12:21)

16 Darllen Rhufeiniaid 12:21. Cafodd Cristnogion ei annog gan Paul i “goncro’r drygioni â’r daioni.” Yn y Bregeth ar y Mynydd, dywedodd Iesu: “Parhewch i garu eich gelynion ac i weddïo dros y rhai sy’n eich erlid.” (Math. 5:44) Dyna’n union beth wnaeth ef. Mae’n debyg dy fod ti wedi myfyrio ar ddioddefaint Iesu wrth iddo gael ei hoelio ar y stanc gan filwyr Rhufeinig. Ni allwn ni ddeall yn llwyr y boen, y cywilydd, a’r anghyfiawnder gwnaeth ef eu dioddef.

17 Ni chafodd Iesu ei goncro gan yr anghyfiawnder gwnaeth ef ei wynebu. Yn lle siarad yn erbyn y milwyr hynny, fe weddïodd: “Dad, maddau iddyn nhw, oherwydd dydyn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.” (Luc 23:34) Gall gweddïo dros y rhai sy’n ein cam-drin leihau ein teimladau o ddicter a chasineb, a hyd yn oed newid y ffordd rydyn ni’n gweld y rhai sydd wedi ein brifo.

18. Sut roedd gweddïo ar Jehofa yn helpu Alberto a John i ddelio ag anghyfiawnder?

18 Roedd gweddïo ar Jehofa yn helpu’r ddau frawd a ddyfynnwyd yn gynharach i ymdopi wrth wynebu anghyfiawnder. Mae Alberto yn dweud: “Gweddïais dros y brodyr a wnaeth fy nhrin yn annheg. Gofynnais i Jehofa nifer o weithiau am help i stopio dal dig am beth roedd wedi digwydd imi.” Mae Alberto nawr yn gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon unwaith eto. Dywedodd John: “Gweddïais nifer o weithiau dros y brawd a wnaeth fy mrifo i. Roedd gweddïau o’r fath yn fy helpu i beidio â’i farnu ac i stopio teimlo’n grac. Mae gweddïo hefyd wedi fy helpu i gael heddwch mewnol.”

19. Beth mae’n rhaid inni ei wneud wrth ddisgwyl am ddiwedd y system hon? (1 Pedr 3:​8, 9)

19 Wrth ddisgwyl am ddiwedd y system hon, dydyn ni ddim yn gallu dweud pa fath o anghyfiawnderau byddwn ni’n eu hwynebu. Beth bynnag sydd o’n blaenau, gad inni ddal ati i weddïo am help Jehofa. Hefyd, gad inni barhau i roi egwyddorion y Beibl ar waith ac efelychu’r ffordd gwnaeth Iesu ymateb i anghyfiawnder. Wrth wneud hyn, gallwn ni fod yn sicr o gael bendith Jehofa.—Darllen 1 Pedr 3:​8, 9.

CÂN 38 Bydd Ef yn Dy Gryfhau

a Ym mhenodau 2 a 3 o lythyr cyntaf yr apostol Pedr, fe ddisgrifiodd nifer o sefyllfaoedd lle roedd Cristnogion y ganrif gyntaf wedi cael eu trin yn annheg gan feistri creulon neu gan wŷr nad oedd yn Gristnogion.—1 Pedr 2:​18-20; 3:​1-6, 8, 9.

b Gweler y fideo ar jw.org Sut Mae Cariad yn Arwain at Wir Heddwch.