Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Yn Ystod Adegau o Ryfel ac o Heddwch, Rhoddodd Jehofa Gryfder Inni

Yn Ystod Adegau o Ryfel ac o Heddwch, Rhoddodd Jehofa Gryfder Inni

Paul: Roedden ni’n teimlo mor gyffrous! Ym mis Tachwedd, 1985, roedden ni ar ein ffordd i’n haseiniad cenhadol cyntaf—Liberia, yng Ngorllewin Affrica. Gwnaeth yr awyren stopio yn Senegal. “Mewn ychydig dros awr,” dywedodd Anne, “byddwn ni’n cyrraedd Liberia!” Ond yna fe glywon ni gyhoeddiad: “Mae angen i bawb sy’n mynd i Liberia adael yr awyren. Allwn ni ddim lanio yno oherwydd gwrthryfel.” Am y deg diwrnod nesaf, arhoson ni gyda chenhadon yn Senegal, yn clywed adroddiadau o Liberia am y nifer o bobl a oedd yn cael eu lladd. Hefyd, doedd y llywodraeth ddim yn gadael i bobl fod mas o’u tai gyda’r nos neu bydden nhw’n cael eu lladd yn syth.

Anne: Yn naturiol, rydyn ni’n bobl bwyllog iawn. O fy mhlentyndod, rydw i wedi cael fy ngalw’n Anxious Annie. Rydw i hyd yn oed yn cael amser anodd yn croesi’r hewl! Ond, roedden ni’n benderfynol o gyrraedd ein haseiniad.

Paul: Gwnaeth Anne a minnau dyfu lan yn yr un ardal yng ngorllewin Lloegr. Dechreuodd y ddau ohonon ni arloesi yn syth ar ôl gadael ysgol. Roedd mam Anne a fy rhieni innau yn gefnogol iawn, a gwnaeth eu hanogaeth gryfhau ein hawydd i wasanaethu’n llawn amser am weddill ein bywydau. Pan oeddwn i’n 19 mlwydd oed, fe ges i’r fraint o fynd i’r Bethel, ac fe wnaeth Anne ymuno â mi ar ôl inni briodi ym 1982.

Seremoni raddio Gilead, Medi 8, 1985

Anne: Roedden ni’n caru’r Bethel, ond yn dymuno mynd i rywle gyda mwy o angen. Roedd gweithio gyda chyn-genhadon yn y Bethel yn cryfhau’r dymuniad hwnnw. Pob nos am dair blynedd, gweddïon ni ar Jehofa am fod yn genhadon. Felly, roedden ni wrth ein boddhau pan, ym 1985, fe dderbynion ni wahoddiad i fynychu dosbarth 79 o Ysgol Gilead! Cawson ni ein haseinio i Liberia.

CAWSON NI EIN CRYFHAU GAN GARIAD EIN BRODYR A’N CHWIORYDD

Paul: Aethon ni ar yr awyren gyntaf a gafodd caniatâd i fynd i Liberia. Roedd y bobl yn ofnadwy o ofnus. Doedden nhw’n dal ddim yn gallu mynd mas yn hwyr yn y nos. Roedd ond angen i gar wneud sŵn ac roedd y bobl yn dychryn ac yn ffoi. I dawelu ein pryder, darllenon ni’r Salmau bob nos. Ond, roedden ni’n wir yn caru ein haseiniad. Roedd Anne yn genhades yn y maes, ac roeddwn i yn y Bethel, yn gweithio gyda’r brawd John Charuk. a Dysgais i gymaint oddi wrtho oherwydd ei brofiad. Roedd yn deall amgylchiadau’r brodyr a’r chwiorydd yn dda.

Anne: Sut gwnaethon ni ddod i garu ein haseiniad mor gyflym? Oherwydd ein brodyr a’n chwiorydd. Dangoson nhw gariad cynnes a ffyddlondeb. Gwnaethon ni nesáu atyn nhw, fel cael teulu newydd. Roedd eu geiriau o gyngor yn ein cryfhau ni’n ysbrydol. Roedd y weinidogaeth yn anhygoel. Doedd y deiliaid ddim eisiau inni adael. Roedd pobl yn siarad am y Beibl ar y stryd, felly bydden ni’n gallu cerdded lan atyn nhw ac ymuno â’u sgwrs. Doedd hi ddim yn hawdd cael yr amser i astudio gyda phawb oedd eisiau astudiaeth. Dyna broblem hyfryd i’w chael!

CAEL EIN CRYFHAU ER GWAETHAF EIN PRYDERON

Yn gofalu am ffoaduriaid yn y Bethel yn Liberia ym 1990

Paul: Ym 1989, ar ôl pedair blynedd eithaf heddychlon, newidiodd bopeth ac roedden ni’n byw yng nghanol rhyfel cartref. Cymerodd gwrthryfelwyr reolaeth o’r ardal o gwmpas y Bethel ar yr 2ail o Orffennaf, 1990. Am dri mis fe gollon ni gysylltiad â phawb, gan gynnwys ein teuluoedd a’r Pencadlys. Roedd ’na drais ofnadwy a phrinder bwyd. Parhaodd y problemau hyn i effeithio ar y wlad gyfan am 14 o flynyddoedd.

Anne: Roedd rhai o un llwyth yn ymladd ac yn lladd rhai o lwythau eraill. Roedd ’na filwyr ym mhobman mewn dillad od yn cario llawer o arfau. Aethon nhw i mewn i bob tŷ a chymryd unrhyw beth roedden nhw’n dymuno. I rai ohonyn nhw, roedd lladd pobl fel lladd ieir. Roedden nhw’n blocio’r ffyrdd ac yn lladd pobl a oedd eisiau mynd heibio. Yna, roedden nhw’n creu pentwr o’r cyrff. Digwyddodd hyn yn agos i’r gangen. Cafodd rhai o’n brodyr ffyddlon eu lladd, gan gynnwys dau o’n cenhadon annwyl.

Peryglodd y Tystion eu bywydau er mwyn cuddio brodyr a chwiorydd a oedd yn perthyn i lwythau roedd y milwyr yn eu lladd. Gwnaeth y cenhadon a’r teulu Bethel yr un peth. Yn y Bethel, roedd rhai o’r brodyr a oedd wedi ffoi yn byw lan staer gyda ni tra bod eraill yn cysgu lawr staer. Roedden ni’n rhannu ein hystafell gyda theulu o saith.

Paul: Pob dydd, ceisiodd y milwyr ddod i mewn i weld os oedden ni’n cuddio pobl. Roedd gynnon ni system ddiogelwch oedd yn cynnwys pedwar person: dau yn gwylio o’r ffenest tra oedd dau yn mynd i’r giât y tu fas. Os oedd y ddau wrth y giât yn cadw eu dwylo o’u blaenau, roedd popeth yn iawn. Ond os oedden nhw’n symud eu dwylo y tu ôl i’w cefnau, roedd hynny’n golygu bod y gwrthryfelwyr wedi troi’n ymosodol. Yna, byddai’r rhai wrth y ffenest yn cuddio ein ffrindiau yn gyflym.

Anne: Un dydd, doedd y brodyr ddim yn gallu stopio grŵp o wrthryfelwyr rhag dod i mewn. Fe wnes i gloi fy hunan a chwaer yn yr ystafell ymolchi, lle roedd ’na rywle bach iawn i guddio mewn cwpwrdd gyda gwaelod ffals. Gwthiodd y chwaer ei hunan i mewn i’r cwpwrdd. Roedd y gwrthryfelwyr wedi fy nilyn i lan staer gyda’u harfau. Yn grac, fe wnaethon nhw fwrw ar y drws. Dywedodd Paul wrthyn nhw, “Mae fy ngwraig yn defnyddio’r ystafell ymolchi.” Roedd gosod gwaelod ffals y cwpwrdd yn swnllyd iawn a chymerodd oes i roi popeth yn ôl yn ei le. Dechreuais grynu’n ofnadwy o fy mhen i lawr i fy nhraed. Beth roeddwn i’n mynd i wneud? Gweddïais yn dawel, yn erfyn ar Jehofa am ei help. Wedyn, agorais y drws a’u cyfarch nhw’n ddistaw bach. Gwnaeth un ohonyn nhw wthio heibio a mynd yn syth i’r cwpwrdd. Ar ôl ei agor, a symud popeth o gwmpas ar y silffoedd, ffeindiodd ddim byd. Fe wnaethon nhw chwilio ym mhob ystafell gan gynnwys yr atig. Ond eto, ffeindion nhw ddim byd o gwbl.

ROEDD Y GWIR YN DISGLEIRIO YN Y TYWYLLWCH

Paul: Am fisoedd, doedd ’na ddim llawer o gwbl i’w fwyta. Ond roedd addoliad y bore fel “brecwast” inni, bwyd ysbrydol i’n cadw ni’n fyw. Roedden ni’n gwybod bod darllen ac astudio’r Beibl yn rhoi’r cryfder mewnol inni ddal ati.

Petasen ni wedi rhedeg mas o ddŵr a bwyd llythrennol, byddai wedi bod angen inni adael y gangen, a byddai’r rhai a oedd yn cuddio wedi cael eu lladd. Yn aml, rhoddodd Jehofa beth oedd ei angen arnon ni ar yr adeg iawn yn wyrthiol. Gofalodd Jehofa am ein hanghenion a’n helpu ni i reoli ein hofnau.

Wrth i’r byd dywyllu, disgleiriodd y gwir yn fwy byth. Sawl gwaith, roedd angen i’r brodyr a’r chwiorydd ffoi am eu bywydau, ond arhosodd eu ffydd yn gryf. Dywedodd rhai fod y rhyfel fel “ymarfer ar gyfer y trychineb mawr.” Cymerodd henuriaid a brodyr ifanc y blaen yn hyderus. Wrth i frodyr a chwiorydd ffoi, roedden nhw’n helpu ei gilydd, yn pregethu yn yr ardaloedd newydd, ac yn defnyddio unrhyw ddeunydd oedd ar gael i adeiladu neuaddau syml i gynnal cyfarfodydd. Roedd y cyfarfodydd yn guddfan o anogaeth mewn môr o anobaith, ac roedd pregethu’n helpu’r brodyr i ymdopi. Wrth inni ddosbarthu cymorth, gofynnodd rhai o’r brodyr am fagiau ar gyfer pregethu yn lle dillad. Roedd hynny’n galonogol iawn. Roedd llawer o bobl a oedd wedi profi pethau ofnadwy eisiau clywed y newyddion da. Roedden nhw’n rhyfeddu at ba mor hapus oedd y Tystion a oedd yn disgleirio fel golau yn y tywyllwch. (Math. 5:​14-16) Gwnaeth sêl y brodyr achosi i rai o’n gwrthryfelwyr creulon ddod yn Dystion.

CAEL EIN CRYFHAU CYN GADAEL EIN BRODYR

Paul: Tair gwaith, roedd angen inni adael y wlad am gyfnod byr, a dwywaith am flwyddyn gyfan. Gwnaeth un genhades grynhoi ein teimladau: “Yn Gilead, dysgon ni i roi ein holl galon i mewn i’n haseiniad. Felly pan oedd angen inni adael ein brodyr mewn amgylchiadau o’r fath roedd yn dorcalonnus!” Diolch byth, roedden ni’n dal yn gallu cefnogi’r maes yn Liberia o wledydd agos.

Mor hapus i fynd yn ôl i Liberia ym 1997

Anne: Ym Mai 1996, roedd pedwar ohonon ni mewn car y Bethel a oedd yn llawn dogfennau pwysig iawn. Roedden ni’n bwriadu teithio 10 milltir (16 km) i le saff ar ochr arall y dref. Ond yna, ymosododd gwrthryfelwyr crac ar ein hardal, saethu i’r awyr, ein stopio ni, tynnu tri ohonon ni allan, a gyrru bant gyda Paul yn y car. Roedden ni i gyd mewn sioc. Yn sydyn, cerddodd Paul drwy’r dyrfa gyda gwaed ar ei dalcen. I ddechrau, roedden ni’n meddwl ei fod wedi cael ei saethu, ond wedyn sylweddoli petasai hynny’n wir, fyddai ef ddim yn gallu cerdded! Roedd un o’r dynion wedi ei daro a’i wthio mas o’r car. Diolch byth, roedd ond yn friw bach.

Roedd ’na gerbyd milwrol yn agos yn llawn pobl a oedd wedi dychryn. Roedd rhaid inni ddal yn dynn gyda blaenau ein bysedd ar y tu fas o’r cerbyd. Aeth y gyrrwr mor gyflym nes inni bron â chwympo bant! Gwnaethon ni erfyn arno i stopio, ond roedd yn rhy ofnus i wrando. Rhywsut, fe ddalion ni ein gafael a chyrraedd wedi blino’n llwyr ac yn crynu oherwydd ofn.

Paul: Gyda dim byd ond y dillad brwnt ar ein cefnau wedi eu rhwygo, edrychon ni ar ein gilydd a chwestiynu sut roedden ni’n dal yn fyw. Cysgon ni mewn cae wrth ochr hen hofrennydd gyda thyllau bwledi drosto. Byddai’r hofrennydd hwnnw’n ein cymryd ni i Sierra Leone y diwrnod nesaf. Roedden ni’n ddiolchgar iawn i fod yn fyw, ond roedden ni’n poeni’n arw am ein brodyr yn Liberia.

CAEL EIN CRYFHAU AR GYFER HER ANNISGWYL

Anne: Roedd y brodyr yn y Bethel yn Freetown, Sierra Leone, yn gofalu amdanon ni ac roedden ni’n saff. Ond dechreuodd atgofion dychrynllyd godi yn fy mhen. Yn ystod y dydd, doeddwn i ddim yn gallu meddwl yn glir, doedd pethau ddim yn teimlo’n real, ac roeddwn i’n ofni bod rhywbeth ofnadwy ar fin digwydd. Yn y nos, byddwn i’n deffro yn chwysu, yn crynu, ac yn ffaelu anadlu. Roedd Paul yn fy nal i ac yn gweddïo gyda fi. Canon ni ganeuon y Deyrnas nes imi stopio crynu. Roeddwn i’n teimlo fel fy mod i’n mynd yn wallgof a ffaelu bod yn genhades dim mwy.

Fydda i byth yn anghofio beth ddigwyddodd nesaf. Yr wythnos honno, cawson ni ddau gylchgrawn. Un oedd rhifyn Mehefin 8, 1996, o Deffrwch! Roedd yn cynnwys yr erthygl “Coping With Panic Attacks.” Gwnaeth hynny fy helpu i ddeall beth oedd yn digwydd imi. Yr ail oedd rhifyn Mai 15, 1996, o’r Tŵr Gwylio gyda’r erthygl, “Where Do They Get Their Strength?” Roedd yn cynnwys llun o bilipala wedi ei anafu. Esboniodd yr erthygl fod pilipala yn gallu parhau i fwyta a hedfan er bod ei adenydd wedi eu niweidio. Yn yr un ffordd, gyda help ysbryd Jehofa, gallwn ni helpu eraill hyd yn oed os ydyn ni wedi cael ein niweidio’n emosiynol. Roedd y bwyd hwn gan Jehofa yn fy nghryfhau pan oedd wir angen arna i. (Math. 24:45) Fe wnes i ymchwil a chadw ffeil o erthyglau tebyg a wnaeth fy helpu. Dros amser, fe wnaeth effaith y trawma ddechrau lleddfu.

CAEL EIN CRYFHAU I ADDASU

Paul: Roedden ni mor hapus bryd bynnag roedden ni’n gallu mynd yn ôl i Liberia. Erbyn diwedd 2004 roedden ni wedi bod yn ein haseiniad am bron i 20 mlynedd. Roedd y rhyfel wedi gorffen ac roedd ’na gynlluniau i adeiladu yn y gangen. Ond yn sydyn, derbynion ni aseiniad newydd.

Roedd hyn yn brawf anferth. Roedden ni mor agos at ein teulu ysbrydol—sut bydden ni’n ymdopi? Roedden ni’n cofio gadael ein teuluoedd i fynd i Gilead a gweld sut roedd Jehofa wedi ein bendithio ni. Felly, fe dderbynion ni ein haseiniad newydd yn Ghana.

Anne: Collon ni lawer o ddagrau wrth adael Liberia. Ond, gwnaeth Frank, brawd hŷn a doeth, ein synnu ni pan ddywedodd: “Mae’n rhaid ichi anghofio amdanon ni!” Aeth ymlaen i esbonio: “Rydyn ni’n gwybod fyddwch chi byth yn ein hanghofio ni, ond mae’n rhaid ichi roi eich holl galon mewn i’ch aseiniad newydd. Mae wedi dod o Jehofa, felly canolbwyntiwch ar y brodyr a’r chwiorydd yno.” Fe wnaeth hyn ein cryfhau ni am yr her o ddechrau eto, lle doedd neb yn ein hadnabod ni ac roedd popeth yn newydd.

Paul: Fe wnaethon ni ddod i garu ein teulu ysbrydol newydd yn Ghana yn gyflym. Roedd ’na gymaint o Dystion yno! Roedd sefydlogrwydd a chryfder ysbrydol ein ffrindiau newydd yn dysgu llawer inni. Ar ôl gwasanaethu yn Ghana am 13 o flynyddoedd, yn annisgwyl, cawson ni ein gofyn i wasanaethu yng nghangen Dwyrain Affrica yn Cenia. Teimlon ni’r golled o’n ffrindiau annwyl o’n haseiniadau cynt, ond fe wnaethon ni agosáu at y brodyr ffyddlon yn Cenia yn syth. Ac fel yn Ghana a Liberia, mae ’na angen yn y gwaith pregethu yn Cenia.

Gyda ffrindiau newydd yn nhiriogaeth cangen Dwyrain Affrica yn 2023

EDRYCH YN ÔL

Anne: Dros y blynyddoedd, rydw i wedi profi amgylchiadau hynod o anodd. Gall sefyllfaoedd peryglus gael effaith corfforol ac emosiynol arnon ni. Allwn ni ddim disgwyl i Jehofa ein hamddiffyn ni o bethau o’r fath. Rydw i’n dal yn teimlo’n sâl ac yn colli teimlad yn fy nwylo o glywed sŵn gynnau. Ond rydw i wedi dysgu i ddibynnu ar yr help y mae Jehofa’n ei roi i’n cryfhau ni, gan gynnwys cefnogaeth ein brodyr a’n chwiorydd. Trwy gadw at rwtîn ysbrydol da, mae Jehofa wedi ein helpu ni i aros yn ein haseiniad.

Paul: Mae rhai yn gofyn, “A wyt ti’n caru dy aseiniad?” Gall gwledydd fod yn hyfryd, ond gallan nhw hefyd fod yn ansefydlog ac yn beryglus. Felly, beth rydyn ni’n ei garu yn fwy na’r wlad? Y brodyr a’r chwiorydd gwerthfawr, ein teulu. Er gwaethaf cefndiroedd gwahanol, rydyn ni i gyd o’r un meddwl. Yn wreiddiol, cryfhau ein brodyr oedd ein bwriad, ond y gwirionedd yw eu bod nhw wedi ein cryfhau ni.

Mae ein brawdoliaeth fyd-eang yn wyrth gan Jehofa. Mae ’na wastad deulu ysbrydol a chartref inni ym mhob cynulleidfa. Os ydyn ni’n parhau i ddibynnu ar Jehofa, bydd ef yn bendant yn ein cryfhau ni yn ôl yr angen.—Phil. 4:13.

a Gweler hanes bywyd John Charuk, “I Am Grateful to God and Christ,” yn rhifyn Mawrth 15, 1973, o’r Tŵr Gwylio Saesneg.