Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut Bydd Adnabod Duw yn Eich Helpu?

Sut Bydd Adnabod Duw yn Eich Helpu?

Hyd yn hyn, rydyn ni wedi trafod nifer o bethau a fydd yn ein helpu ni i ateb y cwestiwn, Pwy Ydy Duw? Dechreuon ni drwy weld yn y Beibl mai Jehofa ydy ei enw, a chariad ydy ei brif rinwedd. Edrychon ni hefyd ar beth mae Jehofa wedi ei wneud ac y bydd yn ei wneud i helpu’r ddynolryw. Mae llawer mwy i’w ddysgu am Dduw, ond efallai byddwch chi’n gofyn sut bydd gwneud hynny yn eich helpu chi.

Mae Jehofa yn addo: “Os byddi di’n ceisio’r ARGLWYDD go iawn, bydd e’n gadael i ti ddod o hyd iddo.” (1 Cronicl 28:9) Meddyliwch am werth y rhodd sydd o fewn eich cyrraedd wrth ichi chwilio am Dduw a dod i’w adnabod—perthynas glòs gyda Jehofa! (Diarhebion 3:32) Sut gall perthynas â Duw eich helpu?

Gwir hapusrwydd. Mae Jehofa wedi ei ddisgrifio fel “y Duw hapus.” (1 Timotheus 1:11) Bydd nesáu ato ef ac efelychu eu ffyrdd yn rhoi gwir hapusrwydd ichi, a bydd hynny yn eich helpu yn emosiynol, yn feddyliol, ac yn gorfforol. (Salm 33:12) Byddwch chi’n gallu byw bywyd hapus—drwy osgoi arferion niweidiol, drwy feithrin arferion iach, a thrwy gadw perthynas dda gyda phobl eraill. Byddwch chi’n dod i gytuno â’r salmydd a ddywedodd: “Dw i’n gwybod mai cadw’n agos at Dduw sydd orau.”—Salm 73:28.

Sylw personol a gofal. Mae Jehofa yn dweud wrth ei weision: “Gadewch i mi roi cyngor i chi, wyneb yn wyneb.” (Salm 32:8) Mae yn addo rhoi sylw personol i’w weision a gofal sy’n ateb eu hanghenion unigol. (Salm 139:1, 2) Ar ôl ichi feithrin perthynas dda gyda Jehofa, fe fyddwch chi’n gweld ei fod yn gefn ichi bob amser.

Dyfodol braf. Mae Jehofa yn cynnig bywyd hapusach ichi heddiw, ond hefyd mae’n agor y ffordd i ddyfodol braf iawn. (Eseia 48:17, 18) Mae’r Beibl yn dweud: “Dyma beth sy’n arwain i fywyd tragwyddol, eu bod nhw’n dod i dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r un rwyt ti wedi ei anfon, Iesu Grist.” (Ioan 17:3) Yn y dyddiau cythryblus hyn, mae’r gobaith y mae Duw yn ei gynnig yn gallu bod fel angor sy’n ein cadw ni “yn sicr ac yn gadarn.”—Hebreaid 6:19.

Dyma ond ychydig o’r rhesymau da dros ddod i adnabod Duw yn well a meithrin perthynas bersonol ag ef. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, croeso ichi siarad ag unrhyw un o Dystion Jehofa neu fynd i’n gwefan jw.org.