Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth Mae Duw Wedi Ei Wneud?

Beth Mae Duw Wedi Ei Wneud?

Os ydych chi eisiau dod i adnabod rhywun, peth da fyddai dysgu am y pethau y mae wedi eu gwneud. Yn yr un modd, os ydych chi am ddod i adnabod Duw yn dda, mae angen dysgu am y pethau y mae ef wedi eu gwneud. Efallai byddwch yn synnu o weld sut mae’r pethau mae Duw wedi eu gwneud yn y gorffennol yn ein helpu ni heddiw ac yn cynnig dyfodol braf inni.

CREODD BOPETH ER EIN LLES

Jehofa Dduw ydy’r Creawdwr Mawr. “Rydyn ni’n gallu deall ei rinweddau anweledig os ydyn ni’n astudio’r ffordd mae’r byd wedi cael ei greu.” (Rhufeiniaid 1:20) Defnyddiodd ei rym i greu y ddaear. Fe ydy’r un osododd y byd yn ei le trwy ei ddoethineb, a lledu’r awyr trwy ei ddeall.” (Jeremeia 10:12) Mae’r greadigaeth ryfeddol yn dangos bod gan Dduw ddiddordeb ynon ni.

Ystyriwch sut mae Jehofa wedi cyfoethogi ein bywydau drwy ein creu ni “ar ei ddelw” ei hun. (Genesis 1:27) Mae hynny yn golygu ei bod hi’n bosib inni ddangos, i raddau bach, yr un rhinweddau ag ef. Rhoddodd inni’r gallu i fod yn bobl ysbrydol, i ddeall ei safbwynt a’i werthoedd. Os ydyn ni’n byw yn ôl y gwerthoedd hynny, byddwn ni’n hapusach a bydd ystyr i’n bywydau. Ar ben hynny, mae Jehofa wedi rhoi’r cyfle inni feithrin perthynas ag ef.

Mae’r ddaear yn dangos sut mae Duw yn teimlo amdanon ni. Dywedodd yr apostol Paul: “Rhoddodd [Duw] dystiolaeth drwy wneud daioni, drwy roi glawogydd i [ni] o’r nef a thymhorau ffrwythlon, drwy roi digonedd o fwyd [inni] a thrwy lenwi [ein] calonnau â llawenydd.” (Actau 14:17) Mae Duw wedi rhoi inni fwy na’r pethau hanfodol ar gyfer bywyd. Y mae wedi darparu amrywiaeth syfrdanol o bethau, er mwyn inni fwynhau bywyd. A blas yn unig yw hyn o’r pethau roedd Duw yn bwriadu inni eu mwynhau.

Creodd Jehofa y ddaear er mwyn i fodau dynol fyw am byth arni. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae wedi rhoi’r ddaear yng ngofal y ddynoliaeth,” a’i fod wedi ei chreu “nid i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni.” (Salm 115:16; Eseia 45:18) Ond pwy fydd yn byw ar y ddaear, ac am ba hyd? “Bydd y rhai sy’n byw yn iawn yn meddiannu’r tir, ac yn aros yno am byth.”—Salm 37:29.

Creodd Jehofa y bobl gyntaf, Adda ac Efa, a’u rhoi mewn paradwys ar y ddaear “i’w thrin ac i ofalu amdani.” (Genesis 2:8, 15) Rhoddodd ddwy dasg iddyn nhw: “Byddwch yn ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a gofalwch amdani.” (Genesis 1:28) Felly roedd gan Adda ac Efa y cyfle i fyw am byth ar y ddaear. Ond dewison nhw fod yn anufudd i Dduw, a chollon nhw’r gobaith o “aros yno am byth.” Sut bynnag, fel y gwelwn ni, nid yw hyn wedi newid pwrpas Duw ar ein cyfer ni nac ar gyfer y ddaear. Ond yn gyntaf, dewch inni ystyried rhywbeth arall y mae Duw wedi ei wneud.

RHODDODD EI AIR YSGRIFENEDIG INNI

Enw arall ar y Beibl ydy Gair Duw. Pam rhoddodd Jehofa y Beibl inni? Yn bennaf er mwyn inni ddysgu amdano. (Diarhebion 2:1-5) Wrth gwrs, dydy’r Beibl ddim yn ateb pob cwestiwn am Dduw—nid oes yr un llyfr yn gallu gwneud hynny. (Pregethwr 3:11) Ond mae popeth yn y Beibl yn ein helpu ni i adnabod Duw. Gwelwn ei bersonoliaeth drwy’r ffordd y mae’n trin pobl. Gwelwn y math o bobl mae Duw’n eu hoffi, neu ddim yn eu hoffi. (Salm 15:1-5) Dysgwn ei farn ar addoli, ar foesoldeb, ac ar bethau materol. Ac yng ngeiriau a gweithredoedd ei Fab, Iesu Grist, cawn y darlun cliriaf o bersonoliaeth Duw.—Ioan 14:9.

Rheswm arall y mae Jehofa wedi rhoi ei Air, y Beibl, inni ydy er mwyn inni wybod sut i gael bywydau hapus, yn llawn pwrpas. Drwy’r Beibl mae Jehofa yn esbonio sut i gael teulu hapus, i fod yn fodlon ar fywyd, a sut i ymdopi â phryderon. Hefyd, fel y cawn weld yn nes ymlaen, mae’r Beibl yn cynnwys atebion i gwestiynau mawr fel: Pam mae pobl yn dioddef? Beth fydd yn digwydd yn y dyfodol? Ac mae’n esbonio beth mae Duw wedi ei wneud i sicrhau bod ei bwrpas gwreiddiol yn cael ei gyflawni.

Mae’r Beibl yn llyfr syfrdanol mewn llawer o ffyrdd eraill sy’n dangos mai dim ond Duw allai fod wedi ei ysbrydoli. Cafodd ei ysgrifennu dros gyfnod o 1,600 o flynyddoedd, gan ryw 40 o ddynion, ond gan mai Duw yw ei Awdur, mae un thema ganolog iddo. (2 Timotheus 3:16) Yn wahanol i lyfrau eraill, mae miloedd o lawysgrifau hynafol yn dangos bod y testun wedi cael ei drosglwyddo’n gywir dros y canrifoedd. Ar ben hynny, mae’r Beibl wedi goroesi ymdrechion i’w atal rhag cael ei gyfieithu, ei ddosbarthu, a’i ddarllen. Mae’r Beibl wedi cael ei gyfieithu i fwy o ieithoedd a’i ddosbarthu’n ehangach nag unrhyw lyfr arall mewn hanes. Mae’r ffaith bod y Beibl yn bodoli yn profi bod “gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth.”—Eseia 40:8, BCND.

ADDAWODD GYFLAWNI EI BWRPAS

Rhywbeth arall mae Duw wedi ei wneud ydy sicrhau y caiff ei bwrpas ar ein cyfer ei gyflawni. Fel y gwelon ni, bwriad Duw oedd i fodau dynol fyw am byth ar y ddaear. Ond pan ddewisodd Adda fod yn anufudd i Dduw a phechu, fe gollodd y cyfle i fyw am byth, nid yn unig iddo ef ei hun, ond hefyd i’r plant a fyddai’n cael eu geni yn y dyfodol. “Daeth pechod i’r byd drwy un dyn, a daeth marwolaeth drwy bechod. Felly, lledaenodd marwolaeth i bawb oherwydd bod pawb wedi pechu.” (Rhufeiniaid 5:12) O ganlyniad, roedd hi’n ymddangos bod pwrpas Duw wedi methu. Beth oedd ymateb Jehofa?

Cymerodd Jehofa gamau a oedd yn gyson â’i bersonoliaeth. Oherwydd ei fod yn gyfiawn, fe wnaeth Jehofa alw Adda ac Efa i gyfrif am eu hymddygiad, ond yn ei gariad fe wnaeth ddarparu dros eu plant. Yn ei ddoethineb, gwelodd Jehofa ffordd o ddelio â’r sefyllfa, a chyhoeddodd hynny yn syth. (Genesis 3:15) Byddai’r ateb i bechod a marwolaeth yn dod drwy Fab Duw, Iesu Grist. Beth roedd hynny yn ei olygu?

Er mwyn achub pobl rhag effeithiau pechod Adda, anfonodd Jehofa Iesu i’r ddaear i ddangos y ffordd i fywyd, ac “i roi ei fywyd er mwyn talu’r pris i achub llawer o bobl.” a (Mathew 20:28; Ioan 14:6) Roedd Iesu’n gallu talu’r pris oherwydd ei fod yn ddyn perffaith fel Adda. Ond yn wahanol i Adda, arhosodd Iesu’n ufudd, hyd at ei farwolaeth. Gan nad oedd Iesu’n haeddu marw, fe wnaeth Jehofa ei atgyfodi i fywyd yn y nefoedd. Roedd Iesu wedyn yn gallu gwneud beth roedd Adda wedi methu ei wneud, sef rhoi i bobl ufudd y cyfle i fyw am byth. “Yn union fel gwnaeth anufudd-dod un dyn achosi i lawer fod yn bechaduriaid, yn yr un modd bydd ufudd-dod un person yn achosi i lawer fod yn gyfiawn.” (Rhufeiniaid 5:19) Drwy aberth Iesu, bydd Duw yn cyflawni ei fwriad i bobl gael byw am byth ar y ddaear.

Rydyn ni’n dysgu llawer am Jehofa o’r ffordd iddo ddelio â’r her a gododd oherwydd anufudd-dod Adda. Gwelwn na all unrhyw beth rwystro Jehofa rhag gorffen y pethau y mae wedi eu dechrau; mae’n sicr o gyflawni ei bwrpas. (Eseia 55:11) Rydyn ni hefyd yn gweld pa mor fawr ydy cariad Jehofa tuag aton ni. “Dyma sut cafodd cariad Duw ei ddangos tuag aton ni, bod Duw wedi anfon ei unig-anedig Fab i mewn i’r byd er mwyn inni allu cael bywyd drwyddo ef. Dyma beth mae’r cariad hwn yn ei olygu: nid ein bod ni wedi caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni ac wedi anfon ei Fab yn aberth sy’n gwneud yn iawn am ein pechodau.”—1 Ioan 4:9, 10.

Ni wnaeth Jehofa “hyd yn oed arbed ei Fab ei hun, ond fe wnaeth ei drosglwyddo i farw droston ni i gyd.” Felly gallwn ni fod yn sicr y bydd Duw “yn ei garedigrwydd yn rhoi inni yr holl bethau eraill” y mae wedi eu haddo. (Rhufeiniaid 8:32) Beth mae Duw wedi addo ei wneud droston ni? Dewch inni weld.

BETH MAE DUW WEDI EI WNEUD? Creodd Jehofa fodau dynol i fyw am byth ar y ddaear. Rhoddodd y Beibl inni er mwyn inni allu dysgu amdano. Drwy’r pris a dalodd Iesu Grist, fe wnaeth Jehofa sicrhau na fydd ei bwrpas yn methu

a Am fwy o wybodaeth am y pris a dalodd Iesu, gweler gwers 27 yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! a gyhoeddir gan Dystion Jehofa ac sydd ar gael ar www.pr418.com.