Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth Mae Duw yn Mynd i’w Wneud?

Beth Mae Duw yn Mynd i’w Wneud?

Petasech chi mewn trafferth, mae’n debyg y byddech chi’n disgwyl i ffrind da eich helpu. O ystyried hynny, mae rhai’n dweud nad yw Duw yn ffrind gan nad yw’n gwneud dim i’w helpu. Ond mewn gwirionedd, mae Duw eisoes wedi gwneud llawer o bethau i’n helpu, ac mae’n mynd i wneud llawer mwy i ddelio â’r holl broblemau a dioddefaint rydyn ni’n eu hwynebu. Beth mae Duw yn mynd i’w wneud?

RHOI TERFYN AR BOB DRYGIONI

Bydd Duw yn rhoi terfyn ar bob drygioni drwy gael gwared ar yr un sy’n ei achosi. Mae’r Beibl yn esbonio pwy yw hwnnw drwy ddweud: “Mae’r byd cyfan yn gorwedd yng ngafael yr un drwg.” (1 Ioan 5:19) Yr “un drwg” ydy Satan y Diafol. Dywedodd Iesu mai Satan yw “rheolwr y byd hwn.” (Ioan 12:31) Dylanwad Satan sydd wrth wraidd y problemau ofnadwy ar y ddaear. Beth bydd Duw yn ei wneud?

Yn fuan, bydd Duw yn defnyddio ei Fab, Iesu Grist, i “ddileu’r un sydd â’r gallu i achosi marwolaeth, hynny yw, y Diafol.” (Hebreaid 2:14; 1 Ioan 3:8) Yn wir, mae’r Beibl yn dangos bod y Diafol “yn gwybod mai ychydig o amser sydd ganddo ar ôl” cyn iddo gael ei ddinistrio. (Datguddiad 12:12) Bydd Duw hefyd yn cael gwared ar bawb sydd yn gwneud drygioni.—Salm 37:9; Diarhebion 2:22.

TROI’R DDAEAR YN BARADWYS

Ar ôl cael gwared ar bob drygioni ar y ddaear, bydd y Creawdwr yn cymryd camau i gyflawni ei bwrpas ar gyfer y ddaear a’r ddynoliaeth. Beth gallwn ni edrych ymlaen ato?

Heddwch a diogelwch parhaol. “Ond bydd y gostyngedig yn meddiannu’r tir ac yn mwynhau heddwch llawn.”—Salm 37:11, BCND.

Digonedd o fwyd maethlon. “Boed digonedd o ŷd yn y wlad—yn tyfu hyd at ben y mynyddoedd.”—Salm 72:16.

Cartrefi addas a gwaith sy’n rhoi boddhad. “Byddan nhw’n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw; byddan nhw’n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta’u ffrwyth. Bydd fy mhobl . . . yn cael mwynhau’n llawn waith eu dwylo.”—Eseia 65:21, 22.

Ydych chi’n dyheu am fyd o’r fath? Yn fuan dyna fydd profiad pawb sy’n byw ar y ddaear.

CAEL GWARED AR SALWCH A MARWOLAETH

Mae pawb yn wynebu salwch a marwolaeth heddiw, ond bydd hynny yn newid cyn bo hir. Yn fuan, bydd Duw yn rhoi gwerth aberth Iesu ar waith “er mwyn i bawb sy’n ymarfer ffydd ynddo beidio â chael eu dinistrio ond cael bywyd tragwyddol.” (Ioan 3:16) Beth fydd y canlyniad?

Bydd salwch yn cael ei ddileu. “Fydd neb sy’n byw yno’n dweud, ‘Dw i’n sâl!’ Bydd y bobl sy’n byw yno wedi cael maddeuant am bob bai.”—Eseia 33:24.

Bydd marwolaeth yn dod i ben. “Bydd marwolaeth wedi’i lyncu am byth.” Bydd Jehofa “yn sychu’r dagrau oddi ar bob wyneb.”—Eseia 25:8.

Bydd pobl yn byw am byth. “Y rhodd mae Duw yn ei rhoi inni ydy bywyd tragwyddol trwy Grist Iesu ein Harglwydd.”—Rhufeiniaid 6:23.

Caiff y rhai sydd wedi marw eu hatgyfodi. “[Mae] Duw yn mynd i atgyfodi’r rhai cyfiawn a’r rhai anghyfiawn.” (Actau 24:15) Bydd hynny yn bosib oherwydd y pris a dalodd Iesu.

Sut bydd Duw yn gwneud hyn i gyd?

SEFYDLU LLYWODRAETH BERFFAITH

Bydd Duw yn cyflawni ei bwrpas ar gyfer y ddaear a’r ddynolryw drwy sefydlu llywodraeth nefol, gyda Iesu Grist yn Frenin arni. (Salm 110:1, 2) Dyma’r llywodraeth neu’r deyrnas roedd Iesu yn dweud y dylai ei ddisgyblion weddïo amdani yn y geiriau hyn: “Ein Tad yn y nefoedd, . . . gad i dy Deyrnas ddod.”—Mathew 6:9, 10.

Bydd gan Deyrnas Dduw awdurdod dros y ddaear gyfan. Bydd yn cael gwared ar boen a dioddefaint ym mhob man. Y Deyrnas hon fydd y llywodraeth orau bosib i’r ddynolryw! Dyna pam roedd Iesu’n gweithio mor galed i gyhoeddi’r “newyddion da am y Deyrnas” tra ei fod ar y ddaear, a pham y dywedodd wrth ei ddisgyblion am wneud yr un fath.—Mathew 4:23; 24:14.

Mae Jehofa wedi addo gwneud y pethau rhyfeddol hyn oherwydd ei fod yn caru pobl. Onid yw hynny yn gwneud ichi eisiau dod i’w adnabod? Os ydych chi’n dewis closio ato, sut bydd hynny yn eich helpu? Bydd yr erthygl nesaf yn esbonio.

BETH MAE DUW YN MYND I’W WNEUD? Mae Duw yn mynd i ddileu salwch a marwolaeth, uno pawb o dan lywodraeth ei Deyrnas, a throi’r ddaear yn baradwys