Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut Un Ydy Duw?

Sut Un Ydy Duw?

Drwy weld rhinweddau ffrind, rydyn ni’n dod i’w adnabod yn well ac mae’r cyfeillgarwch rhyngon ni’n tyfu. Yn yr un modd, drwy weld rhinweddau Jehofa, rydyn ni’n dod i’w adnabod Ef yn well ac mae’r berthynas rhyngon ni’n cryfhau. O’r holl rinweddau rhyfeddol sydd gan Dduw, mae pedair ohonyn nhw’n arbennig: ei nerth, ei ddoethineb, ei gyfiawnder, a’i gariad.

MAE DUW YN NERTHOL

“O! Feistr, ARGLWYDD! Ti ydy’r Duw cryf a nerthol sydd wedi creu y nefoedd a’r ddaear.”JEREMEIA 32:17.

Gallwn weld nerth Duw yn y greadigaeth. Er enghraifft, os ydyn ni’n sefyll y tu allan ar ddiwrnod braf o haf, byddwn ni’n teimlo gwres yr haul ar ein croen. Mewn gwirionedd, rydyn ni’n teimlo nerth Jehofa. Pa mor rymus ydy’r haul? Dywedir bod y tymheredd yn y craidd tua 15,000,000°C. Mae’r ynni sy’n dod o’r haul bob eiliad yn cyfateb i gannoedd o filiynau o fomiau niwclear.

Er hynny, seren fach yw’r haul o’i chymharu â’r triliynau o’r sêr yn y bydysawd. Yn ôl gwyddonwyr, mae diamedr un o’r sêr mwyaf, UY Scuti, tua 1,700 gwaith mwy na diamedr yr haul. Petai UY Scuti yn sefyll lle mae’r haul, byddai’r ddaear a hyd yn oed y blaned Iau y tu mewn iddi. Mae’r ffeithiau hyn yn rhoi mwy o ystyr i eiriau Jeremeia, mai nerth Jehofa oedd yn gyfrifol am greu’r nefoedd a’r ddaear, hynny yw’r bydysawd.

Sut mae nerth Duw yn ein helpu ni? Mae ein bywydau yn dibynnu ar y pethau mae Duw wedi eu creu, gan gynnwys yr haul a’r holl adnoddau rhyfeddol sydd ar y ddaear. Ar ben hynny, mae Duw yn defnyddio ei nerth i’n helpu ni fel unigolion. Ym mha ffordd? Yn y ganrif gyntaf, rhoddodd Duw nerth i Iesu i wneud gwyrthiau. Darllenwn: “Mae’r dall nawr yn gweld ac mae’r cloff yn cerdded, mae’r rhai gwahanglwyfus yn cael eu glanhau ac mae’r byddar yn clywed, mae’r meirw yn cael eu hatgyfodi.” (Mathew 11:5) Beth am heddiw? Mae Jehofa “yn rhoi egni i’r blinedig,” meddai’r Beibl, gan ychwanegu: “Bydd y rhai sy’n pwyso ar yr ARGLWYDD yn cael nerth newydd.” (Eseia 40:29, 31) Mae Duw yn gallu rhoi inni “y grym sydd y tu hwnt i’r arferol” er mwyn inni allu ymdopi â phroblemau bywyd. (2 Corinthiaid 4:7) Onid yw’n naturiol i ni eisiau closio at Dduw sy’n defnyddio ei nerth er ein lles?

MAE DUW YN DDOETH

“O ARGLWYDD, rwyt wedi creu cymaint o wahanol bethau! Rwyt wedi gwneud y cwbl mor ddoeth.”SALM 104:24.

Pan ddysgwn am y pethau mae Duw wedi eu creu, rydyn ni’n rhyfeddu at ei ddoethineb. Yn wir, mae yna faes ymchwil o’r enw bioddynwared, lle mae gwyddonwyr yn astudio creadigaeth Jehofa ac yn copïo’r syniadau ym myd natur i wella eu dyluniadau. Mae’r rhain yn amrywio o bethau syml fel tâp ‘bachyn-a-dolen’ i ddyluniadau ar gyfer awyrennau.

Mae’r llygad yn un o ryfeddodau’r greadigaeth

Efallai’r enghraifft fwyaf syfrdanol o ddoethineb Duw ydy’r corff dynol. Ystyriwch y ffordd mae babi yn datblygu yn y groth. Mae’r broses yn dechrau gydag un gell wedi ei ffrwythloni, sy’n cynnwys yr holl gyfarwyddiadau genetig sydd eu hangen. Mae’r gell yn ymrannu yn nifer o gelloedd sydd i bob golwg yr un fath a’i gilydd. Ond ar yr adeg gywir, mae’r celloedd yn dechrau datblygu yn gelloedd mwy arbenigol, a’r canlyniad yw cannoedd o wahanol fathau o gelloedd, gan gynnwys celloedd gwaed, celloedd asgwrn, a niwronau. Yn fuan iawn mae systemau o organau yn ymddangos ac yn dechrau gweithio. Mewn cwta naw mis, mae’r gell wreiddiol yn datblygu’n faban cyfan gyda biliynau o gelloedd. Mae’r doethineb sydd i’w weld yn y broses honno’n gwneud i lawer gytuno â’r salmydd a ddywedodd: “Dw i’n dy foli di, am fod dy waith di mor syfrdanol a rhyfeddol!”—Salm 139:14.

Sut mae doethineb Duw yn ein helpu ni? Mae’r Creawdwr yn gwybod beth sydd ei angen inni fod yn hapus. Oherwydd ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth eithriadol, mae’n rhoi cyngor doeth inni yn ei Air, y Beibl. Er enghraifft, mae’n dweud: “Parhewch . . . i faddau i’ch gilydd.” (Colosiaid 3:13) Ydy hynny’n gyngor da? Ydy. Mae ymchwil yn dangos bod maddau yn gallu gwella ein cwsg a gostwng pwysau gwaed. Gall hefyd leihau’r risg o iselder a phroblemau iechyd eraill. Mae Duw yn debyg i ffrind caredig sy’n barod bob amser i roi help a chyngor da inni. (2 Timotheus 3:16, 17) Oni fyddech chi’n hoffi cael ffrind o’r fath?

MAE DUW YN GYFIAWN

“Mae’r ARGLWYDD yn caru beth sy’n gyfiawn.”SALM 37:28.

Mae Duw bob amser yn gwneud beth sy’n iawn. Yn wir, “fyddai Duw byth yn gwneud drwg; a’r Un sy’n rheoli popeth yn gwneud dim o’i le!” (Job 34:10) Dywedodd y salmydd fod Jehofa yn “barnu’n hollol deg.” (Salm 67:4) Mae Jehofa yn “gweld beth sydd yn y galon,” ac felly mae’n gwybod y gwir ac yn barnu’n iawn. Ni all neb dwyllo Duw. (1 Samuel 16:7) Mae Duw hefyd yn gweld yr holl bethau anghyfiawn sy’n digwydd ar y ddaear, ac yn addo: “Fydd y rhai drwg ddim i’w gweld yn unman mewn ychydig.”—Salm 37:10.

Sut bynnag, nid barnwr creulon sy’n awyddus i gosbi pobl ydy Duw. Mae’n dangos trugaredd lle mae hynny’n briodol. Mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa yn “drugarog a charedig,” hyd yn oed tuag at bobl ddrwg os ydyn nhw’n edifarhau. Onid yw hynny’n esiampl o wir gyfiawnder?—Salm 103:8; 2 Pedr 3:9.

Sut mae cyfiawnder Duw yn ein helpu ni? Dywedodd yr apostol Pedr: “Dydy Duw ddim yn dangos ffafriaeth, ond ym mhob cenedl, mae’r dyn sy’n ei ofni ac sy’n gwneud beth sy’n iawn yn dderbyniol iddo.” (Actau 10:34, 35) Mae cyfiawnder Duw yn ein helpu oherwydd y mae bob amser yn deg. Mae’n fodlon ein derbyn ni, ni waeth beth ydy ein cefndir o ran hil, cenedl, addysg, neu safle cymdeithasol.

Mae Duw bob amser yn deg, ni waeth beth yw ein cefndir o ran hil neu safle cymdeithasol

Mae Duw eisiau inni ddeall ac elwa ar ei gyfiawnder, ac felly mae wedi rhoi cydwybod inni. Mae’r Beibl yn disgrifio’r gydwybod fel cyfraith ‘wedi cael ei hysgrifennu yn ein calonnau,’ sy’n dweud a ydyn ni’n gwneud y peth iawn neu beidio. (Rhufeiniaid 2:15) Sut mae hynny’n ein helpu ni? Bydd cydwybod sydd wedi ei hyfforddi’n iawn yn ein hatal ni rhag gwneud pethau drwg. Ac os ydyn ni’n gwneud camgymeriad, mae’n gallu ein procio ni i edifarhau ac i gywiro pethau. Yn wir, mae deall cyfiawnder Duw yn ein helpu ni ac yn ein denu ni ato!

CARIAD YDY DUW

“Cariad ydy Duw.” 1 IOAN 4:8.

Mae gan Dduw nerth, doethineb, a chyfiawnder, ond nid yw’r Beibl yn dweud mai nerth, doethineb, neu gyfiawnder ydy Duw. Mae’n dweud mai cariad ydy Duw. Nerth Duw sy’n ei alluogi i weithredu, a’i gyfiawnder a’i ddoethineb sy’n llywio ei weithredoedd. Ond y peth sy’n ei ysgogi i weithredu ydy cariad. Mae cariad yn dylanwadu ar bob peth y mae’n ei wneud.

Er nad oedd angen dim ar Jehofa, ei gariad a wnaeth iddo greu angylion a bodau dynol sy’n gallu mwynhau ei gariad a’i ofal. Fe greodd y ddaear i fod yn gartref perffaith i fodau dynol. Ac mae’n dal i ddangos ei gariad at bawb, drwy wneud “i’r haul godi ar y drwg a’r da ac yn gwneud iddi fwrw glaw ar y cyfiawn a’r anghyfiawn.”—Mathew 5:45.

Mae Jehofa hefyd “yn fawr ei dosturi a’i drugaredd.” (Iago 5:11) Mae’n dangos cariad tuag at y rhai sy’n ceisio dod i’w adnabod a chlosio ato. Mae Duw yn gweld pobl fel unigolion. Yn wir, mae’n “gofalu amdanoch chi.”1 Pedr 5:7.

Sut mae cariad Duw yn ein helpu ni? Rydyn ni wrth ein boddau yn gweld machlud yr haul neu’n clywed babi yn chwerthin. Mae’r cariad a gawn yn y teulu yn rhoi pleser inni. Mae’n bosib inni fyw heb y pethau hyn, ond maen nhw’n cyfoethogi ein bywydau yn fawr.

Ffordd arall y mae cariad Duw yn ein helpu ydy drwy weddi. Mae’r Beibl yn dweud: “Peidiwch â phryderu am ddim byd, ond ym mhob sefyllfa drwy weddïau ac erfyniadau ynghyd â diolchgarwch, rhowch wybod i Dduw am y pethau rydych chi’n eu ceisio.” Fel tad cariadus, mae Jehofa eisiau inni droi ato am help gyda’n pryderon personol. Yna, yn ei gariad, mae’n addo rhoi inni “heddwch Duw sydd y tu hwnt i bob deall.”—Philipiaid 4:6, 7.

Ydy’r drafodaeth hon o brif rinweddau Duw—ei nerth, ei ddoethineb, ei gyfiawnder, a’i gariad—wedi eich helpu i ddeall Duw yn well? I’w adnabod yn well byth, rydyn ni’n eich gwahodd chi i ddysgu am y pethau eraill y mae Duw wedi eu gwneud ac y bydd yn eu gwneud i’ch helpu.

SUT UN YDY DUW? Mae Jehofa yn fwy nerthol, yn ddoethach, ac yn fwy cyfiawn na neb arall. Ond ei rinwedd fwyaf apelgar ydy ei gariad