Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

O’R ARCHIF

“Pryd Bydd Ein Cynulliad Nesaf?”

“Pryd Bydd Ein Cynulliad Nesaf?”

MAE hi’n fis Tachwedd 1932 yn Ninas Mecsico, dinas brysur lle mae dros filiwn o bobl yn byw. Wythnos yn gynharach, cafodd goleuadau traffig eu gosod yma am y tro cyntaf. Ond nawr mae pobl wedi cyffroi am reswm arall. Mae’r gohebwyr yn disgwyl yn yr orsaf drenau er mwyn tynnu llun o rywun arbennig. Pwy oedd yn dod? Joseph F. Rutherford, arlywydd y Watch Tower Society. Mae’r Tystion lleol hefyd yn aros i groesawu’r Brawd Rutherford, sydd wedi dod i fynychu’r gynhadledd dri-diwrnod.

Dywedodd y Golden Age: “Maen amlwg bydd y gynhadledd hon yn cael ei chofnodi fel digwyddiad eithriadol o bwysig mewn hanes” a hynny er mwyn lledaenu’r newyddion da ym Mecsico. Ond, cynhadledd fechan oedd hon, gyda dim ond 150 o bobl yn mynychu. Felly, pam roedd hi mor bwysig?

Cyn y gynhadledd honno, doedd y gwirionedd ddim wedi lledaenu ryw lawer ym Mecsico. Ers 1919, roedd cynulliadau bychain wedi bod, ond ar ôl y flwyddyn honno, gostyngodd nifer y cynulleidfaoedd. Pan agorodd swyddfa gangen yn Ninas Mecsico yn 1929, y disgwyl oedd y byddai’r sefyllfa’n gwella, ond roedd yna ambell rwystr i ddod drosto o hyd. Roedd y gyfundrefn wedi dweud wrth yr arloeswyr i beidio â gwneud elw wrth bregethu. Roedd un o’r arloeswyr mor flin nes iddo adael y gwir a dechrau ei grŵp ei hun i astudio’r Beibl. Hefyd, yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd rhaid penodi arolygwr-y-gangen newydd oherwydd ymddygiad drwg yr un cynt. Roedd angen anogaeth ar y Tystion ffyddlon ym Mecsico.

Yn ystod ei ymweliad, anogodd y Brawd Rutherford y rhai ffyddlon gyda dwy araith galonogol a phum darlith a gafodd eu darlledu ar y radio. Dyna’r tro cyntaf i orsafoedd radio gael eu defnyddio i ledaenu’r newyddion da ym Mecsico. Ar ôl y gynhadledd, cafodd arolygwr newydd ei benodi dros y gangen er mwyn trefnu’r gwaith. Nawr, roedd y Tystion yn llawn sêl, a gwnaethon nhw ddal ati i bregethu â chefnogaeth Jehofa.

Cynhadledd 1941, Dinas Mecsico

Y flwyddyn wedyn, yn 1933, roedd dwy gynhadledd yn y wlad, un yn Veracruz a’r llall yn Ninas Mecsico. Roedd y brodyr yn gweithio’n galed yn eu tiriogaeth, ac roedden nhw’n cael canlyniadau da. Er enghraifft, ym 1931, roedd tua 82 o gyhoeddwyr. Erbyn 1941, roedd deg gwaith cymaint â hynny! Daeth tua 1,000 o bobl i Ddinas Mecsico ar gyfer y cynulliad yn 1941.

“TYSTION I’W GWELD YM MHOBMAN”

Yn 1943, dechreuodd y Tystion hysbysebu’r “Free Nation’s” Theocratic Assembly, a fyddai’n cael ei chynnal mewn 12 dinas ym Mecsico. * (Gweler y troednodyn.) Gwnaethon nhw hyn drwy wisgo byrddau dwbl. Byddan nhw’n creu’r arwyddion dwbl hyn drwy glymu dwy arwydd fawr at ei gilydd a’u gwisgo nhw dros eu hysgwyddau, gydag un arwydd yn hongian ar eu blaenau ac un yn hongian ar eu cefnau. Roedd y Tystion wedi bod yn defnyddio arwyddion fel hyn i hysbysebu eu cynadleddau ers 1936.

Darn o gylchgrawn o 1944 yn dangos brodyr yn gwisgo arwyddion yn Ninas Mecsico

Roedd y math hwn o hysbysebu mor llwyddiannus yn Ninas Mecsico nes i’r cylchgrawn La Nación ysgrifennu am y Tystion a fynychodd y cynulliad: “Ar y diwrnod cyntaf, cawson nhw eu hannog i wahodd mwy o bobl i’r cynulliad. Y diwrnod wedyn, roedd yna ormod ohonyn nhw i ffitio yn y neuadd.” Doedd yr Eglwys Gatholig ddim yn hapus am y llwyddiant hwnnw, felly dechreuon nhw wrthwynebu’r Tystion. Ond, doedd y brodyr a’r chwiorydd ddim yn ofnus. Gwnaethon nhw barhau i hysbysebu’r gynhadledd. Yn ôl erthygl arall yn La Nación: “Cawson nhw eu gweld gan y ddinas gyfan.” Dywedodd fod y brodyr a’r chwiorydd yn edrych “yn debyg i ‘frechdanau’ hysbysebu.” Roedd yr erthygl hefyd yn dangos llun o’r brodyr ar strydoedd Dinas Mecsico. O dan y llun oedd y pennawd: “Tystion i’w gweld ym mhobman.”

GWELYAU A OEDD YN “FWY MEDDAL A CHYNNES NA’R LLAWR SMENT”

Yn ystod y blynyddoedd hynny, roedd rhaid i’r rhan fwyaf o’r Tystion wneud aberthau mawr er mwyn mynychu’r ychydig o gynadleddau a gafodd eu cynnal ym Mecsico. Daeth llawer o frodyr a chwiorydd o bentrefi a oedd yn bell i ffwrdd oddi wrth unrhyw linellau trên neu ffyrdd. Ysgrifennodd un gynulleidfa: “Yr unig linell sy’n pasio heibio’r lle yma ydy’r llinell ffôn.” Felly, roedd rhaid iddyn nhw fynd ar gefn mulod neu gerdded am ddyddiau i gyrraedd y trên a fyddai’n eu cymryd i ddinas y gynhadledd.

Roedd y rhan fwyaf o’r Tystion yn dlawd ac roedd yn anodd iddyn nhw fforddio mynd i’r gynhadledd. Pan gyrhaeddon nhw, gwnaeth llawer aros gyda Thystion lleol a oedd yn garedig ac yn lletygar. Cysgodd eraill yn Neuaddau’r Deyrnas. Un tro, arhosodd tua 90 o frodyr yn y gangen, gan gysgu ar ben bocsys llyfrau. Dywed y Yearbook fod y brodyr yn ddiolchgar oherwydd bod y bocsys yn “fwy meddal a chynnes na’r llawr sment.”

I’r Tystion hynny, roedd cael y cyfle o fod gyda’u brodyr a’u chwiorydd werth unrhyw aberth. Heddiw, mae dros 850,000 o Dystion ym Mecsico, ac mae ganddyn nhw’r un agwedd ddiolchgar. * (Gweler y troednodyn.) Dywed y 1949 Yearbook nad oedd aberthau’r brodyr wedi gwanhau eu sêl dros addoli Jehofa. Roedd pob cynulliad “yn bwnc trafod am yn hir wedyn.” Y cwestiwn a ofynnodd y brodyr dro ar ôl tro oedd, “Pryd bydd ein cynulliad nesaf?”—O’r archif yng Nghanolbarth America.

^ Par. 9 Yn ôl y 1944 Yearbook, daeth Tystion Jehofa yn adnabyddus ym Mecsico oherwydd y cynulliad hwn.

^ Par. 14 Ym Mecsico, aeth 2,262,646 o bobl i’r Goffadwriaeth yn 2016.