Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut i Wisgo’r Bersonoliaeth Newydd a’i Chadw Amdanat

Sut i Wisgo’r Bersonoliaeth Newydd a’i Chadw Amdanat

“Gwisgo’r bywyd newydd.”—COLOSIAID 3:10.

CANEUON: 126, 28

1, 2. (a) Sut rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n bosibl gwisgo’r bersonoliaeth newydd? (b) Pa rinweddau o’r bersonoliaeth newydd rydyn ni’n dysgu amdanyn nhw yn Colosiaid 3:10-14?

MAE’R Beibl yn sôn am wisgo natur newydd a “gwisgo’r bywyd newydd.” (Effesiaid 4:24; Colosiaid 3:10) Mae hyn yn cyfeirio at fywyd, neu bersonoliaeth, “sydd wedi ei fodelu ar gymeriad Duw.” A yw’n bosibl inni gael y bersonoliaeth newydd honno? Ydy. Creodd Jehofa bobl ar ei ddelw ei hun, felly rydyn ni’n gallu efelychu ei rinweddau hyfryd.—Genesis 1:26, 27; Effesiaid 5:1.

2 Oherwydd ein bod ni wedi etifeddu amherffeithrwydd, mae gennyn ni i gyd chwantau drwg ar adegau. Rydyn ni hefyd yn cael ein heffeithio gan y pethau sydd o’n hamgylch. Ond, gyda chymorth Jehofa, gallwn ni ddod yn bobl sy’n ddymunol iddo. Er mwyn ein helpu ni i wneud hyn, gad inni drafod sawl rhinwedd sy’n rhan o’r bersonoliaeth newydd. (Darllen Colosiaid 3:10-14.) Yna, byddwn ni’n gweld sut gallwn ni ddangos y rhinweddau hyn yn ein gweinidogaeth.

“DYCH CHI I GYD FEL UN TEULU”

3. Pa rinwedd sy’n rhan o’r bersonoliaeth newydd?

3 Yn ôl Paul, mae bod yn ddiragfarn yn rhan bwysig o’r bersonoliaeth newydd. Dywedodd: “Does dim gwahaniaeth rhwng Iddew a rhywun o genedl arall, neu rhwng cael eich enwaedu neu ddim; does neb yn cael ei ddiystyru am ei fod yn ‘farbariad di-addysg’ neu’n ‘anwariad gwyllt’; does dim gwahaniaeth rhwng y caethwas a’r dinesydd rhydd.” Yn y gynulleidfa, ni ddylai neb deimlo ei fod yn well na phawb arall oherwydd ei hil, ei genedl, na’i safle yn y gymuned. Pam? Oherwydd ein bod ni’n ddilynwyr Crist, rydyn ni i gyd “fel un teulu.”—Colosiaid 3:11; Galatiaid 3:28.

Nid ydyn ni’n trin pobl yn wahanol oherwydd eu hil neu eu cefndir

4. (a) Ym mha ffordd y mae’n rhaid i weision Jehofa drin ei gilydd? (b) Beth all herio uniondeb Cristnogion?

4 Pan ydyn ni’n gwisgo’r bersonoliaeth newydd, rydyn ni’n trin pobl â pharch ac anrhydedd, dim ots beth yw eu hil neu eu cefndir. (Rhufeiniaid 2:11) Mewn rhai rhannau o’r byd, gall hyn fod yn anodd iawn. Er enghraifft, yn y gorffennol yn Ne Affrica, gwnaeth y llywodraeth wneud i bobl o hil wahanol fyw ar wahân. Mae llawer o bobl yn y wlad heddiw, gan gynnwys y Tystion, yn parhau i fyw yn yr ardaloedd hynny. Roedd y Corff Llywodraethol eisiau annog y brodyr i dderbyn ei gilydd. Felly, ym mis Hydref 2013, cymeradwyodd y brodyr hyn drefniadau arbennig a fyddai’n helpu’r brodyr o bob hil i ddod i adnabod ei gilydd yn well.—2 Corinthiaid 6:13.

5, 6. (a) Mewn un wlad, pa drefniadau oedd wedi helpu pobl Dduw i fod yn unedig? (Gweler y llun agoriadol.) (b) Beth oedd y canlyniadau?

5 Ar rai penwythnosau, gwnaeth y brodyr drefnu i ddwy gynulleidfa, a oedd yn perthyn i iaith arall neu i hil arall, dreulio amser gyda’i gilydd. Gwnaeth brodyr a chwiorydd o’r ddwy gynulleidfa gymryd rhan yn y gwaith pregethu, mynd i’r cyfarfodydd â’i gilydd, a mynd i dai ei gilydd. Ymunodd cannoedd o gynulleidfaoedd yn y trefniadau hyn, a derbyniodd swyddfa’r gangen lawer o adroddiadau da. Mae hyn hefyd wedi gwneud argraff ar rai sydd ddim yn Dystion. Er enghraifft, dywedodd un gweinidog crefyddol: “Nid wyf yn Dyst, ond mae’n rhaid imi ddweud bod eich gwaith pregethu yn hynod o drefnus, ac mae gennych chi uniondeb hiliol.” Sut roedd y brodyr a’r chwiorydd yn teimlo am hyn?

6 I ddechrau, roedd chwaer o’r enw Noma, sy’n siarad yr iaith Chosa, yn rhy nerfus i wahodd Tystion o’r gynulleidfa iaith-Saesneg i’w thŷ. Ond ar ôl iddi bregethu gyda Thystion gwyn a chwrdd â nhw yn eu cartrefi, roedd hi’n teimlo’n fwy cyfforddus. Dywedodd: “Maen nhw’n bobl normal fel ni!” Felly pan wnaeth brodyr a chwiorydd o’r gynulleidfa iaith-Saesneg bregethu gyda’r gynulleidfa iaith-Chosa, gwahoddodd Noma rai ohonyn nhw i’w thŷ am bryd o fwyd. Synnodd Noma fod un o’r brodyr, henuriad croenwyn, yn hapus iawn i eistedd ar focs bach plastig. Wrth i’r trefniadau hyn barhau, gwnaeth llawer o frodyr a chwiorydd wneud ffrindiau newydd ac maen nhw’n parhau i ddod i adnabod rhai sy’n dod o gefndiroedd gwahanol.

BYDDA’N DYNER AC YN GAREDIG

7. Pam mae’n rhaid inni ddangos tynerwch?

7 Hyd nes i fyd Satan ddod i ben, bydd pobl Jehofa’n wynebu treialon. Gall diweithdra, afiechydon difrifol, erledigaeth, trychinebau naturiol, colli eiddo oherwydd trosedd, neu broblemau eraill gael effaith arnon ni i gyd. Er mwyn helpu ein gilydd yn ystod treialon, mae’n rhaid inni fod yn dyner. Bydd tynerwch yn ein hysgogi ni i drin pobl â charedigrwydd. (Effesiaid 4:32) Mae’r rhinweddau hyn yn rhan o’r bersonoliaeth newydd. Byddan nhw’n ein helpu i efelychu Duw ac i gysuro eraill.—2 Corinthiaid 1:3, 4.

8. Pa fath o bethau da all ddigwydd pan ydyn ni’n dyner ac yn garedig i bawb yn y gynulleidfa? Rho esiampl.

8 Sut gallwn ni ddangos caredigrwydd tuag at rai sydd wedi symud o wlad arall neu sydd dan anfantais yn ein cynulleidfa? Rydyn ni eisiau eu croesawu nhw, dod yn ffrindiau iddyn nhw, a’u helpu nhw i weld ein bod ni’n eu hangen nhw yn y gynulleidfa. (1 Corinthiaid 12:22, 25) Er enghraifft, symudodd Dannykarl i Japan o Ynysoedd y Philipinau. Oherwydd ei fod yn dod o dramor, nid oedd yn cael ei drin yn deg yn ei swydd. Yna, mynychodd un o gyfarfodydd Tystion Jehofa. Dywedodd Dannykarl: “Roedd bron pawb yno yn dod o Japan, ond cefais groeso cynnes ganddyn nhw, fel pe byddwn ni’n hen ffrindiau.” Gwnaeth caredigrwydd y brodyr achosi iddo agosáu at Jehofa. Mewn amser, cafodd Dannykarl ei fedyddio, a heddiw mae’n gwasanaethu fel henuriad. Mae ei gyd-henuriaid yn hapus ei fod ef a’i wraig, Jennifer, yn rhan o’u cynulleidfa ac maen nhw’n dweud: “Maen nhw’n byw bywyd syml fel arloeswyr, ac yn gosod esiampl dda o roi’r Deyrnas yn gyntaf.”—Luc 12:31.

9, 10. Rho esiamplau o’r canlyniadau da sy’n dod o ddangos tynerwch yn ein gweinidogaeth.

9 Mae gennyn ni’r cyfle i “wneud daioni i bawb” pan ydyn ni’n pregethu’r newyddion da. (Galatiaid 6:10) Mae llawer o Dystion yn cydymdeimlo â mewnfudwyr ac yn trio dysgu eu hiaith. (1 Corinthiaid 9:22) Mae eu hymdrechion wedi dod â chanlyniadau da. Er enghraifft, gwnaeth Tiffany, arloeswraig o Awstralia, ddysgu Swahili er mwyn helpu’r gynulleidfa iaith-Swahili yn Brisbane. Er bod dysgu’r iaith wedi bod yn sialens, mae ei bywyd hi nawr yn fwy ystyrlon. Mae Tiffany yn dweud: “Os wyt ti eisiau gweinidogaeth gyffrous, dos i wasanaethu mewn cynulleidfa iaith arall. Mae fel petaet ti’n teithio, ond heb adael dy ddinas. Rwyt ti’n gweld uniondeb ein brawdoliaeth fyd-eang.”

Pam mae Cristion eisiau helpu mewnfudwyr? (Gweler paragraff 10)

10 Gwnaeth teulu o Japan rywbeth tebyg. Dywedodd y ferch, Sakiko: “Lawer gwaith, roedden ni’n cwrdd â mewnfudwyr o Brasil ar y weinidogaeth. Pan ddangoswn ni adnodau iddyn nhw o’r Beibl Portiwgaleg, fel Datguddiad 21:3, 4 neu Salm 37:10, 11, 29, roedden nhw’n talu sylw a hyd yn oed yn crio weithiau.” Roedd y teulu yn teimlo dros y mewnfudwyr ac eisiau eu helpu nhw i ddysgu’r gwirionedd. Felly, dechreuon nhw astudio Portiwgaleg fel teulu. Wedyn, helpodd y teulu i ddechrau cynulleidfa iaith-Bortiwgaleg. Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi helpu llawer o fewnfudwyr i ddod yn weision i Jehofa. Mae Sakiko yn dweud: “Cymerodd lawer o waith i ddysgu Portiwgaleg, ond mae’r bendithion rwyt ti’n eu cael yn werth yr ymdrech. Rydyn ni mor ddiolchgar i Jehofa.”—Darllen Actau 10:34, 35.

GWISGO GOSTYNGEIDDRWYDD

11, 12. (a) Beth yw’r prif reswm dros wisgo’r bersonoliaeth newydd? (b) Beth fydd yn ein helpu ni i aros yn ostyngedig?

11 Y rheswm dros wisgo’r bersonoliaeth newydd yw anrhydeddu Jehofa, nid i dderbyn clod gan eraill. Cofia, gwnaeth hyd yn oed angel perffaith droi’n falch a phechu. (Cymharer Eseciel 28:17.) Rydyn ninnau’n amherffaith, felly, mae’n anodd inni osgoi balchder. Ond, mae’n bosibl inni fod yn ostyngedig. Beth fydd yn ein helpu i wneud hyn?

12 Un peth fydd yn ein helpu ni i fod yn ostyngedig yw darllen Gair Duw bob dydd a myfyrio arno. (Deuteronomium 17:18-20) Mae’n rhaid inni fyfyrio ar beth ddysgodd Iesu inni ac ar ei esiampl wych o ddangos gostyngeiddrwydd. (Mathew 20:28) Dangosodd Iesu ostyngeiddrwydd drwy olchi traed ei apostolion. (Ioan 13:12-17) Rhywbeth arall gallwn ni ei wneud yw gweddïo ar Jehofa am ei ysbryd glân. Gall ei ysbryd ein helpu ni i frwydro yn erbyn y tueddiad o feddwl ein bod ni’n well na phawb arall.—Galatiaid 6:3, 4; Philipiaid 2:3.

Pan ydyn ni’n ostyngedig, bydd y gynulleidfa’n fwy heddychlon ac unedig

13. Pa fendithion sy’n dod o fod yn ostyngedig?

13 Darllen Diarhebion 22:4. Mae Jehofa’n disgwyl inni fod yn ostyngedig. Mae gostyngeiddrwydd yn dod â llawer o fendithion. Pan ydyn ni’n ostyngedig, bydd y gynulleidfa’n fwy heddychlon ac unedig. Hefyd, bydd Jehofa’n rhoi ei garedigrwydd anhaeddiannol inni. Dywedodd yr apostol Pedr: “Dylai pob un ohonoch chi edrych ar ôl eich gilydd yn wylaidd. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae’n hael at y rhai gostyngedig.’”—1 Pedr 5:5.

GWISGO ADDFWYNDER AC AMYNEDD

14. Pwy yw’r esiampl orau o addfwynder ac amynedd?

14 Mae’r byd heddiw yn portreadu addfwynder ac amynedd fel gwendidau. Ond dydy hyn ddim yn wir. Mae’r rhinweddau hyn yn dod oddi wrth Jehofa, y Person mwyaf pwerus yn y bydysawd. Ef yw’r esiampl orau o addfwynder ac amynedd. (2 Pedr 3:9) Er enghraifft, ystyria pa mor amyneddgar oedd Jehofa pan atebodd ef Abraham a Lot drwy ddefnyddio ei angylion. (Genesis 18:22-33; 19:18-21) A meddylia am ba mor amyneddgar oedd Jehofa tuag at genedl anufudd Israel am fwy na 1,500 o flynyddoedd.—Eseciel 33:11.

15. Pa esiampl a osododd Iesu drwy ddangos addfwynder ac amynedd?

15 Roedd Iesu’n “addfwyn.” (Mathew 11:29) Er gwaethaf gwendidau ei ddisgyblion, roedd Iesu’n dangos amynedd. Yn ystod ei waith pregethu ar y ddaear, roedd Iesu’n aml yn cael ei gyhuddo ar gam. Ond roedd yn addfwyn ac yn amyneddgar hyd at ei farwolaeth. Pan oedd Iesu mewn poen enbyd ar y stanc artaith, gofynnodd i’w Dad faddau i’r dynion a oedd yn gyfrifol am ei ladd. Dywedodd: “Dŷn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.” (Luc 23:34) Hyd yn oed pan oedd Iesu o dan bwysau neu mewn poen, arhosodd yn addfwyn ac yn amyneddgar.—Darllen 1 Pedr 2:21-23.

16. Sut gallwn ni ddangos addfwynder ac amynedd?

16 Cyfeiriodd Paul at un ffordd o ddangos addfwynder ac amynedd pan ysgrifennodd: “Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi’n meddwl eu bod nhw ar fai. Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae’r Arglwydd wedi maddau i chi.” (Colosiaid 3:13) Er mwyn i ninnau allu maddau i eraill, mae’n rhaid inni fod yn addfwyn ac yn amyneddgar. Bydd hyn yn hybu ac yn cadw uniondeb yn y gynulleidfa.

17. Pam mae addfwynder ac amynedd yn bwysig?

17 Mae Jehofa eisiau inni fod yn addfwyn ac yn amyneddgar. Mae’n rhaid inni gael y rhinweddau hyn os ydyn ni eisiau byw yn ei fyd newydd. (Mathew 5:5; Iago 1:21) Pan ydyn ni’n addfwyn ac yn amyneddgar, rydyn ni’n anrhydeddu Jehofa ac yn helpu eraill i wneud yr un peth.—Galatiaid 6:1; 2 Timotheus 2:24, 25.

GWISGO CARIAD

18. Sut mae cariad a bod yn ddiragfarn yn gysylltiedig?

18 Mae’r holl rinweddau rydyn ni wedi eu trafod yn gysylltiedig â chariad. Er enghraifft, roedd rhaid i’r apostol Iago roi cyngor i’w frodyr oherwydd roedden nhw’n trin pobl gyfoethog yn well na phobl dlawd. Esboniodd fod hyn yn erbyn gorchymyn Duw i “garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.” Wedyn, ychwanegodd: “Os ydych chi’n dangos ffafriaeth dych chi’n pechu.” (Iago 2:8, 9) Os ydyn ni’n caru pobl, ni fyddwn ni’n barnu pobl oherwydd eu haddysg, eu hil, neu eu statws cymdeithasol. Ni allwn gogio bod yn ddiragfarn. Rhaid inni fod yn ddiragfarn yn ein calonnau.

19. Pam mae’n bwysig inni wisgo cariad?

19 Mae cariad yn “amyneddgar, . . . yn garedig,” ac nid yw’n “llawn ohono’i hun.” (1 Corinthiaid 13:4) Mae’n rhaid inni fod yn amyneddgar, yn garedig, ac yn ostyngedig er mwyn inni barhau i rannu’r newyddion da â’n cymdogion. (Mathew 28:19) Mae’r rhinweddau hyn yn ein helpu i gyd-dynnu â phawb yn y gynulleidfa. Pan ydyn ni i gyd yn dangos cariad, bydd ein cynulleidfa’n unedig ac yn anrhydeddu Jehofa. Bydd eraill yn gweld ein bod ni’n unedig ac yna’n cael eu denu at y gwirionedd. Felly, mae’n addas bod esboniad y Beibl o’r bersonoliaeth newydd yn gorffen drwy ddweud: “A gwisgwch gariad dros y cwbl i gyd—mae cariad yn clymu’r cwbl yn berffaith gyda’i gilydd.”—Colosiaid 3:14.

MEITHRIN FFORDD NEWYDD O FEDDWL

20. (a) Pa gwestiynu dylen ni eu gofyn, a pham? (b) Pa ddyfodol hyfryd gallwn edrych ymlaen ato?

20 Dylai pob un ohonyn ni ofyn, ‘Pa newidiadau sy’n rhaid imi barhau i’w gwneud er mwyn gwisgo’r bersonoliaeth newydd a’i chadw amdanaf?’ Rhaid inni weddïo ar Jehofa ac erfyn arno i’n helpu. Rhaid inni weithio’n galed i newid meddyliau neu weithredoedd anghywir er mwyn inni gael “perthyn i deyrnas Dduw.” (Galatiaid 5:19-21) Hefyd, dylen ni ofyn, ‘Ydw i’n parhau i newid fy ffordd o feddwl er mwyn plesio Jehofa?’ (Effesiaid 4:23, 24) Rydyn ni’n amherffaith, felly, mae’n rhaid inni barhau i weithio’n galed er mwyn gwisgo’r bersonoliaeth newydd a’i chadw amdanat. Mae hyn yn broses barhaol. Mor hyfryd fydd bywyd pan fydd pawb yn gwisgo’r bersonoliaeth newydd ac yn efelychu rhinweddau hyfryd Jehofa’n berffaith!