Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Pam mae hanes Mathew am fywyd cynnar Iesu’n wahanol i hanes Luc?

Mae hanes Mathew am enedigaeth a bywyd cynnar Iesu yn wahanol i hanes Luc oherwydd bod y ddau ysgrifennwr yn canolbwyntio ar feddyliau a phrofiadau dau wahanol berson.

Mae llyfr Mathew yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau a oedd yn ymwneud â Joseff. Mae’n disgrifio ymateb Joseff ar ôl dod i ddeall bod Mair yn feichiog, ei freuddwyd lle roedd angel yn egluro’r sefyllfa, a’r ffordd y dilynodd gyfarwyddiadau’r angel. (Mathew 1:19-25) Mae Mathew hefyd yn egluro sut y gwnaeth angel rybuddio Joseff mewn breuddwyd i ffoi i’r Aifft gyda’i deulu a bod Joseff wedi ufuddhau. Wedyn, mae Mathew yn dweud bod Joseff wedi cael breuddwyd arall lle roedd angel wedi dweud wrtho am ddychwelyd i Israel, a’i fod wedi gwneud hynny a phenderfynu setlo gyda’i deulu yn Nasareth. (Mathew 2:13, 14, 19-23) Yn y ddwy bennod gyntaf o’i Efengyl, mae Mathew yn enwi Joseff naw o weithiau, ond dim ond pum gwaith mae Mair yn cael ei henwi.

Ar y llaw arall, mae hanes Luc yn canolbwyntio ar Mair. Mae’n disgrifio ymweliad yr angel Gabriel â Mair, ymweliad Mair â’i pherthynas Elisabeth, a’i geiriau o glod i Jehofa. (Luc 1:26-56) Mae hefyd yn cynnwys yr hyn a ddywedodd Simeon wrth Mair am y pethau y byddai Iesu’n eu dioddef yn y dyfodol. Mae Luc wedyn yn disgrifio’r adeg pan ymwelodd Iesu â’r deml gyda’i deulu pan oedd yn 12 oed. Hyd yn oed yn yr achos hwn, mae Luc yn dyfynnu geiriau Mair, nid rhai Joseff, ac mae’n dweud bod y digwyddiadau hyn wedi cael effaith ddwys ar Mair. (Luc 2:19, 34, 35, 48, 51) Yn y ddwy bennod gyntaf o’i Efengyl, mae Luc yn cynnwys enw Mair 22 o weithiau, ond yn cyfeirio at Joseff dim ond 7 gwaith. Felly, mae Mathew yn dweud mwy am beth roedd Joseff yn ei feddwl ac yn ei wneud. Ond mae Luc yn canolbwyntio ar feddyliau a phrofiadau Mair.

Mae llinach Iesu hefyd yn cael ei chofnodi’n wahanol yn y ddwy Efengyl. Mae Mathew yn rhestru llinach Iesu ac yn dangos bod ganddo, fel mab mabwysiedig Joseff, yr hawl gyfreithiol i frenhiniaeth Dafydd. Pam felly? Oherwydd bod Joseff yn un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd drwy ei fab Solomon. (Mathew 1:6, 16) Ond, mae Luc yn rhestru llinach Mair ac yn dangos bod gan Iesu’r hawl naturiol i frenhiniaeth Dafydd am ei fod “yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd.” (Rhufeiniaid 1:3) Pam? Am fod Mair yn un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd drwy ei fab Nathan. (Luc 3:31) Ond pam dydy Luc ddim yn rhestru Mair yn ferch i Heli, ei thad? Oherwydd bod y cofnodion swyddogol yn tueddu i gynnwys dynion y teulu yn unig. Felly, lle mae Luc yn rhestru Joseff ac yn ei ddisgrifio’n fab i Heli, roedd y bobl yn deall bod hynny’n golygu mai mab-yng-nghyfraith i Heli oedd Joseff.—Luc 3:23.

Mae’r rhestrau o linach deuluol Iesu yn Efengylau Mathew a Luc yn profi mai Iesu oedd y Meseia roedd Duw wedi ei addo. Roedd y ffaith fod Iesu yn un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd mor hysbys fel nad oedd y Phariseaid na’r Sadwceaid yn gallu ei gwadu. Mae disgrifiadau Mathew a Luc o linach deuluol Iesu yn cryfhau ein ffydd ac yn rhoi hyder inni y byddai gweddill addewidion Duw yn dod yn wir.