Rhoi Heibio’r Hen Bersonoliaeth Unwaith ac am Byth
“Rhoi heibio’r hen fywyd a’i ffyrdd.”—COLOSIAID 3:9.
CANEUON: 121, 142
1, 2. Beth mae pobl wedi ei sylwi am Dystion Jehofa?
MAE llawer yn sylwi bod Tystion Jehofa yn unigryw. Er enghraifft, gwnaeth ysgrifennwr o’r enw Anton Gill ganmol rhinweddau’r Tystion yn yr Almaen Natsïaidd. Ysgrifennodd: “Roedd y Natsïaid yn casáu Tystion Jehofa. . . . Erbyn 1939, roedd 6,000 ohonyn nhw yn y [gwersylloedd crynhoi].” Dywedodd hefyd fod y Tystion yn adnabyddus am fod yn ddibynadwy, yn dawel o dan bwysau, yn ffyddlon i’w Duw, ac yn unedig er eu bod nhw wedi dioddef yn enbyd.
2 Yn fwy diweddar, roedd pobl yn Ne Affrica hefyd wedi sylwi bod rhywbeth arbennig am Dystion Jehofa. Ar un adeg, doedd Tystion o liw croen gwahanol ddim yn cael cwrdd gyda’i gilydd yn y wlad honno. Fodd bynnag, ar ddydd Sul, 18 Rhagfyr 2011, gwnaeth dros 78,000 o Dystion o bob hil o Dde Affrica a gwledydd cyfagos ddod ynghyd ar gyfer cynhadledd yn stadiwm fwyaf Johannesburg. Dywedodd un o reolwyr y stadiwm: “Dydw i erioed
wedi gweld pobl yn ymddwyn mor dda â hyn o’r blaen. Mae pawb yn smart, a gwnaethoch chi lanhau’r stadiwm ar eich holau chi. Ond, yn fwy na dim, rydych chi’n bobl amlhiliol.”3. Beth sy’n gwneud ein brawdoliaeth yn unigryw?
3 Felly, mae hyd yn oed pobl sydd ddim yn Dystion yn gweld fod ein brawdoliaeth fyd-eang yn unigryw. (1 Pedr 5:9) Pam rydyn ni mor wahanol i unrhyw gyfundrefn arall? Oherwydd ein bod ni, drwy ddarllen y Beibl a dibynnu ar ysbryd glân Duw, yn gweithio’n galed i newid ein personoliaeth os nad yw’n plesio Jehofa. Rydyn ni’n tynnu’r hen bersonoliaeth oddi amdanon ni, ac rydyn ni’n gwisgo’r bersonoliaeth newydd.—Colosiaid 3:9, 10.
Mae hi’n bosibl i wneud newidiadau mawr yn ein bywydau
4. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon? A pham?
4 Ar ôl tynnu’r hen bersonoliaeth oddi amdanon ni, mae’n rhaid inni beidio â’i rhoi amdanon ni byth eto. Yn yr erthygl hon, edrychwn yn gyntaf ar sut i dynnu’r hen bersonoliaeth oddi amdanon ni a pham mae hyn mor bwysig. Gwelwn ni fod rhywun yn gallu gwneud newidiadau yn ei fywyd er iddo wneud pethau drwg yn y gorffennol. Wedyn, byddwn ni’n trafod sut gall rhai sydd wedi bod yn y gwirionedd am flynyddoedd roi heibio’r hen bersonoliaeth am byth. Pam dylen ni drafod hyn? Yn anffodus, dydy rhai a oedd ar un adeg yn gwasanaethu Jehofa ddim wedi dal ati i fod yn ofalus. Maen nhw wedi dechrau meddwl a gweithredu fel yr oedden nhw cyn dod i adnabod Jehofa. Dylen ni gofio’r rhybudd hwn: “Os dych chi’n un o’r rhai sy’n meddwl eich bod yn sefyll yn gadarn, gwyliwch rhag i chi syrthio!”—1 Corinthiaid 10:12.
CAEL GWARED AR UNRHYW CHWANTAU RHYWIOL ANFOESOL
5. (a) Rho eglureb sy’n dangos pam bod tynnu’r hen bersonoliaeth oddi amdanat yn fater o frys. (Gweler y llun agoriadol.) (b) Pa arferion sy’n rhan o’r hen bersonoliaeth y sonnir amdanyn nhw yn Colosiaid 3:5-9?
5 Beth byddet ti’n ei wneud petaset ti’n sylwi bod dy ddillad yn fudr ac yn ddrewllyd? Byddet ti’n dadwisgo cyn gynted â phosibl. Mewn modd tebyg, os ydyn ni’n sylweddoli ein bod ni’n gwneud pethau mae Jehofa yn eu casáu, mae’n rhaid inni newid ar frys. Wrth siarad am arferion drwg, dywedodd Paul: “Rhaid i chi gael gwared â nhw.” Gad inni ystyried dau o’r pethau hyn: anfoesoldeb rhywiol ac aflendid.—Darllen Colosiaid 3:5-9.
6, 7. (a) Sut mae geiriau Paul yn dangos bod angen ymdrech i dynnu’r hen bersonoliaeth oddi amdanat? (b) Sut roedd Sakura yn byw ei bywyd? Beth roddodd y nerth iddi i newid?
6 Anfoesoldeb rhywiol. Yn y Beibl, mae “anfoesoldeb rhywiol” yn cynnwys perthynas rywiol rhwng pobl sydd ddim wedi priodi. Dywedodd Paul fod rhaid i Gristnogion ladd “y pethau drwg, daearol” sydd ynddyn nhw. Mae
hyn yn golygu gweithio’n galed i gael gwared ar chwantau drwg. Er bod hyn yn anodd, mae’n bosibl inni lwyddo!7 Gwelwn hyn yn hanes Sakura, chwaer o Japan. * (Gweler y troednodyn.) Pan oedd Sakura yn tyfu i fyny, roedd hi’n aml yn teimlo’n unig. Er mwyn cael gwared ar y teimlad hwnnw, dechreuodd gael rhyw pan oedd hi’n 15 oed. Cafodd Sakura ryw gyda llawer o wahanol bobl a chafodd dri erthyliad. Dywedodd: “Ar y dechrau, roedd cael perthynas anfoesol yn gwneud imi deimlo’n saff, a bod rhywun yn fy ngharu. Ond, mwyaf yr oeddwn i’n cael cyfathrach rywiol, y mwyaf ansicr roeddwn i’n teimlo.” Dyna sut roedd ei bywyd hi nes iddi droi’n 23. Yna, dechreuodd astudio’r Beibl gyda’r Tystion, ac roedd hi wrth ei bodd. Gwnaeth Jehofa ei helpu i stopio byw bywyd anfoesol ac i orchfygu teimladau o euogrwydd a chywilydd. Heddiw, mae Sakura yn arloesi’n llawn-amser, ac nid yw’n teimlo’n unig mwyach. Mae’n dweud: “Mae teimlo cariad Jehofa bob diwrnod yn fy ngwneud i’n hapus dros ben.”
SUT I STOPIO ARFERION DRWG
8. Beth yw rhai arferion a all ein gwneud ni’n aflan yng ngolwg Duw?
8 Aflendid. Yn y Beibl, mae “unrhyw fochyndra,” neu aflendid, yn cynnwys mwy nag anfoesoldeb rhywiol. Mae’n cynnwys pethau fel ysmygu a dweud jôcs budr. (2 Corinthiaid 7:1; Effesiaid 5:3, 4) Gall hefyd gyfeirio at bethau drwg y byddai rhywun efallai yn eu gwneud yn breifat, fel darllen llyfrau sy’n eu cyffroi nhw’n rhywiol neu wylio pornograffi. Gall y pethau hyn arwain at yr arfer aflan o fastyrbio. (Colosiaid 3:5) *—Gweler y troednodyn.
9. Beth sy’n gallu digwydd os ydy rhywun yn meithrin chwantau rhywiol afreolus?
9 Mae pobl sy’n gwylio pornograffi yn rheolaidd yn meithrin “chwant” rhywiol afreolus a gallan nhw ddod yn gaeth i ryw. Yn ôl rhai ymchwilwyr, mae bod yn gaeth i bornograffi yn debyg i fod yn gaeth i alcohol neu gyffuriau. Does dim syndod, felly, fod yr arfer o wylio pornograffi yn niweidiol. Er enghraifft, teimladau o gywilydd, bod yn llai effeithiol yn y gweithle, teuluoedd anhapus, ysgariad, a hyd yn oed hunanladdiad. Ar ôl i un dyn fynd blwyddyn gron heb wylio pornograffi, dywedodd ei fod yn gallu, o’r diwedd, ei barchu ei hun unwaith eto.
10. Sut gwnaeth Ribeiro dorri’n rhydd o afael pornograffi?
10 I lawer, mae torri’n rhydd o afael pornograffi’n anodd iawn. Ond gall rhywun ennill y frwydr hon. Ystyria hanes Ribeiro o Brasil. Pan oedd yn ei arddegau, gadawodd ei gartref a mynd i weithio mewn ffatri ailgylchu papur. Yno, daeth ar draws gylchgronau pornograffig. Dywedodd Ribeiro: “Yn araf deg, fe wnes i ddod yn gaeth. Roedd y sefyllfa mor ddrwg fel nad oeddwn i’n gallu disgwyl i’r ddynes roeddwn i’n byw â hi i adael y tŷ er mwyn imi fedru gwylio fideos pornograffig.” Yna, un diwrnod yn y gwaith, edrychodd Darllenodd y llyfr a dechreuodd astudio’r Beibl gyda’r Tystion. Ond eto, cymerodd amser maith i Ribeiro beidio â bod yn gaeth i bornograffi. Beth a’i helpodd? Mae’n esbonio: “Trwy weddïo, astudio’r Beibl, a myfyrio ar beth roeddwn i’n ei ddysgu, dechreuais werthfawrogi rhinweddau Duw yn fwy hyd nes i fy nghariad tuag at Jehofa ddod yn gryfach na’r chwant ynof fi i wylio pornograffi.” Gyda chymorth y Beibl ac ysbryd glân Duw, newidiodd Ribeirio ei ffyrdd, cafodd ei fedyddio, a bellach mae’n gwasanaethu fel henuriad yn y gynulleidfa. Ribeiro ar bentwr o lyfrau a oedd am gael eu hailgylchu a dyma’r llyfr The Secret of Family Happiness yn dal ei sylw.
Mae’n rhaid inni garu Jehofa yn fawr iawn a chasáu’r hyn sy’n ddrwg
11. Beth fydd yn helpu person i aros yn rhydd o bornograffi?
11 Yn wir, roedd yn rhaid i Ribeiro wneud mwy nag astudio’r Beibl i aros yn rhydd o bornograffi. Roedd yn rhaid iddo feddwl yn ddwys am beth roedd yn ei ddarllen yn y Beibl a gadael iddo gyffwrdd â’i galon. Roedd yn rhaid iddo weddïo ar Jehofa ac erfyn arno i’w helpu. Gwnaeth y pethau hyn helpu Ribeiro nes i’w gariad tuag at Jehofa ddod yn gryfach na’i chwant am wylio pornograffi. Er mwyn aros yn rhydd o bornograffi, mae’n rhaid i ninnau hefyd garu Jehofa yn fawr iawn a chasáu’r hyn sy’n ddrwg.—Darllen Salm 97:10.
PAID Â GWYLLTIO, SIARAD YN GAS, NA DWEUD CELWYDD
12. Beth helpodd Stephen i beidio â gwylltio a siarad yn gas?
12 Mae rhai pobl yn gwylltio’n hawdd ac yn dweud pethau cas wrth eraill. Pan fydd hyn yn digwydd, mae’r teulu cyfan yn dioddef. Roedd Stephen, tad o Awstralia, yn dueddol o regi a gwylltio dros y pethau lleiaf. Dywedodd: “Gwnaeth fy ngwraig a minnau wahanu dair gwaith, ac roedden ni ar fin cael ysgariad.” Yna, dechreuon nhw astudio’r Beibl gyda’r Tystion, a cheisiodd Stephen roi ar waith yr hyn roedd yn ei ddysgu. Cyn iddo ddod i adnabod Jehofa, pan oedd pethau yn mynd o dan ei groen, byddai’n gwylltio gymaint nes iddo deimlo fel bom a oedd yn barod i ffrwydro. Ond, ar ôl i Stephen ddechrau dilyn cyngor y Beibl, daeth pethau’n well. Dywedodd: “Roedd ein bywyd teuluol wedi gwella’n aruthrol. Gyda chymorth Jehofa, yr hyn rydw i’n ei deimlo’n fwy na dim erbyn hyn ydy heddwch a llonyddwch.” Heddiw, mae Stephen yn was gweinidogaethol, ac mae ei wraig wedi bod yn arloesi’n llawn-amser ers rhai blynyddoedd. Mae’r henuriaid yng nghynulleidfa Stephen yn dweud: “Mae Stephen yn frawd distaw, gweithgar, ac mae ganddo agwedd ostyngedig.” Dywedon nhw hefyd nad ydyn nhw erioed wedi ei weld yn colli ei dymer. Dydy Stephen ddim yn cymryd unrhyw glod am y newidiadau hyn yn ei bersonoliaeth.
Dywed: “Fyddai’r bendithion hyn byth yn rhan o fy mywyd heb imi fod wedi derbyn help Jehofa i newid fy mhersonoliaeth yn llwyr.”13. Pam mae’n beryglus i wylltio? Pa rybudd sydd yn y Beibl?
13 Mae’r Beibl yn ein rhybuddio ni i beidio â gwylltio, siarad yn gas ag eraill, na sgrechian. (Effesiaid 4:31) Yn aml, mae’r pethau hyn yn arwain at drais. Heddiw, mae llawer yn y byd yn credu bod ymddygiad cas a threisgar yn normal. Ond mae ymddygiad o’r fath yn dod â gwarth ar ein Creawdwr. Roedd rhaid i lawer o’n brodyr newid eu hymddygiad a gwisgo’r bersonoliaeth newydd.—Darllen Salm 37:8-11.
14. Ydy hi’n bosibl i berson treisgar droi’n addfwyn?
14 Mae’r brawd Hans yn henuriad mewn cynulleidfa yn Awstria. Dyma beth ddywedodd cydlynydd corff yr henuriaid yng nghynulleidfa Hans: “Mae’n un o’r brodyr mwyaf addfwyn y gallet ti gwrdd ag ef.” Ond doedd Hans ddim bob amser yn ddyn addfwyn. Pan oedd yn ei arddegau, dechreuodd yfed gormod o alcohol ac roedd ganddo dymer wyllt. Un tro pan oedd wedi meddwi, gwylltiodd gymaint nes iddo ladd ei gariad. Aeth Hans i’r carchar am 20 mlynedd, ond ni wnaeth bywyd yn y carchar newid ei bersonoliaeth. Yna, gofynnodd ei fam i un o’r henuriaid fynd i’w weld, a dechreuodd Hans astudio’r Beibl. Dywedodd: “Roedd hi’n anodd iawn imi stopio gwisgo fy hen bersonoliaeth. Yr adnodau o’r Beibl a wnaeth fy helpu oedd Eseia 55:7, sy’n dweud: ‘Rhaid i’r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg,’ a 1 Corinthiaid 6:11, sy’n dweud: ‘A dyna sut bobl oedd rhai ohonoch chi ar un adeg.’ Am lawer o flynyddoedd, gwnaeth Jehofa fy helpu drwy gyfrwng ei ysbryd glân i wisgo’r bersonoliaeth newydd.” Cafodd Hans ei fedyddio tra oedd yn y carchar, a chafodd ei ryddhau ar ôl 17 mlynedd a hanner o garchar. Dywedodd: “Rwy’n ddiolchgar i Jehofa am ei drugaredd a’i faddeuant aruthrol.”
15. Beth yw rhan arall o’r hen bersonoliaeth? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am yr agwedd honno?
15 Rhan arall o’r hen bersonoliaeth yw dweud celwydd. Er enghraifft, mae llawer o bobl yn dweud celwydd i osgoi talu trethi neu i beidio â chymryd y cyfrifoldeb am eu camgymeriadau. Ond mae Jehofa “bob amser yn deg ac yn onest.” (Deuteronomium 32:4) Felly, mae’n gofyn i bob un o’i weision ddweud y gwir ac i “stopio dweud celwydd.” (Effesiaid 4:25; Colosiaid 3:9) Yn amlwg, mae’n rhaid inni ddweud y gwir hyd yn oed os ydy gwneud hynny’n anodd neu’n codi cywilydd arnon ni.—Diarhebion 6:16-19.
SUT ENILLON NHW’R FRWYDR?
16. Beth fydd yn ein helpu ni i dynnu’r hen bersonoliaeth oddi amdanon ni?
16 Dydy hi ddim yn bosibl inni dynnu’r hen bersonoliaeth oddi amdanon ni ar ein pennau ein hunain. Roedd yn rhaid i Sakura, Ribeiro, Stephen, a Hans ymladd yn galed i newid eu hen ffordd o fyw. Yr hyn wnaeth eu helpu nhw oedd grym Gair Duw a’i ysbryd glân. (Luc 11:13; Hebreaid 4:12) Er mwyn elwa ar y grym hwnnw, mae’n rhaid inni ddarllen y Beibl bob diwrnod, myfyrio arno, a gweddïo’n gyson am y doethineb a’r nerth i roi ar waith yr hyn a ddysgwn ni. (Josua 1:8; Salm 119:97; 1 Thesaloniaid 5:17) Rydyn ni’n elwa hefyd ar Air Duw a’i ysbryd glân pan ydyn ni’n paratoi ar gyfer ein cyfarfodydd ac yn mynd iddyn nhw. (Hebreaid 10:24, 25) Pwysig hefyd yw manteisio ar bopeth mae cyfundrefn Jehofa wedi ei roi inni, fel ein cylchgronau, JW Broadcasting, JW Library, a jw.org.—Luc 12:42.
17. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?
17 Rydyn ni wedi trafod nifer o arferion drwg y mae’n rhaid inni eu rhoi heibio er mwyn plesio Jehofa. Ond mae’n rhaid gwneud mwy. Mae’n rhaid inni wisgo’r bersonoliaeth newydd a hynny’n barhaol. Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod sut gallwn ni wneud hyn.