Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gweithio Gyda Jehofa Bob Dydd

Gweithio Gyda Jehofa Bob Dydd

“Eiddo Duw ydym ni, fel cydweithwyr.”—1 CORINTHIAID 3:9, BCND.

CANEUON: 64, 111

1. Ym mha ffyrdd y gallwn ni weithio gyda Jehofa?

PAN greodd Jehofa fodau dynol, roedd eisiau iddyn nhw fod yn gyd-weithwyr iddo. Er bod bodau dynol heddiw yn amherffaith, gall pobl ffyddlon ddal i weithio gyda Jehofa bob dydd. Er enghraifft, rydyn ni “fel cydweithwyr” Duw pan fyddwn ni’n pregethu’r newyddion da am y Deyrnas ac yn gwneud disgyblion. (1 Corinthiaid 3:5-9) Anrhydedd mawr yw bod y Creawdwr hollalluog wedi ein dewis ni i wneud gwaith sydd mor bwysig! Ond eto, nid pregethu ydy’r unig ffordd y gallwn ni weithio gyda Jehofa. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n dysgu sut rydyn ni hefyd yn gweithio gydag Ef pan fyddwn ni’n helpu ein teuluoedd a rhai yn y gynulleidfa, pan fyddwn ni’n lletygar, pan fyddwn ni’n helpu gyda phrosiectau yn y gyfundrefn ar hyd a lled y byd, a phan fyddwn ni’n gwneud mwy yn ein gwasanaeth i Jehofa.—Colosiaid 3:23.

2. Pam na ddylen ni byth gymharu’r hyn rydyn ni’n ei wneud i Jehofa â’r hyn mae pobl eraill yn ei wneud?

2 Wrth inni astudio’r erthygl hon, pwysig yw cofio bod pawb yn wahanol. Dydy ein hoedran, ein hiechyd, ein hamgylchiadau, nac ein galluoedd ddim yr un fath. Felly, paid â chymharu yr hyn rwyt ti’n gallu ei wneud i Jehofa â’r hyn y gall eraill ei wneud. Dywedodd yr apostol Paul: “Dylai pawb yn syml wneud beth allan nhw. Wedyn cewch y boddhad o fod wedi’i wneud heb orfod cymharu’ch hunain â phobl eraill o hyd.”—Galatiaid 6:4.

HELPU DY DEULU AC ERAILL YN Y GYNULLEIDFA

3. Pam y gallwn ddweud bod unrhyw un sy’n gofalu am ei deulu yn cydweithio â Duw?

3 Mae Jehofa yn disgwyl inni ofalu am ein teuluoedd. Er enghraifft, efallai dy fod ti’n gorfod ennill arian ar gyfer anghenion dy deulu. Mae llawer o famau yn gorfod aros adref i ofalu am eu plant bach. A phan nad ydy ein rhieni yn gallu gofalu amdanyn nhw eu hunain, efallai bydd rhaid i ni wneud hynny. Pethau angenrheidiol ydy’r rhain. Dywed y Beibl: “Mae unrhyw un sy’n gwrthod gofalu am ei berthnasau, yn arbennig ei deulu agosaf, wedi troi cefn ar y ffydd Gristnogol. Yn wir mae person felly yn waeth na’r bobl sydd ddim yn credu.” (1 Timotheus 5:8) Os oes gen ti gyfrifoldebau teuluol, efallai nad wyt ti’n gwneud cymaint ag y byddet ti’n hoffi ei wneud i Jehofa. Ond paid â digalonni! Mae Jehofa yn hapus pan fyddi di’n darparu ar gyfer dy deulu.—1 Corinthiaid 10:31.

4. Sut gall rhieni roi buddiannau’r Deyrnas yn gyntaf, a beth sy’n digwydd pan fyddan nhw’n gwneud hynny?

4 Gall rhieni Cristnogol weithio gyda Jehofa drwy helpu eu plant i osod amcanion yn eu gwasanaeth i Jehofa. Mae llawer o rieni wedi gwneud hyn. O ganlyniad, mae eu meibion a’u merched yn hwyrach ymlaen wedi penderfynu gwasanaethu Jehofa yn llawn amser, yn bell oddi cartref hyd yn oed. Mae rhai yn genhadon, eraill yn arloesi lle mae ’na angen mawr am gyhoeddwyr, ac eraill yn gwasanaethu yn y Bethel. Wrth gwrs, pan fydd y plant yn bell i ffwrdd, dydy rhieni ddim yn gallu treulio cymaint o amser gyda’r plant ag y bydden nhw’n hoffi ei wneud. Ond maen nhw’n anhunanol ac yn annog eu plant i barhau i wasanaethu Duw le bynnag y maen nhw. Pam? Oherwydd eu bod nhw’n hapus iawn o weld eu plant yn rhoi Jehofa yn gyntaf yn eu bywydau. (3 Ioan 4) Mae llawer o’r rhieni hyn yn teimlo fel roedd Hanna, a ddywedodd ei bod hi wedi rhoi ei mab Samuel i Jehofa. Maen nhw’n teimlo ei bod hi’n anrhydedd mawr i weithio gyda Jehofa fel hyn.—1 Samuel 1:28.

5. Sut gelli di helpu brodyr a chwiorydd yn dy gynulleidfa? (Gweler y llun agoriadol.)

5 Os nad oes gen ti gyfrifoldebau teuluol o bwys mawr yn galw, a elli di helpu brodyr a chwiorydd sy’n sâl neu sy’n oedrannus neu sydd ag anghenion eraill? Neu a elli di helpu’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw? Chwilia am gyfle i helpu’r rhai hynny yn dy gynulleidfa. Er enghraifft, efallai fod ’na chwaer sy’n gofalu am ei rhiant mewn oed. A fyddet ti’n gallu treulio amser gyda’i rhiant er mwyn iddi hi fedru rhoi sylw i bethau eraill? Neu efallai y gelli di helpu rhywun drwy gynnig mynd ag ef neu hi i’r cyfarfodydd, i siopa, neu i ymweld â rhywun yn yr ysbyty. Pan fyddi di’n gwneud hynny, mae’n bosib dy fod ti’n gweithio gyda Jehofa i ateb gweddi.—Darllen 1 Corinthiaid 10:24.

BYDDA’N LLETYGAR

6. Sut gallwn ni fod yn lletygar?

Dylwn ni helpu eraill bryd bynnag mae gennyn ni’r cyfle i wneud hynny

6 Mae cyd-weithwyr Duw yn adnabyddus am fod yn lletygar. Yn y Beibl, mae’r ymadrodd sy’n sôn am “roi croeso i bobl ddieithr” yn golygu lletygarwch, neu’n llythrennol “caredigrwydd tuag at bobl ddieithr.” (Hebreaid 13:2) Yng Ngair Duw, gallwn ddarllen am esiamplau pobl sy’n ein dysgu ni sut i ddangos y caredigrwydd hwn. (Genesis 18:1-5) Fe allwn ni ac fe ddylen ni helpu eraill bryd bynnag y cawn ni’r cyfle i wneud hynny, p’un a ydyn nhw’n perthyn inni yn y ffydd neu beidio.—Galatiaid 6:10.

7. Beth yw’r buddion o fod yn lletygar tuag at weision llawn amser?

7 A wyt ti’n gallu gweithio gyda Jehofa drwy roi llety i weision llawn amser sydd angen rhywle i aros? (Darllen 3 Ioan 5, 8.) Pan fyddwn ni’n gwneud hynny, maen nhw’n elwa, a ninnau hefyd. Mae’r Beibl yn dweud: “Byddwn i a chithau’n cael ein calonogi.” (Rhufeiniaid 1:11, 12) Rho sylw i brofiad Olaf. Pan oedd yn ifanc, gwnaeth arolygwr y gylchdaith ymweld â’i gynulleidfa ac roedd arno angen rhywle i aros, ond doedd neb yn y gynulleidfa yn gallu ei helpu. Gofynnodd Olaf i’w rieni, nad oedden nhw’n Dystion, a fyddai arolygwr y gylchdaith yn gallu aros gyda nhw. Cytunon nhw ond dywedon nhw y byddai’n rhaid i Olaf gysgu ar y soffa. Dyna wnaeth Olaf, ac ni wnaeth ddifaru o gwbl. Cafodd wythnos hyfryd iawn gyda’r arolygwr! Yn gynnar bob bore, dyma nhw’n codi ac yn trafod llawer o bynciau diddorol wrth fwyta eu brecwast. Gwnaeth yr arolygwr annog Olaf i’r fath raddau nes iddo benderfynu dechrau gwasanaethu Jehofa yn llawn amser. Am y 40 mlynedd ddiwethaf, mae Olaf wedi gwasanaethu’n genhadwr mewn sawl gwlad.

8. Pam dylen ni fod yn garedig hyd yn oed os ydy pobl eraill yn anniolchgar ar y cychwyn? Rho esiampl.

8 Gallwn ddangos cariad tuag at bobl ddiarth mewn llawer o wahanol ffyrdd, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n ddiolchgar ar y cychwyn. Er enghraifft, roedd chwaer yn Sbaen yn astudio gyda Yesica, dynes o Ecwador. Un diwrnod yn ystod yr astudiaeth, doedd Yesica ddim yn gallu stopio crio. Felly dyma’r chwaer yn gofyn pam. Dywedodd Yesica ei bod hi’n hynod o dlawd cyn iddi ddod i Sbaen. Un diwrnod, doedd hi ddim yn gallu rhoi unrhyw fwyd i’w merch, dim ond dŵr. Gweddïodd Yesica am help tra oedd hi’n ceisio gwneud i’w babi fynd i gysgu. Yn fuan wedyn, gwnaeth dau Dyst alw ar Yesica a rhoi cylchgrawn iddi. Ond roedd hi’n gas wrthyn nhw a rhwygodd y cylchgrawn yn ddarnau, gan ddweud: “Ai dyma’r bwyd rydych chi eisiau imi roi i fy merch?” Ceisiodd y chwiorydd ei chysuro hi, ond wnaeth Yesica ddim gwrando. Yn nes ymlaen, gadawodd y chwiorydd fasged o fwyd wrth ei drws. Nawr, yn ystod yr astudiaeth, roedd hi’n crio oherwydd iddi sylweddoli ei bod hi wedi anwybyddu ateb Duw i’w gweddi. Ond roedd Yesica yn benderfynol o wasanaethu Jehofa. Yn amlwg, daeth canlyniadau da o haelioni’r chwiorydd hynny.—Pregethwr 11:1, 6.

GWIRFODDOLI I WEITHIO AR BROSIECTAU Y GYFUNDREFN

9, 10. (a) Pa gyfleoedd roedd gan yr Israeliaid i wirfoddoli? (b) Ym mha ffyrdd y gall brodyr helpu’r gynulleidfa heddiw?

9 Yn y gorffennol, roedd gan yr Israeliaid lawer o gyfleoedd i wirfoddoli. (Exodus 36:2; 1 Cronicl 29:5; Nehemeia 11:2) Heddiw, mae gen tithau hefyd lawer o gyfleoedd i wirfoddoli dy amser, dy bethau materol, a dy sgiliau er mwyn helpu dy frodyr a dy chwiorydd. O wneud hynny, byddi di’n llawen dros ben a bydd Jehofa yn dy fendithio.

10 Mae Gair Duw yn annog dynion yn y gynulleidfa i weithio gyda Jehofa drwy wasanaethu eraill fel gweision gweinidogaethol a henuriaid. (1 Timotheus 3:1, 8, 9; 1 Pedr 5:2, 3) Mae’r rhai sy’n gwneud hyn eisiau helpu pobl eraill mewn ffyrdd ymarferol a hefyd yn eu haddoliad. (Actau 6:1-4) Ydy’r henuriaid wedi gofyn iti fod yn wasanaethwr neu i helpu gyda’r llenyddiaeth, y diriogaeth, y gwaith cynnal a chadw, neu unrhyw beth arall? Mae’r brodyr sy’n helpu wrth wneud y pethau hyn yn mwynhau’n fawr iawn.

Mae’r rhai sy’n gwirfoddoli i weithio ar brosiectau adeiladu ar gyfer y gyfundrefn yn aml yn gwneud ffrindiau newydd (Gweler paragraff 11)

11. Sut mae un chwaer wedi elwa o weithio ar brosiectau adeiladu?

11 Mae’r rhai sy’n gwirfoddoli i weithio ar brosiectau adeiladu’n aml yn gwneud ffrindiau newydd. Mae un chwaer o’r enw Margie wedi bod yn gweithio ar brosiectau adeiladu Neuaddau am 18 mlynedd. Ar y prosiectau hyn, mae hi wedi cymryd diddordeb yn y chwiorydd ifanc a’u helpu nhw drwy eu hyfforddi. Mae hi’n dweud bod hyn yn ffordd arbennig i’r gwirfoddolwyr annog ei gilydd. (Rhufeiniaid 1:12) Mewn gwirionedd, pan oedd Margie yn mynd trwy amserau caled yn ei bywyd, y ffrindiau newydd y mae hi wedi eu gwneud ar y prosiectau hynny oedd y rhai a wnaeth ei hannog. A wyt ti erioed wedi gwirfoddoli i fod ar brosiect adeiladu? Mae’n bosib iti weithio ar brosiect, hyd yn oed os nad oes gen ti sgìl arbennig.

12. Sut y gelli di helpu ar ôl trychineb?

12 Gallwn ninnau hefyd weithio gyda Jehofa drwy helpu ein brodyr ar ôl trychineb. Er enghraifft, gallwn ni roi arian. (Ioan 13:34, 35; Actau 11:27-30) Ffordd arall y gallwn ni helpu ydy glanhau neu drwsio unrhyw ddifrod a achoswyd gan y trychineb. Roedd cartref Gabriela, chwaer o Wlad Pwyl, wedi cael ei ddifrodi oherwydd llifogydd, ac roedd hi mor hapus i weld brodyr o gynulleidfaoedd cyfagos yn dod i’w helpu. Pan fydd hi’n meddwl am y profiad, mae hi’n dweud dydy hi ddim yn poeni am yr holl bethau materol a gollodd hi, ond yn hytrach yn ffocysu ar y pethau a enillodd hi. Mae hi’n dweud: “Gwnaeth y profiad hwn fy atgoffa mai braint unigryw ydy bod yn rhan o’r gynulleidfa Gristnogol ac mae’n dod â gwir hapusrwydd a llawenydd.” Mae llawer sy’n derbyn help ar ôl trychineb yn dweud eu bod nhw’n teimlo’r un ffordd. Ac mae’r rhai sy’n gweithio gyda Jehofa i helpu’r brodyr hynny yn teimlo’n hapus ac yn fodlon eu byd.—Darllen Actau 20:35; 2 Corinthiaid 9:6, 7.

13. Sut rydyn ni’n cryfhau ein cariad tuag at Jehofa pan ydyn ni’n gwirfoddoli? Rho esiampl.

13 Gwnaeth chwaer o’r enw Stephanie a chyhoeddwyr eraill yn ei hardal hi weithio gyda Duw drwy helpu Tystion a wnaeth ffoi i’r Unol Daleithiau yn dilyn rhyfel yn eu gwlad nhw. Gwnaethon nhw helpu’r ffoaduriaid hyn drwy ffeindio cartrefi a dodrefn iddyn nhw. Mae hi’n dweud: “Gwnaeth eu llawenydd a’u gwerthfawrogiad gyffwrdd ein calonnau wrth iddyn nhw brofi cariad eu brawdoliaeth fyd-eang. Mae eu teuluoedd yn meddwl ein bod ni wedi eu helpu nhw, ond mewn gwirionedd, nhw sydd wedi ein helpu ni. Mae’r cariad, yr undod, y ffydd, a’r ddibyniaeth ar Jehofa rydyn ni wedi eu gweld wedi cryfhau ein cariad tuag at Jehofa, ac mae hyn wedi gwneud inni werthfawrogi’n fwy byth yr holl bethau rydyn ni’n ei derbyn drwy ei gyfundrefn.”

EHANGU’R FFORDD RWYT TI’N GWASANAETHU JEHOFA

14, 15. (a) Pa agwedd oedd gan y proffwyd Eseia? (b) Sut gall Cristnogion efelychu agwedd Eseia?

14 A fyddet ti’n hoffi gwneud mwy i Jehofa? A fyddet ti’n fodlon symud i ardal lle mae angen mwy o gyhoeddwyr? Wrth gwrs, does dim rhaid inni symud yn bell i ffwrdd er mwyn inni allu bod yn hael. Ond, mae ’na rai brodyr a chwiorydd sy’n gallu gwneud hynny. Mae ganddyn nhw’r un agwedd â’r proffwyd Eseia. Pan ofynnodd Jehofa: “Pwy dw i’n mynd i’w anfon?” dywedodd Eseia: “Dyma fi; anfon fi.” (Eseia 6:8) Wyt ti’n gallu ac wyt ti’n fodlon helpu cyfundrefn Jehofa? Ym mha ffyrdd y gelli di helpu?

15 Wrth sôn am bregethu a gwneud disgyblion, dywedodd Iesu: “Mae’r cynhaeaf mor fawr, a’r gweithwyr mor brin! Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i’w feysydd.” (Mathew 9:37, 38) A elli di wasanaethu fel arloeswr mewn ardal sydd angen mwy o gyhoeddwyr? Neu, a elli di helpu rhywun arall i wneud hynny? Mae llawer o frodyr a chwiorydd yn teimlo mai’r ffordd orau o ddangos eu cariad tuag at Jehofa a’u cymdogion ydy trwy arloesi mewn ardal sydd angen mwy o gyhoeddwyr. A elli di feddwl am ffyrdd eraill o wneud mwy yn dy wasanaeth i Jehofa? Os byddi di’n gwneud mwy, byddi di’n hapus iawn.

16, 17. Ym mha ffyrdd eraill y gelli di ehangu’r ffordd rwyt ti’n gwasanaethu Jehofa?

16 A wyt ti’n fodlon gwasanaethu yn y Bethel neu helpu gyda phrosiectau adeiladu, naill ai fel gweithiwr dros dro neu am ddiwrnod neu ddau bob wythnos? Mae cyfundrefn Jehofa bob amser yn gofyn am bobl sy’n fodlon gwasanaethu le bynnag y mae ’na angen amdanyn nhw ac sy’n fodlon gwneud beth bynnag y gofynnir iddyn nhw ei wneud hyd yn oed os oes ganddyn nhw brofiad mewn math arall o waith. Mae Jehofa yn gwerthfawrogi pawb sy’n fodlon gwneud aberthau a gwasanaethu le bynnag mae ’na angen.—Salm 110:3.

17 A fyddet ti’n hoffi derbyn mwy o hyfforddiant er mwyn iti allu gwasanaethu Jehofa’n fwy? Efallai y byddi di’n gallu gwneud cais i fynd i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas. Mae’r ysgol hon yn hyfforddi brodyr a chwiorydd sydd eisoes yn gwasanaethu Jehofa’n llawn amser er mwyn i gyfundrefn Jehofa allu eu defnyddio nhw i wneud mwy. Mae’r rhai sy’n mynychu’r ysgol hon yn gorfod bod yn barod i wasanaethu le bynnag y maen nhw’n cael eu hanfon. A fyddet ti’n barod i wneud mwy i Jehofa drwy wneud hyn?—1 Corinthiaid 9:23.

18. Pa fendithion sy’n dod o weithio gyda Jehofa bob diwrnod?

18 Oherwydd mai pobl Jehofa ydyn ni, rydyn ni’n hael, yn dda, yn garedig, ac yn gariadus. Rydyn ni’n gofalu am eraill bob diwrnod. Mae hyn yn ein gwneud ni’n llawen, yn heddychlon, ac yn hapus. (Galatiaid 5:22, 23) Dim ots beth ydy dy amgylchiadau, byddi di’n hapus cyn belled â dy fod ti’n efelychu personoliaeth hael Jehofa ac yn gweithio gyda Jehofa!—Diarhebion 3:9, 10.