Cwestiynau Ein Darllenwyr
Pam na chaniateir i unrhyw un bostio cyhoeddiadau Tystion Jehofa ar wefannau eraill neu ar gyfryngau cymdeithasol?
Oherwydd nad ydyn ni’n codi tâl am ein cyhoeddiadau, mae rhai yn meddwl y cân nhw eu copïo neu eu postio ar wefannau eraill neu ar gyfryngau cymdeithasol. Ond mae hyn yn gallu creu problemau difrifol, ac mae’n torri Telerau Defnyddio * (gweler y troednodyn) ein gwefannau. Mae’r Telerau hyn yn dweud yn eglur na cheir “postio lluniau, cyhoeddiadau electronig, nodau masnach, cerddoriaeth, ffotograffau, fideos, nac erthyglau oddi ar y wefan hon ar y Rhyngrwyd (unrhyw wefan, safle sy’n rhannu ffeiliau, safle sy’n rhannu fideos, ac unrhyw rwydwaith cymdeithasol).” Pam mae angen y rheolau hyn?
Mae hawlfraint ar yr holl ddeunydd ar ein gwefannau, sy’n golygu ei fod wedi ei ddiogelu gan y gyfraith. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn helpu i atal camddefnyddio. Weithiau bydd gwrthgilwyr ac eraill sydd am rwystro ein gwaith yn rhoi ein cyhoeddiadau ar eu gwefannau nhw er mwyn denu sylw Tystion Jehofa ac eraill. Ond ar y gwefannau hynny, maen nhw hefyd yn rhoi deunydd sydd wedi ei greu i godi amheuon. (Salm 26:4; Diarhebion 22:5) Mae eraill wedi rhoi ein deunydd neu’r logo jw.org mewn hysbysebion ac apiau symudol, ac ar nwyddau i’w gwerthu. Ond gan fod y deunydd a’r logo wedi eu diogelu gan y gyfraith, mae modd inni fynd i’r llys i’w hatal. (Diarhebion 27:12) Ond os ydyn ni’n caniatáu i eraill, hyd yn oed ein brodyr, bostio ein cyhoeddiadau ar wefannau eraill neu ddefnyddio’r logo jw.org i werthu nwyddau, mae’n bosib na fydd y llysoedd yn ein cefnogi.
Gall lawrlwytho ein cyhoeddiadau oddi ar wefannau eraill, yn lle jw.org, fod yn beryglus. Mae Jehofa yn rhoi bwyd ysbrydol inni dim ond drwy law’r gwas ffyddlon a chall. (Mathew 24:45) Mae’r “gwas” hwnnw’n defnyddio dim ond ei wefannau swyddogol i ddarparu bwyd ysbrydol—www.pr418.com, tv.pr418.com, a wol.pr418.com. Dim ond tri ap swyddogol sydd gennyn ni ar gyfer dyfeisiau symudol—JW Language®, JW Library®, a JW Library Sign Language®. Ar y gwefannau a’r apiau hyn, nid oes yr un hysbyseb nac unrhyw beth o fyd Satan. Ond os cawn ein cyhoeddiadau drwy wefannau neu apiau eraill, mae peryg eu bod wedi cael eu newid.—Salm 18:26; 19:8.
Ar ben hynny, mae postio ein deunydd ar wefannau sy’n caniatáu sylwadau yn rhoi llwyfan i wrthgilwyr ac eraill i feirniadu cyfundrefn Jehofa. Yna mae rhai brodyr yn dechrau dadlau â’r bobl hyn gan ddwyn mwy o anfri byth ar Jehofa. Nid trafodaethau ar y We yw’r ffordd iawn o gywiro syniadau a helpu rhywun i ddeall y gwirionedd. (1 Timotheus 6:3-5; 2 Timotheus 2:23-25) Hefyd, mae rhai pobl yn creu gwefannau a chyfrifon ar gyfryngau cymdeithasol sydd fel petaen nhw’n perthyn i’r gyfundrefn neu i frodyr ar y Corff Llywodraethol. Ond maen nhw’n ffug. Nid oes gan unrhyw aelod o’r Corff Llywodraethol dudalen we bersonol na chyfrif ar unrhyw un o’r cyfryngau cymdeithasol.
Drwy gyfeirio pobl at jw.org, rydyn ni’n helpu i gyhoeddi’r “newyddion da.” (Mathew 24:14) Mae’r gwefannau a’r apiau sydd gennyn ni yn gwella o hyd. Rydyn ni eisiau i bawb elwa arnyn nhw. Felly cawn e-bostio copïau o’n cyhoeddiadau at eraill neu anfon linc i’n gwefan. Fel hyn, rydyn ni’n arwain pobl at yr unig sianel y mae Jehofa yn ei defnyddio i ddarparu bwyd ysbrydol, sef y “gwas ffyddlon a chall.”
^ Par. 1 Fe welwch linc i’r Telerau Defnyddio ar waelod tudalen hafan jw.org. Mae’r rheolau hyn yn cynnwys popeth sydd ar gael ar ein gwefannau.