Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Dynion Penodedig—Efelychwch Timotheus

Dynion Penodedig—Efelychwch Timotheus

Y LLYNEDD, penodwyd miloedd o frodyr drwy’r byd yn henuriaid ac yn weision gweinidogaethol. Os wyt ti yn eu plith, mae’n rhaid dy fod ti’n teimlo’n hapus i wasanaethu Jehofa a’r brodyr yn y ffordd newydd hon.

Sut bynnag, naturiol fyddai teimlo braidd yn bryderus. Dywed henuriad ifanc o’r enw Jason: “Pan gefais fy mhenodi, roedd y cyfrifoldebau newydd yn pwyso’n drwm arna’ i.” Nid oedd Moses a Jeremeia yn teimlo eu bod nhw’n ddigon da pan gawson nhw aseiniadau newydd gan Jehofa. (Exodus 4:10; Jeremeia 1:6) Os wyt ti’n teimlo’r un fath, beth gelli di ei wneud i fagu hyder ac i ddod yn dy flaen? Mae llawer i’w ddysgu o esiampl Timotheus.—Actau 16:1-3.

DILYN ESIAMPL TIMOTHEUS

Mae’n debyg fod Timotheus tua 20 mlwydd oed pan ddechreuodd deithio gyda’r apostol Paul. Pan gafodd y gwahoddiad, gallai fod wedi teimlo nad oedd yn gymwys i ddysgu eraill a’u cynghori gan ei fod mor ifanc. (1 Timotheus 4:11, 12; 2 Timotheus 1:1, 2, 7) Ond fe ddaliodd ati i wella ei sgiliau, a ddeng mlynedd yn ddiweddarach dywedodd Paul wrth y Philipiaid: “Dw i’n gobeithio anfon Timotheus atoch chi’n fuan.” Pam roedd Paul yn teimlo fel hyn? Esboniodd: “Does gen i neb tebyg i Timotheus.”—Philipiaid 2:19, 20.

Pam mae Timotheus yn esiampl dda i henuriaid? Ystyria’r chwe rheswm canlynol.

1. Roedd yn gwir ofalu am bobl. Dywedodd Paul wrth y brodyr yn Philipi y byddai Timotheus “yn cymryd gwir ofal” amdanyn nhw. (Philipiaid 2:20) Roedd Timotheus eisiau i’r brodyr aros yn agos at Jehofa, ac roedd yn fodlon rhoi o’i amser a’i egni i’w helpu.

Mae William, sydd wedi bod yn henuriad ers mwy nag 20 mlynedd, bob amser yn dweud wrth henuriaid newydd: “Cofia garu’r brodyr. Canolbwyntia ar eu hanghenion nhw, yn hytrach nag ar drefnu ac arolygu.” Paid â bod fel gyrrwr bws sy’n malio dim am y teithwyr cyhyd ag y mae’n medru cadw at ei amserlen.

2. Rhoddodd ei wasanaeth i Jehofa yn gyntaf. Gwelodd Paul fod y brodyr o’i gwmpas yn “poeni amdanyn nhw eu hunain, . . . dim am beth sy’n bwysig i Iesu Grist.” (Philipiaid 2:21) Weithiau roedden nhw’n rhoi eu lles eu hunain o flaen eu gwasanaeth i Jehofa. Ond roedd Timotheus yn wahanol. Pan gafodd Timotheus y cyfle i wneud mwy i wasanaethu Jehofa, ei ateb, fel Eseia oedd: “Dyma fi; anfon fi.”—Eseia 6:8.

Sut gelli di gadw cydbwysedd wrth ofalu am dy anghenion personol ac anghenion y gynulleidfa? Yn gyntaf, dilyna gyngor Paul i “ddewis y peth gorau i wneud bob amser.” (Philipiaid 1:10) Rho dy wasanaeth i Jehofa yn gyntaf. Yn ail, mae angen osgoi gweithgareddau sy’n llyncu gormod o amser ac egni. Dywedodd Paul wrth Timotheus: “Rhaid i ti ddianc rhag chwantau gwamal ieuenctid. . . . Bydd yn ffyddlon i Dduw, ac yn llawn o’i gariad a’i heddwch.”—2 Timotheus 2:22.

3. Gweithiodd yn galed i wasanaethu Jehofa. Dywedodd Paul am Timotheus: “Mae wedi gweithio gyda mi dros y newyddion da, fel mab yn helpu ei dad.” (Philipiaid 2:22) Nid oedd Timotheus yn ddiog. Gweithiodd yn galed gyda Paul, ac o ganlyniad daethon nhw’n agosach.

Mae digon o waith i’w wneud yng nghyfundrefn Jehofa heddiw. Mae’r gwaith yn dod â boddhad ac yn dy dynnu di’n nes at y brodyr a’r chwiorydd. Felly, rho dy hun “yn llwyr i waith yr Arglwydd.”—1 Corinthiaid 15:58.

4. Rhoddodd bopeth a ddysgodd ar waith. Ysgrifennodd Paul at Timotheus: “Rwyt ti wedi cymryd sylw o’r hyn dw i’n ei ddysgu, o sut dw i’n byw, beth ydy fy nod i mewn bywyd, sut dw i’n ymddiried yn Iesu Grist, fy amynedd i, fy nghariad i at bobl, fy ngallu i ddal ati.” (2 Timotheus 3:10) Rhoddodd Timotheus bopeth a ddysgodd ar waith, ac felly cafodd fwy o gyfrifoldebau.—1 Corinthiaid 4:17.

Efallai cei di ddewis henuriad profiadol fel esiampl i’w ddilyn. Mae Tom, sydd wedi bod yn henuriad ers blynyddoedd, yn cofio henuriad profiadol a’i cymerodd dan ei adain a’i hyfforddi. Mae’n dweud: “Byddwn i’n mynd ato’n aml am gyngor a’i roi ar waith. Mi wnes i fagu hyder yn gyflym wedyn.”

5. Daliodd ati i’w hyfforddi ei hun. Dywedodd Paul wrth Timotheus: “Gwna dy orau glas [“ymarfer,” BCND] i fyw fel mae Duw am i ti fyw.” (1 Timotheus 4: 7) Hyd yn oed pan fydd gan athletwr hyfforddwr, mae’n dal yn bwysig iddo ymarfer. Anogodd Paul Timotheus: “Canolbwyntia ar ddarllen yr ysgrifau sanctaidd yn gyhoeddus, annog y bobl a’u dysgu nhw. . . . Gwna’r pethau yma yn flaenoriaeth. Bwrw iddi i’w gwneud, er mwyn i bawb weld sut rwyt ti’n dod yn dy flaen.”—1 Timotheus 4:13-15.

Mae angen i tithau hefyd barhau i wella dy sgiliau. Astudia’r Beibl yn ddyfal a sicrha dy fod ti’n gyfarwydd â chyfarwyddyd diweddaraf y gyfundrefn. Paid â bod yn orhyderus. Camgymeriad fyddai meddwl bod digon o brofiad gen ti i ddelio ag unrhyw sefyllfa heb ymchwilio’n ofalus. Fel Timotheus, “cadw lygad ar sut rwyt ti’n byw a beth rwyt ti’n ei ddysgu.”—1 Timotheus 4:16.

6. Roedd yn dibynnu ar ysbryd Jehofa. Sôn am y weinidogaeth oedd Paul pan atgoffodd Timotheus: “Gyda help yr Ysbryd Glân . . . cadw’r trysor sydd wedi ei roi yn dy ofal yn saff.” (2 Timotheus 1:14) Roedd rhaid i Timotheus ddibynnu ar ysbryd Duw.

Dywed Donald, sydd wedi bod yn henuriad ers blynyddoedd: “Dylai dynion penodedig drysori eu perthynas â Duw. Mae’r rhai sy’n gwneud hyn yn mynd ‘o nerth i nerth.’ Os ydyn nhw’n gweddïo am ysbryd glân Duw a meithrin ei ffrwyth, byddan nhw’n fendith i’r brodyr.”—Salm 84:7; 1 Pedr 4:11.

TRYSORA DY ASEINIAD

Calonogol yw gweld gweision gweinidogaethol a henuriaid newydd sydd, fel ti, yn dal ati i wella eu sgiliau wrth wasanaethu Jehofa. Dywed Jason, y soniwyd amdano uchod: “Ers imi fod yn henuriad, dw i wedi dysgu llawer ac dw i’n teimlo’n fwy hyderus. Nawr dw i’n mwynhau’r gwaith a’i weld yn fraint aruthrol!”

A fyddi di’n dal ati i ddod yn dy flaen? Os wyt ti’n dilyn esiampl Timotheus, byddi dithau hefyd yn fendith i’r brodyr a’r chwiorydd.