Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Amynedd—Dyfalbarhau Mewn Gobaith

Amynedd—Dyfalbarhau Mewn Gobaith

MAE bywyd yn y dyddiau olaf hyn yn anodd, felly mae angen mwy o amynedd nag erioed o’r blaen. (2 Timotheus 3:1-5) Gwelwn bobl ddiamynedd ym mhobman. Maen nhw’n hunanol, yn gecrus ac yn colli hunanreolaeth yn hawdd. Felly mae angen i ni ofyn: ‘A ydw i wedi troi’r un mor ddiamynedd â’r bobl o’m cwmpas? Beth mae bod yn amyneddgar yn ei feddwl? Yn fy mhersonoliaeth i, sut gallaf fod yn fwy amyneddgar?’

BETH YW AMYNEDD?

Beth yw ystyr y gair “amynedd” yn y Beibl? Mae’n golygu mwy na dim ond dygymod â phroblemau. Mae person amyneddgar yn dyfalbarhau yn y gobaith y bydd pethau’n gwella. Mae’n meddwl am deimladau pobl eraill, hyd yn oed y rhai a all fod wedi ei gythruddo neu fod yn gas wrtho. Mae’n dal i obeithio y bydd y berthynas yn gwella. Nid yw’n syndod bod y Beibl yn dweud bod amynedd yn dod o ganlyniad i gariad. * (Gweler y troednodyn.) (1 Corinthiaid 13:4) Mae amynedd hefyd yn rhan o ffrwyth yr ysbryd. (Galatiaid 5:22, 23) Felly, sut gallwn ni fod yn wir amyneddgar?

SUT I FOD YN FWY AMYNEDDGAR

I fod yn amyneddgar, mae angen inni weddïo am ysbryd Jehofa i’n helpu gan ein bod yn ymddiried ynddo. (Luc 11:13) Mae’r ysbryd glân yn rymus dros ben, ond mae angen inni barhau i weithredu’n unol â’n gweddïau. (Salm 86:10, 11) Mae hyn yn golygu bod rhaid inni wneud ein gorau bob dydd i fod yn amyneddgar, fel bod amynedd yn dod yn rhan o’n personoliaeth. Ond weithiau byddwn ni’n methu. Beth all ein helpu?

Mae angen inni astudio a dilyn esiampl berffaith Iesu. Pan soniodd Paul am y bersonoliaeth newydd, sy’n cynnwys amynedd, dywedodd: “Bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau.” (Colosiaid 3:10, 12, 15, BCND) I wneud hynny, mae’n rhaid inni ddilyn esiampl Iesu ac ymddiried yn llwyr yn Nuw i gywiro pethau ar yr amser iawn. Drwy ymddiried yn Jehofa, fyddwn ni ddim yn colli amynedd, ni waeth beth sy’n digwydd o’n cwmpas.—Ioan 14:27; 16:33.

Wrth gwrs, hoffen ni weld y byd newydd yn dod cyn gynted â phosib. Ond rydyn ni’n dysgu bod yn fwy amyneddgar drwy ystyried pa mor amyneddgar mae Jehofa wedi bod wrthon ni. Mae’r Beibl yn dweud: “Dydy Duw ddim yn hwyr yn gwneud beth mae wedi ei addo, fel mae rhai yn meddwl am fod yn hwyr. Bod yn amyneddgar gyda chi mae e. Does ganddo ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd.” (2 Pedr 3:9) Felly pan ystyriwn amynedd Jehofa tuag aton ni, byddwn ni’n fwy amyneddgar wrth bobl eraill. (Rhufeiniaid 2:4) Ym mha sefyllfaoedd mae angen i ni fod yn amyneddgar?

SEFYLLFAOEDD SY’N GOFYN AM AMYNEDD

Mae llawer o sefyllfaoedd yn ein bywyd bob dydd sy’n gofyn am amynedd. Er enghraifft, mae gofyn am amynedd i beidio â thorri ar draws pobl eraill pan deimlwn fod gennyn ni rywbeth pwysig i’w ddweud. (Iago 1:19) Mae angen amynedd hefyd pan fo rhywun yn ein gwylltio. Yn lle ymateb yn swta, peth da fyddai cofio sut mae Jehofa ac Iesu yn ymateb i’n gwendidau ninnau. Maen nhw’n anwybyddu’r holl bethau bach rydyn ni’n eu gwneud o’u lle. Maen nhw’n canolbwyntio ar ein rhinweddau, ac yn rhoi amser inni wella.—1 Timotheus 1:16; 1 Pedr 3:12.

Mae angen amynedd hefyd pan fydd rhywun yn tynnu sylw at rywbeth rydyn ni wedi ei ddweud neu ei wneud o’i le. Efallai ein hymateb cyntaf fydd digio a’n hamddiffyn ein hunain. Ond dyma sut mae Gair Duw yn dweud y dylen ni ymateb: “Mae amynedd yn well na balchder. Paid gwylltio’n rhy sydyn; gwylltineb sydd yng nghalon ffyliaid.” (Pregethwr 7:8, 9) Felly hyd yn oes os nad oes dim sail i’r cyhuddiad, mae angen inni fod yn amyneddgar a meddwl yn ofalus cyn ymateb. Dyna a wnaeth Iesu pan gafodd ei gyhuddo ar gam.—Mathew 11:19.

Mae angen i rieni fod yn hynod o amyneddgar wrth helpu eu plant i gywiro agweddau neu chwantau drwg. Ystyriwch Mattias er enghraifft, sy’n gwasanaethu yn y Bethel yn Sgandinafia. Pan oedd Mattias yn ei arddegau, roedd ei ffrindiau ysgol yn gwneud hwyl am ei ben oherwydd ei gredoau. Ar y dechrau, nid oedd ei rieni’n gwybod am hyn. Ond yna sylweddolon nhw ei fod yn dechrau amau ei gredoau. Dywed Gillis, tad Mattias, y bu’n rhaid iddo ef a’i wraig ddangos llawer o amynedd. Byddai Mattias yn gofyn cwestiynau fel: “Pwy yw Duw? Beth os nad yw’r Beibl yn Air Duw? Sut gallwn ni fod yn sicr mai Duw sy’n gofyn inni wneud hyn neu’r llall?” Gofynnai i’w dad: “Pam dylwn i gael fy marnu dim ond oherwydd nad ydw i’n teimlo a chredu’r un fath â chi?”

Esboniodd Gillis: “Weithiau roedd dicter yn ei gwestiynau, nid yn erbyn ei fam a minnau, ond yn erbyn y gwirionedd a oedd, yn ei farn ef, yn gwneud bywyd yn anodd iddo.” Sut gwnaeth Gillis helpu ei fab? “Bydden ni’n eistedd a siarad am oriau.” Yn aml, byddai Gillis yn gwrando ar Mattias a gofyn cwestiynau iddo er mwyn ceisio deall ei deimladau a’i safbwynt. Weithiau byddai Gillis yn esbonio rhywbeth wrth ei fab a gofyn iddo feddwl amdano am ddiwrnod neu ddau cyn cael sgwrs arall. Dro arall, byddai Gillis yn dweud bod angen ychydig o ddyddiau arno ef i ystyried rhywbeth roedd Mattias wedi ei ddweud. Drwy’r sgyrsiau rheolaidd hynny, daeth Mattias i ddeall ystyr y pridwerth, ac i ddeall bod Jehofa yn ein caru ni, a bod yr hawl ganddo i reoli droston ni. Dywed ei dad: “Roedd hi’n broses araf ac anodd ar adegau, ond yn araf deg, fe dyfodd cariad tuag at Jehofa yn ei galon. Mae fy ngwraig a minnau mor hapus bod ein hymdrechion i helpu ein mab drwy ei arddegau wedi llwyddo i gyrraedd ei galon.”

Tra bod Gillis a’i wraig yn gweithio’n amyneddgar i helpu eu mab, roedden nhw, yn eu tro, yn troi at Jehofa am help. Dywed Gillis: “Yn aml byddwn yn dweud wrth Mattias bod ein cariad dwys tuag ato yn gwneud inni weddïo yn daer am i Jehofa ei helpu i ddeall.” Maen nhw mor hapus eu bod nhw wedi bod yn amyneddgar a pheidio â rhoi’r gorau i geisio helpu eu mab!

Mae angen amynedd hefyd wrth ofalu am aelod teulu neu ffrind sydd â salwch tymor hir. Cymerwch Elen * (gweler y troednodyn) er enghraifft, sydd hefyd yn byw yn Sgandinafia.

Tua wyth mlynedd yn ôl, cafodd gŵr Elen ddwy strôc a achosodd niwed i’w ymennydd. O ganlyniad, y mae’n methu teimlo’n hapus neu’n drist, ac yn methu cydymdeimlo ag eraill. Mae’r sefyllfa yn anodd dros ben i Elen. Mae hi’n dweud: “Y mae wedi gofyn am lond gwlad o amynedd a llawer o weddïau. Ond, dw i’n cael cysur o’m hoff adnod, Philipiaid 4:13, sy’n dweud: ‘Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.’” Gyda nerth Jehofa a’i gefnogaeth, mae Elen yn dygymod yn amyneddgar â’r sefyllfa.—Salm 62:5, 6.

EFELYCHU AMYNEDD JEHOFA

Wrth gwrs, yr esiampl orau o ran amynedd yw Jehofa ei hun. (2 Pedr 3:15) Mae’r Beibl yn llawn enghreifftiau o amynedd mawr Jehofa. (Nehemeia 9:30; Eseia 30:18) Wyt ti’n cofio sut ymatebodd Jehofa pan ofynnodd Abraham nifer o gwestiynau iddo am Ei benderfyniad i ddinistrio Sodom? Ni wnaeth Jehofa dorri ar draws Abraham. Fe wrandawodd yn amyneddgar ar bob un o’i gwestiynau a’i bryderon. Dangosodd Jehofa ei fod wedi clywed pryderon Abraham a sicrhaodd ei was na fyddai’n dinistrio Sodom petai hyd yn oed deg dyn cyfiawn yn y ddinas. (Genesis 18:22-33) Mae Jehofa bob amser yn gwrando’n amyneddgar, nid yw byth yn gorymateb!

Mae amynedd yn rhan bwysig o’r bersonoliaeth newydd y mae’n rhaid i bob Cristion ei meithrin. Drwy wneud ein gorau i fod yn wir amyneddgar, byddwn ni’n dod â chlod i’n Tad amyneddgar, Jehofa, a byddwn ni ymhlith “y rhai sydd drwy ffydd ac amynedd yn etifeddu’r addewidion.”—Hebreaid 6:10-12.

^ Par. 4 Trafodwyd cariad yn yr erthygl gyntaf o’r naw yn y gyfres hon ar ffrwyth ysbryd glân Duw.

^ Par. 15 Newidiwyd yr enw.