Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae Pobl Hael yn Bobl Hapus

Mae Pobl Hael yn Bobl Hapus

“Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.”—ACTAU 20:35.

CANEUON: 76, 110

1. Beth sy’n profi bod Jehofa yn hael?

ROEDD ’na gyfnod pan oedd Jehofa yn llwyr ar ei ben ei hun. Yna, penderfynodd roi bywyd i greaduriaid deallus yn y nefoedd ac ar y ddaear. Mae Jehofa, “y Duw hapus,” wrth ei fodd yn rhoi pethau da. (1 Timotheus 1:11, NW; Iago 1:17) Ac oherwydd bod Jehofa eisiau i ninnau fod yn hapus, mae’n ein dysgu ni sut i fod yn hael.—Rhufeiniaid 1:20.

2, 3. (a) Pam mae bod yn hael yn ein gwneud ni’n hapus? (b) Beth fyddwn ni’n ei ddysgu yn yr erthygl hon?

2 Creodd Duw fodau dynol ar ei ddelw ei hun. (Genesis 1:27) Golyga hynny fod Jehofa wedi ein creu ni â’r rhinweddau sydd ganddo ef. Er mwyn bod yn wirioneddol hapus a chael bendith Jehofa, mae’n rhaid inni ddilyn ei esiampl. Mae angen dangos diddordeb mewn pobl a bod yn hael. (Philipiaid 2:3, 4; Iago 1:5) Pam? Oherwydd dyna sut cawson ni ein dylunio gan Jehofa. Er ein bod ni’n amherffaith, gallwn efelychu Jehofa a bod yn hael.

3 Trafodwn nawr beth mae’r Beibl yn ei ddysgu am haelioni. Byddwn yn dysgu pam mae Jehofa yn hapus pan fyddwn ni’n hael. Byddwn hefyd yn dysgu sut mae haelioni yn ein helpu i wneud y gwaith mae Jehofa wedi ei roi inni a pham mae bod yn hael yn ein gwneud ni’n hapus. A byddwn ni’n dysgu pam y dylen ni barhau i fod yn hael.

MAE HAELIONI YN PLESIO JEHOFA

4, 5. Sut mae Jehofa ac Iesu wedi bod yn hael, a pham dylen ni eu hefelychu?

4 Mae Jehofa eisiau inni ei efelychu, felly, mae’n hapus pan fyddwn ni’n hael. (Effesiaid 5:1) Mae Jehofa eisiau i fodau dynol fod yn hapus hefyd. Rydyn ni’n gwybod hyn oherwydd inni gael ein creu mewn ffordd arbennig, ac oherwydd i Jehofa greu’r ddaear a phopeth arni er mwyn inni fwynhau bywyd. (Salm 104:24; 139:13-16) Felly, rydyn ni’n anrhydeddu Jehofa pan fyddwn ni’n ceisio gwneud pobl eraill yn hapus.

5 Rydyn ni hefyd yn efelychu esiampl Iesu o ran haelioni. Dywedodd: “Wnes i, hyd yn oed, ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu’r pris i ryddhau llawer o bobl.” (Mathew 20:28) Ac anogodd Paul Gristnogion eraill: “Dylai eich agwedd chi fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu,” a oedd wedi ei wneud ei hun “yn gaethwas.” (Philipiaid 2:5, 7) Felly, gallwn ofyn i ni’n hunain: ‘Sut galla’ i ddilyn esiampl Iesu yn agosach?’—Darllen 1 Pedr 2:21.

6. Pa wers a ddysgodd Iesu inni yn y stori am y Samariad caredig? (Gweler y llun agoriadol.)

6 Rydyn ni’n plesio Jehofa pan fyddwn ni’n dilyn yr esiampl berffaith a osododd ef ac Iesu. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy ddangos diddordeb mewn pobl a thrwy edrych am ffyrdd i’w helpu. Dangosodd Iesu pa mor bwysig ydy hyn drwy adrodd y stori am y Samariad caredig. (Darllen Luc 10:29-37.) Dysgodd i’w ddilynwyr fod rhaid iddyn nhw helpu pobl eraill, bwy bynnag ydyn nhw ac o le bynnag y maen nhw’n dod. Wyt ti’n cofio pam gwnaeth Iesu adrodd y stori honno? Oherwydd bod dyn Iddewig wedi gofyn iddo: “Pwy ydy fy nghymydog i?” Mae ateb Iesu yn ein dysgu ni fod rhaid inni ddangos haelioni fel y Samariad hwnnw os ydyn ni eisiau plesio Jehofa.

7. Sut rydyn ni’n dangos ein bod ni’n credu mai ffordd Jehofa o wneud pethau ydy’r ffordd orau? Esbonia.

7 Mae rheswm arall dros fod yn hael sy’n gysylltiedig â’r hyn a ddigwyddodd yng ngardd Eden. Honnodd Satan y byddai Adda ac Efa yn hapusach petaen nhw’n anufuddhau i Jehofa ac yn canolbwyntio arnyn nhw eu hunain yn unig. Roedd Efa’n hunanol ac yn dymuno bod fel Duw. Roedd Adda’n hunanol ac yn ceisio plesio Efa yn fwy na Duw. (Genesis 3:4-6) Roedd y canlyniadau’n drychinebus. Yn amlwg, ni all neb fod yn hapus ac yn hunanol. Ond, pan fyddwn ni’n anhunanol ac yn hael, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n credu mai ffordd Jehofa o wneud pethau ydy’r ffordd orau.

GWNA’R GWAITH MAE DUW WEDI EI ROI INNI

8. Pam dylai Adda ac Efa fod wedi meddwl am bobl eraill?

8 Er bod Adda ac Efa ar eu pennau eu hunain yng ngardd Eden, dylen nhw fod wedi meddwl am bobl eraill. Pam? Roedd Jehofa wedi rhoi gwaith iddyn nhw i’w wneud. Dywedodd wrthyn nhw am lenwi’r ddaear â’u plant a’i throi’n baradwys. (Genesis 1:28) Dylai Adda ac Efa fod wedi eisiau i’w plant yn y dyfodol fod yn hapus, fel roedd Jehofa eisiau iddyn nhw i gyd fod yn hapus. Byddan nhw’n gweithio gyda’i gilydd i droi’r holl ddaear yn baradwys. Prosiect enfawr oedd hwnnw!

9. Pam byddai bodau dynol wedi bod yn hapus wrth iddyn nhw droi’r ddaear yn baradwys?

9 Byddai’n rhaid i fodau dynol perffaith hefyd gydweithio’n agos â Jehofa er mwyn troi’r ddaear yn baradwys a chyflawni ei ewyllys. Bydden nhw felly’n mynd i mewn i’w orffwysfa. (Hebreaid 4:11) Dychmyga’r hapusrwydd a fyddai wedi dod iddyn nhw o wneud y gwaith hwnnw! Byddai Jehofa wedi eu bendithio’n fawr am fod yn anhunanol.

10, 11. Beth fydd yn ein helpu i bregethu a gwneud disgyblion?

10 Heddiw, mae Jehofa wedi rhoi gwaith arbennig inni. Mae eisiau inni bregethu a gwneud disgyblion. Er mwyn gwneud y gwaith hwn, mae gwir angen inni ofalu am bobl. Yn wir, gallwn ddal ati yn y gwaith hwn dim ond os oes gennyn ni’r cymhelliad cywir: cariad tuag at Jehofa a chariad tuag at bobl.

11 Dywedodd Paul ei fod ef a Christnogion eraill yn y ganrif gyntaf “fel cydweithwyr” Duw oherwydd eu bod nhw’n pregethu ac yn dysgu’r gwirionedd i bobl. (1 Corinthiaid 3:6, 9, BCND) Heddiw, gallwn ninnau hefyd fod “fel cydweithwyr” Duw drwy roi yn hael o’n hamser, ein hegni, a’n pethau materol er mwyn gwneud y gwaith pregethu mae Duw wedi ei roi inni. Anrhydedd mawr ydy hyn!

Bydd helpu rhywun i ddysgu’r gwirionedd yn dy wneud di’n hapus iawn (Gweler paragraff 12)

12, 13. Beth fyddet ti’n ei ddweud ydy’r gwobrwyon sy’n dod o wneud disgyblion?

12 Mae bod yn hael â’n hamser a’n hegni wrth ddysgu eraill yn dod â llawenydd mawr. Dyna beth mae llawer o Dystion sydd wedi cynnal astudiaethau Beiblaidd yn ei ddweud. Rydyn ni’n hapus iawn o weld y cyffro mae ein myfyrwyr yn ei deimlo wrth iddyn nhw ddeall dysgeidiaethau’r Beibl, meithrin ffydd go iawn, gwneud newidiadau, a dechrau dweud wrth bobl eraill am yr hyn maen nhw’n ei ddysgu. Roedd Iesu hefyd yn hapus iawn o weld y 70 o bregethwyr a anfonwyd allan ganddo yn dod yn ôl “gyda llawenydd” oherwydd eu profiadau da.—Luc 10:17-21, Beibl Cysegr-lân.

13 Mae ein brodyr a’n chwiorydd ar draws y byd yn llawen o weld neges y Beibl yn gwella bywydau pobl. Er enghraifft, roedd chwaer sengl ifanc o’r enw Anna eisiau gwneud mwy ar gyfer Jehofa. * (Gweler y troednodyn.) Symudodd hi i ardal yn Nwyrain Ewrop lle roedd angen mwy o bregethwyr. Ysgrifennodd: “Mae llawer o gyfleoedd i gynnal astudiaethau Beiblaidd yma, ac mae fy ngwasanaeth yn fy ngwneud i’n hapus iawn. Ar ôl mynd adref, does gen i ddim yr amser i ganolbwyntio arna’ fi fy hun. Dw i’n meddwl am fy astudiaethau—eu trafferthion a’u pryderon. Dw i’n edrych am ffyrdd i’w hannog nhw a’u helpu nhw’n ymarferol. A rŵan, dw i’n hollol grediniol fod ‘rhoi yn llawer gwell na derbyn.’”—Actau 20:35.

Beth bynnag ydy ymateb pobl, mae pregethu neges Duw yn ein gwneud ni’n hapus

14. Sut gelli di fwynhau pregethu hyd yn oed os nad ydy pobl yn gwrando?

14 Hyd yn oed os nad ydy pobl yn gwrando arnon ni pan ydyn ni’n pregethu, gallwn fod yn hapus oherwydd ein bod ni’n rhoi’r cyfle i bobl glywed y newyddion da. Mae Jehofa’n disgwyl inni wneud yr hyn a ofynnwyd i Eseciel: “Dwed di wrthyn nhw beth ydy’r neges gen i, os ydyn nhw am wrando neu beidio.” (Eseciel 2:7; Eseia 43:10) Beth bynnag ydy’r ymateb, mae Jehofa yn gwerthfawrogi ein hymdrechion. (Darllen Hebreaid 6:10.) Dywedodd un brawd am ei weinidogaeth: “Rydyn ni wedi plannu, dyfrio, a gweddïo yn y gobaith y bydd Jehofa yn gwneud i’r diddordeb dyfu.”—1 Corinthiaid 3:6.

Pan fyddwn ni’n mynd i bob tŷ yn ein tiriogaeth, rydyn ni’n rhoi cyfle i bobl i wrando ar neges y Deyrnas (Gweler paragraff 14)

SUT GALLWN NI FOD YN HAPUS?

15. A ddylen ni fod yn hael dim ond pan fydd pobl yn ddiolchgar? Esbonia.

15 Mae Iesu eisiau inni fod yn hael oherwydd ei fod yn ein gwneud ni’n hapus. Pan fyddwn ni’n hael, bydd llawer o bobl yn hael yn ôl. Felly, mae’n ein hannog ni: “Os gwnewch roi, byddwch yn derbyn. Cewch lawer iawn mwy yn ôl—wedi ei wasgu i lawr, a’i ysgwyd i wneud lle i fwy! Bydd yn gorlifo! Y mesur dych chi’n ei ddefnyddio i roi fydd yn cael ei ddefnyddio i roi’n ôl i chi.” (Luc 6:38) Wrth gwrs, pan fyddi di’n hael, ni fydd pawb yn ddiolchgar. Ond, hyd yn oed pan na fydd pobl yn ddiolchgar, dalia ati i roi. Dwyt ti ddim yn gwybod faint o ddaioni y gelli di ei wneud drwy un weithred o haelioni.

16. Tuag at bwy y dylen ni fod yn hael, a pham?

16 Dydy pobl sy’n wirioneddol hael ddim yn rhoi er mwyn cael rhywbeth yn ôl. Dywedodd Iesu: “Pan fyddi di’n trefnu gwledd, rho wahoddiad i bobl dlawd, methedig, cloff a dall, a byddi di’n cael dy fendithio. Dydyn nhw ddim yn gallu talu’n ôl i ti.” (Luc 14:13, 14) Mae’r Beibl hefyd yn dweud: “Bydd person hael yn cael ei fendithio,” a hefyd: “Mae’r un sy’n garedig at y tlawd wedi ei fendithio’n fawr.” (Diarhebion 22:9; Salm 41:1) Dylen ni fod yn hael oherwydd ein bod ni eisiau helpu pobl eraill.

17. Beth yw rhai mathau o roi a fydd yn ein gwneud ni’n hapus?

17 Pan ddyfynnodd Paul eiriau Iesu, “mae rhoi yn llawer gwell na derbyn,” nid oedd yn sôn am roi pethau materol yn unig. Gallwn hefyd roi anogaeth, cyngor o’r Beibl, a help ymarferol. (Actau 20:31-35) Drwy’r hyn a ddywedodd ac a wnaeth Paul, roedd yn ein dysgu pa mor bwysig ydy bod yn hael â’n hamser, ein hegni, ein sylw, a’n cariad.

18. Beth mae llawer o ymchwilwyr yn ei ddweud am fod yn hael?

18 Mae ymchwilwyr sy’n astudio ymddygiad dynol hefyd wedi dod i’r casgliad fod rhoi yn gwneud pobl yn hapus. Yn ôl un erthygl, mae pobl yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n llawer hapusach ar ôl iddyn nhw wneud pethau da ar gyfer pobl eraill. Mae ymchwilwyr yn dweud bod helpu pobl eraill yn gwneud inni deimlo bod gan ein bywydau ystyr a phwrpas. Yn ôl rhai arbenigwyr, mae pobl yn gwneud gwaith gwirfoddol er mwyn teimlo’n iachach ac yn hapusach. Wrth gwrs, dydy hynny ddim yn ein synnu ni, oherwydd bod ein Creawdwr cariadus, Jehofa, eisoes wedi dweud bod rhoi yn ein gwneud ni’n hapus.—2 Timotheus 3:16, 17.

DALIA ATI I FOD YN HAEL

19, 20. Pam rwyt ti eisiau bod yn hael?

19 Pan fydd pobl o’n cwmpas yn gofalu dim ond amdanyn nhw eu hunain, gall fod yn anodd inni barhau i fod yn hael. Ond, gwnaeth Iesu ein hatgoffa o’r ddau orchymyn pwysicaf, sef caru Jehofa â’n holl galon, â’n holl enaid, â’n holl feddwl, ac â’n holl nerth ac i garu ein cymydog fel rydyn ni’n ein caru ein hunain. (Marc 12:28-31) Rydyn ni wedi dysgu yn yr erthygl hon fod pobl sy’n caru Jehofa yn ei efelychu. Mae Jehofa ac Iesu yn hael. Maen nhw’n ein hannog ninnau i efelychu eu hesiampl, oherwydd eu bod nhw’n gwybod y bydd hynny’n ein gwneud ni’n wirioneddol hapus. Os ydyn ni’n hael yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud ar gyfer Duw ac ar gyfer ein cymydog, byddwn ni’n anrhydeddu Jehofa a byddwn ni’n gwneud lles i ni ein hunain ac i eraill.

20 Yn sicr, rwyt ti eisoes yn gwneud dy orau i fod yn hael ac i helpu pobl eraill, yn enwedig dy frodyr a dy chwiorydd. (Galatiaid 6:10) Os byddi di’n parhau i wneud hynny, bydd pobl yn ddiolchgar ac yn dy garu di, a byddi di’n hapus. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r bobl sy’n fendith i eraill yn llwyddo; a’r rhai sy’n rhoi dŵr i eraill yn cael eu diwallu.” (Diarhebion 11:25) Yn ein bywyd a’n gweinidogaeth, mae ’na lawer o ffyrdd y gallwn ni fod yn garedig ac yn hael. Gad inni drafod rhai o’r ffyrdd hyn yn yr erthygl nesaf.

^ Par. 13 Newidiwyd yr enw.