Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Oes Gen Ti’r Ffeithiau i Gyd?

Oes Gen Ti’r Ffeithiau i Gyd?

“Mae ateb rhywun yn ôl cyn gwrando arno yn beth dwl i’w wneud, ac yn dangos diffyg parch.”—DIARHEBION 18:13.

CANEUON: 126, 95

1, 2. (a) Pa allu pwysig rydyn ni’n gorfod ei feithrin, a pham? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

MAE’N rhaid inni i gyd ddysgu sut i bwyso a mesur gwybodaeth a’i defnyddio i ddod i’r casgliad cywir. (Diarhebion 3:21-23; 8:4, 5) Neu, fel arall, fe fydd hi’n hawdd inni gael ein camarwain gan Satan a’i fyd. (Effesiaid 5:6; Colosiaid 2:8) Wrth gwrs, er mwyn dod i gasgliad cywir, mae’n rhaid casglu’r ffeithiau i gyd. Mae Diarhebion 18:13 yn dweud: “Mae ateb rhywun yn ôl cyn gwrando arno yn beth dwl i’w wneud, ac yn dangos diffyg parch.”

2 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld beth sy’n gallu ei gwneud hi’n anodd casglu’r ffeithiau a dod i’r casgliad cywir. Byddwn ni hefyd yn dysgu am egwyddorion y Beibl ac am esiamplau a fydd yn ein helpu i ddadansoddi gwybodaeth.

PAID Â BOD YN “FODLON CREDU UNRHYW BETH”

3. Pam dylen ni roi ar waith yr egwyddor yn Diarhebion 14:15? (Gweler y llun agoriadol.)

3 Heddiw, mae gwybodaeth yn dod aton ni o bob cyfeiriad. Mae’n dod drwy’r Rhyngrwyd, y teledu, a chyfryngau eraill. Gallwn ni hefyd dderbyn llawer o e-byst, negeseuon testun, a straeon gan ffrindiau. Weithiau, mae hi’n ymddangos bod y wybodaeth hon yn ddi-ben-draw. Felly mae’n rhaid inni fod yn ofalus. Mae’n siŵr fod gan ein ffrindiau gymhellion da, ond mae ’na bobl eraill sy’n fwriadol yn ceisio lledaenu gwybodaeth anghywir neu sy’n ceisio gwyrdroi’r ffeithiau. Pa egwyddor Feiblaidd a all ein helpu i bwyso a mesur yr hyn rydyn ni’n ei glywed? Dywed Diarhebion 14:15: “Mae’r twpsyn yn fodlon credu unrhyw beth; ond mae’r person call yn fwy gofalus.”

4. Sut gall Philipiaid 4:8, 9 ein helpu ni i ddewis beth rydyn ni’n ei ddarllen, a pham mae cael gwybodaeth gywir yn bwysig? (Gweler hefyd y blwch “ Ychydig o Adnoddau i’n Helpu ni i Gasglu’r Ffeithiau.”)

4 Er mwyn gwneud penderfyniadau da, mae angen ffeithiau dibynadwy arnon ni. Felly, pwysig ydy dewis yr hyn rydyn ni’n ei ddarllen yn ofalus. (Darllen Philipiaid 4:8, 9.) Ni ddylen ni wastraffu ein hamser yn edrych ar wefannau newyddion annibynadwy na chwaith ddarllen e-byst sy’n lledaenu straeon. Mae hi’n hynod o bwysig ein bod ni’n osgoi gwefannau sy’n hyrwyddo syniadau gwrthgilwyr. Maen nhw’n ceisio gwanhau ffydd pobl Dduw a chamliwio’r gwirionedd. Mae gwybodaeth annibynadwy yn arwain at benderfyniadau gwael. Paid byth â meddwl na fydd gwybodaeth ffug yn gallu dylanwadu arnat ti.—1 Timotheus 6:20, 21.

5. Pa stori ffug a glywodd yr Israeliaid, a pha effaith a gafodd hynny arnyn nhw?

5 Gall straeon celwyddog arwain at ganlyniadau trychinebus. Yn nyddiau Moses, aeth 12 ysbïwr i mewn i Wlad yr Addewid. Daeth 10 ysbïwr yn eu holau yn dweud pethau negyddol. (Numeri 13:25-33) Gwnaethon nhw chwyddo’r ffeithiau, a daeth pobl Jehofa yn ofnus ac yn ddigalon. (Numeri 14:1-4) Pam gwnaeth y bobl ymateb fel hynny? Efallai iddyn nhw feddwl bod y stori’n wir oherwydd bod y rhan fwyaf o’r ysbïwyr wedi dweud yr un peth. Felly dyma nhw’n gwrthod gwrando ar y pethau da roedd y ddau ysbïwr arall wedi sôn amdanyn nhw am Wlad yr Addewid. (Numeri 14:6-10) Yn hytrach na chasglu’r holl ffeithiau ac ymddiried yn Jehofa, gwnaeth y bobl rywbeth gwirion iawn, sef dewis gwrando ar y stori negyddol honno.

6. Pam na ddylen ni synnu pan fyddwn ni’n clywed pethau ofnadwy am bobl Jehofa?

6 Mae’n rhaid inni fod yn hynod o ofalus pan ydyn ni’n clywed straeon am bobl Jehofa. Cofia fod ein gelyn Satan yn cael ei ddisgrifio fel “cyhuddwr y brodyr a’r chwiorydd.” (Datguddiad 12:10) Rhybuddiodd Iesu y byddai gwrthwynebwyr yn “dweud pethau drwg amdanoch chi.” (Mathew 5:11) Os byddwn ni’n cymryd y rhybudd hwnnw o ddifri, ni fyddwn ni wedi ein synnu pan fyddwn ni’n clywed pethau rhyfedd am bobl Jehofa.

7. Beth ddylen ni ei ofyn i ni’n hunain cyn anfon e-bost neu neges destun?

7 Wyt ti’n hoff o anfon e-byst a negeseuon testun at dy ffrindiau? Pan fyddi di’n gweld stori ddiddorol yn y newyddion neu’n clywed profiad unigryw, a wyt ti’n teimlo fel newyddiadurwr sydd eisiau rhannu’r stori’n syth bin? Cyn iti anfon yr e-bost neu’r neges honno, gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n hollol siŵr fod y stori hon yn wir? Oes gen i bob un o’r ffeithiau?’ Os nad wyt ti’n sicr, mae’n bosib dy fod ti’n lledaenu celwyddau. Felly, os nad wyt ti’n gwybod bod y stori’n wir, paid â’i hanfon. Dilea’r stori!

8. Beth mae gwrthwynebwyr mewn rhai gwledydd wedi ei wneud, a sut gallwn ni eu helpu yn anfwriadol?

8 Mae ’na reswm arall pam mae anfon e-byst a negeseuon testun ymlaen heb feddwl yn beryglus. Mewn rhai gwledydd, mae ein gwaith wedi cael ei gyfyngu neu hyd yn oed ei wahardd. Gall ein gwrthwynebwyr yn y gwledydd hyn ledaenu straeon gyda’r bwriad o’n dychryn ni a gwneud inni ddrwgdybio ein gilydd. Meddylia am beth ddigwyddodd yn yr hen Undeb Sofietaidd. Roedd yr heddlu cudd, neu’r KGB, yn lledaenu straeon a oedd yn honni bod rhai brodyr adnabyddus wedi bradychu pobl Jehofa. * (Gweler y troednodyn.) Yn anffodus, gwnaeth llawer o frodyr gredu yn y straeon ffug hynny a gadael cyfundrefn Jehofa. Yn nes ymlaen, daeth llawer ohonyn nhw yn ôl, ond ni ddychwelodd pob un ohonyn nhw. Gwnaethon nhw ganiatáu i’r straeon ffug hynny ddinistrio eu ffydd. (1 Timotheus 1:19) Sut gallwn ni osgoi trychineb o’r fath? Paid â lledaenu straeon negyddol na rhai sydd ddim wedi cael eu cadarnhau. Paid â chredu popeth rwyt ti’n ei glywed. Yn hytrach, gwna’n siŵr fod gen ti’r ffeithiau i gyd.

GWYBODAETH ANGHYFLAWN

9. Beth arall sy’n ei gwneud hi’n anodd dod o hyd i wybodaeth gywir?

9 Weithiau rydyn ni’n clywed straeon sydd ond yn rhannol wir. Dydy straeon eraill ddim yn cynnwys y ffeithiau i gyd. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd dod i’r casgliad cywir. Ni allwn ni ymddiried mewn stori sydd ond yn rhannol wir! Beth allwn ni ei wneud i sicrhau nad ydyn ni’n cael ein twyllo gan straeon o’r fath?—Effesiaid 4:14.

10. Pam y bu bron iawn i rai o’r Israeliaid ddechrau rhyfel yn erbyn eu brodyr, a beth helpodd nhw i osgoi gwneud hynny?

10 Gallwn ddysgu o’r hyn a ddigwyddodd i’r Israeliaid a oedd yn byw ar ochr orllewinol yr Iorddonen yn nyddiau Josua. (Josua 22:9-34) Clywon nhw fod yr Israeliaid ar ochr ddwyreiniol yr Iorddonen wedi adeiladu allor fawr wrth ymyl yr afon. Roedd y rhan honno o’r stori yn wir, ond nid dyna oedd y stori gyfan. A gwnaeth hynny i’r Israeliaid ar yr ochr orllewinol feddwl bod eu brodyr ar yr ochr ddwyreiniol wedi gwrthryfela yn erbyn Jehofa ac felly dyma nhw’n dod at ei gilydd i ddechrau rhyfel yn eu herbyn. (Darllen Josua 22:9-12.) Ond cyn iddyn nhw ymosod, gwnaeth yr Israeliaid ar yr ochr orllewinol anfon rhai dynion i gasglu’r ffeithiau. Beth a ddysgodd y dynion? Doedd yr Israeliaid ar yr ochr ddwyreiniol ddim wedi adeiladu’r allor er mwyn aberthu i gau dduwiau. Wedi ei hadeiladu yr oedden nhw fel allor goffa i roi gwybod i bawb eu bod nhw’n addoli Jehofa. Dychmyga pa mor hapus oedd yr Israeliaid pan na wnaethon nhw ryfela yn erbyn eu brodyr a mynd ati i ddod i wybod am y ffeithiau i gyd.

11. (a) Sut cafodd Meffibosheth ei drin yn annheg? (b) Sut byddai Dafydd fod wedi gallu trin Meffibosheth yn deg?

11 Efallai y daw’r amser pan fyddwn ni’n cael ein brifo oherwydd bod pobl yn lledaenu straeon amdanon ni sydd ond yn rhannol wir. Dyma beth ddigwyddodd i Meffibosheth. Yn hael iawn, rhoddodd y Brenin Dafydd i Meffibosheth yr holl dir a oedd yn perthyn i’w daid Saul. (2 Samuel 9:6, 7) Ond wedi hynny, clywodd Dafydd stori negyddol am Meffibosheth. Ni wnaeth Dafydd fynd ati i weld a oedd y stori yn wir neu beidio, ac fe aeth â holl eiddo Meffibosheth oddi wrtho. (2 Samuel 16:1-4) Pan siaradodd Dafydd ag ef yn ddiweddarach, sylweddolodd Dafydd ei fod wedi gwneud camgymeriad. Yna, rhoddodd ychydig o’r tir yn ôl i Meffibosheth. (2 Samuel 19:24-29) Petai Dafydd wedi trafferthu casglu’r ffeithiau i gyd yn hytrach nag ymateb yn syth i wybodaeth anghyflawn, byddai Meffibosheth ddim wedi dioddef yr anghyfiawnder hwnnw yn y lle cyntaf.

12, 13. (a) Beth wnaeth Iesu pan oedd y bobl yn dweud celwydd amdano? (b) Beth allwn ni ei wneud os ydy rhywun yn dweud celwyddau amdanon ni?

12 Beth elli di ei wneud os ydy rhywun yn hel clecs amdanat ti? Digwyddodd hyn i Iesu ac i Ioan Fedyddiwr. (Darllen Mathew 11:18, 19, Beibl Cymraeg Diwygiedig.) Beth wnaeth Iesu? Ni wnaeth wastraffu ei egni a’i amser yn perswadio pobl fod y straeon yn gelwyddog. Yn hytrach, gwnaeth annog pobl i edrych ar y ffeithiau. Roedd Iesu eisiau iddyn nhw ganolbwyntio ar yr hyn roedd yn ei wneud ac yn ei ddysgu. Dywedodd Iesu: “Profir gan ei gweithredoedd fod doethineb Duw yn iawn.”—Mathew 11:19, BCND.

13 Rydyn ni’n gallu dysgu gwers bwysig oddi wrth Iesu. Weithiau, gall pobl ddweud pethau annheg a negyddol amdanon ni, a gallwn boeni y byddai hyn yn gallu difetha ein henw da. Ond mae’r ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau yn gallu dangos i eraill sut fath o bobl ydyn ni mewn gwirionedd. Wrth inni ddysgu o esiampl Iesu, gall ein hymddygiad da wrthbrofi unrhyw hanner gwirioneddau a gau gyhuddiadau.

WYT TI’N DIBYNNU ARNAT TI DY HUN?

14, 15. Pam na ddylen ni ddibynnu ar ein dealltwriaeth ein hunain?

14 Rydyn ni wedi gweld pa mor anodd ydy casglu ffeithiau dibynadwy. Problem arall ydy ein hamherffeithrwydd. Efallai ein bod ni wedi bod yn gwasanaethu Jehofa am flynyddoedd lawer ac wedi meithrin doethineb mewn rhai pethau. Efallai fod eraill yn ein parchu oherwydd ein bod ni’n gallu meddwl yn glir. A allai hyn fod yn broblem inni?

Mae’r Beibl yn ein rhybuddio ni i beidio â dibynnu ar ein dealltwriaeth ein hunain

15 Gallai. Gallwn ni ddechrau dibynnu ar ein dealltwriaeth ein hunain. Gallwn ni adael i’n teimladau a’n syniadau reoli’r ffordd rydyn ni’n meddwl. Gallwn ddechrau meddwl ein bod ni’n deall y sefyllfa er nad oes gennyn ni’r ffeithiau i gyd. Peryglus iawn yw hyn! Mae’r Beibl yn ein rhybuddio ni’n glir na ddylen ni ddibynnu ar ein deall ein hunain.—Diarhebion 3:5, 6; 28:26.

16. Yn yr esiampl hon, beth ddigwyddodd yn y tŷ bwyta, a beth oedd Tom yn ei feddwl?

16 Er enghraifft, dychmyga fod un henuriad profiadol o’r enw Tom yn mynd un gyda’r nos i dŷ bwyta ac yn gweld henuriad arall, John, yn eistedd wrth y bwrdd gyda dynes arall sydd ddim yn briod iddo. Mae’n ymddangos fel eu bod nhw’n cael amser da. Mae Tom yn eu gweld nhw’n chwerthin ac yn rhoi cwtsh i’w gilydd. Mae’n poeni’n fawr iawn ac yn gofyn iddo’i hun: ‘A fydd John a’i wraig yn cael ysgariad? Beth am y plant?’ Mae Tom wedi gweld pethau tebyg yn digwydd o’r blaen. Sut byddet ti’n teimlo petaet tithau yn sefyllfa Tom?

17. Yn yr esiampl dan sylw, beth wnaeth Tom ei ddarganfod yn nes ymlaen, a beth allwn ni ei ddysgu o hyn?

17 Ond aros am funud. Er bod Tom yn tybio bod John wedi bod yn anffyddlon i’w wraig, ydy’r ffeithiau i gyd ganddo? Yn nes ymlaen y noson honno, mae Tom yn ffonio John ac yn darganfod mai chwaer John oedd y ddynes, sy’n ymweld o bell i ffwrdd. Dydy John a’i chwaer heb weld ei gilydd ers talwm. Ac oherwydd ei bod hi’n ymweld am ychydig o oriau yn unig, dim ond digon o amser i gwrdd â hi am bryd o fwyd oedd gan John. Doedd ei wraig ddim yn gallu ymuno â nhw. Roedd Tom yn falch iawn nad oedd wedi dweud wrth neb arall am beth oedd yn mynd drwy ei feddwl! Beth ddysgwn ni o hyn? Dim ots pa mor hir rydyn ni wedi bod yn gwasanaethu Jehofa, rydyn ni’n dal yn gorfod cael y ffeithiau i gyd cyn dod i gasgliad cywir.

18. Beth all achosi inni gredu rhywbeth drwg am un o’n brodyr?

18 Gall hefyd fod yn anodd pwyso a mesur pob sefyllfa yn gywir pan fydd hyn yn ymwneud â brawd nad ydyn ni’n cyd-dynnu ag ef yn dda iawn. Os ydyn ni’n dal i feddwl am y gwahaniaethau sydd rhyngon ni, gallwn ni droi’n ddrwgdybus o’n brawd. Yna, os ydyn ni’n clywed rhywbeth negyddol amdano, efallai ein bod ni eisiau credu yn y peth hwnnw, hyd yn oed os nad oes tystiolaeth yn profi ei fod yn wir. Beth yw’r wers i ni? Os ydyn ni’n caniatáu i ni’n hunain feddwl mewn ffordd negyddol am ein brodyr a’n chwiorydd, gall achosi inni ddod i gasgliad anghywir sydd ddim yn seiliedig ar ffeithiau. (1 Timotheus 6:4, 5) Ni ddylen ni adael i deimladau negyddol fel cenfigen aros yn y galon. Paid byth ag anghofio bod Jehofa eisiau inni garu ein brodyr a maddau iddyn nhw o’r galon.—Darllen Colosiaid 3:12-14.

BYDD EGWYDDORION BEIBLAIDD YN EIN HAMDDIFFYN

19, 20. (a) Pa egwyddorion Beiblaidd fydd yn ein helpu i asesu gwybodaeth yn gywir? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

19 Heddiw, mae’n anodd iawn casglu ffeithiau dibynadwy a’u hasesu nhw’n gywir. Pam? Mae llawer o’r wybodaeth sydd ar gael yn anghyflawn ac ond yn rhannol wir ac rydyn ninnau’n amherffaith hefyd. Beth all ein helpu? Egwyddorion Gair Duw! Er enghraifft, mae un egwyddor yn dweud wrthyn ni fod rhoi ateb cyn gwrando yn beth dwl i’w wneud. (Diarhebion 18:13) Mae un arall yn ein helpu i weld na ddylen ni gredu popeth rydyn ni’n ei glywed heb sicrhau ei fod yn wir neu beidio. (Diarhebion 14:15) A dim ots pa mor hir rydyn ni wedi bod yn gwasanaethu Jehofa, ni allwn ni ymddiried yn ein deall ein hunain. (Diarhebion 3:5, 6) Bydd egwyddorion y Beibl yn ein hamddiffyn os ydyn ni’n troi at ffeithiau dibynadwy er mwyn dod i’r casgliad cywir a gwneud penderfyniadau doeth.

20 Ond mae ’na reswm arall pam y gallwn ni ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r gwirionedd. Fel bodau dynol, rydyn ni’n barnu’n gyflym ar sail yr hyn rydyn ni’n ei weld. Yn yr erthygl nesaf, byddwn yn trafod sut y gallen ni wneud y camgymeriad hwn a sut i’w osgoi.

^ Par. 8 Gweler y 2004 Yearbook of Jehovah’s Witnesses, tudalennau 111-112, a’r 2008 Yearbook, tudalennau 133-135.