Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Paid â Barnu ar yr Olwg Gyntaf

Paid â Barnu ar yr Olwg Gyntaf

“Stopiwch fod mor arwynebol wrth farnu; barnwch yn gywir bob amser.”—IOAN 7:24.

CANEUON: 142, 123

1. Pa broffwydoliaeth ysgrifennodd Eseia am Iesu, a pham mae hyn yn ein calonogi?

MAE proffwydoliaeth Eseia am Iesu Grist yn ein calonogi ac yn rhoi cysur inni. Gwnaeth Eseia ragweld na fyddai Iesu’n “barnu ar sail yr olwg gyntaf, nac yn gwneud penderfyniad ar sail rhyw si,” ac y byddai’n “barnu achos pobl dlawd yn deg.” (Eseia 11:3, 4) Pam bod hyn yn galonogol? Gan ein bod ni’n byw mewn byd sy’n llawn rhagfarn, lle mae pobl yn barnu pobl am y ffordd maen nhw’n edrych. Rydyn ni wir angen y Barnwr perffaith, Iesu, a fydd byth yn ein barnu yn ôl ein pryd a’n gwedd.

2. Beth wnaeth Iesu ein gorchymyn ni i’w wneud a beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Bob diwrnod, rydyn ni’n dod i gasgliadau am bobl eraill. Ond, dydyn ni ddim yn berffaith fel Iesu, felly ni fydd ein casgliadau am eraill yn berffaith chwaith. Rydyn ni’n cael ein dylanwadu’n hawdd gan yr hyn rydyn ni’n ei weld. Ond eto gorchmynnodd Iesu: “Stopiwch fod mor arwynebol wrth farnu; barnwch yn gywir bob amser.” (Ioan 7:24) Felly, mae Iesu eisiau inni fod yn debyg iddo a pheidio â barnu eraill yn ôl y ffordd maen nhw’n edrych. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tri pheth a all ddylanwadu ar ein barn: hil neu genedl person, faint o arian sydd ganddo, a’i oedran. Ym mhob achos, byddwn ni’n dysgu sut i fod yn ufudd i Iesu a sut i beidio â barnu eraill yn ôl eu pryd a’u gwedd.

PAID Â BARNU YN ÔL HIL NA CHENEDL

3, 4. (a) Pam newidiodd Pedr y ffordd roedd yn meddwl am y bobl o’r Cenhedloedd? (Gweler y llun agoriadol.) (b) Pa wirionedd newydd gwnaeth Jehofa ei ddysgu i Pedr?

3 Dychmyga sut roedd yr apostol Pedr yn teimlo pan ofynnwyd iddo fynd i Gesarea, i gartref dyn o’r Cenhedloedd o’r enw Cornelius! (Actau 10:17-29) Roedd Pedr wedi tyfu i fyny i gredu bod pobl o’r Cenhedloedd yn aflan. Ond yn ddiweddarach, digwyddodd pethau a wnaeth wneud iddo deimlo’n wahanol. Er enghraifft, roedd wedi derbyn gweledigaeth gan Dduw. (Actau 10:9-16) Yn y weledigaeth hon, mae Pedr yn gweld beth sy’n ymddangos fel cynfas yn dod i lawr o’r nefoedd yn llawn anifeiliaid a oedd yn cael eu hystyried yn aflan. Yna, dyma lais yn dweud wrtho: “Cod Pedr, lladd beth wyt ti eisiau, a’i fwyta.” Gwrthododd Pedr yn llwyr. Wedyn, dywedodd y llais: “Os ydy Duw wedi dweud fod rhywbeth yn iawn i’w fwyta, paid ti â dweud fel arall!” Ar ôl y weledigaeth, doedd Pedr ddim yn deall beth oedd y llais yn ceisio ei ddweud wrtho. Yna, cyrhaeddodd negeswyr Cornelius. Gwnaeth yr ysbryd glân arwain Pedr i fynd i gartref Cornelius, felly fe aeth gyda’r negeswyr.

4 Petai Pedr wedi “barnu ar sail yr olwg gyntaf,” ni fyddai byth wedi mynd i gartref Cornelius. Doedd Iddewon byth yn mynd i gartrefi pobl o’r Cenhedloedd. Felly, pam aeth Pedr? Er iddo fod yn rhagfarnllyd yn erbyn pobl o’r Cenhedloedd, roedd y weledigaeth a gafodd ac arweiniad yr ysbryd glân wedi newid ei ffordd o feddwl. Ar ôl i Pedr wrando ar Cornelius, dywedodd: “Dw i’n deall yn iawn, bellach, y dywediad hwnnw fod Duw ddim yn dangos ffafriaeth! Mae’n derbyn pobl o bob gwlad sy’n ei addoli ac yn gwneud beth sy’n iawn.” (Actau 10:34, 35) Roedd y ddealltwriaeth newydd hon yn gyffrous i Pedr, ac y byddai’n effeithio ar bob Cristion. Sut?

Er efallai y byddi di’n meddwl dy fod ti’n ddiragfarn, ydy hi’n bosib fod gennyt ti deimladau o ragfarn o hyd?

5. (a) Beth mae Jehofa eisiau i Gristnogion ei ddeall? (b) Er ein bod ni’n gwybod y gwirionedd, pa deimladau rydyn ni efallai’n eu teimlo o hyd?

5 Gwnaeth Jehofa ddefnyddio Pedr i helpu Cristnogion i ddeall dydy Ef ddim yn dangos ffafriaeth. I Jehofa, dydy ein hil, ein cenedl, ein llwyth, nac ein hiaith ddim o bwys iddo. Cyhyd ag yr ydyn ni’n ofni Duw ac yn gwneud beth sy’n iawn, rydyn ni’n cael ein derbyn ganddo. (Galatiaid 3:26-28; Datguddiad 7:9, 10) Mae’n debyg dy fod ti’n gwybod hyn yn barod. Ond, beth petaet ti wedi cael dy fagu mewn gwlad neu deulu lle mae rhagfarn yn rhywbeth cyffredin? Er efallai y byddi di’n meddwl dy fod ti’n ddiragfarn, ydy hi’n bosib fod gennyt ti deimladau o ragfarn o hyd? Hyd yn oed ar ôl i Pedr helpu eraill i weld dydy Duw ddim yn dangos ffafriaeth, roedd yn dal yn rhagfarnllyd. (Galatiaid 2:11-14) Felly, sut gallwn ni ufuddhau i Iesu a stopio barnu pobl ar sail yr olwg gyntaf?

6. (a) Beth all ein helpu i gael gwared ar ragfarn? (b) Beth wnaeth adroddiad un brawd ei ddatgelu amdano ef ei hun?

6 Er mwyn gweld a oes gennyn ni deimladau o ragfarn neu beidio, mae angen inni ein harchwilio ein hunain. Mae’n rhaid inni gymharu ein hagwedd â’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu o Air Duw. (Salm 119:105) Gallwn ni hefyd ofyn i ffrind a yw’n meddwl ein bod ni’n rhagfarnllyd, oherwydd ni allwn ni weld rhagfarn ynon ni’n hunain. (Galatiaid 2:11, 14) Efallai ein bod ni wedi arfer gymaint â’r teimladau hynny fel nad ydyn ni’n sylweddoli bod gennyn ni ragfarn! Dyna ddigwyddodd i un brawd cyfrifol. Ysgrifennodd adroddiad am gwpl gweithgar iawn a oedd yn gwasanaethu’n llawn amser. Roedd y gŵr yn perthyn i grŵp ethnig roedd llawer o bobl yn ei ystyried yn israddol. Ysgrifennodd y brawd cyfrifol lawer o bethau da am y gŵr ond ychwanegodd: “Er iddo ddod o [y genedl hon], mae ei gwrteisi a’i ffordd o fyw yn helpu eraill i ddeall dydy dod o [y genedl hon] ddim o reidrwydd yn golygu y byddet ti’n byw bywyd budr ac israddol, ffordd o fyw sy’n gyffredin i lawer o’r bobl sy’n dod o [y genedl hon].” Beth ydy’r wers inni? Dim ots faint o gyfrifoldebau sydd gennyn ni yng nghyfundrefn Jehofa, dylen ni ein harchwilio ein hunain a derbyn cymorth er mwyn inni allu dod o hyd i deimladau o ragfarn sydd gennyn ni o hyd. Beth arall allwn ni ei wneud?

7. Sut gallwn ni ddangos bod ein “calon yn llydan agored”?

7 Os ydy ein “calon yn llydan agored,” bydd cariad yn disodli rhagfarn. (2 Corinthiaid 6:11-13, BCND) Oes gwell gen ti dreulio amser â phobl sy’n dod o’r un hil, cenedl, llwyth, neu o’r un grŵp iaith â thi? Os felly, trïa dreulio amser gydag eraill hefyd. Gelli di wahodd brodyr a chwiorydd o wahanol gefndiroedd i weithio gyda thi ar y weinidogaeth. Neu gelli di eu gwahodd nhw i dy gartref am bryd o fwyd neu i gymdeithasu. (Actau 16:14, 15) Mewn amser, byddi di’n teimlo cymaint o gariad fel na fydd lle iti deimlo rhagfarn. Nawr, gad inni drafod ffordd arall lle mae’n bosib inni farnu ar sail yr olwg gyntaf.

PAID Â BARNU YN ÔL CYFOETH A THLODI

8. Beth gallwn ni ei ddysgu o Lefiticus 19:15 am sut gall cyfoeth neu dlodi effeithio ar y ffordd rydyn ni’n edrych ar eraill?

8 Gall ein hagwedd tuag at eraill gael ei heffeithio gan ba mor gyfoethog neu dlawd ydyn nhw. Mae Lefiticus 19:15 yn dweud: “Paid cadw ochr rhywun am ei fod yn dlawd na dangos parch at rywun am ei fod yn bwysig. Bydd yn hollol deg wrth farnu.” Sut gall cyfoeth neu dlodi rhywun effeithio ar y ffordd rydyn ni’n edrych arno?

9. Pa wirionedd trist gofnododd Solomon, a beth mae’n ein dysgu?

9 Cafodd Solomon ei ysbrydoli i gofnodi’r gwirionedd trist hwn: “Mae hyd yn oed cymdogion y person tlawd yn ei gasáu, ond mae gan y cyfoethog lot o ffrindiau.” (Diarhebion 14:20) Beth mae’r ddihareb hon yn ein dysgu? Os nad ydyn ni’n ofalus, gallwn ni fod eisiau bod yn ffrindiau gyda brodyr cyfoethog ac nid gyda rhai tlawd. Pam ei bod hi’n beryglus i farnu pobl yn seiliedig ar faint o eiddo sydd ganddyn nhw neu ddim?

10. Pa broblem y rhybuddiodd Iago’r Cristnogion amdani?

10 Os ydyn ni’n barnu ein brodyr ar sail pa mor gyfoethog neu dlawd ydyn nhw, mae’n bosib inni allu creu rhaniadau yn y gynulleidfa. Digwyddodd hyn mewn rhai cynulleidfaoedd yn y ganrif gyntaf, a rhybuddiodd Iago’r Cristnogion amdano. (Darllen Iago 2:1-4.) Ni ddylen ni ganiatáu i raniadau ddigwydd yn ein cynulleidfa. Felly, sut gallwn ni osgoi barnu pobl yn ôl eu pryd a’u gwedd?

Mae’n rhaid inni dderbyn yn ostyngedig unrhyw help er mwyn adnabod unrhyw deimladau o ragfarn sydd efallai ynon ni o hyd

11. Ydy pethau materol yn effeithio ar berthynas person â Jehofa? Esbonia.

11 Dylen ni weld ein brodyr a’n chwiorydd fel y mae Jehofa yn eu gweld. Dydy person ddim yn werthfawr i Jehofa oherwydd iddo fod yn gyfoethog neu’n dlawd. Dydy ein perthynas â Jehofa ddim yn dibynnu ar faint o arian nac ar faint o bethau materol sydd gennyn ni. Dywedodd Iesu: “Yn wir, rwy’n dweud wrthych mai anodd fydd hi i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas nefoedd,” ond ni ddywedodd y byddai’n amhosib. (Mathew 19:23, BCND) Hefyd dywedodd Iesu: “Dych chi sy’n dlawd wedi’ch bendithio’n fawr,” hynny yw, bydd y rhai tlawd yn etifeddu Teyrnas Dduw. (Luc 6:20) Ond doedd hynny ddim yn golygu y byddai pobl dlawd i gyd yn gwrando ar Iesu ac yn derbyn bendithion arbennig. Roedd ’na lawer o bobl dlawd a ddewisodd beidio â dilyn Iesu. Y gwir amdani yw, dydyn ni ddim yn gallu barnu perthynas rhywun â Jehofa yn ôl yr eiddo materol sydd ganddo.

12. Beth mae’r Ysgrythurau yn ei ddysgu i bobl gyfoethog a thlawd?

12 Ymhlith pobl Jehofa, mae ’na frodyr a chwiorydd sy’n gyfoethog ac sy’n dlawd. Ond, maen nhw i gyd yn caru Jehofa ac yn ei wasanaethu â’r holl galon. Mae’r Ysgrythurau yn dweud wrth bobl gyfoethog “i beidio meddwl fod rhywbeth sydd mor ansicr â chyfoeth yn bodloni. Duw ydy’r un i ymddiried ynddo.” (Darllen 1 Timotheus 6:17-19.) Mae Gair Duw hefyd yn rhybuddio gweision Jehofa, yn gyfoethog neu’n dlawd, ei bod hi’n beryglus i garu arian. (1 Timotheus 6:9, 10) Pan ydyn ni’n gweld ein brodyr fel y mae Jehofa yn eu gweld, ni fyddwn ni’n eu barnu yn ôl yr hyn sydd ganddyn nhw neu sydd ddim ganddyn nhw. Ond beth am oedran rhywun? A ydy hynny’n reswm dros farnu rhywun?

PAID Â BARNU YN ÔL OEDRAN

13. Beth mae’r Beibl yn ein dysgu am ddangos parch tuag at bobl hŷn?

13 Yn aml, mae’r Beibl yn dweud wrthyn ni fod rhaid inni barchu pobl hŷn. Mae Lefiticus 19:32 yn dweud: “Dylet godi ar dy draed i ddangos parch at bobl mewn oed. Ac ofni Duw.” Mae Diarhebion 16:31 yn dweud bod “gwallt gwyn fel coron hardd; mae i’w chael wrth fyw yn gyfiawn.” Dywedodd Paul wrth Timotheus i beidio â lladd ar ddynion hŷn ond i’w trin nhw fel tadau. (1 Timotheus 5:1, 2) Er bod gan Timotheus ryw faint o awdurdod dros frodyr hŷn, roedd angen iddo fod yn drugarog ac yn barchus drwy’r amser.

14. Pryd efallai byddai’n rhaid inni gywiro person sy’n hŷn na ni?

14 Beth petai rhywun hŷn yn pechu’n fwriadol neu’n hyrwyddo rhywbeth sydd ddim yn plesio Jehofa? Ni fydd Jehofa yn esgusodi rhywun sy’n pechu’n fwriadol, hyd yn oed os ydy’r person hwnnw’n hŷn ac yn cael ei barchu. Er enghraifft, sylwa ar yr egwyddor yn Eseia 65:20 sy’n dweud bod rhywun oedrannus sy’n pechu “yn cael ei ystyried dan felltith.” Rydyn ni’n dod o hyd i egwyddor debyg yng ngweledigaeth Eseciel. (Eseciel 9:5-7) Y peth pwysicaf, felly, ydy ein bod ni’n parchu Jehofa, yr Un Hynafol. (Daniel 7:9, 10, 13, 14) Bydd ein parch tuag ato yn rhoi’r hyder inni gywiro rhywun sydd angen help, beth bynnag ydy ei oedran.—Galatiaid 6:1.

Wyt ti’n dangos parch tuag at frodyr ifanc? (Gweler paragraff 15)

15. Beth ydyn ni’n ei ddysgu gan yr apostol Paul ynglŷn â dangos parch at frodyr ifanc?

15 Beth petai brawd yn ifanc? Ydy hyn yn golygu nad yw’n haeddu parch? Ddim o gwbl. Ysgrifennodd Paul i Timotheus: “Paid gadael i neb dy ddibrisio am dy fod di’n ifanc. Bydd yn esiampl dda i’r credinwyr yn y ffordd rwyt ti’n siarad, a sut rwyt ti’n byw, yn dy gariad at eraill, dy ffydd a’th fywyd glân.” (1 Timotheus 4:12) Pan ysgrifennodd Paul hyn, mae’n debyg fod Timotheus tua 30 oed. Ond eto, roedd Paul wedi rhoi cyfrifoldebau pwysig iddo. Beth ydy’r wers inni? Ni ddylen ni farnu brodyr ifanc yn ôl eu hoedran. Meddylia am yr holl bethau roedd Iesu wedi eu gwneud er iddo fod ond yn 33 oed!

16, 17. (a) Sut mae henuriaid yn penderfynu a ydy brawd yn gymwys i fod yn was gweinidogaethol neu’n henuriad? (b) Sut gall barn bersonol neu arferion lleol fynd yn groes i’r hyn mae’r Ysgrythurau yn ei ddweud?

16 Mewn rhai diwylliannau, dydy pobl ddim yn parchu dynion ifanc. O ganlyniad, efallai ni fyddai rhai henuriaid yn cymeradwyo dyn ifanc i wasanaethu fel gwas gweinidogaethol neu fel henuriad, hyd yn oed os yw’n gymwys i wneud hynny. Ond dydy’r Beibl ddim yn dweud dylai brawd gyrraedd ryw oedran penodol cyn iddo gael ei benodi fel gwas gweinidogaethol neu henuriad. (1 Timotheus 3:1-10, 12, 13; Titus 1:5-9) Petai brawd yn creu rheol ynglŷn â hyn oherwydd ei ddiwylliant, nid yw’n dilyn Gair Duw. Ni ddylai henuriaid farnu dynion ifanc yn seiliedig ar eu barn nhw eu hunain neu ar draddodiadau lleol, ond ar y safonau sydd yng Ngair Duw.—2 Timotheus 3:16, 17.

17 Os nad yw henuriaid yn dilyn safonau’r Beibl ynglŷn â phenodi gweision gweinidogaethol neu henuriaid, gallen nhw ddal yn ôl y brodyr sy’n gymwys rhag cael eu penodi. Mewn un wlad, roedd un gwas gweinidogaethol yn delio yn dda â chyfrifoldebau pwysig, a chytunodd yr henuriaid ei fod yn cwrdd â chymwysterau’r Beibl ynglŷn â bod yn henuriad. Ond, dywedodd rhai o’r henuriaid hŷn ei fod yn edrych yn rhy ifanc i fod yn henuriad, felly ni wnaethon nhw ei gymeradwyo. Yn anffodus, ni chafodd y brawd ei benodi, a hynny oherwydd y ffordd roedd yn edrych. Ac mae’n ymddangos bod y ffordd hon o feddwl yn gyffredin mewn sawl rhan o’r byd. Mae’n bwysig iawn inni ddibynnu ar y Beibl yn hytrach nag ar ein ffordd o feddwl ni’n hunain neu ar arferion lleol. Yna, byddwn ni’n ufuddhau i Iesu ac yn stopio barnu eraill yn ôl eu pryd a’u gwedd.

BARNU’N GYFIAWN

18, 19. Beth fydd yn ein helpu i weld ein brodyr fel y mae Jehofa yn eu gweld?

18 Rydyn ni’n amherffaith, ond rydyn ni’n dal yn gallu ein dysgu ein hunain i weld eraill heb ragfarn, fel y mae Jehofa yn eu gweld. (Actau 10:34, 35) Felly, dylen ni dalu sylw o hyd i gyngor o Air Duw. Pan fyddwn ni’n ei roi ar waith, rydyn ni’n ufudd i orchymyn Iesu i beidio â “barnu ar sail yr olwg gyntaf.”—Ioan 7:24.

19 Yn fuan, bydd ein Brenin, Iesu Grist, yn barnu pawb. Bydd ei farn yn seiliedig ar safonau cyfiawn Duw, nid ar yr hyn mae’n ei weld a’i glywed. (Eseia 11:3, 4) Rydyn ni’n wir yn edrych ymlaen at yr amser hwnnw!