Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 32

Bydda’n Llawn Cariad

Bydda’n Llawn Cariad

“Yr hyn dw i’n ei weddïo drosoch chi ydy y bydd eich cariad chi’n mynd o nerth i nerth.”—PHIL. 1:9.

CÂN 106 Meithrin Rhinwedd Cariad

CIPOLWG *

1. Pwy a helpodd i sefydlu’r gynulleidfa yn Philipi?

PAN gyrhaeddodd yr apostol Paul, Silas, Luc, a Timotheus drefedigaeth Rufeinig Philipi, fe welon nhw fod llawer o bobl eisiau gwybod mwy am y newyddion da. Gwnaeth y pedwar brawd selog hyn helpu i sefydlu cynulleidfa, a dechreuodd y disgyblion ymgynnull yng nghartref chwaer letygar o’r enw Lydia, yn ôl pob tebyg.—Act. 16:40.

2. Pa broblem a wynebodd y gynulleidfa honno?

2 Yn fuan, fe wynebodd y gynulleidfa newydd sefyllfa heriol iawn. Roedd Satan yn gwneud i bobl a oedd yn casáu’r gwirionedd wrthwynebu gwaith pregethu’r Cristnogion ffyddlon hyn. Cafodd Paul a Silas eu harestio, eu curo â ffyn, a’u carcharu. Ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau o’r carchar, aethon nhw i ymweld â’r disgyblion newydd a’u hannog nhw. Wedyn, gadawodd Paul, Silas, a Timotheus y ddinas ond mae’n ymddangos bod Luc wedi aros yno. Sut byddai’r gynulleidfa newydd yn ymateb? Trwy ddibynnu ar ysbryd glân Jehofa, gwnaethon nhw fwrw ymlaen yng ngwasanaeth Jehofa. (Phil. 2:12) Roedd gan Paul resymau da dros fod yn falch ohonyn nhw!

3. Fel y cofnodwyd yn Philipiaid 1:9-11, beth gweddïodd Paul amdano?

3 Ryw ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ysgrifennodd Paul lythyr at y gynulleidfa yn Philipi. Wrth iti ddarllen y llythyr hwnnw, hawdd yw gweld cymaint roedd Paul yn caru ei frodyr. Ysgrifennodd: “Dim ond Duw sy’n gwybod gymaint o hiraeth sydd gen i amdanoch chi—dw i’n eich caru chi fel mae’r Meseia Iesu ei hun yn eich caru chi!” (Phil. 1:8) Dywedodd ei fod yn gweddïo drostyn nhw. Gofynnodd i Jehofa eu helpu nhw i ddangos cariad trwy’r amser, i roi blaenoriaeth i’r pethau pwysicaf, i fod yn ddi-fai, i osgoi baglu eraill, ac i barhau i gynhyrchu ffrwyth cyfiawnder. Heddiw, gallwn ddysgu cymaint o eiriau diffuant Paul. Felly, gad inni ddarllen yr hyn a ysgrifennodd Paul at y Philipiaid. (Darllen Philipiaid 1:9-11.) Yna byddwn ni’n ystyried y pwyntiau y soniodd amdanyn nhw a thrafod sut gallwn ni eu rhoi ar waith.

CARIAD SY’N MYND O NERTH I NERTH

4. (a) Yn ôl 1 Ioan 4:9, 10, sut mae Jehofa wedi mynegi ei gariad tuag aton ni? (b) I ba raddau y dylen ni garu Duw?

4 Mynegodd Jehofa ei gariad mawr tuag aton ni drwy anfon ei Fab i’r ddaear i farw dros ein pechodau. (Darllen 1 Ioan 4:9, 10.) Mae cariad anhunanol Duw yn ein hysgogi i’w garu ef. (Rhuf. 5:8) I ba raddau y dylen ni garu Duw? Atebodd Iesu’r cwestiwn hwnnw pan ddywedodd wrth un o’r Phariseaid: “Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid a’th holl feddwl.” (Math. 22:36, 37) Rydyn ni eisiau caru Duw a’n holl galon. Ac rydyn ni eisiau i’n cariad tuag ato gryfhau bob dydd. Dywedodd Paul wrth y Philipiaid mai “mynd o nerth i nerth” y dylai eu cariad. Beth gallwn ni ei wneud i gryfhau ein cariad tuag at Dduw?

5. Sut gall ein cariad dyfu’n gryfach?

5 Mae’n rhaid inni adnabod Duw er mwyn inni ei garu. Dywed y Beibl: “Os ydy’r cariad hwn ddim gan rywun, dydy’r person hwnnw ddim yn nabod Duw chwaith—am mai cariad ydy Duw.” (1 Ioan 4:8) Dywedodd yr apostol Paul y byddai ein cariad tuag at Dduw yn cryfhau wrth inni dyfu yn ein dealltwriaeth o’r gwirionedd ac yn ein gallu i benderfynu’n gywir. (Phil. 1:9) Pan wnaethon ni astudio’r Beibl am y tro cyntaf, dechreuon ni garu Jehofa er nad oedden ni’n gwybod popeth amdano. Yna, wrth inni ddysgu mwy am Jehofa, roedd ein cariad tuag ato yn dod yn gryfach ac yn gryfach. Dyna pam mae hi mor bwysig inni astudio’r Beibl yn rheolaidd a meddwl yn ddwfn am beth rydyn ni’n ei ddarllen.—Phil. 2:16.

6. Yn ôl 1 Ioan 4:11, 20, 21, ym mha ffordd y gall ein cariad fynd o nerth i nerth?

6 Bydd cariad mawr Duw tuag aton ni yn ein hysgogi i garu ein brodyr. (Darllen 1 Ioan 4:11, 20, 21.) Efallai ein bod ni’n meddwl y bydd hi’n hawdd caru ein brodyr a’n chwiorydd. Wedi’r cwbl, rydyn ni’n addoli Jehofa ac yn ymdrechu i efelychu ei rinweddau. Rydyn ni’n dilyn esiampl Iesu, a oedd yn ein caru ni gymaint nes iddo roi ei fywyd droson ni. Ond weithiau mae hi’n anodd ufuddhau i’r gorchymyn sy’n dweud y dylen ni garu ein gilydd. Ystyria esiampl yn y gynulleidfa yn Philipi.

7. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r cyngor a roddodd Paul i Euodia a Syntyche?

7 Chwiorydd selog iawn oedd Euodia a Syntyche a oedd yn gwasanaethu gyda’r apostol Paul. Ond efallai eu bod nhw wedi anghytuno ar rywbeth a doedden nhw ddim yn ffrindiau mwyach. Yn ei lythyr at y gynulleidfa lle’r oedd y chwiorydd hynny’n gwasanaethu, gwnaeth Paul enwi Euodia a Syntyche yn benodol, a rhoi cyngor clir iddyn nhw “i ddod ymlaen â’i gilydd.” (Phil. 4:2, 3) Teimlodd Paul hefyd fod rhaid iddo ddweud wrth yr holl gynulleidfa: “Gwnewch bopeth heb gwyno a ffraeo.” (Phil. 2:14) Heb os, gwnaeth cyngor clir Paul helpu’r chwiorydd ffyddlon hyn a’r gynulleidfa gyfan i garu ei gilydd yn fwy byth.

Pam dylen ni feddwl y gorau o’n brodyr? (Gweler paragraff 8) *

8. Beth sy’n ei gwneud hi’n anodd inni garu ein brodyr, a beth all ein helpu?

8 Weithiau mae hi’n anodd iawn inni garu ein brodyr oherwydd ein bod ni’n tueddu i ganolbwyntio ar ffaeleddau, fel yr oedd Euodia a Syntyche yn ei wneud. Mae pob un ohonon ni’n gwneud camgymeriadau. Os ydyn ni’n dal i feddwl am gamgymeriadau pobl eraill, bydd ein cariad tuag atyn nhw’n oeri. Er enghraifft, os yw brawd yn anghofio helpu i lanhau’r Neuadd, efallai bydd hynny’n ein gwylltio. Os ydyn ni wedyn yn meddwl am yr holl gamgymeriadau eraill mae’r brawd wedi eu gwneud, gall hynny ein cythruddo ni’n fwy byth a gall ein cariad tuag ato wanhau. Os wyt ti’n dy gael dy hun mewn sefyllfa debyg, peth da fyddai meddwl am y ffaith hon: Mae Jehofa yn gweld ein ffaeleddau ni a rhai ein brawd. Ond, er gwaethaf y ffaeleddau hyn, mae’n dal i garu ein brawd a ninnau hefyd. Am y rheswm hwnnw, pwysig yw inni efelychu cariad Jehofa a meddwl y gorau o’n brodyr. Pan fyddwn ni’n gweithio’n galed i garu ein brodyr, rydyn ni’n dod yn fwy unedig.—Phil. 2:1, 2.

Y PETHAU PWYSICAF

9. Beth yw rhai o’r pethau pwysig y mae Paul yn siarad amdanyn nhw yn ei lythyr at y Cristnogion yn Philipi?

9 Cafodd Paul ei ysbrydoli gan ysbryd glân Duw i annog y Cristnogion yn Philipi i “ddewis y peth gorau i’w wneud.” (Phil. 1:10) Mae angen i ni wneud yr un peth heddiw. Mae’r pethau gorau neu’r pethau pwysicaf yn cynnwys sancteiddio enw Jehofa, cyflawniad ei addewidion, a heddwch ac undod y gynulleidfa. (Math. 6:9, 10; Ioan 13:35) Pan fydd ein bywyd yn troi o amgylch y pethau pwysig hyn, profwn ein bod ni’n caru Jehofa.

10. Beth sy’n rhaid inni ei wneud i gael ein hystyried yn ddi-fai?

10 Hefyd, dywedodd Paul y dylen ni fyw “yn gwbl onest a di-fai.” Dydy hyn ddim yn golygu y dylen ni fod yn berffaith. Allwn ni ddim fod yn ddi-fai yn yr un modd â Jehofa. Ond bydd Jehofa yn ein hystyried yn ddi-fai os gwnawn ni’n gorau i gryfhau ein cariad ac i ganolbwyntio ar y pethau pwysicaf. Un ffordd o ddangos cariad yw gwneud popeth a fedrwn ni i osgoi baglu eraill.

11. Pam mae’n rhaid inni osgoi baglu eraill?

11 Mae’r cyfarwyddyd i osgoi baglu eraill, mewn gwirionedd, yn rhybudd inni. Sut gallwn ni faglu rhywun? Gallen ni wneud hynny drwy ein hadloniant, yr hyn rydyn ni’n ei wisgo, neu hyd yn oed ein swydd. Efallai nad ydyn ni’n gwneud unrhyw beth anghywir. Ond os ydy ein dewisiadau yn pechu cydwybod rhywun arall neu yn ei faglu, mae hyn yn rhywbeth difrifol. Dywedodd Iesu y byddai’n well inni gael maen melin wedi ei rwymo am ein gyddfau a chael ein taflu i’r môr nag y byddai hi arnon ni petasen ni’n baglu un o’i ddefaid!—Math. 18:6.

12. Beth mae esiampl cwpl sy’n arloesi yn ei ddysgu inni?

12 Sut gwnaeth gŵr a gwraig sy’n arloesi roi ar waith yr hyn a ddywedodd Iesu? Roedden nhw’n gwasanaethu mewn cynulleidfa gyda chwpl a oedd newydd gael eu bedyddio ac oedd hefyd yn dod o gefndir ceidwadol iawn. Roedd y cwpl newydd hwn yn credu na ddylai Cristnogion fynd i’r sinema—hyd yn oed i wylio ffilmiau sy’n foesol lân. Roedden nhw wedi cynhyrfu’n lân ar ôl deall bod y cwpl sy’n arloesi wedi mynd i’r sinema i wylio ffilm. Ar ôl hynny, dewisodd y cwpl sy’n arloesi beidio â mynd i’r sinema hyd nes i’r cwpl newydd hyfforddi eu cydwybod a dysgu bod yn fwy cytbwys. (Heb. 5:14) Trwy wneud hyn, roedd yr arloeswyr yn profi eu bod nhw’n caru eu brawd a’u chwaer newydd, a hynny mewn gair a gweithred.—Rhuf. 14:19-21; 1 Ioan 3:18.

13. Sut gallen ni achosi i rywun bechu?

13 Ffordd arall y gallen ni faglu rhywun yw peri iddo bechu. Sut gallai hynny ddigwydd? Dychmyga’r sefyllfa hon. Ar ôl brwydr hir iawn, mae myfyriwr y Beibl, o’r diwedd, yn llwyddo i dorri’n rhydd o’i gaethiwed i alcohol. Mae’n sylweddoli na ddylai yfed alcohol byth eto. Mae’n gwneud cynnydd da ac yn cael ei fedyddio. Yn nes ymlaen, mae brawd yn ei wahodd i’w dŷ ac yn cynnig diod alcoholig iddo, gan ddweud: “Mi wyt ti’n Gristion nawr, ac mae gen ti ysbryd glân Jehofa. Un agwedd ar yr ysbryd glân ydy hunanreolaeth. Os oes gen ti hunanreolaeth, dylet ti fod yn gallu yfed ychydig o alcohol.” Gallwn ni ond ddychmygu’r canlyniadau petai’r brawd newydd yn gwrando ar y cyngor annoeth hwnnw!

14. Sut mae ein cyfarfodydd yn ein helpu i roi ar waith yr hyn a gofnodwyd yn Philipiaid 1:10?

14 Mae ein cyfarfodydd Cristnogol yn ein helpu i roi’r hyn mae Philipiaid 1:10 yn ei ddweud ar waith a hynny mewn sawl ffordd. Yn gyntaf, mae’r rhaglen o fwyd ysbrydol yn ein hatgoffa o beth sy’n bwysicaf i Jehofa. Yn ail, rydyn ni’n dysgu sut i roi’r hyn a ddysgwn ar waith er mwyn inni fod yn ddi-fai. Yn drydydd, rydyn ni’n “annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni.” (Heb. 10:24, 25) Pan fydd ein brodyr yn ein hannog ni, bydd ein cariad tuag at Dduw a’n brodyr yn tyfu yn fwy ac yn fwy. Pan fyddwn ni’n caru Duw a’n brodyr â’n holl galon, byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i beidio â baglu ein brodyr.

“YN GYFLAWN O FFRWYTH Y CYFIAWNDER”

15. Beth mae’n ei olygu i fod “yn gyflawn o ffrwyth y cyfiawnder”?

15 Gweddïodd Paul yn daer y byddai’r Philipiaid “yn gyflawn o ffrwyth y cyfiawnder.” (Phil. 1:11, BCND) Heb os, roedd “ffrwyth y cyfiawnder” hwnnw yn cynnwys cariad tuag at Jehofa a’i bobl. Byddai hynny hefyd yn cynnwys siarad ag eraill am eu ffydd yn Iesu ac am eu gobaith hyfryd. Mae Philipiaid 2:15 (BCND) yn defnyddio ymadrodd arall, sef, “disgleirio yn eu plith fel goleuadau yn y byd.” Mae hyn yn ein hatgoffa bod Iesu wedi dweud am ei ddisgyblion: “Chi ydy’r golau sydd yn y byd.” (Math. 5:14-16) Gorchmynnodd i’w ddilynwyr “wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion,” a dywedodd y bydden nhw’n dystion iddo “drwy’r byd i gyd.” (Math. 28:18-20; Act. 1:8) Rydyn ni’n dwyn “ffrwyth y cyfiawnder” pan fyddwn ni’n gweithio’n galed yn y gwaith pwysig hwn.

Tra ei fod o dan arestiad tŷ yn Rhufain, mae Paul yn ysgrifennu ei lythyr at y gynulleidfa yn Philipi. Yn ystod yr adeg honno, mae Paul hefyd yn manteisio ar gyfleoedd i bregethu i’w warchodwyr ac i ymwelwyr (Gweler paragraff 16)

16. Sut mae Philipiaid 1:12-14 yn dangos ein bod ni’n gallu disgleirio fel goleuadau hyd yn oed o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol? (Gweler y llun ar y clawr.)

16 Beth bynnag fo’n hamgylchiadau, gallwn ddisgleirio fel goleuadau. Weithiau, mae’r hyn sy’n ymddangos yn rhwystr i gyhoeddi’r newyddion da yn troi allan yn gyfle i bregethu. Er enghraifft, roedd yr apostol Paul o dan arestiad tŷ yn Rhufain pan ysgrifennodd ei lythyr at y Philipiaid. Ond ni wnaeth ei gadwyni ei ddal yn ôl rhag pregethu i’w gwarchodwyr na’i ymwelwyr. Pregethodd Paul yn selog o dan yr amgylchiadau hyn, ac roedd yr hyder a dewrder a gafodd y brodyr drwy hyn yn golygu doedd “ganddyn nhw ddim ofn rhannu neges Duw.”—Darllen Philipiaid 1:12-14; 4:22.

Ceisia gael rhan lawn yn y weinidogaeth (Gweler paragraff 17) *

17. Sut mae rhai brodyr a chwiorydd yn parhau i bregethu hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd?

17 Mae llawer o’n brodyr a’n chwiorydd yn dangos yr un dewrder â Paul. Maen nhw’n byw mewn gwledydd lle na fedran nhw bregethu’n agored nac o ddrws i ddrws, felly maen nhw’n dod o hyd i ffyrdd eraill o bregethu’r newyddion da. (Math. 10:16-20) Mewn un wlad o’r fath, awgrymodd arolygwr cylchdaith y dylai pob cyhoeddwr bregethu i’w “diriogaeth” ei hun, sef perthnasau, cymdogion, disgyblion ysgol, cyd-weithwyr, a phobl eraill rydyn ni’n eu hadnabod. O fewn dwy flynedd, gwnaeth nifer y cynulleidfaoedd gynyddu’n sylweddol. Efallai ein bod ni’n rhydd i bregethu yn ein gwlad ni. Fodd bynnag, gallwn ddysgu gwersi pwysig o esiampl ein brodyr a’n chwiorydd call: Os wyt ti’n gwneud popeth a fedri di i bregethu i eraill, bydd Jehofa’n sicr o roi’r nerth sydd ei angen arnat ti i drechu unrhyw rwystr.—Phil. 2:13.

18. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?

18 Yn y cyfnod pwysig hwn, gad inni fod yn benderfynol o roi ar waith y cyngor ysbrydoledig sydd ar gael yn llythyr Paul at y Philipiaid. Mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar y pethau pwysicaf, bod yn ddi-fai, osgoi baglu eraill, a dwyn “ffrwyth y cyfiawnder.” Yna bydd ein cariad yn mynd o nerth i nerth ac yn dod â chlod i’n Tad cariadus, Jehofa.

CÂN 17 Gad Imi Dy Helpu

^ Par. 5 Heddiw yn fwy nag erioed, mae’n rhaid inni feithrin cariad dwfn tuag at ein brodyr. Mae’r llythyr at y Philipiaid yn ein helpu i fod yn llawn cariad, hyd yn oed pan fyddwn ni’n wynebu problemau.

^ Par. 54 DISGRIFIADAU O’R LLUN: Wrth lanhau’r Neuadd, mae un o’r brodyr, Joe, yn stopio gweithio er mwyn siarad â brawd a’i fab. Mae hyn yn cythruddo Mike, brawd sy’n gwneud yr hwfro. Mae’n meddwl: ‘Dylai Joe fod yn gweithio, nid yn siarad.’ Yn nes ymlaen, mae Mike yn sylwi ar sut mae Joe yn garedig iawn yn helpu chwaer mewn oed. Mae hyn yn cyffwrdd â chalon Mike ac yn ei atgoffa o rinweddau da ei frawd.

^ Par. 58 DISGRIFIADAU O’R LLUN: Mewn gwlad lle nad ydy’r Tystion yn gallu pregethu’n agored, mae brawd yn rhannu neges y Deyrnas â rhywun y mae’n ei adnabod heb dynnu sylw. Yn nes ymlaen, yn ystod amser egwyl yn y gwaith, mae’r brawd yn tystiolaethu i’w gyd-weithiwr.