Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 31

“Dŷn Ni Ddim yn Digalonni”!

“Dŷn Ni Ddim yn Digalonni”!

“Dyna pam dŷn ni ddim yn digalonni.”—2 COR. 4:16.

CÂN 128 Sefyll yn Gadarn i’r Diwedd

CIPOLWG *

1. Beth y mae’n rhaid i Gristnogion ei wneud i orffen y ras am fywyd?

MAE Cristnogion mewn ras am fywyd. P’un a ydyn ni newydd ddechrau rhedeg neu wedi bod yn y ras ers blynyddoedd, rhaid inni ddygnu arni nes ein bod ni’n croesi’r llinell derfyn. Gall y cyngor a roddodd yr apostol Paul i Gristnogion Philipi ein sbarduno i orffen y ras. Roedd rhai aelodau o’r gynulleidfa honno yn y ganrif gyntaf wedi bod yn gwasanaethu Jehofa am flynyddoedd pan gawson nhw’r llythyr. Roedden nhw’n gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon yn barod, ond gwnaeth Paul eu hatgoffa o’r angen i redeg gyda dyfalbarhad. Roedd ef eisiau iddyn nhw ddilyn ei esiampl a “rhedeg at y llinell derfyn gyda’r bwriad o ennill!”—Phil. 3:14.

2. Pam roedd cyngor Paul i’r Philipiaid yn amserol?

2 Roedd cyngor Paul i’r Philipiaid yn amserol. Roedd pobl Philipi wedi gwrthwynebu’r brodyr ers sefydlu’r gynulleidfa. Dechreuodd y cwbl pan gafodd Paul wahoddiad mewn gweledigaeth: “Tyrd draw i Macedonia i’n helpu ni!” Cyrhaeddodd Paul a Silas Philipi tua 50 OG. (Act. 16:9) Yno, cwrddon nhw â dynes o’r enw Lydia, a oedd yn fodlon gwrando, ac “agorodd yr Arglwydd ddrws ei chalon hi” i’r newyddion da. (Act. 16:14) Yn fuan cafodd hi a phawb oedd yn byw yn ei thŷ eu bedyddio. Ond doedd y Diafol ddim yn segur. Achosodd i ddynion y ddinas lusgo Paul a Silas gerbron yr ynadon gan eu camgyhuddo o godi twrw. O ganlyniad i hynny, cafodd Paul a Silas eu curo, eu carcharu, ac erfyniwyd arnyn nhw i adael y ddinas. (Act. 16:16-40) A wnaethon nhw ddigalonni? Naddo wir! A beth am y brodyr a chwiorydd yn y gynulleidfa newydd? Roedden nhw’n esiampl dda, ac fe ddalion nhw ati! Heb amheuaeth cawson nhw eu hannog gan esiampl dda Paul a Silas.

3. Beth gwnaeth Paul ei sylweddoli, a pha gwestiynau y byddwn ni’n eu hystyried?

3 Roedd Paul yn benderfynol o beidio â rhoi’r gorau iddi. (2 Cor. 4:16) Ond, fe wyddai er mwyn gorffen y ras, y byddai’n rhaid iddo ganolbwyntio ar y nod. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Paul? Pa esiamplau sydd gennyn ni o rai ffyddlon heddiw sydd wedi goddef a dal ati er gwaethaf problemau? Sut gall ein gobaith am y dyfodol atgyfnerthu ein penderfyniad i beidio â rhoi’r gorau iddi?

SUT GALL ESIAMPL PAUL FOD O FUDD INNI

4. Sut gwnaeth Paul gadw’n brysur er gwaethaf ei amgylchiadau?

4 Ystyria sut roedd Paul yn gwneud ei orau glas pan ysgrifennodd at y Philipiaid. Roedd o dan arestiad tŷ yn Rhufain. Doedd ganddo mo’r hawl i adael y tŷ i bregethu. Eto, cadwodd yn brysur wrth dystiolaethu i ymwelwyr ac ysgrifennu llythyrau i gynulleidfaoedd pell. Yn yr un modd heddiw, mae llawer o Gristnogion sy’n gaeth i’w tai yn manteisio ar bob cyfle i rannu’r newyddion da gyda’r rhai sy’n galw heibio. Maen nhw hefyd yn ysgrifennu llythyrau o anogaeth i ddeiliaid tai nad ydyn ni’n gallu ymweld â nhw yn bersonol.

5. Yn ôl ei eiriau yn Philipiaid 3:12-14, beth helpodd Paul i ganolbwyntio ar ei nod?

5 Ni chaniataodd Paul i lwyddiannau neu gamgymeriadau’r gorffennol dynnu ei sylw. Dywedodd: “Dw i’n anghofio beth sydd tu cefn i mi ac yn canolbwyntio fy holl egni ar beth sydd o mlaen i,” a hynny er mwyn gallu gorffen y ras yn llwyddiannus. (Darllen Philipiaid 3:12-14.) Beth oedd rhai o’r pethau a allai fod wedi tynnu sylw Paul? Yn gyntaf, roedd Paul wedi bod yn llwyddiannus iawn ym myd Iddewiaeth. Ond, “sbwriel ydy’r cwbl,” meddai am y pethau hynny. (Phil. 3:3-8) Yn ail, ni adawodd i euogrwydd am erlid y Cristnogion ei stopio rhag addoli Jehofa. Ac yn drydydd, wnaeth ef ddim rhesymu ei fod wedi gwneud digon i Jehofa. Roedd gan Paul weinidogaeth ffrwythlon er gwaethaf cael ei garcharu, ei guro, ei labyddio, dioddef llongddrylliad, a mynd heb ddigon o fwyd a dillad. (2 Cor. 11:23-27) Sut bynnag, er gwaethaf yr holl bethau roedd wedi eu cyflawni a’u dioddef, gwyddai Paul y byddai’n rhaid iddo ddygnu arni. Mae’n rhaid i ninnau wneud yr un fath.

6. Beth yw rhai o’r pethau “sydd tu cefn” inni y dylen ni anghofio amdanyn nhw?

6 Sut gallwn ni efelychu esiampl Paul ac “anghofio beth sydd tu cefn” inni? Bydd angen ar rai ohonon ni i stopio teimlo’n euog am bechodau’r gorffennol. Os felly, beth am ddechrau prosiect astudio personol sy’n canolbwyntio ar aberth pridwerthol Iesu? Os ydyn ni’n astudio, yn myfyrio, ac yn gweddïo am y pwnc adeiladol hwnnw, gallwn wneud llawer i leihau teimladau o euogrwydd diangen. Gallwn hyd yn oed stopio cosbi’n hunain am bechodau y mae Jehofa eisoes wedi eu maddau. Ystyria wers arall gallwn ni ei dysgu gan Paul. Mae rhai wedi rhoi’r gorau i yrfa dda â’r gobaith o ennill arian mawr er mwyn blaenoriaethu’r Deyrnas. Os felly, a allwn ninnau anghofio pethau’r gorffennol drwy beidio â hiraethu am y pethau materol y bydden ni wedi gallu eu cael? (Num. 11:4-6; Preg. 7:10) Gall “beth sydd tu cefn” inni gynnwys hyd yn oed yr hyn rydyn ni wedi ei gyflawni yng ngwasanaeth Jehofa, neu dreialon y gorffennol. Wrth gwrs, gall edrych yn ôl ar sut mae Jehofa wedi ein bendithio a’n cynnal ni dros y blynyddoedd wneud inni glosio at ein Tad nefol. Ond, fydden ni byth eisiau bod yn hunanfodlon gan feddwl ein bod ni wedi gwneud digon i Jehofa.—1 Cor. 15:58.

Yn y ras am fywyd, mae’n rhaid inni osgoi gadael i bethau ein llygad-dynnu a chanolbwyntio ar ein nod (Gweler paragraff 7)

7. Yn ôl 1 Corinthiaid 9:24-27, beth sy’n angenrheidiol er mwyn ennill y ras am fywyd? Esbonia.

7 Deallodd Paul eiriau canlynol Iesu yn iawn: “Gwnewch eich gorau glas.” (Luc 13:23, 24) Gwyddai Paul, fel Crist, y byddai’n rhaid iddo ymegnïo hyd y diwedd un. Cymharodd ein bywyd Cristnogol â ras. (Darllen 1 Corinthiaid 9:24-27.) Mae rhedwr mewn ras yn canolbwyntio ar y llinell derfyn gan osgoi unrhyw beth a all dynnu ei sylw. Er enghraifft, digon hawdd fyddai i siopau a phethau eraill dynnu sylw rhedwyr sy’n rhedeg ras trwy ddinas. A fyddai rhedwr yn stopio yng nghanol y ras i syllu ar nwyddau mewn ffenestr siop? Go brin; mae rhedwr eisiau ennill! Yn y ras am fywyd, mae’n rhaid i ninnau osgoi pethau sy’n tynnu ein sylw. Os canolbwyntiwn ni ar ein nod, gan ymdrechu fel y gwnaeth Paul, fe fyddwn ni’n derbyn y wobr!

DAL ATI ER GWAETHAF HERIAU

8. Pa dair her y byddwn ni yn eu hystyried?

8 Gad inni ystyried tair her a allai ein digalonni, sef gobeithion wedi eu gohirio, nerth corfforol yn dirywio, a threialon hirdymor. Gallwn ni elwa o ddysgu gan eraill sut y maen nhw wedi ymdopi o dan y fath amgylchiadau.—Phil. 3:17.

9. Sut gall gobeithion wedi eu gohirio effeithio arnon ni?

9 Gobeithion wedi eu gohirio. Mae’n naturiol inni ddyheu am y pethau da mae Jehofa wedi eu haddo. Pan oedd y proffwyd Habacuc yn ymbil ar Jehofa i ddod â drygioni Jwda i ben, dywedodd Jehofa wrtho: “Bydd yn amyneddgar.” (Hab. 2:3) Sut bynnag, gallwn ni golli’n sêl pan na fydd y pethau rydyn ni’n disgwyl amdanyn nhw yn dod. Gallen ni deimlo’n ddigalon hyd yn oed. (Diar. 13:12) Digwyddodd hyn ar ddechrau’r 20fed ganrif. Bryd hynny, roedd llawer o’r Cristnogion eneiniog yn disgwyl mynd i’r nef ym 1914. Pan na ddigwyddodd hynny, sut gwnaeth y rhai ffyddlon ymdopi â hyn?

Welodd Royal a Pearl Spatz mo’u gobaith yn cael ei gyflawni ym 1914, ond arhoson nhw yn ffyddlon am ddegawdau (Gweler paragraff 10)

10. Sut gwnaeth un cwpl ymdopi â gobeithion wedi eu gohirio?

10 Ystyria esiampl cwpl a wynebodd y fath her. Cafodd y Brawd Royal Spatz ei fedyddio ym 1908 yn 20 oed. Roedd yn hyderus iawn ei fod ar fin derbyn ei wobr nefol. A dweud y gwir, pan ofynnodd i chwaer o’r enw Pearl ei briodi ym 1911, dywedodd wrthi: “Rwyt ti’n gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd ym 1914. Os ydyn ni am briodi, byddai’n well gwneud hynny’n fuan!” A wnaeth y cwpl Cristnogol roi’r gorau i’r ras am fywyd pan na chawson nhw eu gwobr nefol ym 1914? Naddo, oherwydd prif ffocws eu bywyd oedd gwneud ewyllys Duw, nid ennill eu gwobr. Roedden nhw’n benderfynol o redeg y ras â dyfalbarhad. Ac, yn wir, dyna a wnaeth Royal a Pearl gan aros yn weithgar ac yn ffyddlon hyd ddiwedd eu cwrs daearol ddegawdau wedyn. Mae’n siŵr dy fod ti’n dyheu am weld yr adeg pan fydd Jehofa yn cyfiawnhau ei enw da a’i sofraniaeth gan gyflawni pob un o’i addewidion. Fe elli di fod yn hyderus y bydd y pethau hyn yn digwydd yn amser Jehofa. Tan hynny, gad inni gadw’n brysur yn gwasanaethu ein Duw, gan beidio â gadael i ddisgwyliadau gohiriedig ein digalonni.

Hyd yn oed yn ei henaint, roedd Arthur Secord yn awyddus i ddal ati i wneud cynnydd. (Gweler paragraff  11)

11-12. Pam gallwn ni ddal ati i symud yn ein blaenau hyd yn oed ar ôl dechrau gwegian yn gorfforol? Rho enghraifft.

11 Nerth corfforol yn dirywio. Yn wahanol i redwr go iawn, does dim rhaid iti fod yn gorfforol gryf i ddal ati i gryfhau yn ysbrydol. Y gwir yw, mae llawer sydd wedi colli eu nerth corfforol yn dal yn hollol benderfynol o wneud cynnydd ysbrydol. (2 Cor. 4:16) Er enghraifft, roedd y Brawd Arthur Secord * yn 88 mlwydd oed ac yn fethedig wedi iddo wasanaethu yn y Bethel am 55 o flynyddoedd. Daeth nyrs at ei wely i ofalu amdano. Edrychodd arno a dweud yn garedig: “Brawd Secord, mae’r corff hwn wedi teithio lawer o filltiroedd yng ngwasanaeth Jehofa.” Sut bynnag, doedd Arthur ddim yn byw yn y gorffennol. Dyma Arthur yn edrych arni, yn gwenu, ac yn dweud: “Digon gwir. Ond nid beth yr ydyn ni wedi ei wneud sy’n bwysig, ond yr hyn rydyn ni’n ei wneud nawr sy’n cyfri.”

12 Efallai dy fod ti wedi bod yn gwasanaethu Jehofa ers blynyddoedd ond mae dy iechyd wedi dirywio a dydy hi ddim yn bosib gwneud yr hyn yr oeddet ti’n ei wneud. Os felly, paid â digalonni. Gelli di fod yn sicr fod Jehofa’n cofio popeth a wnest ti ei gyflawni yn y gorffennol ac yn trysori’r gwasanaeth ffyddlon hwnnw. (Heb. 6:10) Ond am y presennol, cofia nid faint a wnawn ni dros Jehofa sy’n dangos faint rydyn ni’n ei garu. Yn hytrach, dangoswn ddyfnder ein cariad tuag ato drwy gadw agwedd bositif a gwneud popeth a fedrwn ni. (Col. 3:23) Dydy Jehofa ddim yn disgwyl inni wneud mwy nag y gallwn ni.—Marc 12:43, 44.

Dyfalbarhaodd Anatoly a Lidiya Melnik er gwaethaf amryw dreialon (Gweler paragraff 13)

13. Sut mae profiad Anatoly a Lidiya yn ein hannog i ddal ati i wneud cynnydd nawr er gwaethaf llawer o dreialon?

13 Treialon hirdymor. Mae rhai o weision Jehofa wedi goddef degawdau o galedi ac erledigaeth. Er enghraifft, dim ond 12 oed oedd Anatoly Melnik * pan gafodd ei dad ei arestio, ei garcharu, a’i alltudio i Siberia, fwy na 4,000 o filltiroedd (7,000 km) i ffwrdd o’i deulu yn Moldofa. Flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd ei fam, a’i rhieni hithau eu halltudio i Siberia hefyd. Maes o law, roedden nhw’n gallu mynychu cyfarfodydd mewn pentref arall, ond roedd yn rhaid iddyn nhw gerdded 20 milltir (30 km) yn yr eira, a hwnnw wedi rhewi’n gorn. Hwyrach ymlaen, treuliodd y Brawd Melnik dair blynedd yn y carchar, i ffwrdd o’i wraig, Lidiya, a’u merch blwydd oed. Er gwaethaf flynyddoedd o galedi, parhaodd Anatoly a’i deulu i wasanaethu Jehofa’n ffyddlon. Ac yntau nawr yn 82 oed, mae Anatoly yn gwasanaethu ar Bwyllgor Cangen yng Nghanolbarth Asia. Gad inni efelychu Anatoly a Lidiya, a gwneud ein gorau yng ngwasanaeth Jehofa, gan ddal ati fel rydyn ni eisoes wedi ei wneud yn y gorffennol.—Gal. 6:9.

CANOLBWYNTIA AR DY OBAITH

14. Beth sylweddolodd Paul yr oedd rhaid iddo ei wneud i gyrraedd ei nod?

14 Roedd Paul yn hyderus y byddai’n gorffen y ras ac yn cyrraedd ei nod. Fel Cristion eneiniog, edrychai ymlaen at “ennill y wobr sydd gan Dduw ar ein cyfer ni. Ei alwad i’r nefoedd.” Ond, i gyrraedd y nod, sylweddolodd y byddai’n rhaid iddo ddal ati “gyda’r bwriad o ennill.” (Phil. 3:14) Defnyddiodd Paul eglureb ddiddorol i helpu’r Philipiaid i ganolbwyntio ar eu nod.

15. Sut gwnaeth Paul ddefnyddio’r syniad o ddinasyddiaeth i annog Cristnogion Philipi i ddal ati “gyda’r bwriad o ennill”?

15 Atgoffodd Paul y Philipiaid eu bod nhw’n ddinasyddion y nefoedd. (Phil. 3:20) Pam roedd rhaid iddyn nhw gofio hynny? Yn y dyddiau hynny roedd rhywun yn dra breintiedig petai ganddo ddinasyddiaeth Rufeinig. * Sut bynnag, roedd gan Gristnogion eneiniog ddinasyddiaeth well o lawer, un a fyddai’n dod â llawer mwy o fanteision. Doedd bod yn ddinesydd Rhufeinig ddim yn werth ryw lawer o’i gymharu â dinasyddiaeth nefol! Am y rheswm hwn, anogodd Paul y Philipiaid i ddal ati i “ymddwyn mewn ffordd sy’n dangos fod y newyddion da am y Meseia yn wir,” hynny yw, bod yn ddinasyddion da. (Phil. 1:27) Mae Cristnogion eneiniog heddiw yn gosod esiampl dda wrth iddyn nhw fwrw yn eu blaenau tuag at eu nod o fywyd tragwyddol yn y nef.

16. P’un a yw’n gobaith yn un nefol neu’n un daearol, beth y mae’n rhaid inni ei wneud yn unol â Philipiaid 4:6, 7?

16 P’un a ydy ein gobaith yn fywyd am byth yn y nef neu mewn paradwys ar y ddaear, mae’n rhaid inni ddal ati i anelu at y nod. Beth bynnag yw ein hamgylchiadau, mae’n rhaid inni beidio ag edrych yn ôl ar y pethau y tu ôl inni, gan beidio â gadael i unrhyw beth rwystro ein cynnydd. (Phil. 3:16) Efallai ein bod ni wedi bod yn disgwyl am yn hir i weld addewidion Jehofa yn cael eu cyflawni, neu efallai nad ydyn ni mor ifanc a chryf ag yr oedden ni. Hwyrach ein bod ni wedi goddef caledi ac erledigaeth am flynyddoedd lawer. Beth bynnag yw dy sefyllfa, “peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi.” Yn hytrach, dal ati i ofyn am help Duw, ac y bydd yntau’n rhoi’r heddwch sydd y tu hwnt i bob disgwyl.—Darllen Philipiaid 4:6, 7.

17. Beth y byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

17 Fel rhedwr sy’n ymdrechu’n galed wrth iddo nesáu at y llinell derfyn, gad i ninnau hefyd ganolbwyntio ar y nod o orffen y ras am fywyd. Cyn belled ag y bydd ein nerth a’n hamgylchiadau yn caniatáu, gad inni ymegnïo a pharhau i wneud cynnydd gyda brwdfrydedd wrth inni edrych ar y pethau hyfryd sydd i ddod. Beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn bwrw iddi yn y cyfeiriad iawn heb ddiffygio? Bydd yr erthygl nesaf yn ein helpu i osod blaenoriaethau ac inni “ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser.”—Phil. 1:9, 10.

CÂN 79 Dysgu Eraill i Sefyll yn Gadarn

^ Par. 5 Dim ots pa mor hir rydyn ni wedi bod yn gwasanaethu Jehofa, rydyn ni eisiau parhau i ddatblygu a gwella fel Cristnogion. Anogodd yr apostol Paul ei gyd-Gristnogion i beidio byth â rhoi’r gorau iddi! Mae gan ei lythyr at y Philipiaid anogaeth i ddal ati yn ein ras am fywyd. Bydd yr erthygl hon yn dangos inni sut i roi geiriau ysbrydoledig Paul ar waith.

^ Par. 11 Gweler hanes bywyd y Brawd Secord, “My Part in Advancing Right Worship,” yn y Tŵr Gwylio Saesneg, 15 Mehefin 1965.

^ Par. 13 Gweler hanes bywyd y Brawd Melnik, “Taught From Childhood to Love God,” yn y Deffrwch! Saesneg, 22 Hydref 2004.

^ Par. 15 Am fod Philipi yn drefedigaeth Rufeinig, roedd preswylwyr y ddinas yn mwynhau rhai o’r un hawliau a oedd gan ddinasyddion Rhufeinig. Felly roedd brodyr Philipi yn gallu deall eglureb Paul.